Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol ar Zoom

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines, Stephen Churchman, Nia Jeffreys, Linda A.Jones a Beca Roberts.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 361 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Hydref, 2022 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 7 – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2023/24 ac eitem 8 – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2023/24.

 

(1)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 7 ar y rhaglen - Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor 2023/24 am y rhesymau a nodir:-

 

·               Y Cynghorydd Jina Gwyrfai oherwydd bod aelod o’r teulu yn hawlio’r budd-dal.

·               Y Cynghorydd Gareth A.Roberts oherwydd bod aelod agos o’r teulu wedi derbyn disgownt Treth Cyngor.

·               Y Cynghorydd Dewi Jones oherwydd bod aelod o’r teulu yn derbyn gostyngiad.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

(2)     Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2023/24 am y rhesymau a nodir:-

 

·               Y Cynghorydd Jina Gwyrfai oherwydd bod ganddi dŷ gwag yn ei meddiant, ond yn bwriadu ei rentu i deulu Cymraeg lleol.

·               Y Cynghorydd Huw Llwyd Rowlands oherwydd bod perthynas agos iddo’n berchen ar ail eiddo yng Ngwynedd fydd yn debygol o gael ei effeithio gan unrhyw benderfyniad i gynyddu (neu leihau) y premiwm Treth Cyngor yn ystod 2023/24.

·               Y Cynghorydd Angela Russell oherwydd ei bod yn berchen ar ail gartref.

·               Y Cynghorydd Linda Morgan oherwydd bod ganddi deulu a ffrindiau gydag ail gartrefi ac eiddo gwag.

·               Y Cynghorydd Elfed P.Roberts oherwydd ei fod yn berchen ar eiddo sy’n cael ei osod a bod ganddo deulu sy’n gosod eiddo.

·               Y Cynghorydd Dewi Jones oherwydd bod aelod o’r teulu yn berchen tŷ gwag.

 

Roedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

·                Y Cynghorydd Dafydd Davies a’r teulu ar golli ei dad.

·                Y Cynghorydd Elin Walker Jones a’r teulu ar farwolaeth ei brawd. 

·                Y Cynghorydd Beth Lawton a’r teulu ar farwolaeth ei chwaer.

·                Y Cynghorydd Nia Jeffreys a’r teulu ar golli ewythr.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â’r canlynol:-

 

·         Teulu Godfrey Northam, fu’n cynrychioli ardal Bethesda ar y Cyngor hwn am sawl blwyddyn, ac un a roddodd flynyddoedd o wasanaeth i’w ardal.

·         Teulu Will Roberts, fu’n Brif Swyddog Stadau’r Cyngor am flynyddoedd lawer.

·         Teulu John Eryl Thomas, cyn Brif Swyddog Gweinyddol yr Adran Addysg am flynyddoedd lawer.

 

Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Louise Hughes, oedd wedi derbyn triniaeth yn ddiweddar, a hefyd i’r Cynghorydd Rob Triggs, oedd yn derbyn triniaeth ar hyn o bryd, ac i unrhyw un arall oedd wedi derbyn triniaeth yn ddiweddar.

 

Llongyfarchwyd Rhun ap Gareth, cyn ddirprwy Swyddog Monitro'r Cyngor hwn, ar ei benodiad diweddar yn Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i Ian Jones ar ei benodiad yn Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, ac yn Bennaeth Gwasanaeth Democratiaeth.

 

Hefyd, llongyfarchwyd y canlynol:-

 

·         Mared Jones o Glwb Dinas Mawddwy ar ennill Coron Eisteddfod Ffermwyr Ifanc yn Eisteddfod Cymru.

·         Clwb Dinas Mawddwy ar ennill Eisteddfod Meirionnydd.

·         Osian Pryce ar ennill Pencampwriaeth Prydain ym myd ralio.

 

Nodwyd y bu i CND Cymru drefnu taith 7 diwrnod o Orsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd i Orsaf Bŵer Niwclear Wylfa yn ddiweddar.  Cyfarfu’r Dirprwy Arweinydd â hwy wrth iddynt gyrraedd Caernarfon, a chyflwynwyd datganiad ganddynt iddi.  Nodwyd bod y datganiad yma ar gael i unrhyw un oedd yn dymuno ei weld.

 

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 356 KB

(a)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 y Cyfansoddiad.

 

Cwestiwn gan Mr Paul D.Gill (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

Pam bod y Cyngor yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor mewn ardal sy’n ddibynnol iawn ar y diwydiant twristiaeth a gwariant lleol gan dwristiaid heb ymchwil annibynnol ac adroddiad ar hynny i’r Cyngor ar effaith polisi o’r fath ar yr economi leol o gofio y bydd gorfodi’r cynnydd yn arwain at lai o wario’n lleol gan dwristiaid gan roi swyddi a busnesau lleol mewn perygl yn arbennig mewn cyfnod o chwyddiant a biliau ynni uchel? 

 

(b)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(A)      Cwestiwn gan Aelod o’r Cyhoedd

 

          Cwestiwn gan Mr Paul D.Gill (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

Pam bod y Cyngor yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor mewn ardal sy’n ddibynnol iawn ar y diwydiant twristiaeth a gwariant lleol gan dwristiaid, heb ymchwil annibynnol ac adroddiad ar hynny i’r Cyngor ar effaith polisi o’r fath ar yr economi leol, o gofio y bydd gorfodi’r cynnydd yn arwain at lai o wario’n lleol gan dwristiaid gan roi swyddi a busnesau lleol mewn perygl, yn arbennig mewn cyfnod o chwyddiant a biliau ynni uchel?

 

Ateb gan yr Aelod Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

Wrth roi’r grym i gynghorau i godi Premiwm ar Dreth Cyngor ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar gyfer gweinyddu’r Premiwm, sef Canllawiau Gweithredu Premiymau’r Dreth Gyngor ar Gartrefi Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi yng Nghymru.

 

Mae’r Canllawiau Statudol yn amlinellu’r math o ffactorau all fod o gymorth i awdurdodau lleol eu hystyried pan yn fwriad cyflwyno Premiwm.  Pob tro mae’r Cabinet a’r Cyngor llawn yn ystyried y Premiwm, mae’n ystyried y canllawiau hyn.

 

Mae’r Canllawiau Statudol yn gyfrwng i gynorthwyo awdurdodau lleol i adfer defnydd cartrefi gwag hirdymor er mwyn darparu cartrefi saff, diogel a fforddiadwy, a hefyd i gynorthwyo awdurdodau lleol i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaladwyedd cymunedau lleol.

 

Nod y Premiwm yw cynorthwyo’r maes tai, ac mae ymrwymiad gwariant y Cynllun Gweithredu Tai yn dystiolaeth o hyn.

 

Mae’r Premiwm yn ffordd ddiffuant o geisio taro balans rhwng effaith ail gartrefi ac eiddo gwag ar ein cymunedau a chynnal yr economi ymwelwyr.  Mae’r Cabinet yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd y diwydiant twristiaeth.  Rhaid i ni gael twristiaeth gynaliadwy a bydd hynny yn destun astudiaeth ar wahân maes o law.  Credwn mai sail economi gadarn yw economi lle mae gan bobl Gwynedd gartrefi, ac yn cyfrannu i’r economi leol. Allwn ni ddim anwybyddu sefyllfa lle amcangyfrifir y bydd 1,400 o unigolion wedi cyflwyno eu hunain yn ddigartref erbyn diwedd eleni – sef dwbl y nifer oedd yn cyflwyno cyn Covid-19.  Byddwn fel Cyngor yn lletya dros 600 o bobl mewn llety dros dro eleni, lle’r oedd y ffigwr oddeutu 200 cyn cyfnod Covid.  Nid dyma yw sylfaen economi gadarn, gynaliadwy.

 

Nid yw codi a chynyddu’r premiwm yn fater hawdd ac nid yw Cyngor Gwynedd erioed wedi honni ei fod yn ddewis syml.  Mae gofyn i aelodau bwyso a mesur nifer o ffactorau cyn dod i benderfyniad heddiw, gan gynnwys effaith y premiwm ar yr economi ymwelwyr.  Mae hyn yn un o’r negeseuon sy’n dod o ganlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ac yn cael sylw yn yr astudiaethau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad cynhwysfawr y bydd yr aelodau yn ystyried heddiw.

 

Cwestiwn Atodol gan Mr Paul D.Gill

 

Beth ydych chi’n ddweud wrth bobl leol sydd â busnesau lleol, fel rhai o’r bobl sydd yma heddiw, y bydd busnesau llawer ohonynt yn wynebu niwed sylweddol,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2023-24 pdf eicon PDF 342 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.         Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2023 fel ag yr oedd yn ystod 2022/23.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

a)    Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)    Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig.

c)    Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

2.   Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2023/24, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill, 2023.

 

Ar fater cyffredinol, nododd Arweinydd y Grŵp Annibynnol y byddai’n fuddiol i’r wrthblaid a phobl Gwynedd gael gwybod ymlaen llaw ar ba eitemau ar raglen y cyfarfod hwn roedd y Blaid wedi gosod chwip ar aelodau.  Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet Cyllid na osodwyd chwip ar unrhyw eitem ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD

 

1.         Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2023 fel ag yr oedd yn ystod 2022/23.  Felly, bydd yr amodau canlynol (a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau:

 

a)        Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd.

b)        Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd yn y Cynllun Rhagnodedig.

c)        Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig.

 

2.       Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2023/24, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun.

 

8.

TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A/NEU GODI PREMIWM pdf eicon PDF 682 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, bod Cyngor Gwynedd yn:

·         Caniatáu DIM disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y.dim newid o 2022/23).

·         Caniatáu DIM disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%)

·         Caniatáu DIM disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid o 2022/23).

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2023/24 o’r penderfyniadau blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt ar eiddo gwag, ac i godi Premiwm o 150% neu 100% ar eiddo perthnasol o’r fath.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid amlinelliad o brif bwyntiau’r ymgynghoriad cyhoeddus, gan ddiolch i’r Tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu a’r Tîm Ymchwil a Gwybodaeth am eu gwaith amhrisiadwy wrth baratoi’r ymgynghoriad a dadansoddi ei ganlyniad.  Diolchodd hefyd i’w gyd-weithwyr yn yr Adran Gyllid oedd wedi cynorthwyo gyda’r gwaith.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. 

 

Nododd aelod:-

 

·         Ei fod yn croesawu’r ychwanegiadau i’r hyn fu gerbron y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ond nad oedd yn argyhoeddedig bod yr ychwanegiadau, ac yn benodol y cyfeiriad at adroddiad Simon Brookes ar ail-gartrefi, wedi’u hystyried yn ddwys iawn.

·         Bod effaith tŷ haf ar broffil ieithyddol ardal yn llai nag effaith aelwyd breswyl ddi-gymraeg, ac nad oedd yr adroddiad yn llwyr ystyried yr effaith debygol o gynyddu’r Premiwm ar y ganran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yn yr ardaloedd hynny, na’r effaith uniongyrchol sy’n debygol o fod ar y boblogaeth frodorol.

·         Bod peryg’ i’r cynnig, fel yr oedd, esgor ar ganlyniadau anfwriadol a gwyrdroëdig, sef yn bennaf, cymell brodorion i werthu eiddo i estroniaid a chymell perchnogion tai haf i’w troi’n aelwydydd preswyl.

·         Na chredai fod yr adroddiad yn rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd o weithio o adref, effeithiau’r pandemig na dyfodiad Ffordd Osgoi Bontnewydd, oedd i gyd yn hwyluso’r shifft ddemograffig.

·         Nad oedd yna boblogaeth ddihysbydd o siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd yma na galw cyfatebol am dai i nifer y tai haf sydd gennym yn yr ardaloedd.  Roedd y sefyllfa ddemograffig/ieithyddol yn y bröydd yma yn neilltuol fregus, ac roedd adroddiad Brookes yn cyfeirio at ganlyniadau catastroffig symud yn rhy sydyn i leihau niferoedd tai haf.

 

Ar sail y dadleuon hyn, cynigiodd yr aelod y gwelliant canlynol, a gafodd ei eilio:-

 

Na ddylid cynyddu’r Premiwm ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, ac y dylid cael asesiad effaith ieithyddol cynhwysfawr o effeithiau tebygol cynyddu’r Premiwm, eglurder ynglŷn â’r eithriadau, gan hefyd roi ystyriaeth lawn i’r mesurau eraill i reoli tai haf.

 

Nododd aelod y byddai’n well petai’r Cyngor yn pleidleisio ar dri chymal yr argymhelliad ar wahân, gan fod yma rai pethau yma y byddai’n eu cefnogi, ac eraill y byddai’n eu gwrthwynebu.

 

Cefnogwyd y gwelliant gan nifer o aelodau.  Nodwyd:-

 

·         Os cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, na ddylid diystyru’r canlyniadau, ac roedd 75% o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu codi’r Premiwm am resymau ieithyddol ac economaidd.

·         Bod perchnogion ail-gartrefi yn gwario’n lleol, ac y byddai cynyddu’r Premiwm yn cael effaith andwyol ar fusnesau’r ardal, megis siopau, bwytai a thafarndai, adeiladwyr, plymwyr a thrydanwyr, wrth i fwy a mwy o ail gartrefi gael eu rhoi ar y farchnad.

·         Gan fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno o’r diwedd i wahaniaethu rhwng cartref a thŷ haf, ac wedi cyflwyno Erthygl 4, fel bod modd i awdurdod lleol benderfynu pa drothwyon sy’n dderbyniol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD HUNAN-ARFARNIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 376 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a mabwysiadu adroddiad Hunanasesiad Cyngor Gwynedd ar gyfer 2021/22.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gymeradwyo a mabwysiadu adroddiad Hunanasesiad cyntaf Cyngor Gwynedd, gan edrych yn ôl ar 2021/22.  Eglurwyd bod yr adroddiad yn ofyn statudol newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a mabwysiadu adroddiad Hunanasesiad Cyngor Gwynedd ar gyfer 2021/22.

 

10.

PENODI AELODAU I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi Mr Mark Jones yn Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn argymell i’r Cyngor benodi Mr Mark Jones yn Aelod Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd.

 

Ar ran aelodau’r Pwyllgor Safonau, diolchwyd i’r Dr Einir Young am ei gwaith yn cadeirio ac yn arwain y pwyllgor ar hyd y blynyddoedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod anhawster cael pobl o’r tu allan i wasanaethu fel aelodau annibynnol ar y Pwyllgor Safonau, a hefyd fel aelodau lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, yn broblem gyffredinol, ac y byddai’r Swyddog Monitro yn gwneud y sylw hwnnw pan fyddai’n siarad nesaf gyda swyddogion y Llywodraeth.

 

PENDERFYNWYD penodi Mr Mark Jones yn Aelod Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod o 6 blynedd.

 

11.

ARGYMHELLIAD PANEL CYFWELD - PENODI AELOD LLEYG O'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Cyfweld.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi Mrs Carys Edwards fel Aelod Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o 5 mlynedd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Panel Cyfweld, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn argymell i’r Cyngor benodi Mrs Carys Edwards fel Aelod Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o 5 mlynedd.

 

PENDERFYNWYD penodi Mrs Carys Edwards fel Aelod Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gyfnod o 5 mlynedd.

 

12.

CYNLLUN DEISEBAU pdf eicon PDF 197 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Cynllun Deisebau.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Jones, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Deisebau, yn unol â gofynion Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Cynllun Deisebau.

 

13.

CEFNOGAETH I GYNGHORWYR - ADRODD YN OL AR GANLYNIADAU HOLIADUR I GYNGHORWYR pdf eicon PDF 687 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth gan ofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ddefnyddio’r canlyniadau fel sail i sefydlu calendr pwyllgorau 2023/24 yn unol ag arweiniad y Canllawiau statudol perthnasol.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Jones, adroddiad ar ganlyniadau holiadur a yrrwyd at yr holl gynghorwyr ym mis Hydref 2022, yn ceisio’u barn ynglŷn ag amseriad cyfarfodydd y Cyngor, bodlonrwydd gyda gwasanaeth y Tim Democratiaeth a chyfathrebu gyda chynghorwyr.

 

Nododd aelod y byddai symud cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i 10yb yn golygu y byddai’n rhaid cynnal ymweliadau safle ar y dydd Gwener cynt, gan arwain at gostau ychwanegol diangen.  Mewn ymateb, eglurwyd bod yr adroddiad yn adrodd er gwybodaeth ar ganlyniadau’r holiadur, ac y byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth bellach i’r canlyniadau hyn law yn llaw ag ymarferoldeb / goblygiadau newid yr amser wrth fwrw ymlaen i drefnu calendr pwyllgorau'r flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth gan ofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ddefnyddio’r canlyniadau fel sail i sefydlu calendr pwyllgorau 2023/24, yn unol ag arweiniad y Canllawiau statudol perthnasol.

 

14.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

14a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Huw Rowlands

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Huw Rowlands yn cynnig fel a ganlyn:-  

 

Cynigiaf fod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.

 

Cofnod:

 

(A)  Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Huw Rowlands o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti West Coast a Thrafnidiaeth Cymru yng Ngwynedd, ac effaith negyddol hynny ar drigolion ac economi’r Sir.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig gan nodi:-

 

·                Bod y prisiau a godir am docynnau yn hollol anghymesur gyda safon y gwasanaeth, gyda threnau’n hwyr, wedi eu canslo, yn orlawn a budr, a dim gwarant o sedd, er y gall gostio hyd at £100 i deithio un ffordd o Fangor i Gaerdydd ar rai gwasanaethau.

·                Bod pobl sy’n teithio i’r gwaith yng Ngwynedd, ac yn ddibynnol ar y gwasanaeth trên i wneud hynny, yn aml yn hwyr i’r gwaith wedi i drenau gael eu canslo’n ddirybudd, neu’n gorfod sefyll drwy gydol y daith.

·                Bod yna enghreifftiau lu o drenau gorlawn yn mynd i Gaerdydd ar ddiwrnodau gemau rygbi a phêl-droed rhyngwladol, gyda’r trenau’n llawn yn gadael Bangor hyd yn oed, a dim ond 2 gerbyd, er gwaetha’r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn gwybod am y gemau fisoedd ymlaen llaw.

·                Bod hyn oll yn cael effaith niweidiol ar economi a lles pobl Gwynedd, a hefyd ar ein delwedd yn rhyngwladol gan ymwelwyr o dramor.

·                Bod £100bn yn cael ei fuddsoddi yn Lloegr er mwyn creu gwasanaeth HS2, a hynny gydag arian trethdalwyr, gan gynnwys trethdalwyr Cymru, sef arian nad ydym ni yng Ngwynedd yn cael unrhyw fudd ohono.

·                Bod y gwasanaeth uniongyrchol o Fangor i Lundain wedi’i gwtogi’n sylweddol ers y cyfnod Covid, a dim dyddiad pendant pryd y bydd y gwasanaethau yma’n cael eu hail-gychwyn i’w lefel blaenorol, os o gwbl.  Dylid cofio hefyd bod y gwasanaeth o Fangor i Lundain yn cysylltu prif ddinasoedd Dulyn a Llundain, ac nid trac i unlle ydyw.

·                Y gwelwyd gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y trenau sy’n rhedeg yn uniongyrchol o Fangor i Gaerdydd.

·                Pam ddylai trigolion Gwynedd fod yn drigolion eilradd a gorfod newid yn Crewe er mwyn dal trên o Fanceinion i Lundain?

·                Bod pryder hefyd ynglŷn â safon y gwasanaeth cwsmer a diffyg argaeledd rhai math o docynnau.

·                Bod y gwasanaeth trên yng Ngwynedd wedi gwaethygu, nid gwella, dros y blynyddoedd diwethaf, a bod pobl Gwynedd yn haeddu gwell na derbyn yn ddi-gwestiwn gwasanaeth sydd ymhlith y salaf yn Ewrop.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Nodwyd:-

 

·         Ei bod yn bwysig peidio cymharu Avanti West Coast gyda Rheilffordd y Cambrian a’r llinell rhwng Aberystwyth ac Amwythig, gan fod y Cambrian yn gwrando ar gwynion ac wedi buddsoddi’n sylweddol yn y rheilffordd.

·         Bod angen cyswllt llawer mwy clir a hawdd a rheolaidd i’r byd o Bwllheli. 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn ysgrifennu at y Llywodraethau a’r cwmnïoedd trên perthnasol, gan fynegi anfodlonrwydd am safon y gwasanaethau trên a ddarperir gan Avanti  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14a

14b

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Llio Elenid Owen yn cynnig fel a ganlyn:- 

 

“Mae Ambiwlans Awyr Cymru (AAC) yn wasanaeth meddygol brys tyngedfennol a hollol hanfodol i drigolion Gwynedd. Mi fyddai cau eu safleoedd presennol yn Ninas Dinlle a’r Trallwng a’i ganoli yng ngogledd ddwyrain Cymru yn arafu’r ymateb brys i’r ardaloedd pellaf ac anoddaf eu cyrraedd. Mae hyn yn bryder eithriadol i’n trigolion yma yng Ngwynedd. Bydd hyn hefyd yn golygu bod gwasanaeth eithriadol o bwysig arall yn symud o ogledd orllewin Cymru i’r gogledd ddwyrain, a hynny ar draul ein cymunedau gwledig.   

 

Mae natur wledig a ffyrdd diarffordd yn gwneud achub bywydau yn ein hardaloedd yma yng Ngwynedd yn heriol, a bydd adleoli AAC yn fwy fyth o her.

 

Rhaid diogelu’r gwasanaeth amhrisiadwy yma.

 

Cynigiaf felly bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r cyrff perthnasol i gadw’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r cyrff perthnasol i gadw’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol.

 

Cofnod:

 

(B) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Llio Elenid Owen o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Ambiwlans Awyr Cymru a’r cyrff perthnasol i gadw’r canolfannau yn Ninas Dinlle a’r Trallwng, ac adeiladu ar y gwasanaethau yn eu lleoliadau presennol.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig gan nodi:-

 

·                Ein bod fel cynghorwyr yn awyddus i ddatgan yn glir ein cefnogaeth a’n diolch ni, fel pobl leol, i elusen Ambiwlans Awyr Cymru.  Mae’r gwaith maen nhw’n ei wneud er mwyn darparu gofal brys yn ein cymunedau yn gwbl amhrisiadwy.  Mae gan elusen Ambiwlans Awyr Cymru ran bwysig i’w chwarae yma yng Ngwynedd, mae’n un o’r elusennau sydd agosaf at galonnau pobl, yn arbennig yn fy nghymuned leol i yn ardal Dinas Dinlle.

·                Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn wasanaeth meddygol brys tyngedfennol ac mae’n gwbl hanfodol i drigolion Gwynedd.  Mae’r natur wledig a’r rhwydweithiau ffyrdd yn gwneud achub bywydau yng Ngwynedd yn heriol ar y gorau. Byddai ail-leoli’r gwasanaeth yng ngogledd ddwyrain Cymru, heb os, yn achosi mwy fyth o her i’r ardal.

·                Deellir nad yw hyn yn gyfan gwbl yn nwylo’r elusen.  Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS Cymru) a’r Pwyllgor Gwasanaeth Ambiwlans Brys yn chwarae rhan yn y cynnig a’r cynlluniau hyn, a chroesawyd y cyfle i gyfarfod â Phrif Weithredwr yr Ambiwlans Awyr, er mwyn deall eu safbwynt a’u sefyllfa hwy.

·                Mae heriau eisoes yn wynebu gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ac mae yna gymunedau cyfan yma yng Ngwynedd sy’n hollol ddibynnol ar yr elusen mewn argyfwng.  Sut bydd newidiadau i’r Ambiwlans Awyr yn effeithio ar y gwasanaeth a ddarperir i drigolion Gwynedd?  A fydd hyn yn golygu arafu’r ymateb brys? A fydd yna risg o golli bywydau? A oes sicrwydd na fydd unrhyw newid effaith andwyol ar gyrraedd preswylwyr? 

·                Mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys yn nodi y bydd y newidiadau i’r gwasanaeth yn lleihau annhegwch daearyddol i gleifion sydd ag anghenion gofal critigol, ond ni ddeellir sut yn union y byddai’r ail-leoli yn cyflawni hynny, ac mae’n anodd gweld sut y gallai hyn arwain at ddim byd ond amser aros hirach am ofal brys mewn rhai ardaloedd.

·                Mae’r cynnig o ail-leoli yn nodi y bydd modd ateb y galw a mynd allan 580 o weithiau yn fwy’r flwyddyn, ond mae yna amheuaeth fawr ynghylch dibynadwyedd y data sy’n cael ei ddefnyddio i drio cyfiawnhau hyn.  Mae hyn wedi cael ei ategu gan ein Haelodau Seneddol, ac mae gormod o gwestiynau pwysig heb eu hateb.  I’r perwyl hynny, mae Aelodau Plaid Cymru yn y Senedd wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i gomisiynu dadansoddiad annibynnol eu hunain o’r data hyn.

·                Holl bwrpas yr Ambiwlans Awyr yw gwasanaethu’r ardaloedd mwyaf gwledig, ac nid oes synnwyr o gwbl yn ei symud o Ddinas Dinlle, nac o’r Trallwng, sydd ar gyrion rhai o ardaloedd mwy pellgyrhaeddol a gwledig Cymru, a’i symud i ardal boblog ar gyrion ffordd ddeuol yr A55 yn y gogledd ddwyrain.

·                Mae bywydau ein  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14b

14c

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho o dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:- 

 

“Bod y Cyngor yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i ail agor rheilffyrdd Cymru, i greu rheilffordd drwy orllewin Cymru, ac yn galw arnynt am astudiaeth sgôp / dichonoldeb o’r linell rhwng Afon wen a Bangor.”

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cyngor yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i ail agor rheilffyrdd Cymru, i greu rheilffordd drwy orllewin Cymru, ac yn galw arnynt am astudiaeth sgôp/dichonoldeb o’r linell rhwng Afon wen a Bangor.

 

Cofnod:

 

(C) Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Bod y Cyngor yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i ail agor rheilffyrdd Cymru, i greu rheilffordd drwy orllewin Cymru, ac yn galw arnynt am astudiaeth sgôp/dichonoldeb o’r llinell rhwng Afon wen a Bangor.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig gan nodi:-

 

·                Bod toriadau Beeching wedi bod yn boenus iawn ar ein cenedl yn y 60au.  Rhwygwyd cannoedd o filltiroedd o linellau trenau o’r ddaear, gan adael dim ond creithiau ar y tir lle arferai’r cledrau groesi am dros ganrif.

·                Unwaith y diflannodd y trenau, roedd y cymunedau o gwmpas yr hen lein bellach yn bell i ffwrdd o’i gilydd, a doedd car ddim yn rhwymo’r cymunedau gwledig yma fel y byddai’r trên wedi gwneud.  Yn ogystal â rhoi sicrwydd i drigolion o allu teithio o un man i’r llall, roedd y trenau’n golygu llai o bwysau ar y ffyrdd, ac yn cynnig opsiwn amgen i deithio mewn car i bellteroedd y wlad.

·                Ei bod yn wallgof ei bod yn cymryd gymaint o amser i ni gyrraedd ein prifddinas ein hunain, a’n bod yn cael ein gorfodi i fynd drwy wlad arall er mwyn ei chyrraedd.

·                Ei bod yn allweddol bod gan Gymru linell sy’n cysylltu ein cymunedau unwaith eto.

·                Byddai’r llinell ar ei newydd wedd, nid yn unig yn cysylltu ein cenedl ar y tu mewn, ond yn rhoi hwb anferthol i’n heconomi, gan greu swyddi newydd, cyfleoedd am ddatblygiadau economaidd newydd, a byddai’n sbardun i’r cymunedau gwasgar o gwmpas y Sir.

·                Byddai rheilffordd o'r de i'r gogledd, nid yn unig yn asgwrn cefn modern i'n system drafnidiaeth genedlaethol ni, ond hefyd yn atgyfnerthu ein hyder ni fel cenedl.

 

Mynegodd nifer o aelodau eu cefnogaeth i’r cynnig.

 

Nododd aelod bwysigrwydd sicrhau na fyddai unrhyw gynlluniau i ail-agor rheilffyrdd yn amharu ar lonydd glas, megis Lôn Eifion.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Bod y Cyngor yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i ail agor rheilffyrdd Cymru, i greu rheilffordd drwy orllewin Cymru, ac yn galw arnynt am astudiaeth sgôp/dichonoldeb o’r llinell rhwng Afon wen a Bangor.

 

 

15.

YMATEBION I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 157 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ab Elwyn i gyfarfod 6 Hydref, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â’r teitl Tywysog Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth – llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn i gyfarfod 6 Hydref, 2022 o’r Cyngor ynglŷn â’r teitl Tywysog Cymru.