Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cyng. Richard Medwyn Hughes,
Cyng. John Pughe Roberts a’r Cyng. Robin Williams (Cyngor Sir Ynys Môn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 25 Dachwedd 2024 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN HYFFORDDIANT I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo
Cynllun Hyfforddiant 2025/26. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar
gynllun hyfforddiant 2024/25 a gosod cynllun hyfforddiant bras ar gyfer
2025/26. Ystyriwyd bod cynllun 2024/25 wedi bod yn llwyddiannus a diolchwyd i’r
Aelodau am fynychu sesiynau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) a’r Cynadleddau
oedd yn cael eu canmol fel rhai
defnyddiol ac amserol. Wrth drafod cynllun hyfforddiant 2025/26, cyfeiriwyd at ganlyniadau
Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol Hymans Robertson a
gwblhawyd gan yr Aelodau yn ddiweddar. Atgoffwyd yr Aelodau bod Hymans Robertson wedi adnabod rhai meysydd sydd angen sylw
pellach ynghyd â meysydd roedd yr Aelodau eu hunain wedi eu dewis. Nodwyd bod
sesiwn hyfforddiant ar ddulliau a rhagdybiaethau actiwaraidd
eisoes wedi ei gynnal a bod hyfforddiant ar sero net a llywodraethu i’w gynnal
yn fuan. Ategwyd y bydd eitem
gweinyddiaeth pensiwn yn cael ei gyflwyno yn rheolaidd i’r Pwyllgor ac y bydd
modd darparu hyfforddiant yn ôl y galw yn y Paneli Buddsoddi; bydd yr Aelodau
hefyd yn parhau i dderbyn sesiynau hyfforddiant gan PPC, mynychu a derbyn
gwybodaeth mewn nifer o gynadleddau a chael y cyfle i dderbyn hyfforddiant ar
lein. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â derbyn sesiwn hyfforddiant ar
Gyfalaf Naturiol, nodwyd bod y maes yma wedi ei gynnwys fel sesiwn gyda’r Panel
Buddsoddi. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2025/26 |
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2025/26 I fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth
Trysorlys atodol am 2025/26, fel ei addaswyd i bwrpas
Cronfa Bensiwn Gwynedd (Atodiad A). I wneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian
dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y
Cyngor o 1 Ebrill 2025 ymlaen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn diweddaru’r Aelodau ar gynllun hyfforddiant 2024/25 a gosod cynllun
hyfforddiant bras ar gyfer 2025/26. Ystyriwyd bod cynllun 2024/25 wedi bod yn
llwyddiannus a diolchwyd i’r Aelodau am fynychu sesiynau Partneriaeth Pensiwn
Cymru (PPC) a’r Cynadleddau oedd yn cael eu canmol fel rhai defnyddiol ac amserol. Wrth drafod cynllun hyfforddiant 2025/26,
cyfeiriwyd at ganlyniadau Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol Hymans
Robertson a gwblhawyd gan yr Aelodau yn ddiweddar. Atgoffwyd yr Aelodau bod Hymans Robertson wedi adnabod rhai meysydd sydd angen sylw
pellach ynghyd â meysydd roedd yr Aelodau eu hunain wedi eu dewis. Nodwyd bod
sesiwn hyfforddiant ar ddulliau a rhagdybiaethau actiwaraidd
eisoes wedi ei gynnal a bod hyfforddiant ar sero net a llywodraethu i’w gynnal
yn fuan. Ategwyd y bydd eitem
gweinyddiaeth pensiwn yn cael ei gyflwyno yn rheolaidd i’r Pwyllgor ac y bydd
modd darparu hyfforddiant yn ôl y galw yn y Paneli Buddsoddi; bydd yr Aelodau
hefyd yn parhau i dderbyn sesiynau hyfforddiant gan PPC, mynychu a derbyn
gwybodaeth mewn nifer o gynadleddau a chael y cyfle i dderbyn hyfforddiant ar
lein. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â derbyn
sesiwn hyfforddiant ar Gyfalaf Naturiol, nodwyd bod y maes yma wedi ei gynnwys
fel sesiwn gyda’r Panel Buddsoddi. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad
a chymeradwyo Cynllun Hyfforddiant 2025/26 |
|
GOSOD RHAGDYBIAETHAU AR GYFER PRISIAD 2025 I
gymeradwyo'r gosodiad rhagdybiaeth ar gyfer prisiad Cronfa Bensiwn Gwynedd 2025. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau
yn amlinellu gosodiad rhagdybiaethau ar gyfer prisiad 2025 Cronfa Bensiwn
Gwynedd. Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y disgwyliad oes ariannol,
disgwyliad oes, a rhagdybiaethau demograffig eraill sydd rhaid i'r Gronfa eu gwneud, a bod y
rhagdybiaethau hyn wedi eu gosod gan Actiwari'r
Gronfa wedi trafodaethau a sesiwn hyfforddi gyda Swyddogion ac Aelodau’r
Pwyllgor. Amlygwyd bod perthnasedd y rhagdybiaethau presennol wedi cael eu
hystyried cyn cyflwyno newidiadau fyddai’n adlewyrchu nodweddion penodol y
Gronfa a chymryd barn hirdymor iawn. Ategwyd bod y rhagdybiaethau hefyd yn cadw at ganllawiau CPLlL sy'n gofyn am ddoethineb yn y gyfradd ddisgownt, tra
bod y rhagdybiaeth eraill yn amcangyfrifon gorau posib. Yng nghyd-destun rhagdybiaethau ariannol,
amlygwyd newidiadau sylweddol mewn amodau economaidd ers prisiad 2022, oedd yn
cynnwys cyfraddau llog uwch, chwyddiant uwch na'r disgwyl, a mwy o
anweddolrwydd (volatility) yn y farchnad. Nodwyd bod
risgiau gwleidyddol a hinsawdd hefyd yn cael eu crybwyll fel ffactorau
dylanwadol. Ategwyd bod y gyfradd disgownt (sydd yn cynrychioli cyfradd
flynyddol gyfartalog dychwelyd buddsoddiad yn y dyfodol), wedi gweld newid
sylweddol yn yr amgylchedd economaidd ers 2022, sydd o ganlyniad wedi arwain at
enillion buddsoddi disgwyliedig uwch yn y dyfodol, a lefelau cyllido, ond hefyd
at gynnydd mewn ansicrwydd. Amlygwyd mai argymhelliad yr Actiwari oedd
cynyddu'r lefel bwyll ar gyfer y gyfradd ddisgownt o 75% i 80%. Yng nghyd-destun codiadau i’r buddion ac
ailbrisio y Cynllun Cyfartaledd Gyrfa, sy'n gysylltiedig â CPI, nodwyd bod y
dull yn aros yr un fath â phrisiad 2022, ond yn adlewyrchu disgwyliadau
chwyddiant cyfredol. Adroddwyd mai’r lefel gyfartalog o chwyddiant i’r dyfodol
ar 30 Tachwedd 2024 oedd 2.3% y flwyddyn (o'i gymharu â 2.7% y flwyddyn ym mis
Mawrth 2022) ac felly argymhellwyd cynnal codiadau cyflog ar CPI + 0.5%, i
adlewyrchu ansicrwydd er gwaethaf disgwyliadau chwyddiant cyfredol. Cyfeiriwyd at ragdybiaethau disgwyliad bywyd
gan nodi mai’r argymhelliad oedd mabwysiadau rhagdybiaeth gyffredinol o
welliant ‘diofyn’ yn y dyfodol, a gyda rhagdybiaethau eraill megis
rhagdybiaethau demograffi, nodwyd bwriad o fabwysiadu
rhagdybiaethau sy’n seiliedig ar ddadansoddi
gwybodaeth o’r Gronfa ynghyd â phrofiad aelodaeth wirioneddol y Gronfa. Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb i
sylw bod lefel gyllido'r gronfa erbyn hyn yn
200% ac os oedd pwynt neu lefel lle bydd gofyn
stopio, nodwyd nad oedd lefel
uchafswm cyn belled a bod y
Gronfa yn parhau i fod
yn ddarbodus. Ategwyd bod sylwadau diweddar yn y Wasg, yn herio'r hyn
sydd yn rhesymol
i’r trethdalwyr ei dalu i
ariannu’r Gronfa (yng nghyd-destun rhai o brif gyflogwyr
y Gronfa sy’n derbyn arian cyhoeddus
- Cyngor Gwynedd, Môn, Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri). O ganlynaid,
bydd angen cynnal trafodaethau i ymateb i’r
pwysau hyn i sicrhau cydbwysedd. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau ·
Bod y sesiwn hyfforddi wedi bod yn ddefnyddiol
gyda chyflwyniadau clir ac eglur. ·
Awgrym i gynnal sesiynau
cyffelyb i’r dyfodol wrth wneud
penderfyniadau ·
Bod y Gronfa mewn sefyllfa iach · Bod ystod eang o ragdybiaethau a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADBORTH O GYNHADLEDD LLYWODRAETHU'R LGA I ystyried yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad er
gwybodaeth Nodyn: Aelod o’r Bwrdd Pensiwn hefyd i fynychu’r gynhadledd i’r
dyfodol Cofnod: Feedback and an
overview of key items discussed in the LGA Governance Conference (Bournemouth
in January 2025) were presented by Councillor Ioan Thomas (Vice-chair of the Pensions
Committee) and Meirion Jones (Pensions Manager). It was reported that the event
had been very beneficial, and the following matters were noted as fields that
required attention from the Gwynedd Pension Fund after receiving information at
the Conference. -
Reducing the Number of Pools – concern that Wales was unsafe as one pool for the future as a result of the 'Fit for the Future' review by the UK
Government on the number of pools. -
There
was a need to ensure that the work of the valuation started soon with enough
engagement on the strategy -
There
was a need to ensure that the dashboards were ready by October 2025 -
A
general note – various Councils sent many members to the conference – requested
that Gwynedd offered an opportunity for a Member of the Pension Board to
attend. The members gave
thanks for the feedback. In response to the
observations, in the context of the 'Fit for the Future' review to reduce
pooling numbers, it was noted that the Wales Pension Partnership (WPP) had
submitted a Business Plan to the Government which proposed a way forward. It
was elaborated, from the unofficial feedback received to this current
consultation, that WPP would be able to stay as one investment company for
Wales. He added that although no formal feedback to the Business Plan had been
received, work streams were being prepared in the background to establish a
company. Responding to the
observation about the work of the valuation, it was noted, although the process
was long, that consultation work had already started
and Committee Members had received a training session on actuarial assumptions
and methods. In response to the
need to ensure that the dashboards were ready by October 2025, it was noted
that the Fund had been working with the Heywood Pension Technologies company to
establish the dashboards and that the system was now in a trial period. It was elaborated
that Gwynedd would be ready to connect when the public dashboards went live. Members gave thanks for the response to the
observations and the officers were thanked for their good and timely work and
for their proactive attitude. RESOLVED: To accept the
report for information. Note: A member of the Pension Board to also attend the conference in the
future. Cyflwynwyd adborth a chrynodeb o eitemau allweddol a drafodwyd
yng Nghynhadledd Llywodraethu’r LGA (Bournemouth mis
Ionawr 2025) gan y Cyng. Ioan Thomas (Is-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau) a
Meirion Jones (Rheolwr Pensiynau). Adroddwyd bod y digwyddiad wedi bod yn
fuddiol iawn a nodwyd y materion isod fel meysydd sydd angen sylw gan Gronfa
Bensiwn Gwynedd yn dilyn derbyn gwybodaeth yn y Gynhadledd. - Lleihau Nifer Pwlïau - pryder nad yw Cymru yn ddiogel fel un pwl i’r dyfodol yn sgil adolygiad ‘Fit for the Future’ gan Lywodraeth y DU ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CRYNODEB O DDADANSODDIAD BWLCH PENSIWN RHYW I ystyried a chymeradwyo’r polisïau gweinyddol
newydd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
-
Adolygu proffiliau swyddi a
graddfeydd cyflog er mwyn sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol ar draws y sbectrwm
llawn. -
Gwirio bod polisïau dychwelyd i’r
gwaith, gan gynnwys gweithio hyblyg, yn cefnogi ac yn annog pobl sydd wedi
cymryd seibiannau gyrfa yn ôl i'r gweithle. -
Cyflwyno neu wella polisïau
absenoldeb rhiant a rennir. -
Addysgu gweithwyr am oblygiadau ar
gyfer eu pensiwn unrhyw bryd y mae newid pwynt bywyd a allai arwain at
ganlyniadau ariannol. -
Gadael i aelodau newydd a gweithwyr
rhan-amser wybod y gallant optio i mewn i'r cynllun pensiwn, hyd yn oed os nad
ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwyso
Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau
adroddiad oedd yn cyflwyno canfyddiadau
dadansoddiad diweddar a gynhaliwyd gan Hymans Robertson ar ddata aelodaeth
Cronfa Bensiwn Gwynedd
(data 2024/25) fel rhan o archwiliad Bwlch Pensiynau Rhywedd, sef y gwahaniaeth rhwng incwm ymddeol
dynion ac incwm ymddeol merched. Nodwyd bod y gwahaniaeth yn cael ei
fesur yn ôl y gwahaniaeth mewn cyfoeth ar
ôl ymddeol, gan gynnwys eitemau
fel eiddo. Cyfeiriwyd at ganfyddiadau allweddol
y dadansoddiad oedd yn cadarnhau bodolaeth
Bwlch Pensiwn Rhywedd ac anghyfartaledd mewn symiau pensiwn
pensiynwyr cyfredol ac
Aelodau actif. Tynnwyd sylw at y ffactorau hynny sydd yn
cyfrannu at y bwlch ynghyd â’r argymhellion
sydd yn cael
eu hawgrymu i fynd i’r
afael â’r bwlch yn llawn.
Nodwyd, er derbyn bod angen newidiadau a gweithredu ar lefel
genedlaethol, bod modd gweithredu rhai camau ar lefel
lleol hefyd, gyda’r cyflogwyr, yn hytrach na’r
Gronfa Bensiwn yn arwain ar
y materion hyn. Ategwyd, ymysg y gwaith sydd angen
ei wneud, bod rhaid adolygu polisïau,
patrymau gwaith ac addysgu merched yn well ar oblygiadau
cyfnod mamolaeth. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau ·
Bod angen
mwy o degwch i ferched mewn
gwaith ·
Rhaid lleihau’r
gwahaniaethau ·
Bod angen
tynnu sylw at y canfyddiadau - awgrym i gyflwyno’r wybodaeth
i’r Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol ·
Wrth werthuso
swyddi, bydd rhaid ystyried gogwydd rhywedd ·
Beth yw’r
rhagamcanion i’r dyfodol? ·
Bod anghyfiawnder
pendant yma - angen cynnal sgyrsiau gyda’r cyflogwyr ·
Bod angen
diweddariad ymhen chwe mis o’r hyn
sydd wedi ei weithredu Mewn ymateb
i’r sylwadau, nododd y Rheolwr Pensiynau mai’r cam cyntaf fydd cynnal
trafodaeth gyda Gwasanaeth
Adnoddau Dynol Cyngor Gwynedd a cheisio gweld sut bydd
modd ymateb i’r canfyddiadau yn lleol. PENDERFYNWYD ·
Bod angen mynd i'r afael â'r bwlch
pensiwn rhyw yn llawn ·
Er derbyn bod angen newidiadau a
gweithredu ar lefel genedlaethol, bod modd gweithredu rhai camau ar lefel lleol
hefyd, gyda’r cyflogwyr, yn hytrach na’r gronfa bensiwn yn arwain ar faterion
megis, - Adolygu proffiliau swyddi a graddfeydd cyflog er mwyn sicrhau
cydraddoldeb gwirioneddol ar draws y sbectrwm llawn. - Gwirio bod polisïau dychwelyd i’r gwaith, gan gynnwys gweithio
hyblyg, yn cefnogi ac yn annog pobl sydd wedi cymryd seibiannau gyrfa yn ôl i'r
gweithle. - Cyflwyno neu wella polisïau absenoldeb
rhiant a rennir. - Addysgu gweithwyr am oblygiadau ar gyfer eu pensiwn unrhyw bryd
y mae newid pwynt bywyd a allai arwain at ganlyniadau ariannol. - Gadael i aelodau newydd a gweithwyr rhan-amser wybod y gallant
optio i mewn i'r cynllun pensiwn, hyd yn oed os nad ydynt yn bodloni'r meini
prawf cymhwyso ·
Cyflwyno’r wybodaeth i’r
Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol ·
Derbyn diweddariad ymhen 6 mis ar
y camau gweithredu (lefel lleol) |
|
POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN I ystyried a chymeradwyo’r polisïau gweinyddol
newydd Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
-
Polisi Prawf Bywyd i
bensiynwyr sy'n byw dramor -
Polisi Gordaliad Pensiwn -
Polisi Iaith Gyfathrebu -
Polisi Dosbarthu Dogfennau
Cronfa Bensiwn Gwynedd -
Polisi Cyhoeddi Slip Cyflog
y Gronfa Bensiwn -
Polisi Talu Buddion Pensiwn a Lwmp Swm i Aelodau Cofnod: Cyflwynodd
y Rheolwr Pensiynau adroddiad oedd yn cyflwyno chwe
pholisi gweinyddol allweddol i’r Pwyllgor
eu harchwilio. Nodwyd bod y polisïau yn hanfodol ar
gyfer rheoli a gweinyddu’r gronfa bensiwn yn effeithiol
ac yn gam sylweddol tuag at lywodraethu da. Ategwyd, bod y Bwrdd Pensiwn wedi adolygu’r
polisïau a bod eu sylwadau wedi eu
hadlewyrchu yn y fersiynau gerbron y Pwyllgor. Trafodwyd
y Polisïau yn unigol gan roi
cefndir a chyd-destun bob
un i’r Aelodau Polisi
Prawf Bywyd i Bensiynwyr sy'n
Byw Dramor Polisi
Gordaliad Pensiwn Polisi
Iaith Gyfathrebu Polisi
Dosbarthu Dogfennau Cronfa Bensiwn Gwynedd Polisi
Cyhoeddi Slip Cyflog y Gronfa Bensiwn Polisi
Talu Buddion Pensiwn a Lwmp Swm i Aelodau Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith o
ffurfioli’r polisïau. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar angen i
gyfiawnhau talu mewn i gyfrifon yn enw’r aelodau yn unig ac os oedd problemau
wedi codi o’r penderfyniad i wneud hyn, nodwyd bod y drefn wedi ei gweithredu
yn llwyddiannus hyd yma a bod eithriad mewn lle os yw’r cyfrif yn cael ei ddal
gan unigolyn sydd â Phŵer Atwrnai dilys ar gyfer yr aelod. Mewn ymateb i bryder bod y drefn yn tueddu i
symud at drefn ddigidol, amlygwyd bod aelodau yn cael dewis opsiwn papur os
ydynt yn dymuno. PENDERFYNIAD: ·
Derbyn a nodi’r wybodaeth ·
Cymeradwyo mabwysiadu’r polisïau isod o’r 1af o
Ebrill 2025 - Polisi Prawf Bywyd i bensiynwyr
sy'n byw dramor - Polisi Gordaliad Pensiwn - Polisi Iaith Gyfathrebu - Polisi Dosbarthu Dogfennau
Cronfa Bensiwn Gwynedd - Polisi Cyhoeddi Slip Cyflog y
Gronfa Bensiwn - Polisi Talu Buddion Pensiwn a
Lwmp Swm i Aelodau |