Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:- ·
Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd)
gyda’r Cynghorydd Menna Trenholme yn dirprwyo. ·
Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned
Williams yn dirprwyo. ·
Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych) ·
Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai)
gyda Gwenllian Roberts yn dirprwyo. ·
Yana Williams (Coleg Cambria). ·
Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf). ·
Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2025 fel rhai cywir.
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2025 fel
rhai cywir. |
|
|
CYFETHOL I'R IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD I ystyried
Cyfethol aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w benodi ar yr Is-bwyllgor
Lles Economaidd. Penderfyniad: 1. Cyfethol Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol
Eryri (heb bleidlais) ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd i gefnogi ei
swyddogaethau a’i gyfrifoldebau. 2. Bod yr aelod isod o Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri yn cael eu cyfethol i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd yn
berthnasol i faterion cynllunio strategol yn unig: ·
Cyng. Edgar W. Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc
Cenedlaethol Eryri Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog
Monitro. PENDERFYNIAD 1. Cyfethol Aelod o
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (heb bleidlais) ar yr Is-bwyllgor Lles
Economaidd i gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau. 2. Bod yr aelod isod o
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael eu cyfethol i’r Is-bwyllgor Lles
Economaidd yn berthnasol i faterion cynllunio strategol yn unig: · Cyng. Edgar W. Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Ar Fawrth 21 cytunodd Cyd-bwyllgor
Corfforedig y Gogledd y bydd aelodaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn
cynnwys chwe Aelod Cyngor Cyd-bwyllgor Corfforaethol y Gogledd, ynghyd a
chynrychiolydd o bob un o’r cyrff hynny a gynrychiolwyd ar Fwrdd Uchelgais
Economaidd Gogledd Cymru, i gael ei benodi fel aelodau cyfethol dibleidlais. TRAFODAETH Atgoffwyd bod y penderfyniad o gyfethol Aelod
o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael ei ohirio yn ystod cyfarfod yr
Is-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2025 er mwyn gwirio materion
technegol. Mynegwyd balchder bod y materion hynny bellach wedi cael eu datrys.
Cadarnhawyd bod y Cynghorydd Edgar Owen wedi cael ei enwebu i fod yn Aelod
Cyfethol (heb bleidlais) o’r Is-bwyllgor hwn. Ymhelaethwyd bydd trefniadau
Cyfethol yn cael eu cadarnhau gan y Swyddog Monitro os byddai’r Aelodau yn
cadarnhau’r enwebiad hwn. |
|
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF BUEGC AR GYFER 2024/25 I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Nodi adroddiad alldro y BUEGC ar gyfer
2024/25 sy’n cynnwys defnyddio £714,395 o grant Bargen Twf Gogledd Cymru i
ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn. 2. Nodi sefyllfa cronfeydd BUEGC. 3. Nodi adolygiad cyfalaf diwedd blwyddyn
BUEGC ar 31 Mawrth 2025. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cyllid
Statudol. PENDERFYNWYD 1. Nodi adroddiad alldro y
BUEGC ar gyfer 2024/25 sy’n cynnwys defnyddio £714,395 o grant Cynllun Twf
Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn. 2. Nodi sefyllfa cronfeydd
BUEGC. 3. Nodi adolygiad cyfalaf
diwedd blwyddyn BUEGC ar 31 Mawrth 2025. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Hysbysu’r Is-bwyllgor Lles Economaidd am
sefyllfa ariannol y BUEGC ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25. Trosglwyddwyd rôl a swyddogaeth y BUEGC i’r
CBC ar 1 Ebrill 2025, a oedd yn cynnwys staff, adnoddau, ymrwymiadau ac asedau
ariannol, gan gynnwys y Cynllun Twf a’r cyllid. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr Adroddiad er gwybodaeth i’r Is-bwyllgor gan gadarnhau y byddai’n cael ei
gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod
ar 13 Mehefin 2025 er cymeradwyaeth.
Adroddwyd
bod sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn danwariant oddeutu
£386,000. Eglurwyd bod y tanwariant
hwn yn gynnydd
o’r tanwariant a ragwelwyd wrth adrodd ar y sefyllfa ym mis Rhagfyr 2024, sef oddeutu £205,000. Manylwyd ar brif pennawdau’r gyllideb fel a ganlyn: · Swyddfa Rheoli Portffolio - Eglurwyd
mai’r tanwariant net terfynol ar y pennawd hwn yw £75,140 yn sgil tanwariant
ar wariant gweithwyr. Ymhelaethwyd bod chwyddiant cyflog gwirioneddol 2024/25 yn 3%, ble cyllidebwyd
ar gyfer cynnydd o 6%. Tynnwyd sylw bod estyniad ar gyllideb y Gronfa Ffyniant Gyffredin hyd ddiwedd
Mawrth 2025 wedi galluogi ariannu tri swyddog o fewn y pennawd UKSPF yn hytrach na’r
gyllideb graidd fel a gyllidebwyd. · Gwariant Gweithwyr – Nodwyd bod rhan o’r
tanwariant o fewn y pennawd hwn wedi cael ei ddefnyddio i ariannu staff
ymgynghorol dros dro tra bod gwaith yn mynd rhagddo i benodi Rheolwr Rhaglen
wedi i’r swydd ddod yn wag. · Gwasanaethau Cefnogol gan y Corff Atebol – Cyfeiriwyd bod tanwariant o £41,730 yma sy’n deillio yn bennaf o
danwariant ar gymorth y Gwasanaeth Cyllid. · Cyd-bwyllgor - Adroddwyd
bod tanwariant o £48,935 yn
y pennawd hwn, gyda tanwariant i weld ar bob llinell berthnasol o’r gyllideb o fewn y pennawd. · Prosiectau – Esboniwyd bod tanwariant net o £65,034 ar
y pennawd hwn yn sgil cyfalafu costau a
ystyriwyd yn flaenorol o fewn llinell gyllideb ‘Datblygu Achosion Busnes
Prosiect’. Er hyn, cydnabuwyd bod galw uchel am gymorth cyfreithiol allanol ar
nifer o brosiectau wedi arwain at orwariant o fewn y llinell ‘Datblygu Achosion
Busnes Prosiect’. · Grantiau - Nodwyd
bod gorwariant i’w weld ym mhrosiectau Ynni Ardal Leol a’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin. Ymhelaethwyd bod
estyniad ar y ddau brosiect hyd at ddiwedd Mawrth 2025 wedi arwain at orwariant net o
£96,820. Eglurwyd bod y gorwariant
sydd ynghlwm a’r prosiect Ynni
Ardal Leol yn cael ei ariannu
gan yr arian sydd yn weddill
yn y grant. Ymhelaethwyd
bod y tanwariant sydd i’w weld yn rhai
o gynlluniau
sydd ynghlwm â’r Gronfa Ffyniant
Gyffredin yn cael eu defnyddio
i ariannu’r gorwariant ar gostau gweithwyr y Gronfa yn ogystal â chyfrannu
tuag at gostau gorbenion Swyddfa Rheoli Portffolio. · Trosglwyddiadau i Gronfeydd Wrth Gefn – ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 4 I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD I gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr i
Mawrth) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru. Mae
adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn
Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan yr Is-bwyllgor, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda
Llywodraeth Cymru, Llywodraeth
y DU a phwyllgorau craffu'r
awdurdodau lleol. TRAFODAETH Adroddwyd
ar nifer o uchafbwyntiau datblygiadol y Cynllun Twf megis cymeradwyaeth
i Achos Busnes
Amlinellol y prosiect Anturiaethau Cyfrifol, cymeradwyo Achosion Busnes Llawn prosiectau Cydnerth a Pharc Bryn Cegin a hefyd cyflwyno
achos dros newid ar brosiect Glynllifon. Ymhelaethwyd bod gwaith adnewyddu ar safle Henfaes yn
cael ei gyflawni
ar amser ar gyfer Datblygu Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol. Mynegwyd balchder bod Cytundeb Ariannu grant wedi cael ei arwyddo
ar gyfer y Rhwydwaith
Talent Twristiaeth. Nodwyd hefyd bod y prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) bellach wedi ei
gau gan edrych
yn ôl ar nifer o lwyddiannau megis lansiad y portal sgiliau, prynu offer arolwg symudol a darparu grantiau i 16 o sefydliadau bach cymunedol. Tynnwyd
sylw bod amryw o brosiectau yn adrodd
yn goch ar Gofrestr Risg y Portffolio ar hyn o bryd, sef Cysylltu’r
Ychydig % Olaf, Ffibr
Llawn, NEW H2, Trawsfynydd, Porth Caergybi a Stiwdio Kinmel. Eglurwyd
bod nifer o brosiectau yn weithredol erbyn
hyn, gan nodi bod modd adrodd ar rai o’r manteision sy’n deillio ohonynt. Manylwyd bod £15.32miliwn o fuddsoddiad
wedi cael ei wneud o fewn
y Cynllun Twf yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf, gyda’r cyfanswm o fuddsoddiadau yn £16.61miliwn. Cydnabuwyd fod y niferoedd hyn yn is na’r
targedau ond pwysleisiwyd bod y sefyllfa wedi gwella’n sylweddol
ers y flwyddyn blaenorol, gan fod mwy o brosiectau
wedi derbyn cymeradwyaeth. Ymhelaethwyd bod y prosiectau a gymeradwywyd
wedi sicrhau £4.712miliwn o
refeniw yn ogystal â bod wedi creu 35 o swyddi hyd yma. Ymhelaethwyd
bod 261 o unigolion yn derbyn Hyfforddiant a chwblhau cyrsiau er mwyn ennill cymwysterau. Sicrhawyd
bydd modd adrodd ar y math hwn o ddata yn rheolaidd
wrth ystyried diweddariadau chwarterol, er mwyn adolygu’r effaith ehangach mae’r Cynllun Twf
yn ei gael
ar y rhanbarth. Diolchwyd
i’r swyddogion am eu gwaith er mwyn
sicrhau gwireddu’r agweddau hyn o’r Cynllun Twf. Mynegwyd pryder gan Lywodraeth Cymru ar gyflymder gwireddu’r Cynllun Twf gan fod oddeutu 10 mlynedd yn weddill ar y Cynllun a bod angen cynyddu ystadegau buddsoddi yn sylweddol er mwyn cyrraedd targedau’r Cynllun. Fodd bynnag, mynegwyd balchder bod cyrn cynnydd wedi bod ar brosiectau’r Cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf. Mewn ymateb, pwysleisiwyd gan Brif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ei fod yn hanfodol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei
bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 o Atodiad 12A
o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn
â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a
masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau
cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff
a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai
eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer
ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn
cyfansawdd gorau Cofnod: PENDERFYNWYD PENDERFYNWYD cau
allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 9-11 gan
ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth
ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys
yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus
cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a
materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod
buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn
benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn
tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth
sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o
sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. |
|
|
ANTURIAETHAU CYFRIFOL - DIWEDDARIAD AR Y GOFYNION I ystyried
yr adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan swyddogion Zip World a QUAD Consultancy. PENDERFYNWYD 1. Nodi’r cynnydd a wnaed gan Zip World tuag at fynd i’r afael â’r argymhellion a bwriad y
cwmni i gyflwyno cais am newid i ddileu elfennau e-fws y prosiect. 2. Gwahodd Zip World i gyflwyno ei gais am
newid i’r cyfarfod nesaf ac i roi diweddariad pellach ar y cynllun ymgysylltu
a’r Cynllun Buddion Lleol fel rhan o’r adroddiad hwn. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Darparu diweddariad yn erbyn y tri gofyn a
osodwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd wrth gymeradwyo Achos Busnes
Amlinellol y prosiect. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
|
ARGYMHELLION RHESTR WRTH GEFN Y CYNLLUN TWF I ystyried
yr adroddiad. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau a Phrif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. PENDERFYNWYD 1. Cytuno ar yr argymhellion sy’n deillio o ganlyniadau asesiad Mynegi
Diddordeb (EOI) gan wahodd y prosiectau hynny i ymuno â Rhestr Wrth Gefn y
Cynllun Twf. 2. Cytuno ar y broses
arfaethedig ar gyfer rheoli prosiectau’r rhestr wrth gefn. 3. Cytuno ar y broses
sicrwydd a chymeradwyaeth symlach arfaethedig ac yn dirprwyo i’r Cyfarwyddwr
Portffolio wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i sicrhau cymeradwyaeth
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriaeth
gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd. 4. Bod: a. Yr is-bwyllgor cytuno i
gychwyn proses i asesu ac adolygu’r cwmpas a’r achos dros ymestyn y cynllun twf
presennol i gynnwys prosiectau trafnidiaeth. b. Yr Is-bwyllgor yn comisiynu’r Cyfarwyddwr Portffolio i baratoi adroddiad
opsiynau manwl mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a’r DU a swyddogion y
Cynghorau Cyfansoddiadol a Phartneriaid Addysg. c. Yr adroddiad opsiynau yn
cael ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor gyda’r bwriad o benderfynu a ddylid cychwyn
proses newid yn ffurfiol i sicrhau cytundeb ar gyfer Cynllun Twf estynedig i
gynnwys prosiectau Trafnidiaeth. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’r penderfyniad a geisir yn ymateb i’r
cais a wnaed gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ym mis Ebrill 2025 i ddechrau’r
broses Mynegi Diddordeb (EOI) a chyflwyno argymhellion yn yr Is-bwyllgor hwn yn
unol â’r amserlen y cytunwyd arni. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |
|
|
CRONFA YNNI GLAN (YNNI LLEOL BLAENGAR) - ACHOS BUSNES LLAWN I ystyried
yr adroddiad. Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer
y Gronfa Ynni Glân, Cynllun Rheoli Cronfa gan gynnwys Strategaethau Buddsoddi
a’r Matrics Penderfyniadau Dirprwyedig ar gyfer y prosiect. 2.
Cymeradwyo y Matrics Penderfyniadau
Dirprwyedig ar gyfer y prosiect. 3.
Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn
ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog
Monitro i gadarnhau cwblhau’r materion sydd heb eu nodi yn adran 7 a chytuno ar
lansiad ffurfiol y Gronfa. 4.
Bod yr Is-bwyllgor Llesiant Economaidd yn
penodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i fod yn swyddog atebol am gyflawni’r prosiect. 5.
Cymeradwyo bod cyfalaf a ad-dalwyd yn
ystod gweithrediad y gronfa yn cael ei neilltuo i’r Is-gronfa Wrth Gefn gael ei
ail-fuddsoddi yn unol â’r strategaethau Buddsoddi. Cymeradwyo bod refeniw dros
ben a gynhyrchir gan y prosiect unwaith y bydd costau gweithredu wedi’u talu yn
cael ei neilltuo i ariannu gweithrediad y Swyddfa Rheoli Portffolio. 6.
Gofyn am ddiweddariad pellach ymhen 6 mis
er mwyn adolygu partneriaethau perthnasol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth
Gweithrediadau a Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net. PENDERFYNWYD
RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD I geisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor o’r
achos busnes llawn ar gyfer Prosiect y Gronfa Ynni Glân. TRAFODAETH Trafodwyd yr Adroddiad. |