Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Elin Hywel, Kim Jones,
June Jones, Meryl Roberts ac Elfed Williams. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2022 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd
y Swyddog Monitro fuddiant personol yn eitem 7 - Adolygiad Blynyddol – Polisi
Tâl y Cyngor 2023/24, ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol, gan fod yr
adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau. Roedd o’r farn bod
gan y swyddogion fuddiant o sylwedd, ac ynghyd â’r ddau Gyfarwyddwr
Corfforaethol, Y Pennaeth Cyllid Statudol, y Pennaeth Tai ac Eiddo, Y Pennaeth
Gwasanaethau Democratiaeth a’r Pennaeth Economi a Chymuned, gadawodd y Swyddog
Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, gan nad oeddent angen bod
yn bresennol i gynghori. Arhosodd y Prif
Weithredwr i mewn yn y cyfarfod i gynghori. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â theulu’r cyn-gynghorydd Caerwyn Roberts, a fu farw’n ddiweddar, a
rhoddwyd teyrnged iddo gan yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn. Cydymdeimlwyd â’r canlynol hefyd:- ·
Teulu’r cyn-gynghorydd
Dafydd Thomas, Penmorfa, a fu’n aelod o’r Cyngor hwn a’r cyn-Gyngor Sir Gwynedd
am sawl blwyddyn. ·
Steffan
Jones, Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd, ar golli ei
Dad. ·
Teulu
Syr Meuric Rees, Escuan, Tywyn, cyn-Arglwydd Raglaw Gwynedd a fu farw ddoe. Nodwyd hefyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir
oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Llongyfarchwyd syrffiwr o Wynedd oedd wedi creu hanes drwy ddod yn
bencampwr byd syrffio cyntaf Cymru.
Enillodd Llywelyn 'Sponge' Williams fedal aur i Gymru ym
Mhencampwriaethau Para Syrffio'r Byd ISA 2022 yng Nghaliffornia. Estynnwyd llongyfarchiadau
hefyd i Dr Kathryn Whittey o Lanelltyd, yn un o 180 o ferched a ddewiswyd o 25
gwlad gan Homeward Bound, i deithio i Antarctica gydag arweinwyr benywaidd mewn
gwyddoniaeth, sydd wedi ymrwymo i arwain, dylanwadu a chyfrannu at
gynaliadwyedd ein planed. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.) (1) Cwestiwn
Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts “Pa drefniadau a wnaed gan yr Adran Addysg i sefydlu faint yn union o
blant Gwynedd sy’n cael addysg drwy gyfrwng y Saesneg?” Ateb – Aelod Cabinet
Addysg, y Cynghorydd Beca Brown “Mae’n braf derbyn cwestiynau fel hyn achos mae’n gyfle i mi allu datgan
a’ch atgoffa unwaith eto pa mor unigryw ac arloesol ydi ein sefyllfa ni yn y
sir yma. Mae cyd-destun Gwynedd, wrth
gwrs, yn wahanol i’r mwyafrif llethol o siroedd Cymru yn yr ystyr bod ein
hysgolion ni yn bodoli o fewn cyd-destun sy’n gydnaws â’n nod o sicrhau
dwyieithrwydd i bawb. Mae’r ddwy iaith
yn gyfrwng dysgu i wahanol raddau, ac oherwydd hynny, wrth gwrs, mae holl blant
Gwynedd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n sefyllfa
unigryw ac yn glod i weledigaeth Gwynedd ers blynyddoedd lawer erbyn hyn.” Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Richard Glyn Roberts “O ystyried nad
oes yna unrhyw ddisgyblion yn astudio o leiaf 3 pwnc Cyfnod Allweddol 4 drwy
gyfrwng y Gymraeg, oni bai am Gymraeg, yn Ysgol Friars, a bod y sefyllfa
rhywbeth yn debyg yn Ysgol Tywyn, a bod yna nifer nid ansylweddol o ddisgyblion
mewn ysgolion eraill, Dyffryn Nantlle, er enghraifft, nad ydyn nhw’n astudio o
leiaf 3 pwnc Cyfnod Allweddol 4 drwy gyfrwng y Gymraeg, a fyddai’n deg dweud
bod yna rai cannoedd o blant yn ysgolion uwchradd Gwynedd sy’n gallu osgoi
addysg Gymraeg yn gyfan gwbl, ac mae’n debyg mai Saesneg fyddai iaith addysg y
rheini?” Ateb – Aelod Cabinet
Addysg, y Cynghorydd Beca Brown “O ran osgoi’r
Gymraeg, o ystyried bod y Gymraeg yn rhywbeth sy’n mynd y tu hwnt i wersi ac yn
digwydd mewn cyfnodau bugeiliol, gwasanaethau, chwaraeon, ac ati, rwy’n meddwl
ei bod yn anodd iawn iawn i rywun osgoi’r Gymraeg mewn unrhyw ysgol yng
Ngwynedd. Fel y gwyddom i gyd, mae gennym 2 ysgol uwchradd yng Nghategori 3 Trosiannol yn y sir, ac mae yna waith caled yn digwydd yn y fan honno er mwyn gwella’r ddarpariaeth yn yr ysgolion hynny. Mae yna Swyddog Datblygu’r Gymraeg wedi ei chyflogi yn Ysgol Friars. Mi fuaswn yn tynnu sylw at y ganran sydd, efallai, y mesurydd mwyaf pendant sydd gennym o ran nifer y plant sy’n medru’r Gymraeg yng Ngwynedd, ac mae 88% o’r plant rhwng 5 ac 15 oed yn medru’r Gymraeg o gymharu â 64% o’r boblogaeth gyffredin, sy’n dangos llwyddiant addysg Gymraeg y sir, ond wrth gwrs, mae angen gweithio hefo’r ysgolion a nodwyd a gweithio ar draws y sector yn gyffredinol. Dyna pam bod Fforwm Iaith newydd ei sefydlu er mwyn cadw’r CSGA (Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg) ar drac, a dyna pam bod yna Grŵp Tasg a Gorffen yn ymchwilio i mewn i’r ddarpariaeth bresennol ar draws y sector uwchradd i gyd. Hefyd, dyna pam rydw i’n edrych ymlaen yn arw i weld beth fydd y canfyddiadau a ddaw o’r gwaith ymchwil hynny, ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2023/24 PDF 267 KB Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo
argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar
gyfer 2023 / 24. Cofnod: Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd
Dafydd Meurig adroddiad yn argymell i’r Cyngor
gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi
Tâl ar gyfer 2023/24. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Nododd aelod na allai gefnogi’r argymhelliad gan fod rhai prif swyddogion
yn llawer llai parod eu cymorth nag eraill.
Nododd ei rhwystredigaeth hefyd bod Galw Gwynedd yn aml yn methu rhoi
galwadau drwodd i’r adrannau gan fod neb yn ateb. Holwyd sut y daethpwyd i’r casgliad bod risg i allu’r Cyngor i recriwtio
a chadw i rai swyddi uwch swyddogion.
Mewn ymateb, eglurwyd:- ·
Bod y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion wedi ystyried
dau adroddiad dros gyfnod o 3 blynedd yn edrych ar y lefel risg, gan edrych ar
faint o swyddi sydd wedi bod ar gael mewn awdurdodau eraill ac mewn sefydliadau
cyhoeddus eraill. ·
Nad oedd yna unrhyw ymgeisydd allanol ar y 7 rhestr
fer fwyaf diweddar am swydd pennaeth yng Nghyngor Gwynedd. Nid oedd hynny i ddweud nad oedd y rhai a
benodwyd i’r swyddi yn gwneud gwaith ardderchog, ond roedd y Cyngor yn methu
denu ymgeiswyr allanol o gwbl. ·
Bod y Cyngor yn cystadlu, nid yn unig yn erbyn
cynghorau eraill, ond yn erbyn sefydliadau cyhoeddus eraill a sefydliadau
cenedlaethol, a phe na lwyddid i ddenu neb i mewn, bod risg gwirioneddol o
fethu gweithredu ar y lefel yma. ·
Er bod yr adroddiad hwn yn ymwneud yn benodol â
swyddi prif swyddogion, ei bod yn galonogol gallu adrodd bod £1.7m ychwanegol
yn cael ei gynnig yn y gyllideb eleni er mwyn ymdrin â chyflogau swyddi
gofalwyr, a thrwy hynny gyfarch y risg sylweddol o fethu recriwtio yn y maes
yma gobeithio. PENDERFYNWYD
cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi
Tâl ar gyfer 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD - 2023-28 PDF 126 KB Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28. Cofnod: Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gwahodd y Cyngor i
fabwysiadu Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.
Manylodd hefyd ar y cyd-destun gwleidyddol sy’n sail i’r holl
gynllun. Nododd:- ·
I
gyflawni’r cynlluniau, bod rhaid cael adnoddau digonol, a bod y pwysau ariannol
sylweddol ar y Cyngor o ganlyniad i chwyddiant a’r argyfwng costau byw yn cael
effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau. ·
Y
dymunai wneud yn berffaith glir mai cyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan yn
bennaf yw hyn, ond bod neges yma hefyd i’r Gweinidogion Llafur yng Nghaerdydd,
sy’n rhannu’r un egwyddorion sylfaenol â ni, heblaw am y ffaith ein bod ni’n
dymuno gweld ein cenedl yn rheoli ein gwlad ein hunain. ·
Bod
y Gweinidogion yn Llundain yn sarhau Llywodraeth Cymru, ein setliad
datganoledig a’n gweinidogion, ac yn ein trin gyda sen. Roedd y ‘Levelling-Up
Fund’ a’r ‘Shared Prosperity Fund’ yn
enghreifftiau clir o hyn. Rhoddwyd
addewid i ni yn flaenorol y byddai Cymru yn derbyn ‘not one
penny less of European money’, ond byddem
yn derbyn £1.2bn yn llai dros y 3 blynedd nesaf. Nid oedd yna unrhyw beth yn y ‘Shared Prosperity Fund’ sy’n fwy na’r hyn rydym ni’n haeddu – ein harian
ni ydyw! ·
Y
bu awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn paratoi am flynyddoedd ar gyfer
gwneud buddsoddiad rhanbarthol ar gyfer y cyfnod wedi i’r cronfeydd Ewropeaidd
ddod i ben, ond roedd Llywodraeth San Steffan wedi diystyru’r cynlluniau hynny
yn llwyr. Nid oedd ganddynt gynllun
hirdymor ar gyfer dosbarthu’r arian, ac nid oedd yn glir sut roeddent yn dod i
benderfyniad ar nifer o’r cronfeydd yma. ·
Y
bu Cyngor Gwynedd yn ffodus o gael arian ar gyfer yr ardaloedd llechi, ond ni
lwyddwyd i gael arian ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr, ac roedd y Dirprwy Weinidog
Newid Hinsawdd, Lee Waters, yn ei gyhuddo o fynd y tu
ôl i’r drefn ddatganoledig yn y cais i’r gronfa i gael ffordd osgoi i Lanbedr. Nid oedd am
ymddiheuro am hynny, gan mai ein harian ni ydoedd! ·
Y
dymunai alw ar ei gyfeillion yn y Blaid Lafur yng Nghymru, sy’n rhannu’r un
egwyddorion sylfaenol â ni o ran tegwch cymdeithasol, i sefyll i fyny am
unwaith dros Gymru, a gwrthod mynd ar ofyn Llundain. ·
Iddo
wneud datganiad yn y dyddiau diwethaf ynglŷn â gwyliau banc, a’i bod yn
sarhaus mai Cymru yw’r unig ran o’r wladwriaeth ddatganoledig sydd heb yr
awdurdod i benderfynu ar ei gwyliau banc ei hun. Diolchodd yr
Arweinydd i’r Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes a’i dîm am y gwaith o baratoi
Cynllun y Cyngor. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Nodwyd
bod yr uchelgais a’r weledigaeth i’w gweld yn glir drwy’r cynllun cyfan. · Nodwyd bod yna ddyheadau clodwiw yma, ond dyheadau’n unig, a phwysleisiwyd y dylai cynllun gynnwys strategaeth, amserlen a meini prawf i fesur llwyddiant. Mewn ymateb, eglurwyd bod yna brosiectau yma, ac y bydd yna fesuryddion ac adrodd yn ôl ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
STRATEGAETH CYFALAF 2023/24 (YN CYNNWYS STRATEGAETH BUDDSODDI A BENTHYCA) PDF 544 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r
Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24 Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn rhoi
trosolwg lefel uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a
gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
lleol. ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi
trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd
ariannol yn y dyfodol. Nododd aelod fod cyflwyniad diweddar Arlingclose,
Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor, ar gyfer aelodau’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio a’r Aelodau Cabinet wedi bod yn hynod fuddiol o
safbwynt dealltwriaeth o’r maes cymhleth a thechnegol hwn, ac awgrymodd y
byddai’n dda o beth petai holl aelodau’r Cyngor yn cael y cyfle i fynychu’r
cyflwyniad blynyddol hwn. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2023/24. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd
gan y Cabinet, sef:- (a) Sefydlu cyllideb o £317,880,310 ar gyfer
2023/24 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £227,842,930 a £90,037,380 o incwm
o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 4.95% ar dreth anheddau unigol). (b) Sefydlu rhaglen gyfalaf o £67,780,150 yn
2023/24 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. 2. Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen
benderfyniad dyddiedig 6 Ionawr 2023, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a
ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran
33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):- (a) 56,182.77 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen drethiannol
Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor)
(Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn. (b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned –
sef y symiau a gyfrifwyd
fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y
rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol. 3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer
y flwyddyn 2023/24 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
|