Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Goronwy Edwards yn Gadeirydd yr
Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Goronwy Edwards yn Gadeirydd
yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd David Bithell yn Is-gadeirydd yr
Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd David Bithell yn
Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- ·
Dafydd Wyn Williams (Cyngor Gwynedd) gyda Gerwyn
Jones yn dirprwyo ·
Iwan Evans (Swyddog Monitro) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater bryn ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2025 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - YMGYNGHORI Alwen Williams
(Prif Weithredwr) i gyflwyno’r Adroddiad. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau . Mae’r elfennau sydd wedi eu duo allan yn cynrychioli ymateb
gymesurol I'r gofyn yma gan warchod hawl y cyhoeddi gael gwybodaeth am gynllun
rhanbarthol pwysig yma, yn unol â Pharagraff 14 o Atdoad 12A o Ddddf
Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno
i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi
2025. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr CBC y Gogledd ac
ymgynghorydd ARUP. PENDERFYNWYD Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno
i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi
2025. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,
mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru 2021 yn trosglwyddo’r
swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth mewn perthynas ag ardal pob un
o’r Cynghorau Cyfansoddol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae datblygu a
gweithredu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn swyddogaeth statudol a
weithredir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei Is-bwyllgor, gyda chefnogaeth
y Canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ar Gynlluniau Trafnidiaeth
Rhanbarthol (Fersiwn 2) 2023. Ar ôl cymeradwyo a chyhoeddi gan Lywodraeth
Cymru, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru
yn cael ei fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei broses weithredu i
gyflwyno rhaglen fuddsoddi 5 mlynedd. TRAFODAETH Eglurwyd bod y draft hwn o Gynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru yn
ogystal ag atodiadau ategol yn cael
ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor hwn er mwyn i’w
Aelodau ei adolygu a chyflwyno argymhelliad gwybodus i Gyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru er cymeradwyaeth y Gweinidog
perthnasol erbyn Medi 2025.
Pwysleisiwyd bod yr Adroddiad
a holl atodiadau ategol a gyflwynwyd fel rhan o’r
eitem hon yn ymateb i ganllawiau
a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar sut y dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig lunio a Datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Manylwyd ar Adroddiad yr Ymgynghoriad a gyflwynwyd fel rhan o’r
Eitem gan egluro ei fod
yn crynhoi’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr 12 wythnos o ymgynghori cyhoeddus a gyflawnwyd rhwng 20 Ionawr a 14 Ebrill 2025.
Mynegwyd balchder bod 1684 ymateb wedi cael
ei gyflwyno i’r ymgynghoriad yn ystod y cyfnod
hwn. Sicrhawyd bod yr ymatebion
a dderbyniwyd wedi cyfrannu at y Cynllun, gan fod nifer
o’i atodiadau ategol wedi cael
eu haddasu yn unol â’r
sylwadau a dderbyniwyd. Manylwyd bod rhai o’r prif addasiadau
hyn yn cynnwys: · Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru - Mae ymrwymiad bellach i gydymffurfio â pholisïau Rhwydwaith Gogledd Cymru (Trafnidiaeth Cymru), gyda diweddariadau i ddyheadau rheilffordd a’r rhwydwaith bysiau. Tynnwyd sylw bod nifer o gynlluniau yn rhan o’r cynllun hwn a bod cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn cynorthwyo datblygiadau posib i’r dyfodol megis Datblygu fflyd o drenau trydan, system ‘pay as you go’ er mwyn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd i’w ddefnyddio a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod trenau ar gael yn amlach ac yn gyson. Pwysleisiwyd bod y Cynllun a pherthynas ehangach y Cyd-bwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru yn un hirdymor gyda’r tebygolrwydd bydd prosiectau yn esblygu ac addasu dros amser. Tynnwyd sylw bod nifer o addasiadau eraill wedi cael ei wneud i’r cynllun a bod rhai o’r rhain yn cynnwys sicrhau cymorth i drigolion a defnyddwyr gorsaf Treffynnon (gan nad yw uwchraddio’r orsaf hwn yn flaenoriaeth i Drafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd), ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |