Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sera Whitley E-bost: serajanewhitley@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2025/26 I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd David Bithell yn Gadeirydd yr
Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd David Bithell yn
Gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025/26 I ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/26, os yw’r angen yn codi. Penderfyniad: PENDERFYNWYD Ethol y Cynghorydd Glyn Banks yn Is-gadeirydd yr
Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. Cofnod: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Glyn Banks yn
Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26. |
|
|
Ymddiheuriadau I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- ·
Dafydd Wyn Williams (Cyngor Gwynedd) gyda Gerwyn
Jones yn dirprwyo ·
Iwan Evans (Swyddog
Monitro) Croesawyd y
Cynghorydd Michael Priestley i'w gyfarfod cyntaf o'r Is-bwyllgor. Nodwyd bydd
swyddogion yn dod i gyswllt gydag o a'r wyddog
arweiniol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn briffio'r Aelod ar
faterion sydd yn gysylltiedig â gwaith yr Is-bwyllgor hwn, cyn y cyfarfod
nesaf. |
|
|
Datgan Buddiant Personol I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. |
|
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2025 fel
rhai cywir. |
|
|
ADRODDIAD CHWARTEROL YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL I ystyried yr adroddiad a chynnig argymhellion i’r
Cyd-bwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD Ystyried yr adroddiad gan ychwanegu pryderon ynghylch â Pont
Grog y Fenai yn Sir Ynys Môn yn cau dros dro. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd y Gogledd a’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth. PENDERFYNWYD Ystyried
yr adroddiad gan ychwanegu pryderon ynghylch â Pont Grog y Fenai yn Sir Ynys
Môn yn cau dros dro. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD TRAFODAETH Atgoffwyd yr aelodau fod yr Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol bellach wedi’i sefydlu ers blwyddyn, a bod eu Cylch
Gorchwyl yn nodi ymrwymiad i baratoi adroddiad chwarterol ar eu gwaith ar gyfer
y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC). Eglurwyd bod yr adroddiad chwarterol yn rhoi
trosolwg strategol ar cynnydd, cyflawniadau allweddol, ac yn amlygu ar feysydd
sydd angen sylw. Ymhelaethwyd mai pwrpas yr adroddiad yw hysbysu aelodau am
faterion allweddol, a phenderfynu a oes unrhyw faterion ymae’r
Is-bwyllgor yn dymuno eu huwchgyfeirio i’r CBC. Nodwyd bod yr adroddiad bellach yn ystyried y
cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a oedd yn gyfnod o 12 wythnos a daeth i ben ym mis
Ebrill 2025. Cyflwynwyd yr adroddiad yn flaenorol yn yr Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Strategol a’r CBC. Ymhelaethwyd bod bron i 1,700 o ymatebion
wedi’u derbyn; o’r rhain, roedd dros 1,400 yn ymwneud ag ymgyrchoedd gan
Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ynglyn â geiriad
dyhead a oedd yn ystyried yr A55 yn Sir y Fflint. O ganlyniad, addaswyd y
geiriad yn dilyn cyfnod ymgynghori. Bu trafodaethau rhwng Uchelgais Gogledd
Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd, ac mae hyn wedi’i gynnwys
yn yr atodiadau er gwybodaeth. Cyflwynwyd pwyntiau allweddol eraill yn yr
adroddiad, a oedd yn cynnwys: y Broses
‘Moderneiddio Grantiau’, sef prosiect Llywodraeth Cymru; amserlenni a sut mae
cynlluniau trafnidiaeth drafft yn cael eu datblygu; a mentergarwch gan
partneriaid, un enwedig Rhwydwaith Gogledd Cymru, sef gweledigaeth buddsoddiad
Llywodraeth Cymru, sy’n gyfwerth â biliynau o bunnoedd ar gyfer rhwydwaith
trafnidiaeth integredig, amledd uchel ar gyfer y rhanbarth. Mewn ymateb i ymholiad, cytunwyd y byddai
cyflwyniad ar Rhwydwaith Gogledd Cymru o fudd ar gyfer cynlluniau gwaith yn y dyfydol er mwyn nodi’r dyheadau ar gyfer y tair i bedair
blynedd nesaf. Nodwyd y byddai hyn yn dangos y cydymffurfiaeth rhwng y Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbathol â dyheadu
a chynlluniau Rhwydwaith Gogledd Cymru. Gofynnwyd hefyd y byddai diweddaraid
ar Fasnachfreinio Bysiau yn cael ei werthfawrogi, yn
enwedig gan fod llawer o bryderon wedi’u nodi o’r blaen ynglyn
â’r mater hwn. Tynnwyd sylw at yr angen i fod yn ymwybodol o’r amrywiadau rhwng siroedd wrth ystyried masnachfreinio bysiau, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
DATBLYGU'R RHAGLEN RTP AR GYFER 2026/27 I ystyried a nodi yr adroddiad. Penderfyniad: PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad gan gefnogi’r cysyniad o adolygu
dyraniadau cyfalaf. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Brif Weithredwr CBC y Gogledd a’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad gan
gefnogi’r cysyniad o adolygu dyraniadau cyfalaf. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Cyflwynwyd yr adroddiad
at ddibenion gwybodaeth. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y
broses ac amserlenni ar gyfer rhaglen ddatblygol y Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol ar gyfer 2026/27, ar gyfer sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru yn amserol. Manylwyd bod proses ‘Moderneiddio Grantiau’
Llywodraeth Cymru yn cyfuno ffrydiau cyllido sydd wedi bod ar gael i Awdurdodau
Lleol. Nodwyd y bydd Cronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei ddatblygu i’r
dyfodol, a fydd yn gyfuniad o’r holl ffrydiau cyllido isod: ·
Cronfa Trafnidiaeth Leol ·
Cronfa Ffyrdd Gwydn ·
Cronfa
Teithio Lesol ·
Cronfa Diogelwch ar y
Ffyrdd (Refeniw) ·
Cronfa Diogelwch ar y
Ffyrdd (Cyfalaf) ·
Cronfa Llwybrau Diogel
mewn Cymunedau ·
Cronfa ffyrdd heb eu
mabwysiadu ·
Cronfa Trawsnewid
Cerbydau Allyriadau Isel Iawn. Ymhelaethwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi gosod disgwyliad ar Gydbwyllgorau
Corfforedig i gydlynu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol, gan gynnwys datblygu
rhaglen o gynlluniau bydd yn cael
eu cyflawni dros y flwyddyn ariannol ddilynol. Adroddwyd bod manylion y cynlluniau bydd yn cael eu
hariannu yn y flwyddyn ariannol 2026/27 wedi cael eu
nodi o fewn Cynllun Cyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan ychwanegu bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i
gynlluniau ychwanegol gael eu hariannu
drwy Raglen Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddarostyngedig i’r cynlluniau hynny dderbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Diolchwyd i swyddogion
y maes trafnidiaeth o fewn yr holl Awdurdodau
Lleol sydd wedi bod yn cydweithio
gyda swyddogion Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd
er mwyn cadarnhau’r rhestr o gynlluniau a ddylid eu hariannu
ar gyfer 2026/27, gan nodi bydd y rhestr lawn yn cael ei gyflwyni
i Aelodau mewn cyfarfod anffurfiol i’r Is-bwyllgor hwn sydd wedi
ei raglennu ar gyfer 04 Tachwedd
er mwyn rhoi cyfle i Aelodau adolygu’r Rhaglen Trafnidiaeth Rhanbarthol arfaethedig. Cadarnhawyd bydd yr Aelodau yn derbyn cadarnhad o’r prosiectau cyn y cyfarfod anffurfiol er mwyn gallu cynnal trafodaethau
gyda swyddogion o fewn eu Hawdurdodau
Lleol wrth baratoi at y cyfarfod.. Eglurwyd byddai’r
rhestr lawn yn cael ei gyflwyno
i Gydbwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ei gyfarfod ar
07 Tachwedd. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd
yr Uwch Swyddog Trafnidiaeth nad yw’r
Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi penderfynu dyrannu’r Gronfa Trafnidiaeth
Rhanbarthol yn hafal rhwng yr Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, eglurwyd bod y
Gronfa yn cael ei ddyrannu yn unol â statws prosiectau o fewn y Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol. Mewn ymateb i ymholiad os oes amserlen mewn golwg ar gyfer cytuno ar fformiwla gyda’r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol i ddyrannu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol, nododd Prif Weithredwr CBC y Gogledd nad yw hyn wedi cael ei gadarnhau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod gosod fformiwlâu ar gyfer dyrannu o’r Gronfa yn ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt osod eu cyllidebau. Ymhelaethwyd y gobeithiwyd derbyn cadarnhad o’r cyllidebau mor fuan â phosib gan Lywodraeth Cymru ac ystyriwyd bydd cynnydd i gyllidebau ar gyfer CBC y Gogledd o’i gymharu â’r hyn a ragdybiwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |