Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Council Offices, Caernarfon LL55 1SH and Virtually via Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeiydd ar gyfer 2024-2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Annwen
Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2024/25. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2024-2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Llio
Elenid Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2024/25. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Llio Elenid
Owen yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kim Jones, Linda Morgan a
Peter Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024, fel rhai cywir. |
|
CYFLWYNO ADRODDIAD YMGYSYLLTU CYHOEDDUS: CYFNOD YMGYSYLLTU RHYBUDD CYFARWYDDYD ERTHYGL 4 PDF 226 KB I graffu’r
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus ac ymateb y
Cyngor i’r sylwadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i) Derbyn yr adroddiad ac argymell i’r Cabinet y dylid
cadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4. (ii) Gofyn i’r Aelod Cabinet Amgylchedd gyfleu’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth i’r Cabinet. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Arweinydd
Tîm Polisi Cynllunio. Atgoffwyd yr Aelodau bod angen i’r Cyngor
gyflawni proses pedair cam wrth ymdrechu i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 o
fewn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd. Nodwyd mai’r cam cyntaf oedd gosod
Rhybudd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Manylwyd mai ail gam y
broses oedd cynnal cyfnod ymgysylltu cyhoeddus. Eglurwyd y cynhaliwyd yr
ymgynghoriad ym mis Awst 2023 am gyfnod o 6 wythnos gan gynnwys holiaduron,
llythyru 52,000 o dai a holiadur pwrpasol ar wefan y Cyngor. Rhoddwyd
cydnabyddiaeth i’r gwasanaeth am sicrhau cyfnod ymgynghoriad a oedd yn ddwbl y
gofyn statudol. Rhannwyd canmoliaeth gyda’r Adran am ddenu cynifer o ymatebion
i’r ymgynghoriad, gan eu hannog i rannu arferion da eu profiad gydag adrannau
eraill y Cyngor wrth iddynt ymgymryd ag ymgynghoriadau cyhoeddus yn y dyfodol.
Tynnwyd sylw mai nifer isel iawn o bobl ifanc a ymatebodd i’r ymgynghoriad a
chydnabuwyd bod ennyn diddordeb pobl ifanc i ymateb i ymgynghoriadau yn her
sy’n wynebu’r Cyngor. Adroddwyd bod y Cyngor bellach wedi cyrraedd
trydydd cam y broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd gan ei fod yn ystyried ymatebion
y cyfnod ymgynghori. Cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi derbyn 3902 o ymatebion.
Eglurwyd bod y Cyngor wedi dyrannu ei ymateb i sylwadau a gyflwynwyd i’r
ymgynghoriad i mewn i themâu ac is-themâu o fewn yr adroddiad. Ymhelaethwyd nad
oes unrhyw wybodaeth ychwanegol wedi ei ganfod sydd yn cyfiawnhau peidio â
chadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl yn seiliedig ar asesiad o’r ymatebion i’r sylwadau
sydd wedi ei gyflwyno yn dilyn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus, ystyriaeth o’r
dystiolaeth sydd yn y papur cyfiawnhad Erthygl 4 a’r gwaith ymchwil pellach a
wnaed mewn ymateb i rai o’r sylwadau a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad. Rhoddwyd ystyriaeth i allu’r Cyngor i
weithredu’r cyfarwyddyd pe byddai’n cael ei gyflwyno. Ystyriwyd os byddai un
dull canolog o weithredu a gorfodaeth yn effeithiol yng Ngwynedd. Nodwyd nad oes gan y Cyngor llawer o reolaeth
ar faterion newid dosbarth defnydd tai ar hyn o bryd ac felly pwysleisiwyd y
pwysigrwydd o gael ymyrraeth gadarn er mwyn gwarchod y stoc dai tra hefyd yn
gwarchod cymunedau a’r anghenion tai a welir mewn amrywiol gymunedau ledled y
Sir. Oherwydd hyn, cadarnhawyd bod y gwasanaeth wedi cwblhau ymchwil manwl ar
ddulliau addas o sefydlu prosesau ymyrraeth ariannol, cynllunio, cofrestriadau
a thrwyddedu a chadarnhawyd bod angen gweithdrefnau amrywiol ar gyfer y rhain
yn hytrach na un system ganolog er mwyn delio gyda sefyllfaoedd yn ddigonol.
Pwysleisiwyd bod y cyfarwyddyd yn ffocysu ar y defnydd o’r eiddo ac unrhyw
newid i ddefnydd, nid ei berchnogaeth ac felly ni fydd rhaid i unigolion
dderbyn caniatâd cynllunio wrth brynu tai. Cydnabuwyd nad yw’r Cyngor wedi darparu asesiad effaith economaidd yn benodol ar golli incwm o’r farchnad eilaidd i‘r sector gwestai, bobl sy’n gwario arian yn y siopau a’r cyfyngiadau sy’n cynnig cyfleoedd busnes a chyflogaeth i bobl. Er hyn, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cwblhau asesiad effaith trylwyr ar Nodweddion Cydraddoldeb, y Gymraeg ac Anfantais Economaidd-Gymdeithasol. Ymhelaethwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CLWYF GWYWIAD YR ONNEN PDF 198 KB I roi
diweddariad ar raglan waith archwilio a thrin clwyf gwywiad yr onnen ac ar
weithgareddau’r tîm yn gyffredinol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (i)
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. (ii)
Bod y Pwyllgor yn
ystyried blaenoriaethu’r mater i’w graffu yn ystod 2025/26. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Priffyrdd, Peirianneg a YGC a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran. Cyfeiriwyd at ddau wall yn yr Adroddiad, gan
gywiro bod 1550 o goed risg uchel wedi cael eu torri neu thocio hyd yma, o’i
gymharu â’r ffigwr o 710 o goed fel nodwyd ym mharagraff 3.4 yr Adroddiad.
Aethpwyd ymlaen i nodi mai tystiolaeth ail law sy’n awgrymu bod clwyf gwywiad
yr onnen yn peri llai o risg wrth i amser fynd rhagddo, parthed y wybodaeth a
gyflwynwyd ar ddechrau paragraff 5.1 o’r Adroddiad. Eglurwyd bod clwyf gwywiad yr onnen wedi
ymledu i Gymru ers nifer o flynyddoedd ac amcangyfrifwyd bydd 80% o goed ynn yn
cael eu heffeithio’n andwyol ganddo. Cadarnhawyd bod tîm wedi cael ei sefydlu o
fewn yr adran er mwyn delio gyda’r heriau mae’n ei achosi. Pwysleisiwyd bod
ymateb i’r clwyf yn flaenoriaeth ar gofrestr risg corfforaethol y Cyngor.
Manylwyd bod y Cyngor wedi ariannu archwiliad cychwynnol yn 2020 er mwyn gweld
effaith y clwyf yn yr ardal ar stoc goed y Cyngor. Cydnabuwyd bod risg uchel gan
fod nifer uchel o goed eisoes wedi cael eu heintio. O ganlyniad, penodwyd tîm
arbenigol pwrpasol i ymchwilio i’r haint ar ffyrdd a thiroedd y Cyngor. Adroddwyd mai un o brif rolau’r tîm yw
cynnal archwiliadau ar stoc goed y Cyngor ar ffyrdd a thiroedd y Sir. Nodwyd
bod y tîm yn gwneud y gwaith hwn eu hunain ar brydiau ond hefyd yn defnyddio
archwilwyr arbenigol er mwyn sicrhau bod pob ardal yn cael archwiliadau yn
amserol, gan bwysleisio nad yw unrhyw archwilwyr allanol yn gweithredu ar goed
sydd wedi eu heintio. Cadarnhawyd mai dyma’r trefniant oherwydd bod yr Adran yn
gyfrifol am oddeutu 3,000km o ffyrdd yn ogystal â thiroedd eraill. Manylwyd bod
yr Adran wedi datblygu system blaenoriaethu er mwyn cynnal archwiliadau gan
sicrhau bod y flaenoriaeth uchaf yn cael ei roi i goed ynn sydd ger ysgolion,
ffyrdd, mynwentydd, parciau a lleoliadau cyffelyb. Nodwyd bod y tîm yn gyfrifol
am drin y coed os yw’r archwiliadau yn nodi eu bod wedi eu heintio. Cadarnhawyd
bod y rhain yn mynd ar raglen waith y tîm gan sicrhau bod yr achosion mwyaf
difrifol yn cael eu blaenoriaethu. Rhannwyd diweddariad bod yr Adran wedi
comisiynu Ymgynghoriaeth Gwynedd i ddatblygu’r defnydd o ddrôn i gynnal
archwiliadau, gan fod modd iddynt weithio ar raddfa eang iawn na gweithwyr ar
droed. Nodwyd bod canlyniadau yn foddhaol iawn ar hyn o bryd a gobeithiwyd bydd
hyn yn ddull bydd yn cael ei ddefnyddio’n gyson er mwyn cynnal archwiliadau ar
goed. Ymhelaethwyd bod y tîm wedi bod mewn cyswllt gyda Choleg Glynllifon ac
mae disgyblion yno wedi cael hyfforddiant ar dechnoleg newydd yr un pryd a’r
tîm ar y dulliau technolegol newydd o archwilio am yr haint. Pwysleisiwyd nad yw’r adran yn torri’r coed i lawr unwaith maent wedi eu heintio. Adroddwyd bod y tîm yn ceisio achub gymaint â bod modd drwy docio digon arnynt fel eu bod yn ddiogel i’r cyhoedd a ddim yn effeithio ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2024/25 PDF 260 KB I gyflwyno
rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd rhaglen waith y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar
gyfer 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu. Atgoffwyd yr Aelodau
eu bod wedi ystyried eitemau posib i’w craffu ar gyfer 2024/25 yng ngweithdy
blynyddol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2024. Manylwyd y gofynnwyd i
aelodau ymateb i gwestiwn ar-lein o ran eu pum prif flaenoriaeth o’r rhestr o
eitemau posib a ddarparwyd ymlaen llaw cyn y gweithdy. Cadarnhawyd mai’r prif
flaenoriaethau a ddaeth i’r amlwg o’r ymatebion i’r cwestiwn, oedd: 1
Gwasanaethau
Casglu Gwastraff ac Ailgylchu 2
Datblygiadau
yn y maes Cludiant Cyhoeddus = Cynllun
Datblygu Lleol Newydd – Dewisiadau Strategol, Gweledigaeth ac Amcanion = Cynllun
Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2023/24 3
Cyflwyno
pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan = Cynllunio a Chymunedau Cymraeg
Ychwanegwyd bod
gan y Pwyllgor rôl i graffu gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys
Môn gyda dealltwriaeth bod gwaith y Bwrdd yn cael ei graffu ddwywaith y
flwyddyn. Daethpwyd i’r casgliad y dylid rhannu copi o Adroddiad Blynyddol y
Bwrdd ar gyfer 2023/24 gyda’r aelodau ond ddim ei graffu yn ffurfiol mewn
cyfarfod o’r Pwyllgor. Cadarnhawyd bod yr eitem ‘Adroddiad Cynnydd Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn’ wedi ei raglennu ar gyfer cyfarfod
mis Ionawr. Nodwyd bod yr eitem ‘Gwasanaeth Edrychiad
Stryd’ wedi ei adnabod fel eitem i’w raglennu yn ystod 2025/26. Atgoffwyd bod y flaenraglen craffu yn raglen fyw a fydd yn cael ei adolygu
yn gyson yn ystod y flwyddyn i sicrhau bod y materion cywir yn cael sylw.
Nodwyd y rhoir ystyriaeth i flaenoriaethu materion a fydd yn codi yn ystod y
flwyddyn megis materion o gyfarfodydd herio perfformiad ac eitemau ar flaenraglen y Cabinet.
PENDERFYNWYD Mabwysiadwyd rhaglen waith y
Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2024/25. |