Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel a’r Cynghorydd Gareth Coj Parry |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd yr Aelod canlynol fuddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Huw Rowlands (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 C20/1093/24/LL ar y rhaglen, oherwydd ei fod wedi
cyflwyno sylwadau ar y cais b) Datganodd yr Aelodau canlynol
eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 C24/0977/18/LL ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd Llio Elenid Owen (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 C20/1093/24/LL ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r
Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Pennaeth Cynorthwyol fyddai’n cyhoeddi
canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 3ydd o Chwefror 2025 fel rhai cywir Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac
agweddau o’r polisïau. 5.1 Cais Rhif C24/0977/18/LL AMGUEDDFA LLECHI CYMRU, GILFACH DDU, LLANBERIS,
CAERNARFON, GWYNEDD Gwaith adfer i'r safle yn cynnwys addasiadau mewnol ac allanol a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais
cynllunio llawn ydoedd ar gyfer gwaith adfer i'r safle yn cynnwys dymchwel y
caffi a’r siop presennol a chodi adeiladau newydd. Eglurwyd
bod safle Gilfach Ddu ym Mhentref Llanberis, yn gorwedd tu allan i ffiniau
datblygu'r pentref ond o fewn Safle Treftadaeth y Byd y Diwydiant Llechi yn
ogystal â'r Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Nodwyd bod yr adeiladau
yn rhestredig gradd I gyda'r olwyn ddŵr yno yn heneb. Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor oherwdd maint y safle. Adroddwyd
bod rhan helaeth o’r gwaith yn waith adfer mewnol, ac nad oedd angen hawl
cynllunio ffurfiol i gwblhau hyn. Er hynny, nodwyd bod y gwaith adfer wedi ei
asesu o fewn y cais adeilad rhestredig cysylltiedig a bod cymeradwyaeth a
chaniatâd wedi ei dderbyn gan CADW ar y cais hwnnw. Golygai hyn bod hawl
adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith ffisegol i’r adeilad, ond bod y bwriad yn
parhau i fod angen caniatâd cynllunio. Ategwyd bod Swyddog Cadwraeth y Cyngor
wedi rhoi mewnbwn sylweddol i’r cais yn ystod y cyfnod ‘cyngor cyn cyflwyno
cais’ a bod llwyddiant y cyngor yn cael ei adlewyrchu gan benderfyniad prydlon
CADW i gefnogi’r bwriad. Tynnwyd
sylw at brif elfennau’r bwriad oedd yn cynnwys, dymchwel y siop bresennol a
chodi un newydd gyda’r un ôl-troed, codi estyniad er mwyn creu toiledau newydd,
dymchwel y caffi presennol a chodi un newydd ar yr un ôl-troed, codi gweithdy
bach newydd a chodi canopi newydd fel cysgodfa i ymwelwyr. Cyfeiriwyd at yr
amrywiaeth o addasiadau mân oedd hefyd yn cael eu cynnwys yn y cais megis creu
ac addasu agoriadau, gosod isadeiledd, codi ffensys, tirweddu, creu iard storio
a thynnu waliau pared modern. Yng
nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd bod gwella atyniadau twristiaeth yn cael
eu cefnogi gan bolisi TWR 1. Ystyriwyd bod y bwriad ar sail dyluniad ac effaith
ar fwynderau yn dderbyniol ac ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr Uned
Trafnidiaeth gan nad oedd newidiadau i’r fynedfa na’r ddarpariaeth parcio o
fewn y safle. Derbyniwyd adroddiadau bywyd gwyllt efo’r cais a thrwy osod
amodau byddai modd bodloni sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth a Cyfoeth Naturiol
Cymru. Nodwyd
bod y gwaith adfer yn hanfodol i ddyfodol y safle ac y byddai’r adeiladau
newydd yn welliant sylweddol o ran
dyluniad a phrofiad ymwelwyr y safle. Ystyriwyd y byddai'r bwriad yn dderbyniol
ac roedd y swyddogion yn argymell y Pwyllgor i'w ganiatáu gydag amodau. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod
Lleol y sylwadau canlynol: ·
Ei fod ef, ynghyd ag Aelod Lleol ward Llanberis, yn
gefnogol i’r cais · Angen sicrhau bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac
agweddau o’r polisïau. |
|
Gwaith adfer i'r safle yn cynnwys addasiadau mewnol ac allanol AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn
ddarostyngedig i’r amodau canlynol: 1. 5
mlynedd 2. Unol
a’r cynlluniau 3. Nwyddau
dwr glaw o wneuthuriad haearn bwrw 4. Manylion
y drysau newydd i’w gymeradwyo o flaen llaw 5. Morter
calch 6. Manylion
ffliw / fents i’w gymeradwyo o flaen llaw 7. Manylion
y ffens newydd i’w gymeradwyo o flaen llaw 8. Samples
carreg 9. Samples
o’r deunyddiau i’w defnyddio 10. Unol
a gofynion y GIS 11. Amodau
Dwr Cymru 12. Amodau
goleuadau 13. Amodau
bioamrywiaeth / CNC 14. Tirlunio Cofnod: Gwaith adfer i'r safle yn cynnwys addasiadau mewnol ac allanol a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais cynllunio llawn
ydoedd ar gyfer gwaith adfer i'r safle yn cynnwys dymchwel y caffi a’r siop
presennol a chodi adeiladau newydd. Eglurwyd
bod safle Gilfach Ddu ym Mhentref Llanberis, yn gorwedd tu allan i ffiniau
datblygu'r pentref ond o fewn Safle Treftadaeth y Byd y Diwydiant Llechi yn
ogystal â'r Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Nodwyd bod yr adeiladau
yn rhestredig gradd I gyda'r olwyn ddŵr yno yn heneb. Cyflwynwyd
y cais i bwyllgor oherwydd maint y safle. Adroddwyd
bod rhan helaeth o’r gwaith yn waith adfer mewnol, ac nad oedd angen hawl
cynllunio ffurfiol i gwblhau hyn. Er hynny, nodwyd bod y gwaith adfer wedi ei
asesu o fewn y cais adeilad rhestredig cysylltiedig a bod cymeradwyaeth a
chaniatâd wedi ei dderbyn gan CADW ar y cais hwnnw. Golygai hyn bod hawl
adeilad rhestredig ar gyfer y gwaith ffisegol i’r adeilad, ond bod y bwriad yn
parhau i fod angen caniatâd cynllunio. Ategwyd bod Swyddog Cadwraeth y Cyngor
wedi rhoi mewnbwn sylweddol i’r cais yn ystod y cyfnod ‘cyngor cyn cyflwyno
cais’ a bod llwyddiant y cyngor yn cael ei adlewyrchu gan benderfyniad prydlon
CADW i gefnogi’r bwriad. Tynnwyd
sylw at brif elfennau’r bwriad oedd yn cynnwys, dymchwel y siop bresennol a
chodi un newydd gyda’r un ôl-troed, codi estyniad er mwyn creu toiledau newydd,
dymchwel y caffi presennol a chodi un newydd ar yr un ôl-troed, codi gweithdy
bach newydd a chodi canopi newydd fel cysgodfa i ymwelwyr. Cyfeiriwyd at yr
amrywiaeth o addasiadau mân oedd hefyd yn cael eu cynnwys yn y cais megis creu
ac addasu agoriadau, gosod isadeiledd, codi ffensys, tirweddu, creu iard storio
a thynnu waliau pared modern. Yng
nghyd-destun egwyddor y bwriad, nodwyd bod gwella atyniadau twristiaeth yn cael
eu cefnogi gan bolisi TWR 1. Ystyriwyd bod y bwriad ar sail dyluniad ac effaith
ar fwynderau yn dderbyniol ac ni dderbyniwyd gwrthwynebiad gan yr Uned
Trafnidiaeth gan nad oedd newidiadau i’r fynedfa na’r ddarpariaeth parcio o
fewn y safle. Derbyniwyd adroddiadau bywyd gwyllt efo’r cais a thrwy osod
amodau byddai modd bodloni sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth a Cyfoeth Naturiol
Cymru. Nodwyd
bod y gwaith adfer yn hanfodol i ddyfodol y safle ac y byddai’r adeiladau
newydd yn welliant sylweddol o ran
dyluniad a phrofiad ymwelwyr y safle. Ystyriwyd y byddai'r bwriad yn dderbyniol
ac roedd y swyddogion yn argymell y Pwyllgor i'w ganiatáu gydag amodau. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Ei fod ef, ynghyd ag Aelod Lleol ward Llanberis, yn
gefnogol i’r cais ·
Angen sicrhau bod cymeriad yr adeiladau yn cael ei
warchod c) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwdau canlynol: ·
Mai egwyddor sylfaenol a sail y cais, ynghyd a’r
cais a gymeradwywyd eisoes i adnewyddu adeilad rhestredig yn fewnol, yw sicrhau
bod y datblygiadau yn addas ar gyfer Safle Treftadaeth y Byd. · Bod y Gilfach Ddu yn safle ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Newid defnydd o siale / ystafelloedd gwely i 10 uned preswyl fforddiadwy (cymysgedd o unedau 1 a 2 ystafell wely hunangynhaliol) bwriededig AELOD LLEOL: Cynghorydd Llio Elenid
Owen Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: GWRTHOD 1. Ystyriwyd fod y cais yn groes i
bolisi TAI 7 a’r Canllaw Cynllunio Atodol ‘Ail-adeiladu tai a Throsi Yng Nghefn
Gwlad’ gan nad yw’r adeilad yn un traddodiadol.
Gan nad oes polisi eraill o fewn y CDLL yn caniatáu anheddau preswyl
newydd yng nghefn gwald agored, ystyrir fod y bwriad hefyd yn groes i bolisi
PCYFF 1. 2. Ni dderbyniwyd tystiolaeth o angen
lleol fforddiadwy na gwybodaeth yn dangos fod cymysgedd priodol o dai ar gyfer
y nifer a math o unedau a gynigir. O ganlyniad, ystyrir fod y bwriad yn groes i
bolisi TAI 7 a TAI 8. 3. Ni dderbyniwyd tystiolaeth ddigonol i
ddangos nad yw defnydd masnachol o’r adeilad yn hyfyw na thystiolaeth i
gyfiawnhau colled o lety gwyliau gwasanaethol sydd yn groes i PS 14, ac maen
prawf 1 o bolisi TAI 7 4. Bod yr unedau, oherwydd ei faint
cyfyngedig yn groes i baragraff 4.2.30 o rifyn 12 o Bolisi Cynllunio Cymru gan
nad yw’r unedau yn cyrraedd safonau ansawdd datblygu Llywodraeth Cymru. Mae
hefyd yn groes i bolisi Tai 8 gan nad yw’r bwriad yn adlewyrchu safon dylunio o
ansawdd uchel sy’n creu cymunedau cynaliadwy a chynhwysol ac na fydd yr unedau
yn helpu creu amgylcheddau iach a bywiog, ac nid ydynt yn ystyried iechyd a
lles defnyddwyr y dyfodol yn unol â pholisi PCYFF 3. Cofnod: Newid defnydd o siale / ystafelloedd gwely i 10 uned preswyl fforddiadwy
(cymysgedd o unedau 1 a 2 ystafell wely hunangynhaliol) bwriededig a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
ar gyfer newid defnydd ystafelloedd gwely gwesty i 10 uned breswyl fforddiadwy. O ran egwyddor y datblygiad, eglurwyd
bod polisi PCYFF 1 yn berthnasol gan fod y safle wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu fel y
diffiniwyd o fewn y CDLl a’r safle yng nghefn gwlad
agored. Amlygwyd bod y polisi yn datgan byddai cynigion yn cael eu gwrthod oni
bai eu bod yn unol â pholisïau eraill o fewn y cynllun neu bolisïau cynllunio
cenedlaethol neu fod y cynnig yn dangos bod ei leoliad yng nghefn gwlad yn
hanfodol. Ategwyd bod ystyriaeth i Polisi TAI 7
hefyd yn fater o bwys, gan fod y bwriad yn golygu trosi adeiladau yng nghefn
gwald i unedau byw. Er hynny, mae’r polisi ond yn caniatáu trosi adeiladau
traddodiadol. Cyfeiriwyd at Adran 7 o’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA)
‘Ail-adeiladu tai a Throsi Yng Nghefn Gwlad’ sydd yn diffinio adeiladau
traddodiadol fel rhai sydd wedi eu hadeiladu cyn 1919 ac o ‘adeiladwaith anadladwy’. Noder o hanes cynllunio’r safle y rhoddwyd hawl
ar gyfer codi'r adeilad yn 1978 ac felly ni fydd modd ystyried y bwriad yn
erbyn Polisi TAI 7 gan na fuasai’n drosiad o adeilad traddodiadol. Nodwyd bod y canllaw hefyd yn nodi fod gan
adeilad traddodiadol werth esthetig sydd yn deillio o’r ffordd y mae pobl yn
cael mwynhad synhwyrol a deallusol o’r adeilad gyda chymeriad yr adeilad yn aml
yn cwmpasu nodweddion unigryw lleol ac yn cyfrannu i’r naws am le. Yn y
cyd-destun yma, eglurwyd bod yr adeiladwaith yn bennaf o wneuthuriad brics coch
a ffenestri modern sydd ddim o werth mwynderol uchel
nac yn adlewyrchu cymeriad a natur adeiladau traddodiadol yr ardal. O ystyried hyn, nid oedd y cais yn cyfarfod
gofynion polisi TAI 7 oherwydd nad yw’r bwriad yn golygu trosiad o adeilad
traddodiadol, ac nid oes polisi arall o fewn y CDLl
yn caniatáu darpariaeth o dai fforddiadwy yng nghefn gwlad agored; egwyddor y
bwriad felly yn groes i bolisi PCYFF 1. Eglurwyd hefyd nad oedd y cais yn cwrdd gyda meini prawf eraill o fewn polisi TAI 7 gan na dderbyniwyd adroddiad strwythurol i gefnogi’r cais. Yn ychwanegol, ni dderbyniwyd tystiolaeth i brofi’r angen am yr unedau fforddiadwy a sut mae’r datblygiad wedi cael ei ddylunio i sicrhau cymysgedd priodol o dai yn unol gyda pholisi TAI 8. Amlygwyd bod Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn gofyn bod tai fforddiadwy newydd yn cyrraedd safonau ansawdd datblygu Llywodraeth Cymru, a gan nad yw’r unedau hyn ar sail ei maint yn cwrdd gyda’r anghenion hynny, ystyriwyd fod y bwriad yn groes i PCC. Ystyriwyd hefyd, oherwydd maint cyfyngedig yr unedau, fod y bwriad yn groes i bolisi Tai 8 gan nad yw’r bwriad yn adlewyrchu safon dylunio o ansawdd uchel sy’n creu cymunedau cynaliadwy a chynhwysol - nid yw’r unedau hyn yn cefnogi creu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |