Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026-27.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27. 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd ar gyfer 2026/27.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2026-27.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Jason McLellan yn Is-gadeirydd. 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Jason McLellan yn Is-gadeirydd ar gyfer 2026/27.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

 

·        Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda Chris Drew yn dirprwyo.

·        Yr Athro Joe Yates (Prifysgol Wrecsam) gyda Laura Gaugh yn dirprwyo.

·        Yana Williams (Coleg Cambria)

·        Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai)

·        Neal Cockerton (Cyngor Sir y Fflint)

·        Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo

·        Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gydag Andrew Harradine yn dirprwyo.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Ynys Môn) ar gyfer Eitem 7. Nodwyd and oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Gary Pritchard (Cyngor Sir Ynys Môn) ar gyfer Eitem 11, gan ei fod yn aelod o Fwrdd ‘Menter Môn’ yn rhinwedd ei rôl fel Arweinydd y Cyngor. Nodwyd nad oedd yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhwy eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 127 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2026 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2026 fel rhai cywir.

 

7.

PROSIECT PORTH Y PORTHLADD RHYDD - CAIS I YMESTYN Y CYFNOD DILYSRWYDD pdf eicon PDF 218 KB

David Mathews (Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r cais i ymestyn y cyfnod dilysrwydd i gwblhau’r Cytundeb Cyllido Grant o dri mis hyd at 1af o Hydref 2026. 

 

Cadarnhau bod y Cyfarwyddwr Portffolio wedi’i awdurdodi i gymryd yr holl gamau gweithredol angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r Cytundeb Cyllido Grant a’i gwblhau o fewn y cyfnod dilysrwydd estynedig, yn amodol ar ofynion cyfreithiol, ariannol, caffael a llywodraethu arferol. 

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys tan 1af Hydref 2026 ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Gytundeb Cyllido Grant wedi’i lofnodi erbyn y dyddiad hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r cais i ymestyn y cyfnod dilysrwydd i gwblhau’r Cytundeb Cyllido Grant o dri mis hyd at 1af o Hydref 2026.

 

Cadarnhau bod y Cyfarwyddwr Portffolio wedi’i awdurdodi i gymryd yr holl gamau gweithredol angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r Cytundeb Cyllido Grant a’i gwblhau o fewn y cyfnod dilysrwydd estynedig, yn amodol ar ofynion cyfreithiol, ariannol, caffael a llywodraethu arferol.

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys tan 1af Hydref 2026 ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Gytundeb Cyllido Grant wedi’i lofnodi erbyn y dyddiad hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i ymestyn y dyddiad adolygu ar gyfer y Cytundeb Cyllido Grant o dri mis oherwydd y rhesymau a nodir yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd bod y prosiect hwn wedi cael ei gymeradwyo gan yr Is-bwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 03 Hydref 2025, gan gymeradwyo cyfnod dilysu o 6 mis ar gyfer trafod a chyflawni cytundeb ariannu grant ar gyfer y prosiect.

 

Cydnabuwyd nad oedd modd cyflawni’r gofynion hynny o fewn yr amserlen a ddarparwyd gan yr Is-bwyllgor, ac felly fy ail-gyflwynwyd yr eitem yng Ngwanwyn 2026 er mwyn derbyn 3 mis ychwanegol i gyflawni’r trafodaethau a derbyn cytundeb ariannu grant. Hyderwyd bod modd cyflawni’r trafodaethau o fewn 3 mis, ond cadarnhawyd nad yw’r trafodaethau wedi cael eu cwblhau ar y prosiect hwn. Yn debyg, eglurwyd bod trafodaethau yn mynd rhagddo ar brosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Môn, a bod trafodaethau bellach wedi eu cyflawni gyda’r Awdurdod Lleol ar y prosiect hwnnw.

 

Adroddwyd bod y prosiect Porth y Porthladd Rhydd bellach mewn proses caffael, gyda’r proses tendro yn mynd rhagddo tan 7 Awst. Nodwyd bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn sgorio’r tendrau cyn apwyntio’r cwmni llwyddiannus cyn diwedd y mis. Ymhelaethwyd y gobeithir cwblhau trafodaethau gyda’r awdurdod lleol ym mis Medi 2026, er mwyn i’r gwaith gychwyn ym mis Hydref.

 

Gofynnwyd i ymestyn y cyfnod dilysu am 3 mis er mwyn caniatáu i’r amserlen hwn gymryd lle, ac i’r prosiect fynd yn ei flaen.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Ystyriwyd nad yw estyniad o dair mis yn gyfnod sylweddol o amser. Trafodwyd yr angen i sicrhau bod unrhyw estyniad yn ddigonol fel nad oes angen yn codi i ddychwelyd at yr Is-bwyllgor am estyniad dilynol. Mewn ymateb i’r sylwadau, pwysleisiodd Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo bod gwersi wedi eu dysgu wrth gynnal trafodaethau ar brosiect Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Môn I arbed amser ar drafodaethau. Sicrhawyd bydd hyn yn cael ei rhoi ar waith ar gyfer y prosiect hwn, gan ddatgan hyder y bydd y prosiect yn datblygu’n amserol os caniateir yr estyniad.

 

Cadarnhawyd y dymunir gweld y prosiect hwn yn llwyddo, gan obeithio bydd y trafodaethau yn dwyn ffrwyth yn amserol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad. 

 

8.

CYNLLUN SGILIAU A CHYFLOGAETH GOGLEDD CYMRU 2026-2028 pdf eicon PDF 232 KB

David Roberts (Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru) a Catherine Morris-Roberts (Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol) I gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru a’r blaenoriaethau fel y’u nodir yn y cynllun. 

 

Gofyn i’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol gyflwyno adroddiad diweddariad ymhen 12 mis. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Gadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru a’r blaenoriaethau fel y’u nodir yn y cynllun.

 

Gofyn i’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol gyflwyno adroddiad diweddariad ymhen 12 mis.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Adrodd i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd ar Gynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru a cheisio cymeradwyaeth o’i flaenoriaethau er mwyn cefnogi’r Gwaith o gyflawni yn rhanbarthol.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod Cynlluniau Sgiliau a Chyflogaeth yn gweithredu ar gylchred 3 mlynedd o hyd, gan nodi bod y cylchred diweddaraf wedi diweddu ar ddechrau’r flwyddyn hon. Nodwyd nad oedd arweiniad clir wedi cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru yn y misoedd diwethaf gan fod paratoadau yn cael ei wneud ar gyfer Etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

 

Adroddwyd bod Bwrdd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi penderfynu parhau gyda Chynllun newydd am y tair blynedd nesaf er mwyn sicrhau datblygiad a pharhad momentwm, gan obeithio bydd y Llywodraeth newydd yn ei fabwysiadu maes o law. Cydnabuwyd y posibilrwydd bydd man addasiadau yn cael eu gwneud wrth i’r Llywodraeth ei ystyried, ond hyderwyd bod y Cynllun yn ddigon cadarn i ymdopi gyda hynny.

 

Tynnwyd sylw bod Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru yn unigryw i’r tri chynllun arall a welir yng Nghymru, gan ei fod wedi ei glymu yn agos gyda’r Cyd-bwyllgor Corfforedig. Hyderwyd bod hyn yn gryfder gan fod modd darparu cefnogaeth ar lefel rhanbarthol.

 

Adroddwyd bod oddeutu 30 o bartneriaid yn rhan o’r Bwrdd, gan gynnwys colegau a phrifysgolion, gan nodi bod eu presenoldeb ar y Bwrdd yn eu cynorthwyo gyda’u cynlluniau unigol. Mynegwyd balchder bod y Bwrdd wedi ymgysylltu gyda dros 350 o gyflogwyr ar draws y naw sector blaenoriaeth, drwy arolygon, rhwydweithiau cyflogwyr a chyfarfodydd, er mwyn gallu datblygu’r Cynllun.

 

Cadarnhawyd bod tair thema yn parhau o’r Cynllun blaenorol, er mwyn sicrhau parhad yng ngwaith da'r Bwrdd a’r gefnogaeth a gynigir o fewn y rhanbarth. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys darparu cefnogaeth i gyflogwyr, unigolion ac addysgu sut y darperir cefnogaeth a gwneud y cysylltiadau rhwng unigolion a chyflogwyr.

 

Eglurwyd bod y cynllun yn cynnwys mewnwelediadau cyflogwyr am yr anghenion recriwtio a’r sgiliau angenrheidiol o fewn y sectorau yn ogystal â gwybodaeth am y rhwystrau mae unigolion yn eu hwynebu. Ymhelaethwyd bod y cynllun yn rhoi trosolwg o heriau sylweddol a chyfleoedd sydd ar gael gyda phrosiectau buddsoddi mawr Tynnwyd sylw bod nifer o brosiectau’r Cyd-bwyllgor Corfforedig wedi gwneud defnydd o’r Cynllun yn y gorffennol. Nodwyd bod y cynllun yn cyfarch y ffaith bod y farchnad lafur yn esblygu megis Deallusrwydd Artiffisial, Sero Net, a sut all cyflogwyr wneud y defnydd gorau o’r materion hyn.

 

Amlygwyd bod trafferthion cysylltedd economaidd yn effeithiol ar unigolion o fewn y rhanbarth, gan gydnabod nad yw 15.1% o bobl 16-24 oed yng ngogledd Cymru mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant - y gyfradd uchaf yng Nghymru. Nodwyd mai iechyd meddwl yw’r ffactor sy’n cyfrannu mwyaf at achosion economaidd anweithredol ar hyn o bryd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CRONFA DWF LLEOL YNG NGOGLEDD CYMRU - BLAEN GYNLLUNIO AR GYFER GWELL CYDWEITHREDU RHANBARTHOL O 2027/28 pdf eicon PDF 241 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Nodi’r diweddariad ar y trefniadau pontio ar gyfer y Gronfa Dwr Lleol ers yr adroddiadau perthnasol gael eu cyflwyno i’r CBC yn mis Mawrth a Mehefin. 

 

2.     Nodi bod y Cynllun Pontio Blwyddyn 1 (2026-27) ar gyfer y Gronfa Dwf Lleol wedi ei gyflwyno ar y 9fed o Fehefin i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Gwynedd fel y corff atebol arweiniol ar gyfer Blwyddyn 1, ac bod y cynllun yn nodi’r dull o gynnal parhad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) wrth baratoi’r rhanbarth ar gyfer model cyflawni gwbl ranbarthol o dan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mlynyddoedd 2 a 3. 

 

3.     Cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig a’r cerrig milltir sydd eu hangen cyn cyfarfod nesaf o’r Is-bwyllgor Lles Economaidd ym mis Hydref 2026, gan gydnabod bod rhaid i’r gwaith paratoi ddechrau ar unwaith os yw’r CBC am fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb am y Gronfa Dwf Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru. 

 

4.     Awdurdodi’r swyddogion i symud ymlaen gyda’r gofynion angenrheidiol gan gynnwys cynllunio, ymgysylltu, comisiynu ac adeiladu capasiti dros yr Haf, gan ddefnyddio’r cyllid ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r paratoadau ar gyfer cyflawni’r Gronfa Dwf Lleol o 2027/28 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru. 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Nodi’r diweddariad ar y trefniadau pontio ar gyfer y Gronfa Dwr Lleol ers yr adroddiadau perthnasol gael eu cyflwyno i’r CBC ym mis Mawrth a Mehefin.

 

2.    Nodi bod y Cynllun Pontio Blwyddyn 1 (2026-27) ar gyfer y Gronfa Dwf Lleol wedi ei gyflwyno ar y 9fed o Fehefin i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Gwynedd fel y corff atebol arweiniol ar gyfer Blwyddyn 1, a bod y cynllun yn nodi’r dull o gynnal parhad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (SPF) wrth baratoi’r rhanbarth ar gyfer model cyflawni gwbl ranbarthol o dan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ym mlynyddoedd 2 a 3.

 

3.    Cymeradwyo’r rhaglen waith arfaethedig a’r cerrig milltir sydd eu hangen cyn cyfarfod nesaf o’r Is-bwyllgor Lles Economaidd ym mis Hydref 2026, gan gydnabod bod rhaid i’r gwaith paratoi ddechrau ar unwaith os yw’r CBC am fod yn barod i gymryd cyfrifoldeb am y Gronfa Dwf Lleol o fis Ebrill 2027 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.

 

4.    Awdurdodi’r swyddogion i symud ymlaen gyda’r gofynion angenrheidiol gan gynnwys cynllunio, ymgysylltu, comisiynu ac adeiladu capasiti dros yr Haf, gan ddefnyddio’r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r paratoadau ar gyfer cyflawni’r Gronfa Dwf Lleol o 2027/28 ymlaen, yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I ddiweddaru’r Is-bwyllgor Lles Economaidd ar y Gronfa Dwf Lleol ac i gael cefnogaeth yr Is-bwyllgor i fwrw ymlaen gyda’r Gwaith sydd ei angen dros yr haf i gychwyn cynllunio i fodloni gofynion Llywodraeth Cymru am fwy o gydweithredu rhanbarthol a chydlynu’r gronfa o 1af Ebrill 2027.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad yw sicrhau bod gogledd Cymru yn barod ar gyfer trefniadau cyfnewid y Gronfa Dwf Lleol, a’r disgwyliadau mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod allan ar gyfer Ebrill 2027 ymlaen.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu diweddariad i Aelodau ar ddatblygiadau, tra hefyd yn chwilio am gymeradwyaeth i raglen waith paratoadol wrth blaen gynllunio i’r newid hwn, a fyddai angen ei weithredu yn ystod haf 2026.

 

Atgoffwyd bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) bellach yn cael ei ddisodli gan y Gronfa Dwf Lleol. Fodd bynnag, pwysleisiwyd bod pwyslais yn cael ei roi ar dyfiant cynhyrchiant, cydbwyso anghydbwysedd economaidd tra hefyd yn amlygu angen am gyllideb cyfalaf mwy sylweddol.

 

Adroddwyd bod y Gronfa Twf Lleol yn gweithredu ar dair blaenoriaeth, sef:

 

·        Cefnogi busnesau cynhyrchiol a chystadleuol

·        Cynyddu sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth

·        Gwella isadeiledd rhanbarthol

 

Cadarnhawyd bod blwyddyn ariannol 2026/27 yn cael ei hadnabod gan Lywodraeth Cymru fel blwyddyn drosiannol, gan nodi bod trefniadau presennol ar gyfer SPF yn parhau i fod yn weithredol. Amlygwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod arweiniol ar y mater ar gyfer gogledd Cymru.

 

Datganwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer y Gronfa, a'u bod eisoes wedi derbyn llythyr cynnig grant ar gyfer 2026/27 sy’n ei wneud yn ofynnol ar weithrediad Cynllun Pontio trosiannol pragmataidd Atgoffwyd bod Cynllun Datblygu Rhanbarthol terfynol wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 9 Mehefin 2026, fel  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus.

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon. 

Cofnod:

Cynigodd y Cadeirydd y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Er bod diddordeb y cyhoedd mewn tryloywder ac atebolrwydd, mae hyn yn cael ei orbwyso ar hyn o bryd gan yr angen i ddiogelu gwybodaeth fasnachol sensitif o ystyried y byddai datgelu yn debygol o ragfarnu trafodaethau parhaus a gallu'r awdurdod i sicrhau'r gwerth gorau a diogelu'r defnydd priodol o arian cyhoeddus.

 

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

 

11.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL HWB HYDROGEN CAERGYBI

Meghan Davies (Rheolwr Rhaglen Ynni a Sero Net) a Hedd Vaughan-Evans (Cyfarwyddwr Portffolio) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi yn amodol bod Menter Môn yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, a gofyn I Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried. 

 

Gwrtho y cais gan Menter Môn am gyllid ymlaen llaw am y rhesymau a nodir yn Adran 7. 

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro I gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel y sail i ymrwymo i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn. 

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeng mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen I Achos Busnes Llawn wedi’i gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd gan gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor I’w gymeradwyo. 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi yn amodol bod Menter Môn yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifir yn Adran 7, a gofyn I Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Gwrthod y cais gan Menter Môn am gyllid ymlaen llaw am y rhesymau a nodir yn Adran 7.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro I gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel y sail i ymrwymo i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect, yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn.

 

Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeng mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen I Achos Busnes Llawn wedi’i gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd gan gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor I’w gymeradwyo.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i’r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Hwb Hydrogen Caergybi.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

12.

ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES PROSIECT ANTUR GYFRIFOL ZIP WORLD - CARTIAU GWYLLT (SLATE EXPLORER)

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen Bwyd=Amaeth a Thwristiaeth) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD  

 

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer eitem Cartiau Gwyllt y prosiect Antur Gyfrifol Zip World yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU I’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Zip World yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad fel y disgrifir hwy yn Adran 7. 

 

2.     Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghorid a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro I gadarnhau bod y materion sy’n weddill yn yr adroddiad wedi cael eu cwblhau cyn i’r arian gael ei ryddhau. 

 

3.     Awdurdodi i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, I gytuno ar delerau’r cytundeb arian grant yn unol â’r adroddiad hwn, i’w cymeradwyo yn ddiweddarach gan yr Is-bwyllgor. 

 

4.     Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb ariannu wedi’i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo. 

 

5.     Nodi y gallai fod hyd at dri chymeradwyaeth Achos Busnes arall i gyflawni’r elfennau sy’n weddill o’r prosiect Antur Gyfrifol ac y byddant yn cael eu cyflwyno i’r Is-bwyllgor i’w hystyried yn y dyfodol. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Rhaglen Cynllun Twf.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer eitem Cartiau Gwyllt y prosiect Antur Gyfrifol Zip World yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU I’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Zip World yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad fel y disgrifir hwy yn Adran 7.

 

  1. Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghorid a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro I gadarnhau bod y materion sy’n weddill yn yr adroddiad wedi cael eu cwblhau cyn i’r arian gael ei ryddhau.

 

  1. Awdurdodi i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad a’r Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro, I gytuno ar delerau’r cytundeb arian grant yn unol â’r adroddiad hwn, i’w cymeradwyo yn ddiweddarach gan yr Is-bwyllgor.

 

  1. Cadarnhau bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o chwe mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i gytundeb ariannu wedi’i lofnodi yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd ac ail gyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

  1. Nodi y gallai fod hyd at dri chymeradwyaeth Achos Busnes arall i gyflawni’r elfennau sy’n weddill o’r prosiect Antur Gyfrifol ac y byddant yn cael eu cyflwyno i’r Is-bwyllgor i’w hystyried yn y dyfodol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer elfen Cartiau Gwyllt y prosiect Antur Gyfrifol.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

13.

ACADEMI CROESO (A ELWID GYNT YN RHWYDWAITH TALENT TWRISTIAETH) ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES DROS GYNNWYS DYLAN'S RESTAURANT LTD FEL PARTNER LLOEREN NEWYDD

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Dylan’s Restaurant Limited i fod yn bartern lloeren ar gyfer y prosiect Academi Croeso gan Grŵp Llandrillo Menai, yn amodol bod Grŵp Llandrillo Menai a Dylan’s Restaurant Limited yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7. 

 

2.     Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gadarnhau bod y materion sy’n weddill yn yr adroddiad wedi cael eu cwblhau cyn i’r arian gael ei ryddhau. 

 

3.     Nodi bod cytundeb ariannu eisoes wedi’i wneud gyda Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer prosiect Academi Croeso (Rhwydwaith Talent Twristiaeth) yn dilyn cymeradwyaeth Achos Busnes Llawn, ac y bydd y cytundeb hwn yn cynnwys y broses o gyflawni’r elfen hon o’r prosiect ehangach os bydd yr Is-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes hwn. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Dylan’s Restaurant Limited i fod yn bartner lloeren ar gyfer y prosiect Academi Croeso gan Grŵp Llandrillo Menai, yn amodol bod Grŵp Llandrillo Menai a Dylan’s Restaurant Limited yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y disgrifir yn Adran 7.

 

2.     Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gadarnhau bod y materion sy’n weddill yn yr adroddiad wedi cael eu cwblhau cyn i’r arian gael ei ryddhau.

 

3.     Nodi bod cytundeb ariannu eisoes wedi’i wneud gyda Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer prosiect Academi Croeso (Rhwydwaith Talent Twristiaeth) yn dilyn cymeradwyaeth Achos Busnes Llawn, ac y bydd y cytundeb hwn yn cynnwys y broses o gyflawni’r elfen hon o’r prosiect ehangach os bydd yr Is-bwyllgor yn cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes hwn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i’r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer cynnwys Dylan’s Restaurant Limited fel lloeren newydd ar gyfer y prosiect Academi Croeso gan Grŵp Llandrillo Menai.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

14.

STRATEGAETH AR GYFER GWEDDILL CYLLID Y CYNLLUN TWF SYDD HEB EI DDYRANNU

Hedd Vaughan-Evans (Cyfarwyddwr Portffolio) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y strategaeth ac ni chafwyd ei fabwysiadu yn unol â chanlyniad y bleidlais honno. 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Portffolio.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Pleidleisiwyd ar y strategaeth ac ni chafwyd ei fabwysiadu yn unol â chanlyniad y bleidlais honno

 

2.     Penderfynwyd cynnal gweithdy ar gyfer yr Aelodau er mwyn rhannu gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael ynghyd â gweithdrefnau fydd ar waith er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cael ei weithredu’n effeithiol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ar gyfer y strategaeth ar gyfer cronfeydd y Cynllun Twf sydd heb eu dyrannu, gan gynnwys creu dwy gronfa newydd.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

15.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - CYNLLUN CYFLAWNI BLYNYDDOL BLWYDDYN 2 A PHROSIECT WLA

Alwen Williams (Prif Weithredwr) ac Iain Taylor (AMION Consulting) I gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

 

1.     Cymeradwyo’r dyraniadau buddsoddi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer Blwyddyn 2 a nodi dyraniadau ym Mlwyddyn 1 a fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o raglen Blwyddyn 2. 

 

2.     Cymeradwyo’r cynnig gan Wrexham Leadership Alliance ac awdurdodi’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb Cyllido Grant gyda Wrexham Leadership Alliance am £200,000 (i ganiatáu costau’r prosiect o £150,000 , £0,000 TAW a £20,000 wrth gefn). 

 

3.     Cymeradwyo i’r Swyddog Adran 151 y CBC i lofnodi a chyhoeddi’r dogfennau Cynllun Cyflawni Blynyddol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw ddiwygiadau ansylweddol pellach sy’n angenrheidiol i gytûn ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. 

 

4.     Cadarnhau ei fod yn ofynnol i unrhyw newid sylweddol i’r dyraniad cymeradwy, derbynnydd, cwmpas y prosiect, allbynnau, ffynhonnell ariannu, model cyflawni, proffil risg neu sefyllfa cydymffurfio gael ei adrodd yn ôl i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd i’w gymeradwyo ymhellach. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr a chynrychiolydd AMION Consulting.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo’r dyraniadau buddsoddi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer Blwyddyn 2 a nodi dyraniadau ym Mlwyddyn 1 a fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o raglen Blwyddyn 2.

 

  1. Cymeradwyo’r cynnig gan Wrexham Leadership Alliance ac awdurdodi’r Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i ymrwymo i Gytundeb Cyllido Grant gyda Wrexham Leadership Alliance am £200,000 (i ganiatáu costau’r prosiect o £150,000 , £0,000 TAW a £20,000 wrth gefn).

 

  1. Cymeradwyo i’r Swyddog Adran 151 y CBC i lofnodi a chyhoeddi’r dogfennau Cynllun Cyflawni Blynyddol i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw ddiwygiadau ansylweddol pellach sy’n angenrheidiol i gytûn ar y Cynllun Cyflawni Blynyddol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

  1. Cadarnhau ei fod yn ofynnol i unrhyw newid sylweddol i’r dyraniad cymeradwy, derbynnydd, cwmpas y prosiect, allbynnau, ffynhonnell ariannu, model cyflawni, proffil risg neu sefyllfa cydymffurfio gael ei adrodd yn ôl i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd i’w gymeradwyo ymhellach.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’n ofynnol i Barthau Buddsoddi gytuno ar Gynlluniau Cyflawni Blynyddol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.