Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sera Whitley  E-bost: serajanewhitley@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2025/26

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

Ethol y Cynghorydd David Bithell yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd David Bithell yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025/26

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/26, os yw’r angen yn codi.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

Ethol y Cynghorydd Glyn Banks yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Glyn Banks yn Is-gadeirydd yr Is-bwyllgor hwn ar gyfer 2025-26.

 

3.

Ymddiheuriadau

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·         Dafydd Wyn Williams (Cyngor Gwynedd) gyda Gerwyn Jones yn dirprwyo

·         Iwan Evans (Swyddog Monitro)

 

Croesawyd y Cynghorydd Michael Priestley i'w gyfarfod cyntaf o'r Is-bwyllgor. Nodwyd bydd swyddogion yn dod i gyswllt gydag o a'r wyddog arweiniol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy er mwyn briffio'r Aelod ar faterion sydd yn gysylltiedig â gwaith yr Is-bwyllgor hwn, cyn y cyfarfod nesaf.

 

4.

Datgan Buddiant Personol

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 126 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2025 fel rhai cywir.

 

7.

ADRODDIAD CHWARTEROL YR IS-BWYLLGOR TRAFNIDIAETH STRATEGOL pdf eicon PDF 259 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig argymhellion i’r Cyd-bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

Ystyried yr adroddiad gan ychwanegu pryderon ynghylch â Pont Grog y Fenai yn Sir Ynys Môn yn cau dros dro.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd y Gogledd a’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

Ystyried yr adroddiad gan ychwanegu pryderon ynghylch â Pont Grog y Fenai yn Sir Ynys Môn yn cau dros dro.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Cylch Gorchwyl yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor ar 1 Hydref 2024. Ystyriwyd ei bod yn briodol adolygu cynnydd yn y gwaith sydd yn cael ei weithredu gan sicrhau bod yr adnoddau cywir yn eu lle i ddiwallu datblygiadau yn y dyfodol.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr aelodau fod yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol bellach wedi’i sefydlu ers blwyddyn, a bod eu Cylch Gorchwyl yn nodi ymrwymiad i baratoi adroddiad chwarterol ar eu gwaith ar gyfer y Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC).

 

Eglurwyd bod yr adroddiad chwarterol yn rhoi trosolwg strategol ar cynnydd, cyflawniadau allweddol, ac yn amlygu ar feysydd sydd angen sylw. Ymhelaethwyd mai pwrpas yr adroddiad yw hysbysu aelodau am faterion allweddol, a phenderfynu a oes unrhyw faterion ymae’r Is-bwyllgor yn dymuno eu huwchgyfeirio i’r CBC.

 

Tynnwyd sylw at gynnydd sylweddol a gyflawnwyd yn enwedig wrth baratoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a’i Gynllun Cyflawni cysylltiedig, yn ogystal â’r Ymarfer Ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd rhwng Ionawr ac Ebrill 2025. Arweiniodd y gwaith hwn at gyflwyno’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2025. Diolchwyd i’r aelodau, swyddogion, a rhanddeiliaid am eu gwaith wrth baratoi’r drafft hwn.

 

Nodwyd bod yr adroddiad bellach yn ystyried y cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh), a oedd yn gyfnod o 12 wythnos a daeth i ben ym mis Ebrill 2025. Cyflwynwyd yr adroddiad yn flaenorol yn yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Strategol a’r CBC. Ymhelaethwyd bod bron i 1,700 o ymatebion wedi’u derbyn; o’r rhain, roedd dros 1,400 yn ymwneud ag ymgyrchoedd gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ynglyn â geiriad dyhead a oedd yn ystyried yr A55 yn Sir y Fflint. O ganlyniad, addaswyd y geiriad yn dilyn cyfnod ymgynghori. Bu trafodaethau rhwng Uchelgais Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd, ac mae hyn wedi’i gynnwys yn yr atodiadau er gwybodaeth.

 

 

Cyflwynwyd pwyntiau allweddol eraill yn yr adroddiad, a oedd yn  cynnwys: y Broses ‘Moderneiddio Grantiau’, sef prosiect Llywodraeth Cymru; amserlenni a sut mae cynlluniau trafnidiaeth drafft yn cael eu datblygu; a mentergarwch gan partneriaid, un enwedig Rhwydwaith Gogledd Cymru, sef gweledigaeth buddsoddiad Llywodraeth Cymru, sy’n gyfwerth â biliynau o bunnoedd ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig, amledd uchel ar gyfer y rhanbarth.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cytunwyd y byddai cyflwyniad ar Rhwydwaith Gogledd Cymru o fudd ar gyfer cynlluniau gwaith yn y dyfydol er mwyn nodi’r dyheadau ar gyfer y tair i bedair blynedd nesaf. Nodwyd y byddai hyn yn dangos y cydymffurfiaeth rhwng y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbathol â dyheadu a chynlluniau Rhwydwaith Gogledd Cymru.

 

Gofynnwyd hefyd y byddai diweddaraid ar Fasnachfreinio Bysiau yn cael ei werthfawrogi, yn enwedig gan fod llawer o bryderon wedi’u nodi o’r blaen ynglyn â’r mater hwn.

 

Tynnwyd sylw at yr angen i fod yn ymwybodol o’r amrywiadau rhwng siroedd wrth ystyried masnachfreinio bysiau,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DATBLYGU'R RHAGLEN RTP AR GYFER 2026/27 pdf eicon PDF 248 KB

I ystyried a nodi yr adroddiad. 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan gefnogi’r cysyniad o adolygu dyraniadau cyfalaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Brif Weithredwr CBC y Gogledd a’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad gan gefnogi’r cysyniad o adolygu dyraniadau cyfalaf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Cyflwynwyd yr adroddiad at ddibenion gwybodaeth.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y broses ac amserlenni ar gyfer rhaglen ddatblygol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer 2026/27, ar gyfer sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn amserol.

 

Manylwyd bod proses ‘Moderneiddio Grantiau’ Llywodraeth Cymru yn cyfuno ffrydiau cyllido sydd wedi bod ar gael i Awdurdodau Lleol. Nodwyd y bydd Cronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei ddatblygu i’r dyfodol, a fydd yn gyfuniad o’r holl ffrydiau cyllido isod:

 

·         Cronfa Trafnidiaeth Leol

·         Cronfa Ffyrdd Gwydn

·         Cronfa Teithio Lesol

·         Cronfa Diogelwch ar y Ffyrdd (Refeniw)

·         Cronfa Diogelwch ar y Ffyrdd (Cyfalaf)

·         Cronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

·         Cronfa ffyrdd heb eu mabwysiadu

·         Cronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn.

 

            Ymhelaethwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gosod disgwyliad ar Gydbwyllgorau Corfforedig i gydlynu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol, gan gynnwys datblygu rhaglen o gynlluniau bydd yn cael eu cyflawni dros y flwyddyn ariannol ddilynol.

 

            Adroddwyd bod manylion y cynlluniau bydd yn cael eu hariannu yn y flwyddyn ariannol 2026/27 wedi cael eu nodi o fewn Cynllun Cyflawni’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan ychwanegu bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn caniatáu i gynlluniau ychwanegol gael eu hariannu drwy Raglen Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddarostyngedig i’r cynlluniau hynny dderbyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru.

 

            Diolchwyd i swyddogion y maes trafnidiaeth o fewn yr holl Awdurdodau Lleol sydd wedi bod yn cydweithio gyda swyddogion Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd er mwyn cadarnhau’r rhestr o gynlluniau a ddylid eu hariannu ar gyfer 2026/27, gan nodi bydd y rhestr lawn yn cael ei gyflwyni i Aelodau mewn cyfarfod anffurfiol i’r Is-bwyllgor hwn sydd wedi ei raglennu ar gyfer 04 Tachwedd er mwyn rhoi cyfle i Aelodau adolygu’r Rhaglen Trafnidiaeth Rhanbarthol arfaethedig. Cadarnhawyd bydd yr Aelodau yn derbyn cadarnhad o’r prosiectau cyn y cyfarfod anffurfiol er mwyn gallu cynnal trafodaethau gyda swyddogion o fewn eu Hawdurdodau Lleol wrth baratoi at y cyfarfod.. Eglurwyd byddai’r rhestr lawn yn cael ei gyflwyno i Gydbwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ei gyfarfod ar 07 Tachwedd.

 

            Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Trafnidiaeth nad yw’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi penderfynu dyrannu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol yn hafal rhwng yr Awdurdodau Lleol. Fodd bynnag, eglurwyd bod y Gronfa yn cael ei ddyrannu yn unol â statws prosiectau o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

            Mewn ymateb i ymholiad os oes amserlen mewn golwg ar gyfer cytuno ar fformiwla gyda’r Ysgrifennydd Cabinet perthnasol i ddyrannu’r Gronfa Trafnidiaeth Rhanbarthol, nododd Prif Weithredwr CBC y Gogledd nad yw hyn wedi cael ei gadarnhau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod gosod fformiwlâu ar gyfer dyrannu o’r Gronfa yn ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt osod eu cyllidebau. Ymhelaethwyd y gobeithiwyd derbyn cadarnhad o’r cyllidebau mor fuan â phosib gan Lywodraeth Cymru ac ystyriwyd bydd cynnydd i gyllidebau ar gyfer CBC y Gogledd  o’i gymharu â’r hyn a ragdybiwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.