Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Mark Pritchard yn Gadeirydd ar gyfer 2025/26.

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Charlie McCoubrey yn Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellr eu hystyried.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 152 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mai 2025 fel rhai cywir.

7.

PROSIECTAU TRAFNIDIAETH YN Y CYNLLUN TWF pdf eicon PDF 260 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.         Cytuno ar yr argymhelliad a’r ffordd ymlaen sy’n cael ei ffafrio - Rhaglen Tir ac Eiddo Diwygiedig (Opsiwn 2) gan nodi y byddai yn fater i’r Is-bwyllgor benderfynu ar y prosiectau fydd yn cael eu blaenoriaethu a chymeradwyaeth ariannu Cynllun Twf.

 

2.         Gofyn bod y Cyfarwyddwr Portffolio yn cychwyn ar y broses newid i gynnwys yr elfennau hyn yn ffurfiol yn y Rhaglen Tir ac Eiddo.

8.

YMGYNGHORWYR ANWEITHREDOL pdf eicon PDF 216 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cytuno ar y broses ar gyfer recriwtio a phenodi Ymgynghorwyr Anweithredol yn unol â gofynion Deddf Caffael 2023 a rheoliadau cysylltiedig.

 

a)    Yn ogystal â'r gofynion Swydd a Phersonol a fabwysiadwyd, bydd pecyn caffael yn cael ei baratoi gyda meini prawf dyfarnu perthnasol

b)     Hysbyseb – Bydd y rolau Ymgynghorydd Anweithredol yn cael eu hysbysebu ar wefan Uchelgais Gogledd Cymru a sianeli cyfryngau cymdeithasol (Gorffennaf 2025) ac fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf

c)    Ceisiadau – Gofynnir i ymgeiswyr sydd â diddordeb gyflwyno eu CV a'u llythyr eglurhaol yn nodi pam eu bod eisiau'r rôl (Gorffennaf 2025)

d)    Asesu a Rhestr Fer – Bydd llythyrau eglurhaol a CVs yn cael eu hasesu yn erbyn y disgrifiadau  rôl gan yr SRO a'r Prif Weithredwr a chynrychiolydd o'r Swyddfa Rheoli Portffolio a chytunir ar restr fer i gael eu gwahodd i gyfweliad (ar ddyddiad i'w gadarnhau ym mis Awst)

e)    Cyfweliadau – Yna bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld gan banel a fydd yn cynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, yr SRO, y Prif Weithredwr a'r Swyddog Monitro ynghyd â thrydydd aelod Etholedig o’r Is-bwyllgor (i’w gadarnhau) a fydd yn gwneud argymhellion i'w penodi i'r Is-bwyllgor Lles Economaidd (ar ddyddiad i’w gadarnhau ym mis Medi) yn seiliedig ar y sgoriau terfynol ar ôl y cyfweliad.

f)      Penodiadau – penodiadau terfynol yn cael ei gwneud gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (3 Hydref 2025)

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2024/25 pdf eicon PDF 200 KB

Alwen Williams (Prif Weithredwr) i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Ystyried a nodi’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/25.
  2. Cymeradwyo cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024/25 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

10.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau

 

11.

ACHOS CYFIAWNHAD BUSNES LLAETH DEFAID CYMRU HWB ECONOMI GWLEDIG GLYNLLIFON

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) a Dafydd Jones (Rheolwr Prosiect Bwyd-amaeth a Thwristiaeth) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Cyfiawnhad Busnes drafft ar gyfer elfen Llaeth Defaid Cymru o brosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon ac yn awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghorid â’r Cadeirydd, Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar y fersiwn terfynol ar ôl caffael ac ymrwymo i gytundeb cyllido gyda Grŵp Llandrillo Menai ar gyfer cyflawni’r prosiect, yn amodol ar Grŵp Llandrillo Menai yn mynd i’r afael â’r materion sy’n weddill a sicrhau’r holl gymeradwyaethau mewnol angenrheidiol ar gyfer y prosiect.

2.     Nodi bydd dau cymeradwyaeth Achos Busnes arall i gyflawni’r elfennau sy’n weddill o brosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon ac y bydd y rhain yn cael eu cyflwyno i’r Is-bwyllgor i’w hystyried yn y dyfodol.

 

12.

ACHOS BUSNES LLAWN DI-WIFR UWCH (CAMPYSAU CYSYLLTIEDIG)

Stuart Whitfield (Rheolwr y Rhaglen Ddigidol) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch (Campysau Cysylltiedig) gan nodi y bydd cyfnod cychwynnol dyluniad y cynllun grant ar ôl cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn angen asesiad rheoli cymhorthdai terfynol o’r Cynllun Cymhorthdal arfaethedig.

2.     Dirprwyo’r hawl i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar ddyluniad terfynol y cynllun grant.

3.     Dirprwyo cyflwyno’r prosiect i’r Cyfarwyddwr Portffolio gan gynnwys dyfarniadau grant unigol dilynol yn unol â’r cynllun grant terfynol hyd at £500,000 gyda dyfarniadau grant unigol rhwng £500,000 a £1miliwn yn cael ei gwneud mewn ymgynghoriad â Chadeirydd, Is-gadeirydd, Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro.

 

13.

CAIS AM NEWID CANOLFAN OPTEG A PHEIRIANNEG MENTER

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r cais am newid ar gyfer y prosiect Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter ac yn gwneud y newidiadau a ganlyn:

2.     Rhoi cymeradwyaeth ar gyfer buddsoddiad ychwanegol y Cynllun Twf o £446,041 i alluogi’r prosiect symud ymlaen i’r cyfnod cyflawni, yn amodol ar yr arian yn cael ei wario yn llawn o fewn y flwyddyn ariannol 2025-26. Bydd y buddsoddiad hwn yn cynhyrchu nifer o fuddion ychwanegol, gan gynnwys cyllid cyfatebol wedi’i gadarnhau o £250,898 gan Brifysgol Wrecsam a chreu chwe swydd gyfwerth â llawn amser ar gyfer y rhanbarth.

 

14.

CAIS AM NEWID ANTURIAETHAU CYFRIFOL

Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf) i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cytuno i’r cais am newid ar gyfer y prosiect Anturiaethau Cyfrifol ac yn gwneud y newidiadau a ganlyn:

a.     Cymeradwyo tynnu’r elfen eFws o sgôp  prosiect

b.    Cymeradwyo’r broses datblygu a chyflawni achos busnes

c.     Cadarnhau bod y ddau amod sy’n weddill a osodwyd yn ystod y gymeradwyaeth i’r Achos Busnes Amlinellol wedi’u bodloni’n ddigonol ac y gall y prosiect fwrw ymlaen i gyflwyno achosion busnes ar gyfer cymeradwyaeth cyllid yn unol â’r cynnig cyflawni fesul cam yn y cais am newid.

d.    Gofyn am ragor o wybodaeth fanwl am y cais am newid arfaethedig i ddisodli elfen eFws y prosiect gyda datblygiad Uwch-gynllun Fforest ym Metws y Coed a bod hyn yn cael ei gyflwyno i’r  Is-bwyllgor nesaf ym mis Hydref i’w ystyried.