Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020 / 21 Penderfyniad: Ail
etholwyd y Cynghorydd Elfed Roberts yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Elfed Roberts yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd
ar gyfer 2020 / 21 Penderfyniad: Ail
etholwyd y Cynghorydd Gethin G Williams yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am
2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Gethin G Williams yn
Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan Catherine Roberts (Uwch Swyddog Gweithredol
Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 6ed o Chwefror 2020 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar y 6ed o Chwefror 2020, fel rhai cywir.
|
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL (GWYNEDD A MÔN) PDF 409 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd cynnwys
yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan
nodi’r sylwadau Cefnogwyd y
blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol. Cofnod: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Oedolion,
Iechyd a Llesiant adroddiad
gan Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn yn diweddaru’r Pwyllgor ar faes
gwaith y Bartneriaeth. Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth
adrodd yn ffurfiol i’r Pwyllgor
yn flynyddol i gyflwyno trosolwg
o brif ddatblygiadau strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith
comisiynu sydd yn gosod fframwaith
i’r blaenoriaethau sydd yn seiliedig
ar asesiad strategol. Ategwyd bod hyn yn sicrhau
bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau
yn unol ag adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006, drwy gydweithio gyda’r Heddlu, y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Tynnwyd sylw
at y prif negeseuon oedd yn deillio
o weithgarwch 2020/2021 ynghyd
a phrif lwyddiannau’r flwyddyn. Amlygwyd y prif gerrig milltir ar gyfer 2020 – 2021 a gofynnwyd i’r Pwyllgor
Craffu gefnogi’r blaenoriaethau oedd wedi eu rhestru
yn yr adroddiad
ynghyd â chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.
Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phryderon bod
troseddau sydd yn defnyddio sgamiau
ar gynnydd a’r angen i
godi ymwybyddiaeth bellach ar sut
i’w hadnabod, eu hosgoi neu
adrodd arnynt, adroddwyd bod gwaith hyrwyddo yn cael
ei wneud gan yr Heddlu
a’r Uned Safonau Masnach. Nodwyd bod sawl ymgyrch wedi ei
wneud gan y Tîm Cyfathrebu i dynnu sylw
at y mater ar wefan y
Cyngor ac ar y cyfryngau cymdeithasol, ond bod angen osgoi boddi’r
gynulleidfa gyda gormod o wybodaeth. Ategwyd bod y mater yn derbyn sylw gan
y Panel Diogelu a bod y Comisiynydd
Pobl Hŷn wedi ei adnabod
fel mater cenedlaethol gyda sawl ymdrech
yn cael ei
wneud i godi
ymwybyddiaeth. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn a ddiffyg adnoddau gan yr
Heddlu, a’r Cyngor heb adnoddau gorfodaeth
digonol i ddelio gyda materion
a throseddau yn ymwneud a thraffig a priffyrdd, nodwyd, er nad yw
materion traffig yn faes gwaith
y Bartneriaeth bod yr Heddlu a’r Cyngor Sir wedi cydweithio yn dda yn
ddiweddar (dros gyfnod y pandemig) i ymdrin a’r
materion hyn, ond derbyn bod lle i wella. Mewn ymateb i gynnydd
mewn cam ddefnyddio sylweddau a bod y defnydd yn mynd o ‘dan
y radar’ mewn nifer o gymunedau, amlygwyd bod darn o waith rhanbarthol yn cael ei
wneud i gynyddu’r
gefnogaeth. Derbyniwyd y sylw bod y Bartneriaeth yn adrodd ar
y nifer troseddau sydd wedi eu
cofnodi yn unig, ond er
hynny yn cydweithio yn dda
gyda County Lines i gasglu gwybodaeth i gael dealltwriaeth o’r sefyllfa er mwyn
ymyrryd. Anogwyd yr Aelodau i rannu
unrhyw wybodaeth o faterion lleol gyda’r Heddlu fel
bod modd ymateb / ymchwilio i’r digwyddiadau. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- · Byddai cyfreithloni cyffuriau yn rhyddhau arian i wneud gwaith ataliol yn hytrach na gwario ar blismona’r broblem. Angen edrych ar ffyrdd arloesol o ddelio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019/20 Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN PDF 340 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr
adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn
gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor
yn amlinellu’r hyn a gyflawnwyd dros y cyfnod 2019/20 gan Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn (BGC). Ymhelaethwyd ar
gynnwys yr adroddiad a rhoddwyd
diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y meysydd blaenoriaeth ynghyd a gwaith
yr is-grwpiau sydd yn gyfrifol am y meysydd hynny. Ers mis Mawrth 2020, yn
wyneb pandemig covid-19, eglurwyd bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod addasu i
ymateb i’r argyfwng iechyd drwy newid eu ffordd o weithio a chysylltu gydag
eraill. Amlygwyd bod y cyrff cyhoeddus yn symud tuag at adferiad ac yn ystyried
effeithiau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. . Nodwyd bod
y grŵp rhanbarthol a oedd yn cydgordio’r ymateb i’r argyfwng wedi gofyn i
Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws y gogledd edrych ar y gwaith o adfer
gyda ffocws ar safbwynt gwytnwch cymunedol. Cynhaliwyd gweithdy ar gyfer BGC
Gwynedd ac Ynys Môn yn mis Medi, rhoddwyd ystyriaeth i sut gallai’r Bwrdd
ymateb i 40 o faterion a adnabuwyd gan bartneriaid y Bwrdd. Daethpwyd i’r
casgliad bod 8 mater angen sylw pellach. Nodwyd eu bod yn ymchwilio i sut
gallai’r Bwrdd weithredu heb ddyblygu’r gwaith a wneir eisoes gan bartneriaid
unigol er mwyn ychwanegu gwerth. Byddai cylch gorchwyl yr is-grwpiau yn cael eu
diweddaru er mwyn ymateb i’r materion. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Cartrefi i bobl leol - y farchnad dai wedi ffrwydro yn ddiweddar. Y
flaenoriaeth yw tai i bobl leol nid eu bod o ‘natur arloesol’ ·
Y dylai Cymdeithas Tai ‘Cymunedol’ baratoi tai
fyddai’n gwarchod cymdeithas. Siom nad yw'r adroddiad yn cyfarch pryderon trigolion
Gwynedd o ddiffyg tai i bobl leol ·
Bod lle i lais y Bwrdd gael
dylanwad ar newid Deddfau cynllunio. Awgrym i’w gynnwys fel rhan o gylch
gorchwyl y Bwrdd i ddwyn pwysau ar y Llywodraeth i newid y maes cynllunio fel bod modd gwarchod
tai i bobl leol. ·
Angen dwyn pwysau ar y
Llywodraeth sydd ohoni i gael tai cymdeithasol o dan faner Awdurdod Lleol ·
Bod Cwmni Adra bellach yn rhywbeth na all ei reoli ·
Cynllun Hunan-adeiladu
Cymru yn faes i’w ystyried – yn gynllun arloesol ·
Bod diffyg tai i bobl leol
yn cael effaith ar yr iaith – pobl yn symud i ffwrdd ·
Bod y system pwyntiau ar gyfer rheoli'r Gofrestr
Tai Cyffredin yn aneffeithiol ·
Bod angen sicrwydd sut mae
gweithrediad a llwyddiant y cynlluniau adfer rhanbarthol yn cael eu mesur ·
Siarter Iaith – angen mwy o
asgwrn cefn a cheisio hyrwyddo a dylanwadu defnydd y Siarter yn ehangach ·
Bod angen gwarchod polisïau
rheoli tannau, gwarchod tiroedd ac amaethu yng nghyd-destun newid hinsawdd ·
Bod angen gweld gwahaniaeth
yn y maes gofal – cartrefi preswyl / nyrsio yn cau, diffyg gofalwyr yn bryder,
diffyg meddygon sydd yn siarad Cymraeg, prinder deintyddion, cynnydd mewn
iechyd meddwl ·
Bod angen sicrhau bod arian wrth gefn i ddelio gyda
thlodi · Mewn ymateb i’r sylwadau ynglŷn â thai i bobl leol, nodwyd mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am newid cyfansoddiad Cwmni Adra ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |