Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sera Jane Whitley 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

2.

ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2026/27

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026/27.

Penderfyniad:

Bu i Cyng. Mark Pritchard gael ei ethol yn Gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2026/27.

Penderfyniad:

Bu i Cyng. Jason McLellan gael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer 2026/27.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

6.

COFNODION Y CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 115 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20 Mawrth, 2026 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

7.

RHAGLEN CYFARFODYDD AR GYFER 2026/27 pdf eicon PDF 179 KB

Mark Watkins, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol/Swyddog Monitro (dros dro) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a mabwysiadu y calendr drafft ar gyfer 2026/27.

 

8.

CYNLLUNIO CORFFORAETHOL pdf eicon PDF 204 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn cael gwell dealltwriaeth gan Lywodraeth newydd Cymru am eu barn yn cefnogi’r model yma o ariannu Cronfa Twf Lleol. Gofynnwyd am adroddiad yn ôl i’r cyfarfod nesaf.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL SAFONAU'R GYMRAEG pdf eicon PDF 175 KB

Nia Medi Williams, Rheolwr Adnoddau a Gweithrediadau a Nia Llwyd Lewis, Rheolwr Gwasanaeth y Gymraeg a Chyfieithu i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg i’w gyhoeddi. 

 

10.

POLISI CANMOLIAETHAU, SYLWADAU A CHWYNION pdf eicon PDF 196 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd y Polisi Canmoliaethau, Sylwadau a Chwynion drafft a chymeradwyo ei fabwysiadu.

11.

DATGANIAD POLISI TAL 2026/27 pdf eicon PDF 152 KB

Eleri Jones, Rheolwr Gwasanaeth Ymgynghorol Adnoddau Dynol i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

 

  • Mabwysiadu datganiad polisi tâl Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd ar gyfer 2026/27 (Atodiad 1).

 

  • Awdurdodi swyddogion i gyhoeddi'r Datganiad Polisi Tâl cymeradwy ar wefan Uchelgais Gogledd Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cymeradwyaeth. 

 

12.

SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF 2025/26 pdf eicon PDF 273 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Nodwyd a derbyniwyd sefyllfa alldro y CBC ar gyfer 2025/26 (Atodiad 1), gan gynnwys trosglwyddo £1,067,414 i’r gronfa wrth gefn i ariannu cyllidebau’r dyfodol.

 

  • Nodwyd a derbyniwyd sefyllfa alldro'r Cynllun Twf ar gyfer 2025/26 (Atodiad 2). Oherwydd y tanwariant a adroddwyd, er mwyn dangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn nid oedd angen defnyddio £60,990 o’r gronfa wrth gefn a gyllidebwyd ar ei gyfer yn 2025/26, a defnyddir swm o £867,731 o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n llai na’r hyn oedd yn y gyllideb.

 

  • Nodwyd a derbyniwyd sefyllfa cronfeydd y Cynllun Twf (Atodiad 3).

 

  • Nodwyd a derbyniwyd adolygiad cyfalaf diwedd flwyddyn y Cynllun Twf ar 31 Mawrth 2026 (Atodiad 4).

 

  • Nodwyd a derbyniwyd sefyllfa alldro y Parth Buddsoddi ar gyfer 2025/26 (Atodiad 5).

 

  • Nodwyd a derbyniwyd sefyllfa alldro y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol ar gyfer 2025/26 (Atodiad 6).

 

  • Nodwyd a derbyniwyd yr uchod yn amodol ar adroddiadau pellach i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch:

1.      Staff y CBC dros y tair blynedd diwethaf ar cynlluniau wrth symud ymlaen,

2.      Darparu dadansoddiad o’r tanwariant ar defnydd o gronfeydd wrth gefn dros y blynyddoedd nesaf ynghyd á chanran angenrheidiol y cronfeydd wrth gefn

3.      Ac unrhyw oblygiadau ariannol o oedi’r ardoll ar gyfer 2027-28.

 

13.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 pdf eicon PDF 188 KB

Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CJC) a Delyth Jones-Thomas, Rheolwr Buddsoddi i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar gyfer 2025/26.