Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Jasmine Jones E-bost: jasminejones@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan:- • Cynghorydd Alan James (Cyngor Sir
Ddinbych) • Iwan Evans (Swyddog Monitro) |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 04/09/2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 4 Medi 2025, fel cofnod cywir. |
|
|
CYFLWYNO CYTUNDEB CYFLAWNI'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL YN FFURFIOL Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio
Datblygu Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD Nodi canlyniad yr adroddiadau i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig (CBC) a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026 a'r camau nesaf ar gyfer y
Cynllun Datblygu Strategol. Y RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol sydd yn gyfrifol
am baratoi'r Cytundeb Cyflawni drafft.
Mae gan yr is-bwyllgor swyddogaethau cydlynu a chynllunio ynghylch pob
cam tuag at gyflawni'r CDS. TRAFODAETH Cyflwynodd y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol
Rhanbarthol adroddiad yn crynhoi canlyniad cyfarfod y Cyd-bwyllgor Corfforedig
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2026, a'r camau a arweiniodd at yr argymhelliad i
gyflwyno Cytundeb Cyflawni y Cynllun Datblygu Strategol yn ffurfiol i
Lywodraeth Cymru ar gyfer cymeradwyaeth weinidogol. Eglurwyd bod yr adroddiad
yn gosod trywydd archwilio cynhwysfawr a oedd yn rhoi diweddariad i'r
Is-bwyllgor ac yn tystiolaethu'r camau y mae'r Cytundeb Cyflawni wedi mynd
drwyddynt. Cyfeiriwyd at adran gefndirol yr adroddiad hwn, a oedd yn cynnwys
cyfeiriadau at y cyfarfodydd ble roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y Cytundeb
Cyflawni yn y gorffennol ac ar ba sail yr oedd argymhellion yn cael eu gwneud. Adroddwyd bod mis Medi 2025 wedi bod yn garreg
filltir allweddol, gan fod yr Is-bwyllgor wedi ystyried fersiwn ddrafft o'r
Cytundeb Cyflawni a'r priodoldeb i'w chyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer
cymeradwyaeth ffurfiol, yn ddarostyngedig i gadarnhad y gallai'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig osod cyllideb 2026-2027 ac adnabod y cyllid ychwanegol sydd ei
angen i ddechrau'r Cynllun Datblygu Strategol a chynnal y gwaith cyflawni ar
hyd y rhaglen pum mlynedd. Nodwyd bod y Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi
cadarnhau'r un safbwynt amodol ar 19
Medi 2025, gan nodi'r pryderon ariannol a godwyd, ac na allai'r Cytundeb
Cyflawni fynd yn ei flaen nes bod cyllideb 2026-2027 wedi'i gosod. Eglurwyd, drwy'r broses o osod cyllideb yn yr
Hydref, bod gwaith wedi'i gynnal gyda'r Prif Swyddog Cyllid a swyddogion cyllid
i adnabod opsiynau oedd yn cyd-fynd â'r gofynion a nodwyd yn flaenorol, sef y
dylid dod o hyd i'r adnoddau ychwanegol oedd eu hangen ar gyfer y Cynllun
Datblygu Strategol, pan fo'n bosib, o fewn adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd
ac na ddylid rhoi baich ychwanegol sylweddol ar gyllidebau awdurdod lleol drwy
gynyddu'r ardoll yn sylweddol. Adroddwyd bod y broses gosod cyllideb wedi nodi
ffordd o gwrdd â gofyniad cyllido y flwyddyn gyntaf heb greu pwysau ardoll
ychwanegol a fyddai’n cael ei briodoli i'r Cynllun Datblygu Strategol. Nodwyd
bod y cynnydd yn yr ardoll ar gyfer 2026-2027 wedi'i gyfyngu i gynnydd
chwyddiannol o 3.5%. Nodwyd mai oddeutu £655,000 y flwyddyn oedd yr
amcangyfrif o ofyniad cyllido blynyddol ar gyfer cyflawni'r Cynllun Datblygu
Strategol dros y rhaglen pum mlynedd. Nodwyd bod cyllideb blwyddyn un wedi'i
gosod ar £597,000, oedd yn adlewyrchu'r gofyniad arfaethedig ar gyfer y
flwyddyn gyntaf, yn hytrach na gofyn am y swm cyfartalog llawn, ac y bydd y
gyllideb yn cael ei hadolygu a'i gosod yn flynyddol drwy'r cylch cyllideb
arferol. Adroddwyd bod y gallu i osod cyllideb blwyddyn un heb effaith sylweddol ar ardoll wedi'i gyflawni drwy ddefnyddio adnoddau mewnol, gan gynnwys tanwariant yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
AMSERLEN Y CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL 2026/27 A THASGAU ALLWEDDOL Nodi cynnwys yr adroddiad hwn ac y bydd y rhestr dasgau a gyflwynir yn llywio datblygiad rhaglen waith yr Is-bwyllgor a chydlynu cyfarfodydd. Penderfyniad: Nodi
cynnwys yr adroddiad hwn ac y bydd y rhestr dasgau a gyflwynir yn llywio
datblygiad rhaglen waith yr Is-bwyllgor a chydlynu cyfarfodydd. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Datblygu Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD Nodi
cynnwys yr adroddiad hwn ac y bydd y rhestr dasgau a gyflwynir yn llywio
datblygiad rhaglen waith yr Is-bwyllgor a chydlynu cyfarfodydd. Y
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Yr
Is-bwyllgor Cynllunio Strategol sy'n gyfrifol am weithredu Cytundeb Cyflawni'r
Cynllun Datblygu Strategol. Mae gan yr is-bwyllgor swyddogaethau cydlynu a
chynllunio ynghylch pob cam tuag at gyflawni'r SDP. TRAFODAETH Cyflwynwyd
amserlen rhaglen waith y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer 2026-2027, ac
eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi golwg cynnar, gan dybio y byddai
Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo'r Cynllun Cyflawni, gan osod y cerrig milltir
a'r tasgau allweddol ym mlwyddyn un y rhaglen pum mlynedd. Adroddwyd bod y pum
neu chwe cam cyntaf yn y tabl yn ymwneud yn bennaf â chamau gweithdrefnol yn
dilyn cymeradwyo'r Cytundeb Cyflawni, gan gynnwys trefniadau cymeradwyo,
dechrau a chyhoeddi. Nodwyd hefyd bod recriwtio wedi ffurfio rhan o'r camau
cynnar hyn, ac adroddwyd bod cyllideb gymeradwy y Cynllun Datblygu Strategol
wedi galluogi recriwtio o leiaf un cynllunydd ychwanegol i gefnogi’r gwaith
cyflawni ym mlwyddyn un. Pwysleisiwyd bod ychwanegu capasiti o fewn y
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn bwysig i gadw at derfynau amser o fewn yr amserlen
gyffredinol. Adroddwyd
bod yr eitemau hwyrach yn yr amserlen, yn benodol pwynt saith i ddeg, yn
cynrychioli camau mwy sylweddol yn y broses flwyddyn un ac mai'r rhain fyddai'r
meysydd fwyaf tebygol o fod angen adroddiadau i'r Is-bwyllgor eu hystyried, eu
trafod a'u llywio, cyn i faterion gael eu hadrodd ymlaen i'r Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Eglurwyd mai un allbwn sylweddol cynnar fyddai paratoi Adroddiad
Prif Faterion. Nodwyd bod gwaith paratoi eisoes wedi dechrau i roi contract
ymgynghoriaeth yn ei le i helpu datblygu'r sail dystiolaeth, ac adroddwyd y
byddai hyn yn dechrau gydag archwiliad o'r seiliau tystiolaeth cyfredol a oedd
yn cefnogi cynlluniau datblygu lleol o fewn pob ardal awdurdod cyfansoddol.
Nodwyd mai bwriad y dull oedd osgoi dyblygu ac osgoi ailddyfeisio'r olwyn, gan
adnabod bod awdurdodau lleol eisoes wedi buddsoddi llawer o amser ac arian i
ddatblygu seiliau tystiolaeth a lle oedd tystiolaeth yn dal i fod yn gyfredol,
byddai'n cael ei defnyddio yn hytrach na'i hailadrodd. Adroddwyd
y byddai'r archwiliad hefyd yn adnabod bylchau tystiolaeth a meysydd fydd angen
eu diweddaru, yn benodol lle'r oedd tystiolaeth wedi dyddio, a byddai hyn yn
llywio lle y gallai fod angen targedu ariannu cyfyngedig i sicrhau darlun
rhanbarthol cyson. Nodwyd y byddai'r dull yn cynnwys gweithio gydag awdurdodau
a oedd eisoes yn bwriadu adnewyddu seiliau tystiolaeth, er mwyn alinio
gweithgarwch a sicrhau'r gwerth gorau ar gyfer adnoddau cyhoeddus cyfyngedig.
Adroddwyd y byddai'r Adroddiad Prif Faterion yn tynnu'r materion sylweddol
rhanbarthol sy'n codi o'r archwiliad tystiolaeth hwn, i lywio sgôp a chyfeiriad
y Cynllun Datblygu Strategol. Nodwyd y bydd gwaith, ochr yn ochr â chasglu’r sail dystiolaeth, hefyd yn cael ei gynnal i brofi materion sy'n codi gyda'r dewisiadau lleol a rhanbarthol. Adroddwyd y byddai hyn yn cynnwys datblygu amcanion strategol, gweledigaeth a materion, a nodwyd y byddai angen hwyluso gwaith ymgysylltu gydag aelodau'r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |