Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Y Cynghorydd Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy).

·       Yr Athro Edmund Burke (Prifysgol Bangor) gyda’r Athro Paul Spencer yn dirprwyo.

·       Yana Williams (Coleg Cambria)

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo.

·       Alwyn Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) gyda Richard Weigh yn dirprwyo.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Derbyniwyd datganiadau o fuddiant personol ar gyfer Eitem 10 gan Wendy Boddington (Sylwedydd Llywodraeth Cyrmu) a Gareth Ashman (Sylwedyddion Llywodraeth y DU). Nodwyd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddynt adael y cyfarfod ar gyfer trafodaeth ar yr eitem, yn dilyn cyflwyniad ar yr eitem a chyfle i Aelodau ofyn cwestiynau ychwanegol.

 

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol ar gyfer Eitem 11 gan yr Athro Joe Yates (Prifysgol Wrecsam). Nododd ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a bu iddo adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05 Rhagfyr 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 05 Rhagfyr 2025 fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 3 pdf eicon PDF 198 KB

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.
  2. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i ddiweddaru.

2.     Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd a phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf.

 

TRAFODAETH

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy nifer o uchafbwyntiau megis bod pump o brosiectau o restr wrth gefn y Cyd-bwyllgor wedi cael eu cymeradwyo’n ffurfiol i fod yn rhan o’r Cynllun Twf. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer Society 5.0, Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Môn, Porth y Porthladd Rhydd ac Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Prince a Dyfodol Venue Cymru.

 

Eglurwyd bod ail Adolygiadu Portffolio wedi ei gwblhau gan ystyried y prosiectau oedd yn adrodd yn goch. Nodwyd bod hyn wedi rhyddhau £58miliwn o arian i gael ei ail-fuddsoddi gan yr Is-bwyllgor hwn.

 

Diweddarwyd bod dau gais am newid wedi cael eu cymeradwyo yn ddiweddar, sef safle Cyn Ysbyty Gogledd Cymru a’r prosiect Anturiaethau Cyfrifol. Mynegwyd balchder bod Cytundeb Ariannu Grant ar gyfer Hwb Economi Wledig Glynllifon hefyd wedi ei gymeradwyo ym mis Tachwedd 2025, gan gadarnhau bod cwmni lleol Adeiladwaith OBR wedi eu penodi i adeiladu safle Defaid Llaeth Cymru.

 

Tynnwyd sylw bod dau ddigwyddiad lansio wedi cael eu cynnal a hynny ar gyfer adeilad CanfodAu Prifysgol Wrecsam ac Academi Croeso, Grŵp Llandrillo Menai.

 

Ymfalchïwyd bod dau Ymgynghorydd Anweithredol wedi cael eu penodi. Eglurwyd y byddent yn chwarae rôl allweddol fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Ymgynghori Busnes newydd.

 

Cadarnhawyd mai prosiect Hwb Hydrogen Caergybi yw’r unig un sydd o dan adolygiad ar hyn o bryd gan ei fod yn adrodd yn goch yn erbyn proffil cyflawni y portffolio. Fodd bynnag, nodwyd bod y cyllid ar ei gyfer wedi ei glustnodi. Diweddarwyd bod gwaith yn cael ei wneud i ddatblygu materion allweddol a datrys risgiau er mwyn sicrhau bod Achos Busnes Amlinellol yn cael ei ddatblgyu ar y prosiect hwn er mwyn sicrhau bod y prosiect yn parhau i’r dyfodol. Rhannwyd diweddariad bod chwe prosiect yn weithredol, 10 wedi ei gymeradwyo ond ddim yn weithredol, 7 Achos Busnes yn cael ei ddatblygu ac bod 15 prosiect yn parhau i fod ar y rhestr wrth gefn.

 

Adroddwyd ar fuddsoddiad y Cynllun Twf gan nodi bod oddeutu £27miliwn wedi cael ei fuddsoddi hyd yma. Diweddarwyd yr amcangyfrifir hyn i fod oddeutu £30miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol oherwydd bod prosiectau yn datblygu yn gyflymach a bod mwy o Achosion Busnes yn cael eu datblygu a dod yn weithredol. Nodwyd hefyd nad oedd diweddariad ar y swyddi newydd a grëwyd drwy’r prosiectau yn yr adroddiad hwn gan gadarnhau bydd hyn yn cael ei ddiweddaru erbyn adroddiad Chwarter 4.

 

Pwysleisiwyd bod y gofrestr risg yn cael ei ddiweddaru’n llawn gan y Swyddfa Rheoli Portffolio yn rheolaidd. Cadarnhawyd nad oes unrhyw newid i’r sgôr risgiau o’r hyn ag adroddwyd yn Chwarter 2.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEB 2026/27 pdf eicon PDF 223 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid, a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid, i gyflwyno’r adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi cyllideb refeniw Y Cynllun Twf ar gyfer 2026/27.
  2. Nodi cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol Cyllid.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Nodi cyllideb refeniw y Cynllun Twf ar gyfer 2026/27.

2.     Nodi cyfraniadau ariannu sy’n cynnwys cyfraniadau partneriaid, cyfraniadau atodol awdurdodau lleol a chyfraniadau llog partneriaid.

3.     Nodi cyllideb gyfalaf y Cynllun Twf ar gyfer 2026/27.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae angen cyllideb flynyddol i’r Cynllun Twf er mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y cyllid sydd ar gael.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd bod cyllideb y Cynllun Twf wedi ei gymeradwyo eisoes fel rhan o’r adroddiad Cyllideb 2026/27 a gyflwynwyd i Gyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2026.

 

Cadarnhawyd bod y gyllideb gwariant refeniw ar gyfer 2026/27 oddeutu £2.95miliwn gan egluro y daw’r arian hynny o’r ffynonellau canlynol:

 

·       £470,000 o gyfraniadau partneriaid

·       £240,000 o gyfraniadau atodol awdurdodau lleol

·       £154,000 o gyfraddau llog partneriaid

·       £660,000 o’r grant cynllun Twf sydd wedi ei glustnodi ar gyfer yr elfen refeniw

·       £435,000 o’r grant Cynllun Twf sydd wedi ei glustnodi o’r prosiectau

·       £987,000 o’r gronfa adnoddau.

 

Eglurwyd nad oes cynnydd yng nghyfraniadau partneriaid oherwydd bod gostyngiad yng nghyfradd cyfraniadau pensiwn y cyflogwr o 2026/27 yn gwrthbwyso’r addasiad alldro ar gyfer 2025/26, a’r amcan chwyddiant cyflog ar gyfer 2026/27.

 

Tynnwyd sylw bod newidiadau mewn prosiectau yn y proffil cyfalaf wedi arwain at gynnydd cyffredinol yn amcan cost o fenthyca o’i gymau â’r cyfrifiad a wnaethpwyd yng nghyllideb 2025/26. Nodwyd bod rhai partneriaid yn arwain prosiectau Cynllun Twf eu hunain a bod y gost gysylltiedig o fenthyca wedi cael ei ychwanegu at eu cyfraddau llog. Fodd bynnag, nodwyd bod y cyfraniadau o fewn y trothwy sydd wedi eu cymeradwyo yn y Cytundeb Cyflawni ac Ariannu.

 

Rhannwyd proffil gwariant diweddaraf ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf ar gyfer y cyfnod 2021/22 i 2034/35. Yn ogystal, â’r proffil ar gyfer y 2.15% sy’n cael ei ddefnyddio i ariannu'r gyllideb refeniw. Pwysleisiwyd bod y proffil yn seiliedig ar amserlen y prosiectau diweddaraf gan nodi y byddai’n cael ei adolygu yn gyson wrth i achosion busnes gael eu cymeradwyo.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

7.

SEFYLLFA REFENIW A CHYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD RHAGFYR 2025 pdf eicon PDF 219 KB

Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid, a Sian Pugh, Pennaeth Cynorthwyol Cyllid, i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025, gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn.
  2. Nodi a derbyn proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Cynllun Twf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Cynorthwyol Cyllid.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Nodi adolygiad refeniw diwedd Rhagfyr 2025, gan gynnwys y sefyllfa cronfeydd wrth gefn.

2.     Nodi a derbyn proffil gwariant cyfalaf diwygiedig y Cynllun Twf.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Rhagwelir tanwariant o £618,025 yn erbyn cyllideb refeniw'r Is-bwyllgor Lles Economaidd ar gyfer 2025/26. Bydd y tanwariant terfynol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn cael ei ddefnyddio i leihau’r swm a hawlir o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru a’r gronfa adnoddau, a gofynnir am gymeradwyaeth pan gyflwynir yr adroddiad alldro i’r CBC.

 

I nodi llithriad ar y rhaglen gyfalaf, gydag amcangyfrif o wariant o £22.15m yn 2025/26 o’i gymharu â chyllideb gymeradwy o £29.61m ar gyfer y flwyddyn.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd bod yr adolygiad hwn o sefyllfa refeniw a chyfalaf 2025/26 wedi ei gymeradwyo fel rhan o’r adroddiad ‘Adolygiad 2025/26’ a gafodd ei gyflwyno i’r Cyd-Bwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod ar 23 Ionawr 2026.

 

Darparwyd amcan o sefyllfa ariannol y Cynllun Twf, gan gadarnhau yr amcanir tanwariant o £618,000 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Tynnwyd sylw mai tanwariant o £281,000 a ragwelwyd yn yr adolygiad ym mis Gorffennaf 2025 gan egluro bod y cynnydd hwn i’w weld yn bennaf oherwydd tanwariant pellach ym maes gwariant gweithwyr yn ogystal â rolau llywodraeth ychwanegol, gwasanaethau Cefnogol y corff atebol a phrosiectau.

 

Rhannwyd amcan o falansau cronfeydd y Cynllun Twf ar 31 Mawrth 2026 er gwybodaeth.

 

Adroddwyd ar broffil cyfalaf diwygiedig ar gyfer y Cynllun Twf gan egluro bod gostyngiad net o £7.46miliwn yn y gwariant disgwyliedig ar gyfer 2025/26. Nodwyd bod hyn yn deillio o lithriadau mewn rhai prosiectau. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod datblygiad prosiectau megis Cydnerth, Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol a Hwb Economi Wledig Glynllifon wedi cyfrannu at leihau’r tanwariant hwn.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i sylwadau am danwariant yn y maes gwariant gweithwyr, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol ei fod yn danwariant gan nad oedd modd penodi unigolion i rai swyddi nes yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. Ymhelaethwyd bydd opsiynau am beth i’w wneud gyda’r arian tanwariant hwn yn cael ei gyflwyno i’r Aelodau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nododd y Swyddog Monitro bod rhai cyllidebau wedi eu gwarchod yn dilyn trefniant trosglwyddo’r Cynllun Twf yn 2025.

 

Pryderwyd bod tanwariant o oddeutu £618,000 o fewn y Cynllun Twf, gan fod yr Awdurdodau Lleol yn dioddef pwysau o ddiffyg cyllidebu effeithiol. Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr nad oedd gan Uchelgais Gogledd Cymru incwm craidd rheolaidd a chyson gan bwysleisio bod ei sefyllfa ariannol yn wahanol i’r Awdurdodau Lleol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

8.

PARTH BUDDSODDI SIR Y FFLINT A WRECSAM - CYNLLUN CYFLAWNI BLYNYDDOL (ADP) BLWYDDYN 2 pdf eicon PDF 667 KB

Alwen Williams, Prif Weithredwr, ac Iain Taylor, AMION Conslting, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

  • Cymeradwyo dyraniadau buddsoddi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer Blwyddyn 2 a nodi’r dyraniadau ym Mlwyddyn 1 fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o’r rhaglen Blwyddyn 2.
  • Cymeradwyo’r Rhaglen Parth Buddsoddi, yn cynnwys dyraniad £4m i brosiect Porth Busnes Prifysgol Wrecsam.
  • Caniatáu i Swyddog A151 y CBC lofnodi a chyhoeddi dogfennau’r ADP i Lywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw fân ddiwygiadau amherthnasol pellach sy’n angenrheidiol i gytuno ar yr ADP  gyda Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Weithredwr ac ymgynghorydd IMT Consulting.

 

PENDERFYNIAD

 

·       Cymeradwyo dyraniadau buddsoddi’r Cynllun Cyflawni Blynyddol ar gyfer Blwyddyn 2 a nodi’r dyraniadau ym Mlwyddyn 1 fydd yn cael eu defnyddio fel rhan o’r rhaglen Blwyddyn 2.

·       Cymeradwyo’r Rhaglen Parth Buddsoddi, yn cynnwys dyraniad £4m i brosiect Porth Busnes Prifysgol Wrecsam.

·       Caniatáu i Swyddog A151 y CBC lofnodi a chyhoeddi dogfennau’r ADP i Lywodraeth y DU, a Llywodraeth Cymru a gwneud unrhyw fân ddiwygiadau amherthnasol pellach sy’n angenrheidiol i gytuno ar yr ADP  gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’n ofynnol i Barthau Buddsoddi gytuno ar Gynllunio Cyflawni Blynyddol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol er mwyn sicrhau’r taliad blynyddol gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill ym mhob blwyddyn ariannol.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi rhaglen arfaethedig Cynllun Cyflawni Blynyddol Blwyddyn 2 Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27. Manylwyd ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud yn ystod y flwyddyn gyntaf ac yn adrodd ar y dyraniadau sydd wedi eu cyflwyno i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Blwyddyn 2, gan gadarnhau y disgwylir iddo ddod i law ym mis Ebrill 2026. Ymfalchïwyd bod y datblygiad hwn yn sicrhau parhad datblygiad a momentwm y flwyddyn gyntaf.

 

Atgoffwyd yr aelodau o’r datblygiadau a gyflawnwyd o fewn y flwyddyn gyntaf, gan gynnwys sefydlu strwythur llywodraethiant y Rhaglen, ffurfio seilwedd cynllunio’r Rhaglen yn ogystal â datblygiad cychwynnol y prosiectau blaenoriaeth.

 

Tywyswyd yr Aelodau drwy’r dyraniadau sydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer Blwyddyn 2, yn ogystal â’r datblygiadau y disgwylir eu cyflawni i’r Rhaglen. Pwysleisiwyd bod y targedau hyn wedi eu ffurfio yn unol ag amcanion y Parth Buddsoddi gan eu bod yn ymwneud â themâu seilwaith, sgiliau, arloesi a chefnogaeth busnes.

 

Amlygwyd bod y cynllun hwn yn un sydd yn pwysleisio ar gyflawni, a’i fod yn adlewyrchu’r newid o’r flwyddyn gyntaf a oedd yn ffocysu ar sefydlu gweithdrefn gadarn. Edrychwyd ymlaen am flwyddyn brysur o ymgorffori’r prosiectau a gweithdrefnau yn ystod Blwyddyn 2.

 

Adroddwyd bod y cynllun arfaethedig yn ymgorffori newidiadau bychan a gytunwyd arnynt o fewn y flwyddyn gyntaf megis caniatáu £4miliwn i gefnogi prosiect Porth Busnes Prifysgol Wrecsam.

 

Cadarnhawyd bod ymgynghoriad wedi cael ei wneud gydag arweinwyr Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Sir Wrecsam a bod eu mewnbwn yn cael effaith ar lywodraethiant y Parth Buddsoddi. Ymhelaethwyd bod ymgynghoriadau yn elfen bwysig iawn o’r Parth Buddsoddi, gyda phob ymdrech i sicrhau ei fod yn ysbrydoli pobl ifanc, perchnogion busnes a bod pob unigolyn a all elwa o’r Parth Buddsoddi yn ymwybodol o sut y gall wneud hynny. Nodwyd bydd rhai o’r prosiectau yn cael eu cyflwyno i’r Aelodau er mwyn gallu miniogi’r ffordd orau o’u hyrwyddo’n ehangach.

 

Cyhoeddwyd bod Rhaglen Cefnogi Busnes wedi cael ei lansio yn ddiweddar, a’i fod yn Raglen ble mae Cyngor Sir Y Fflint a Chyngor Sir Wrecsam yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y prosiectau a ddewisir.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â  defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau.

 

Penderfyniad:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

 

Cofnod:

Pleidleisiwyd ar y cynnig i gau allan y wasg a’r cyhoedd a bu i’r Cynghorydd Nia Jeffreys atal ei phleidlais ar yr eitem hon.

 

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r CBC ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

10.

PADESWOOD - CAIS AM NEWID

Hedd Vaughan-Evans, Pennaeth Gweithrediadau, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cefnogi’r cais am newid gan Lywodraeth Cymru a dyrannu cyllid ychwanegol o’r Cynllun Twf a’r Parth Buddsoddi yn amodol ar:

 

  1. Dod i gytundeb ar materion a drafodwyd yn adran 6.3 (a) a (b) yr adroddiad.
  2. Y bydd buddsoddiad a nodwyd yn rhan 6.3(c) o’r adroddiad yn amod ariannu i’w weithredu cyn cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn a /neu ei gynnwys yn y Cytundeb Cyllido Grant, pa bynnag un sydd gynharaf.
  3. Y bydd cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn yn amodol ar y penderfyniadau buddsoddi yn adran 6.3(d)

 

Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar yr amodau a osodir gyda chymeradwyaeth derfynol i’w cheisio gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (yn amodol ar gyngor y Swyddog Monitro), mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

Bod yr Is-bwyllgor yn nodi bod rhannu’r cyllid rhwng y Cynllun Twf a’r Porth Buddsoddi yn destun trafodaethau a phenderfyniad ar wahân cyn cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

 

PENDERFYNWYD

 

Cefnogi’r cais am newid gan Lywodraeth Cymru a dyrannu cyllid ychwanegol o’r Cynllun Twf a’r Parth Buddsoddi yn amodol ar:

 

  1. Dod i gytundeb ar materion a drafodwyd yn adran 6.3 (a) a (b) yr adroddiad.
  2. Y bydd buddsoddiad a nodwyd yn rhan 6.3(c) o’r adroddiad yn amod ariannu i’w weithredu cyn cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn a /neu ei gynnwys yn y Cytundeb Cyllido Grant, pa bynnag un sydd gynharaf.
  3. Y bydd cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn yn amodol ar y penderfyniadau buddsoddi yn adran 6.3(d)

 

Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio i drafod gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar yr amodau a osodir gyda chymeradwyaeth derfynol i’w cheisio gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd (yn amodol ar gyngor y Swyddog Monitro), mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

 

Bod yr Is-bwyllgor yn nodi bod rhannu’r cyllid rhwng y Cynllun Twf a’r Porth Buddsoddi yn destun trafodaethau a phenderfyniad ar wahân cyn cymeradwyaeth yr Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

            Yn unol â’r broses rheoli newid sydd ar waith, i ystyried y cais am newid a gyflwynir a’i oblygiadau.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

11.

ACHOS BUSNES AMLINELLOL PORTH BUSNES WRECSAM

Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, i gyflwyno’r adroddiad.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Porth Busnes Wrecsam yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Prifysgol Wrecsam yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifiwyd yn Adran 7, a gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn.

 

Bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn cymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Nodi’r bwriad i rannu’r cyllid rhwng y Cynllun Twf a’r Parth Buddsoddi ac y bydd y sefyllfa hon yn cael ei chadarnhau yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gynrychiolwyr Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwywyd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Prosiect Porth Busnes Wrecsam yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i’r broses sicrwydd a gynhaliwyd, a bod Prifysgol Wrecsam yn mynd i’r afael â’r materion a nodir yn yr adroddiad, fel y’u disgrifiwyd yn Adran 7, a gofyn i Achos Busnes Llawn gael ei baratoi i’r Is-bwyllgor ei ystyried.

 

Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio mewn ymgynghoriad a’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gytuno ar delerau drafft yn unol â’r adroddiad hwn fel sail i’r trefniadau ariannu terfynol ar gyfer y prosiect gael eu hymrwymo yn amodol ar gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn.

 

Bod cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor yn ddilys am gyfnod o ddeuddeg mis ac os na fydd y prosiect yn mynd ymlaen i Achos Busnes Llawn gymeradwy yn ystod y cyfnod hwn, bydd yn ofynnol iddo ddychwelyd a chyflwyno’r achos busnes i’r Is-bwyllgor i’w gymeradwyo.

 

Nodi’r bwriad i rannu’r cyllid rhwng y Cynllun Twf a’r Parth Buddsoddi ac y bydd y sefyllfa hon yn cael ei chadarnhau yn ystod y cam Achos Busnes Llawn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ceisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor i'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Porth Busnes Wrecsam gan Brifysgol Wrecsam.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.