Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 0186 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- · Y
Cynghorydd Hugh Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) (Is-gadeirydd) · Iwan
Evans (Swyddog Monitro) · Sian
Pugh (Pennaeth Cynorthwyol Cyllid) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 06/05/2025 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 06 Mai 2025 fel rhai cywir. |
|
CYTUNDEB CYFLAWNI'R CYNLLUN DATBLYGU STRATEGOL Y Prif
Weithredwr a’r Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Argymell i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ei fod yn
barod i gymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni drafft yn dilyn ymgynghori a’i gyflwyno
i Lywodraeth Cymru, yn amodol ar benderfyniad cyllid yr CDS. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Datblygu
Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD Argymell i'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig ei fod yn barod i gymeradwyo’r Cytundeb Cyflawni
drafft yn dilyn ymgynghori a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn amodol ar
benderfyniad cyllid yr CDS. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol sydd yn gyfrifol am
baratoi’r Cytundeb Cyflawni drafft. Mae gan yr is-bwyllgor swyddogaethau
cydlynu a chynllunio ynghylch pob cam tuag at gyflawni'r CDS. TRAFODAETH Atgoffwyd bod yr Aelodau wedi cymeradwyo cynnal ymgynghoriad
cyhoeddus o Gytundeb Cyflawni’r Cynllun Datblygu Strategol ar ffurf draft am gyfnod o 6 wythnos, mewn cyfarfod anffurfiol o’r
Is-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27ain Mehefin 2025. Diweddarwyd bod yr
ymgynghoriad cyhoeddus bellach wedi dod i ben gan gadarnhau bod yr adroddiad
hwn yn cyflwyno’r adborth ac ymatebion a dderbyniwyd gan y cyhoedd a
rhanddeiliaid. Adroddwyd
bod Cynllun Cyflawni’r Cynllun Datblygu Strategol wedi cael ei
gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod
ar 18 Gorffennaf 2025 a bod yr ymatebion
a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad yn cyfrannu at ddiweddariad o’r ddogfen honno. Tynnwyd sylw bod Swyddogion wedi gwahodd nifer
fawr o rhanddeiliaid a phartneriaid i gymryd rhan yn
yr ymgynghoriad cyhoeddus,
er mwyn sicrhau proses agored. Diweddarwyd bod 16 ymateb ffurfiol wedi cael ei
derbyn i’r ymgynghoriad cyhoeddus gan nifer o sefydliadau
megis Awdurdodau Lleol a swyddogion penodol oddi fewn
iddynt, Comisiynydd y Gymraeg, grwpiau cymunedol a Heneb. Cydnabuwyd nad oes nifer fawr
o ymatebion wedi dod i law ond
sicrhawyd bod y sylwadau a dderbyniwyd yn safonol iawn a bod y broses hon yn allweddol o godi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Datblygu Strategol yn ei gyfanrwydd. Nodwyd
bod fersiwn diwygiedig o’r ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad
cyhoeddus wedi cael ei gylchredeg
i’r Aelodau yn dilyn cyhoeddi’r Rhaglen ar gyfer y cyfarfod hwn. Eglurwyd
nad oedd yr ymgynghoriad wedi dod i ben pan roedd
dogfennaeth y cyfarfod hwn yn cael
eu cyhoeddi ac roedd nifer o’r ymatebion wedi cyrraedd Swyddogion ar ddiwrnod olaf yr ymgynghoriad. Ystyriwyd ei fod yn
bwysig bod yr aelodau yn derbyn yr holl
wybodaeth a ddaeth i law ac felly rhannwyd fersiwn diwygiedig o’r ymatebion i’r Aelodau gyda chaniatâd y Cadeirydd. Amlygwyd
bod yr ymatebion yn gofyn a oes
amser digonol wedi cael ei
glustnodi ar gyfer ymarferion ymgynghorol. Eglurwyd bod y gofyniadau statudol o sicrhau bod ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu
cynnal am gyfnod o 6 wythnos yn cael
ei lynu ato
er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol. Nodwyd hefyd bod gan y Cyd-bwyllgor bwerau i ymestyn
cyfnodau ymgynghoriadau cyhoeddus os yw’n
dymuno gwneud hynny. Pwysleisiwyd bod nifer o ymatebion i’r ymgynghoriad yn tynnu
sylw at ystyriaethau’r iaith Gymraeg. Diolchwyd iddynt am eu sylwadau gan
sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn derbyn ystyriaeth barhaus o fewn gwaith y
Cyd-bwyllgor. Eglurwyd bod nifer o ymatebwyr wedi tynnu sylw at hyd y Cynllun Cyflawni, sef cyfnod o 5 mlynedd, gan ystyried os yw’r amserlen hon yn rhy heriol ac os bydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Y Prif
Weithredwr a’r Swyddog Cynllunio Strategol Rhanbarthol i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo'r materion cyllido a'r opsiynau a nodir yn y
nodyn briffio atodol ac argymell i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ystyried pob
opsiwn i gyllido'r CDS, gan gynnwys gwneud sylwadau pellach i Lywodraeth Cymru.
Gofynnwyd i’r swyddogion addasu geiriad yr Adroddiad i amlygu disgwyliadau
cyllidebol rhwng y Llywodraeth a’r CBC ac annog cyfraniad ariannol cyson gan y
Llywodraeth er mwyn osgoi’r angen am grantiau dros dro wrth osod y gyllideb
hirdymor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cynllunio Datblygu
Strategol Rhanbarthol. PENDERFYNWYD Cymeradwyo'r materion cyllido a'r opsiynau a nodir yn y nodyn
briffio atodol ac argymell i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig ystyried pob opsiwn i
gyllido'r CDS, gan gynnwys gwneud sylwadau pellach i Lywodraeth Cymru.
Gofynnwyd i’r swyddogion addasu geiriad yr Adroddiad i amlygu disgwyliadau
cyllidebol rhwng y Llywodraeth a’r CBC ac annog cyfraniad ariannol cyson gan y
Llywodraeth er mwyn osgoi’r angen am grantiau dros dro wrth osod y gyllideb
hirdymor. RHESYMAU DROS Y
PENDERFYNIAD Sicrhau bod yr Is-bwyllgor Cynllunio Strategol yn gwbl
ymwybodol o'r materion cyllido a'r opsiynau sy'n ymwneud â'r CDS i lywio eu
hargymhellion i'r Cyd-bwyllgor. TRAFODAETH Eglurwyd
bod yr adroddiad yn amlygu opsiynau sy’n ymwneud ag ariannu’r gwaith o gynhyrchu’r Cynllun Datblygu Strategol, cyn paratoi cyllidebau dros tymor yr hydref.
Diolchwyd i grŵp o brif swyddogion cynllunio gogledd Cymru am eu gwaith o ymchwilio i mewn i
wahanol faterion ariannol ynghlwm a’r Cynllun. Nodwyd
bod modd rhoi ystyriaeth bellach i’r materion ariannol
sydd wedi cael ei baratoi
gan Swyddogion hyd yma, gan
fod yr Aelodau wedi cymeradwyo cyflwyno fersiwn drafft o’r Cynllun Datblygu Strategol i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn gynharach yn ystod
y cyfarfod hwn. Atgoffwyd
bod dyletswydd gyfreithiol yn cael ei
roi ar y Cyd-bwyllgor Corfforedig drwy statud i ddatblygu
Cynllun Datblygu Strategol yn ogystal â’i
ariannu. Nodwyd bod swyddogion wedi derbyn nifer o sylwadau yn ystyried
a ddylai Llywodraeth Cymru ariannu’r Cynllun a’r broses o’i sefydlu ond mewn
ymateb, cadarnhawyd nad oes cynllun
hirdymor wedi cael ei gyflwyno
gan Lywodraeth i’r ariannu gan
ei wneud yn ofynnol i’r
Cyd-bwyllgor gydymffurfio â’r gofynion statudol. Er nad oes cyllideb
hir-dymor wedi cael ei glustnodi
gan Lywodraeth Cymru, adroddwyd eu bod wedi adnabod cyllideb
o oddeutu £400,000 sydd yn berthnasol ar gyfer holl Gyd-bwyllgorau
Corfforedig Cymru. Nodwyd na fydd yr arian
hwn yn cael
ei rannu’n hafal rhwng y Cyd-bwyllgorau ond yn hytrach yn
cael ei ddyrannu
yn unol â pherfformiad y Cyd-bwyllgorau i ddatblygu eu
Cynllun Cyflawni er cymeradwyaeth. Eglurwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn awyddus i
sicrhau bod datblygiadau
yn cael ei
wneud i Gynllun
Cyflawni’r Cynllun Datblygu
Strategol yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn gallu denu’r arian
hwn i gyfrannu
at gyllido’r Cynllun. Cysidrwyd byddai modd gwneud cais
am oddeutu £100,000 o’r arian
hwn yn dilyn
cyfarfod 19 Medi 2025 o’r Cyd-bwyllgor
Corfforedig, os yw’r aelodau yn
cymeradwyo’r Cynllun Cyflawni drafft. Eglurwyd os oes
modd cadarnhau ymrwymiad ariannol ychwanegol i gyfrannu
at gyllideb y Cynllun o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol, y byddai modd ymgeisio
am oddeutu £200,000 ychwanegol
o’r arian grant hwn a gynigir gan Lywodraeth
Cymru. Mynegwyd balchder bod gwaith cyllidebu’r Cyd-bwyllgor wedi bod yn effeithiol iawn hyd yma ac er bod cryn dipyn o arian wedi cael ei glustnodi er mwyn cefnogi’r Cynllun, mae oddeutu £1.1miliwn o’r gyllideb ar ôl i gael ei ganfod o ffynonellau amgen ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |