Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Goronwy Edwards yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Goronwy Edwards yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd David Bithell yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd David Bithell yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·         Dafydd Wyn Williams (Cyngor Gwynedd) gyda Gerwyn Jones yn dirprwyo

·         Iwan Evans (Swyddog Monitro)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater bryn ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 130 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2025 fel rhai cywir.

 

7.

CYNLLUN TRAFNIDIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU - YMGYNGHORI pdf eicon PDF 271 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r Adroddiad.

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Mae’r elfennau sydd wedi eu duo allan yn cynrychioli ymateb gymesurol I'r gofyn yma gan warchod hawl y cyhoeddi gael gwybodaeth am gynllun rhanbarthol pwysig yma, yn unol â Pharagraff 14 o Atdoad 12A o Ddddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr CBC y Gogledd ac ymgynghorydd ARUP.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru a’r ddogfennaeth ategol er mwyn i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth a’i gyhoeddi gan y Gweinidog ym mis Medi 2025.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru 2021 yn trosglwyddo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaeth mewn perthynas ag ardal pob un o’r Cynghorau Cyfansoddol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae datblygu a gweithredu Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn swyddogaeth statudol a weithredir gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei Is-bwyllgor, gyda chefnogaeth y Canllawiau i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ar Gynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol (Fersiwn 2) 2023. Ar ôl cymeradwyo a chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, bydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru yn cael ei fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy ei broses weithredu i gyflwyno rhaglen fuddsoddi 5 mlynedd.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod  y draft hwn o Gynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn ogystal ag atodiadau ategol yn cael ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor hwn er mwyn i’w Aelodau ei adolygu a chyflwyno argymhelliad gwybodus i Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru er cymeradwyaeth y Gweinidog perthnasol erbyn Medi 2025. Pwysleisiwyd bod yr Adroddiad a holl atodiadau ategol a gyflwynwyd fel rhan o’r eitem hon yn ymateb i ganllawiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar sut y dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig lunio a Datblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Manylwyd ar Adroddiad yr Ymgynghoriad a gyflwynwyd fel rhan o’r Eitem gan egluro ei fod yn crynhoi’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr 12 wythnos o ymgynghori cyhoeddus a gyflawnwyd rhwng 20 Ionawr a 14 Ebrill 2025. Mynegwyd balchder bod 1684 ymateb wedi cael ei gyflwyno i’r ymgynghoriad yn ystod y cyfnod hwn. Sicrhawyd bod yr ymatebion a dderbyniwyd wedi cyfrannu at y Cynllun, gan fod nifer o’i atodiadau ategol wedi cael eu haddasu yn unol â’r sylwadau a dderbyniwyd. Manylwyd bod rhai o’r prif addasiadau hyn yn cynnwys:

 

·         Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru - Mae ymrwymiad bellach i gydymffurfio â pholisïau Rhwydwaith Gogledd Cymru (Trafnidiaeth Cymru), gyda diweddariadau i ddyheadau rheilffordd a’r rhwydwaith bysiau. Tynnwyd sylw bod nifer o gynlluniau yn rhan o’r cynllun hwn a bod cydweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn cynorthwyo datblygiadau posib i’r dyfodol megis Datblygu fflyd o drenau trydan, system ‘pay as you go’ er mwyn sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd i’w ddefnyddio a bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod trenau ar gael yn amlach ac yn gyson. Pwysleisiwyd bod y Cynllun a pherthynas ehangach y Cyd-bwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru yn un hirdymor gyda’r tebygolrwydd bydd prosiectau yn esblygu ac addasu dros amser. Tynnwyd sylw bod nifer o addasiadau eraill wedi cael ei wneud i’r cynllun a bod rhai o’r rhain yn cynnwys sicrhau cymorth i drigolion a defnyddwyr gorsaf Treffynnon (gan nad yw uwchraddio’r orsaf hwn yn flaenoriaeth i Drafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd),  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.