Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sera Jane Whitley E-bost: serajanewhitley@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Paul Rogers
(Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), William Parry (Aelod Lleyg), a Luned Fôn
Jones (Rheolwr Archwilio - Cyngor Gwynedd). |
|
|
ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2026/27 I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026/27. Penderfyniad: Bu i Nigel Rudd gael ei ethol yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar
gyfer 2026/27. Cofnod: Bu i Nigel Rudd gael ei ethol yn Gadeirydd yr Is-bwyllgor ar
gyfer 2026/27. |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2026/27. Penderfyniad: Penderfynwyd gohirio'r penodiad hyd nes y cyfarfod nesaf. Cofnod: Penderfynwyd gohirio'r penodiad hyd y cyfarfod nesaf. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Tynnwyd sylw bod Aelodau'r Is-bwyllgor hwn yn cael eu
henwebu, nid eu penodi, ac yn parhau i fod yn Aelod nes iddynt gynnig eu
hymddiswyddiad ffurfiol i’r Swyddog Monitro. Gofynnwyd am ddiweddariad ar recriwtio Aelodau Lleyg. Nodwyd
bod enwebiadau wedi’u ceisio gan awdurdodau lleol ond nad oes unrhyw enwebiad
ffurfiol wedi’u derbyn eto. Hysbyswyd yr Aelodau, os na dderbynnir unrhyw
enwebiadau gan awdurdodau lleol, y bydd rhaid hysbysebu’r swydd yn allanol. Ychwanegwyd bod ymddiswyddiad wedi’i dderbyn yn ddiweddar
gan un o’r Aelodau Lleyg a bod yr Is-bwyllgor ar hyn o bryd yn gweithredu gyda
dau allan o’i dri Aelod Lleyg. Mewn ymateb i gwestiwn yn gofyn a allai’r
Is-bwyllgor gael pedwar Aelod Lleyg, cadarnhawyd nad oes unrhyw rwystr i ehangu
nifer yr Aelodau Lleyg ac y byddai’r mater hwn yn cael ei ystyried. Gofynnwyd hefyd am ddiweddariad ar recriwtio Aelodau, a
hysbyswyd yr Is-bwyllgor y disgwylir dau ymddiswyddiad ar hyn o bryd gan
Aelodau Dirprwyol ac felly bydd yr Is-bwyllgor yn dibynnu ar awdurdodau lleol
am enwebiadau pellach. |
|
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2025 fel rhai cywir. Cofnod: Nodwyd mater gyda cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr, 2025 a chadarnhawyd y byddai hyn yn cael ei drin y tu
allan i’r cyfarfod. Penderfynwyd gohirio’r eitem hon a dod â’r cofnodion drafft
diwygiedig i gyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor. |
|
|
CYLCH GORCHWYL A ROL YR IS-BWYLLGOR LLWYODRAETHU AC ARCHWILIO Mark
Watkins, Swyddog Monitro i gyflwyno. Cofnod: Atgoffwyd yr Aelodau fod sesiwn anffurfiol wedi’i chynnal
cyn y cyfarfod ffurfiol i ganiatáu i’r Aelodau drafod y Blaengynllun Gwaith a
phenderfynu beth sydd o fewn cwmpas y deuddeg mis nesaf a thu hwnt. Nodwyd y
bydd gan yr Aelodau ddealltwriaeth eang eisoes o rôl a swyddogaethau Pwyllgorau
Llywodraethu ac Archwilio ar lefel awdurdod lleol. Diolchwyd i’r swyddogion am
gynnal y sesiwn anffurfiol. Tynnwyd sylw at y ffaith mai sicrwydd, adolygu a chraffu yw
rôl yr Is-bwyllgor. Atgoffwyd yr Aelodau nad corff gwneud penderfyniadau
gweithredol yw’r Is-bwyllgor hwn ac nad ydynt i ymwneud ag unrhyw beth sy’n
agos at, neu’n debyg i, reolaeth weithredol y sefydliad. Eglurwyd bod y rhaglen waith wedi’i hadeiladu o amgylch y
cylch gorchwyl, sy’n cynnwys materion ariannol, risg, rheolaeth fewnol, rheoli
perfformiad, cwynion corfforaethol cyffredinol, archwilio mewnol ac allanol, a
datganiadau ariannol. Ychwanegwyd y
dylai’r uchod gael eu profi gan yr Is-bwyllgor am ddigonolrwydd,
effeithiolrwydd, cydymffurfiaeth statudol, rheoli risg a rheolaeth, a gwerth
cyffredinol am arian. Nodwyd y dylid eithrio eitemau lle maent yn dyblygu
gwaith y CBC ac unrhyw un o’i Is-bwyllgorau. |
|
|
BLAENGYNLLUN GWAITH YR IS-BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2026/27 Mark
Watkins, Swyddog Monitro a
Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) i
gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Eglurwyd y bydd y Rhaglen Waith yn offeryn sicrwydd byw, a
dylid ei hadolygu’n rheolaidd a’i haddasu lle bo rheswm llywodraethu a/neu
archwilio priodol i wneud hynny. Diolchwyd i Swyddogion am y ddwy sesiwn hyfforddiant a
gynhaliwyd ym mis Ebrill. Mynegwyd pryder nad yw’r Cynllun Archwilio Mewnol wedi’i
gyflwyno i’r Is-bwyllgor eto, er bod yr Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol
wedi’i raglennu i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor. Cadarnhawyd bod
gwaith yn mynd ymlaen i ddatblygu Cynllun Archwilio Mewnol, ac yn anffodus nid
oedd yn bosibl ei gwblhau mewn pryd oherwydd absenoldebau staff. Ychwanegwyd
bod trafodaethau gyda’r Rheolwr Archwilio Mewnol wedi cadarnhau y bydd unrhyw
waith brys sy’n codi yn cael ei wneud cyn cyfarfod nesaf yr Is-bwyllgor a bydd
unrhyw ddiweddariadau’n cael eu hadrodd yn ôl. Cydnabuwyd bod cael Cynllun
Archwilio Mewnol yn rhan o swyddogaethau statudol y Swyddog Adran 151. Gofynnwyd beth oedd cynnwys y Cytundeb Lefel Gwasanaeth o ran archwilio
mewnol ar gyfer y CBC. Eglurwyd bod trafodaethau’n dal i barhau rhwng Cyngor
Gwynedd ac Uchelgais Gogledd Cymru ynghylch y Cytundeb Lefel Gwasanaeth, ond
cadarnhawyd y bydd yn cynnwys nifer y dyddiau o ddarpariaeth archwilio mewnol,
ymrwymiadau i adrodd i’r Is-bwyllgor hwn yn ôl yr angen, cynllun archwilio
mewnol yn seiliedig ar risg ar waith, a datblygiad o gofrestr risg
gorfforaethol. Cytunwyd y byddai unrhyw ddiweddariad ynghylch cwblhau’r
Cytundeb Lefel Gwasanaeth a chwblhau’r Cytundeb Archwilio Mewnol yn cael ei rhannu efo’r Aelodau cyn y
cyfarfod nesaf. |
|
|
STRATEGAETH RHEOLI RISG Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ystyriwyd cynnwys y Strategaeth Rheoli Risg ddrafft a
chynnig sylwadau arno. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu bod ystyried y Strategaeth Rheoli Risg yn un o ddyletswyddau statudol creiddiol yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cadarnhawyd bod y CBC yn gyfrifol am gymeradwyo y Strategaeth, ond fod yn hanfodol i’r Is-bwyllgor gyflwyno sylwadau yn gynnar yn y broses o fabwysiadu y Strategaeth. Eglurwyd, yn dilyn ystyriaeth ac unrhyw addasiadau perthnasol a wnaed i’r Strategaeth yn seiliedig ar sylwadau’r Is-bwyllgor, y bydd y tîm arweinyddiaeth yn ystyried y Strategaeth ac yn darparu sylwadau, ac yna bydd y Strategaeth yn cael ei hargymell gan y Prif Swyddog Cyllid i’r CBC i’w fabwysiadu. Manylwyd mai bwriad y Strategaeth Rheoli Risg yw ffurfioli camau gweithredu ar gyfer y CBC a’r holl ddyletswyddau sy’n datblygu. Esboniwyd bod gan bob rhaglen a phrosiect unigol ei gofrestr risg eu hun, gyda swyddog arweiniol yn gyfrifol. Ymhelaethwyd bod risgiau lefel gwasanaeth hefyd yn bodoli a bod rheolwr gwasanaeth unigol yn gyfrifol am reoli'r risgiau yma. Tynnwyd sylw at gamgymeriad yn y fersiwn Gymraeg o’r Strategaeth Rheoli Risg, gan gadarnhau bydd wedi’i gywiro erbyn i’r Strategaeth cael ei gyflwyno yn derfynol. Gofynnwyd cwestiwn ynghylch staffio ac yn benodol, sut mae swyddogion sy’n gweithredu ar ran Cyngor Gwynedd ac Uchelgais Gogledd Cymru yn blaenoriaethu gwaith rhwng y ddau sefydliad. Cadarnhawyd bod Cyngor Gwynedd yn darparu llawer o swyddi ar ran Uchelgais Gogledd Cymru ond bod gwaith yn parhau i gytuno’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ffurfiol. Eglurwyd y bydd y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn rhoi sicrwydd i swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd ynghylch lefel y gwasanaeth a’r gefnogaeth y maent yn disgwyl ei dderbyn ac/neu ddarparu. Nodwyd hyd bod y Cytundeb Lefel Gwasanaeth wedi’i gytuno’n ffurfiol, y gall risgiau tymor byr godi ynghylch recriwtio. Cadarnhawyd y bydd yr Is-bwyllgor hwn yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar y Gofrestr Risg, cyn iddo gael ei gyflwyno i’r CBC, er mwyn rhoi sicrwydd i’r Is-bwyllgor bod y trefniadau rheoli risg priodol ar waith ac yn cael y sylw priodol. Nodwyd ymhellach ei bod yn ddyletswydd statudol cyflwyno’r gofrestr risg gorfforaethol i’r Is-bwyllgor hwn. Gofynnwyd beth yw rôl Archwilio Cymru fel archwilwyr allanol o ran rheoli risg ar draws yr awdurdodau. Eglurwyd mai’r risg fawr sydd yn wynebu’r CBC a phob awdurdod lleol yw sicrhau bod rheolaethau priodol ar waith a bod y rheolaethau hyn yn gweithio. Eglurwyd bod Archwilio Cymru yn sicrhau bod y trefniadau priodol a pherthnasol ar waith, gan gynnwys sicrhau bod y wybodaeth yng nghyfrifon y CBC yn seiliedig ar y rheolaeth fewnol gadarn. Eglurwyd ymhellach bod ISA315 yn gyrru’r cynllun archwilio, a bod rhaid i Archwilio
Cymru ystyried y risgiau, y corff a’r rheolaethau, yr amgylchedd, ac asesu
meysydd lle gall datganiad ariannol fod yn anghywir. Nodwyd eu bod yn canolbwyntio ar risgiau uchel ac yn adrodd
ar y risgiau a nodwyd trwy’r Cynllun Archwilio. |
|
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CJC) a Delyth Jones-Thomas, Rheolwr Buddsoddi i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad ar gyfer 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu ei fod yn darparu trosolwg o weithgareddau Rheolaeth Trysorlys y CBC ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26. Eglurwyd, yn ystod y flwyddyn ariannol 2025/26, yr arhosodd gweithgaredd rheolaeth trysorlys y CBC o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn y strategaeth ym mis Mehefin 2025. Ychwanegwyd bod £1.9m o log ar y buddsoddiadau wedi ei dderbyn. Cadarnhawyd bod sefyllfa ar 31 Mawrth 2026 yn gryf iawn gyda buddsoddiadau o £56.4 miliwn sef yn bennaf arian y Cynllun Twf a Parth Buddsoddi sydd heb ei wario eto. Cydnabuwyd y mathau o fuddsoddiadau sy’n cael ei wneud ar ran y CBC, a chadarnhawyd bod y rhain yn gyson gyda’r strategaeth a'r math o fuddsoddiadau mae Cyngor Gwynedd yn buddsoddi ynddynt sydd yn cynnwys Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Awdurdodau Lleol, Cronfeydd Marchnad Arian a Swyddfa Rheoli Dyledion. Tynnwyd sylw at yr adroddiad cydymffurfio sydd yn cadarnhau bod y gweithgaredd buddsoddi wedi cydymffurfio’n llawn gyda’r cyfyngiadau penodol a osodwyd. Gofynnwyd am fanylion bellach ynghylch buddsoddiadau o fewn gwahanol siroedd, ac ynghylch hyd y telerau buddsoddi. Eglurwyd bod y telerau’n amrywio, ond eu bod fel arfer yn fuddsoddiadau tymor byr. Ychwanegwyd bod Arlingclose, sef ymgynghorwyr rheoli trysorlys y CBC, yn darparu gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar y siroedd y buddsoddir ynddynt. Gofynnwyd sut mae’r Strategaeth Buddsoddi a’i dull yn cael ei asesu. Cadarnhawyd bod diogelwch yn dod cyn hylifedd a thwf, a lle mae buddsoddiadau tebyg yn cael eu hasesu a’u canfod yr un mor ddiogel â’i gilydd, dewisir y buddsoddiad gyda’r twf uchaf. Gofynnwyd a oedd unrhyw fantais mewn buddsoddi yng Nghynghorau Gogledd Cymru yn unig. Eglurwyd nad ydynt yn buddsoddi mewn datblygiad economaidd yr awdurdodau lleol eraill, ond yn buddsoddi er mwyn caniatáu iddynt barhau â’u gweithrediadau. Amlygwyd bod buddsoddiadau mewn gwahanol gynghorau yn well na buddsoddiadau gan fanc, ac fel arfer maent yn fwy diogel. Ymhelaethwyd fod y buddsoddiadau hyn bob amser yn fyrdymor. Gofynnwyd a fyddai buddsoddiad hirdymor yn cael ei ystyried i ddarparu Strategaeth Buddsoddi fwy cytbwys. Eglurwyd bod y Strategaeth Buddsoddi yn cynnwys yr arian parod nad yw wedi’i wario ar y Fargen Twf na’r Parth Buddsoddi. Nodwyd fod gan y CBC syniad eisoes o broffil gwariant y Fargen Twf a’r Parth Buddsoddi, ac mae’n fater o gydbwyso’r arian parod dros ben a chynllunio pryd y bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi yng Ngogledd Cymru ac yn natblygiad economaidd y rhanbarth. Mewn ymateb i drafodaeth ynglŷn â chytundeb gyda Arlingclose, eglurwyd bod Arlingclose yn rhan o gytundeb Cyngor Gwynedd yn wreiddiol ond bod ganddynt bellach gytundeb ar wahân i roi cyngor yn uniongyrchol i’r CBC. Eglurwyd ei fod yn gytundeb 12 mis ac y bydd yn cael ei adolygu pan fydd y cytundeb yn dod i ben. Mynegwyd pryder ynghylch sut mae’r CBC yn sicrhau bod buddsoddiadau’n cael eu hystyried o ran methiannau llywodraethu corfforaethol mewn mannau eraill. Esboniwyd bod gan Arlingclose restr o bartïon cymeradwy a rhestr o awdurdodau lleol na ddylai’r CBC fuddsoddi ynddynt. Pwysleisiwyd bod Arlingclose yn arbenigwyr yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
POLISI CANMOLIAETHAU, SYLWADAU A CHWYNION Alwen
Williams, Prif Weithredwr i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ystyriwyd y Polisi Canmoliaethau, Sylwadau a Chwynion drafft
ac argymell ei fabwysiadu gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan amlygu ei bod yn holl bwysig i’r
CBC barhau i gryfhau ei drefniadau llywodraethu. Pwysleisiwyd ei bod yn bwysig
i’r CBC gael agwedd glir a chyson o dderbyn unrhyw adborth, gan gynnwys trin
cwynion yn deg, dysgu o unrhyw faterion a godwyd, a diwygio'r polisi os oes
angen. Cadarnhawyd bod Uchelgais Gogledd Cymru yn ymrwymo i
gydymffurfio gyda’i ddyletswyddau
cyfreithiol a'r safonau disgwyliedig.
Nodwyd ar ôl derbyn sylwadau'r Is-bwyllgor hwn, y bwriad yw cyflwyno’r
polisi i’r CBC ei gymeradwyo a’i fabwysiadu, ac wedyn ei gyhoeddi ar wefan
Uchelgais Gogledd Cymru. Eglurwyd bod y polisi yn canolbwyntio ar y cwsmer a bod
cyfathrebu clir yn bwysig iawn. Manylwyd fod y polisi yn egluro sut y gellir
cyflwyno adborth, sut y bydd adborth yn cael ei drin, a phryd y dylid
defnyddio’r polisi. Hysbyswyd yr Aelodau y bydd mewnflwch pwrpasol ar gyfer cyflwyno
adborth, yn ogystal â ffurflen ar-lein a’r opsiwn i ysgrifennu at Uchelgais
Gogledd Cymru. Amlygwyd bod derbyn adborth gan y cyhoedd yn bwysig gan ei fod
yn caniatáu i Uchelgais Gogledd Cymru dathlu llwyddiant, dysgu o gamgymeriadau,
ac adnabod ffyrdd o wella. Cadarnhawyd lle nad yw datrysiad yn bosibl, bod dull dau-gam
i’r broses gwyno yn bodoli, a chyflwynwyd esboniad o’r dull hon. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o gael y prosesau gorau mewn lle
ar gyfer derbyn adborth. Ychwanegwyd fod rheolaeth dynn o’r ddogfen bolisi yn
hanfodol a bod angen ei mabwysiadu i sicrhau bod y fersiwn ddiweddaraf o’r
polisi yn cael ei defnyddio. Cadarnhawyd bod datblygiad o’r ffurflen ar-lein ar
dudalennau gwe Uchelgais Gogledd Cymru wedi cychwyn, yn dilyn cais am
ddiweddariad gan yr Aelodau. Ychwanegwyd y byddai’r ffurflen hon yn
ddwyieithog, ac y byddai mewnflwch dwyieithog hefyd wedi’i neilltuo i dderbyn
yr adborth. |
|
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF 2025/26 Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol y CBC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd y wybodaeth a'r penderfyniadau a geisiwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan fanylu ar sefyllfa alldro'r
elfennau Cynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chorfforaethol eu natur.
Cadarnhawyd bod cyfanswm y sefyllfa alldro net ar gyfer yr elfennau yma yn
danwariant o £1.067 miliwn, a bod £600mil o’r tanwariant yma yn deillio o
grantiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn gyda rhain yn
cael eu defnyddio i ariannu costau a oedd wedi’u cyllidebu yn wreiddiol. Eglurwyd eu bod yn gofyn am gymeradwyaeth y Cydbwyllgor Corfforedig
i drosglwyddo’r tanwariant i’r gronfa wrth gefn i ariannu gwariant yn y
blynyddoedd dilynol wrth i weithgareddau a swyddogaethau'r Cydbwyllgor
Corfforedig gynyddu. Ymhelaethwyd bod y Cydbwyllgor Corfforedig eisoes wedi
cymeradwyo i dros £600mil o’r gronfa hon gael ei defnyddio fel rhan o gyllideb
2026/27 a byddai hyn wedyn yn gadael balans o tua miliwn yn y gronfa. Tynnwyd sylw at sefyllfa alldro'r Cynllun Twf a’r ffrydiau
ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn. Nodwyd bod cyfanswm y tanwariant yn
£543mil gyda’r prif danwariant o dan y pennawd gweithwyr. Atgoffwyd Aelodau bod
cyfraniadau partneriaid yn cyfateb i tua 20% o’r gyllideb yn unig, sy’n
ffynonellau ariannu parhaol a ffynonellaua
ddisodlir yn unig yw’r gweddill.
Eglurwyd bod gofyn ar y Cydbwyllgor Corfforedig i beidio â defnyddio £61mil o’r
gronfa wrth gefn ac i leihau y cyfraniad o’r grant Cynllun Twf i £868 mil, er
mwyn gadael sefyllfa niwtral am y flwyddyn. Ychwanegwyd bydd y ffynonellau yma
yn cael eu defnyddio i ariannu gwariant mewn blynyddoedd i ddod ac felly yn lleihau'r risg o fod angen
cynyddu cyfraniadau'r partneriaid i’r dyfodol. Cyflwynwyd diweddariad ar symudiad mewn cronfeydd y Cynllun
Twf yn ystod y flwyddyn ynghyd â’u balansau ar 31
Fawrth 2026. Eglurwyd bod gronfa llog o £5m wedi’i neilltuo i ariannu costau
benthyca yn y blynyddoedd i ddod a hynny wrth i’r gwariant ar y cynlluniau
cyfalaf gymryd lle cyn derbyn yr arian grant gan y Llywodraeth. Cydnabuwyd bod
balans y gronfa adnoddau ar 31 Mawrth 2026 yn £4.4m, ac mae bron i filiwn o’r
gronfa yma wedi ei chlustnodi i’w defnyddio yng nghyllideb 2026/27. Darparwyd diweddariad ar adolygiad diwedd blwyddyn rhaglen
gyfalaf y Cynllun Twf ar gyfer 2025/26 a’r proffil gwariant o 2026/27 ymlaen.
Nodwyd bod cyfanswm o £30.64miliwn o wariant wedi ei wneud ar y Cynllun Twf
erbyn diwedd 2025/26. Ychwanegwyd bod gostyngiad net o £14.28m yn y gwariant ar
gyfer 2025/26 o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd yn Chwefror 2025 yn
sgil llithriad ar brosiectau. Cyflwynwyd sefyllfa ariannol y Bartneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol, sydd yn dangos sefyllfa niwtral am y flwyddyn gyda’r gwariant o
£290 mil yn cael ei ariannu gan grant llywodraeth Cymru. Cadarnhawyd bod y cyllid grant yn swm penodol ac nad yw’n
cynyddu gyda chwyddiant. Gofynnwyd a dderbyniwyd unrhyw sylwadau ynghylch yr eitem yng Nghyfarfod y Bwrdd Portffolio ar 24 Ebrill ac yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ar 15 Mai. Cadarnhawyd na ofynnwyd unrhyw gwestiynau yn ystod Cyfarfod y Bwrdd Portffolio, ond bod cwestiwn wedi’i godi yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ynghylch sicrwydd bod yr arian yn y cronfeydd ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
|
CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD - CYNLLUN ARCHWILIO ALLANOL 2026 Dewi A. Morgan, Pennaeth Cyllid (Swyddog Cyllid Statudol CJC) a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd a rhoi sylwadau ar Gynllun Archwilio Allanol 2026 ar
gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Cofnod: Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Allanol 2026, gan nodi bydd yr
Is-bwyllgor hwn yn derbyn y Cynllun Archwilio yn flynyddol. Bydd yn nodi’r gwaith archwilio mae Archwilio
Cymru yn fwriadau ei wneud yn ystod y flwyddyn i gyflawni ei gyfrifoldebau
statudol fel archwiliwr allanol. Atgoffwyd yr Aelodau na all unrhyw archwiliad roi sicrwydd
cyflawn fod y cyfrifon wedi eu datgan yn gywir, ond eu bod yn dilyn rheolau
penodol gan adrodd ar unrhyw gamddatganiad sy’n uwch na throthwy cydnabyddedig Nodwyd nad oes gan Archwilio Cymru ffigwr gwariant gros cyfatebol ar gyfer
2024-25 ar gyfer y Cydbwyllgor Corfforedig.
Mae’r ffigwr wedi ei seilio ar
wariant gros 2024-25 y Bwrdd Uchelgais am rŵan. Cadarnhawyd y bydd y
ffigwr yn cael ei ddiweddaru pan dderbynnir cyfrifon drafft ar gyfer 2025-26. Darparwyd cyd-destun ar risgiau y Cynllun Archwilio, gan gynnwys risg ‘Management Override’, risgiau o
ganlyniad i’r ffaith mai dyma’r flwyddyn gyntaf o gynhyrchu cyfrifon llawn y
Cydbwyllgor yn dilyn trosglwyddiad y Bwrdd Uchelgais, a risgiau safonol a welir
yn flynyddol yn y mwyafrif o gynlluniau archwilio. Ymhelaethwyd bod amserlen cwblhau archwiliadau cyfrifon
Llywodraeth leol wedi symud ymlaen mis o ddiwedd Hydref i ddiwedd Medi. Gan mai
dyma’r flwyddyn gyntaf o baratoi cyfrifon cyflawn ar gyfer y CBC, eglurwyd mai
ffi amcan cyfrifedig ydi’r ffi archwilio’r datganiadau ariannol. Ychwanegwyd na
all Archwilio Cymru wneud elw, felly os bydd y
gwir ffi yn is, bydd Archwilio Cymru yn rhoi ad-daliad i’r CBC. Nodwyd bydd copi o’r archwiliadau perfformiad drafft yn cael
eu rhannu gyda’r Is-bwyllgor hwn i roi
cyfle i gyflwyno sylwadau am gywirdeb ffeithiol cyn rhannu'r copi terfynol
ar wefan Archwilio Cymru. Tynnwyd sylw at ffocws yr archwiliad, gan amlygu nad oes
unrhyw ffocws ar lefel y cronfeydd wrth gefn, llithriad prosiectau a
chyflawniad y rhaglen, llywodraethu’r Cynllun Twf, na chyflawniad y Parth Buddsoddi.
Cadarnhawyd nad yw’r materion hyn yn rhan o’r archwiliad cyfrifon, er y
cadarnhawyd y bydd angen cynllunio ar gyfer y Parth Buddsoddi a’i drefniadau
archwilio. Gofynnwyd am fanylion pellach ynghylch yr archwiliadau
perfformiad diweddar a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru, yn arbennig gan fod y
ffocws wedi newid i’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’r Cynllun Datblygu Strategol. Gofynnwyd
hefyd a gynhaliwyd yr archwiliadau perfformiad hyn mewn Cydbwyllgorau Corfforedig
eraill ac a fyddai allbwn cenedlaethol yn dilyn. Eglurwyd nad oedd yr wybodaeth
ar gael ar hyn o bryd ac y byddai diweddariad yn cael ei rannu ag Aelodau y tu
allan i’r cyfarfod. Diolchwyd i’r swyddogion am y diweddariad. |