Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Cofnod: |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen. Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â
gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y
cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i
ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan bwysleisio nad
oedd dim pleser o ddod ac adroddiad o’r fath i’r Cabinet i’w thrafod. Nodwyd
fod dyletswydd y Cabinet i sicrhau addysg a phrofiadau da i holl blant Gwynedd
yn wraidd i’r adroddiad hwn. Amlygwyd fod y Cabinet ym Medi 2019 wedi
penderfynu cychwyn trafodaeth ar Llywodraethwyr a rhan ddeiliad yr ysgol i
ystyried gwahanol opsiynau yn dilyn lleihad mewn nifer y plant yn yr ysgol.
Diolchwyd iddynt am eu cyfraniad i’r drafodaeth. Tynnwyd sylw at Egwyddorion
Addysg i Bwrpas a dderbyniwyd gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2018 gan amlygu’r
ddwy egwyddor sydd yn cyd-fynd a’r
adroddiad. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn gynhwysfawr ac y bydd yr adran yn
parhau i dderbyn sylwadau pellach yn ystod y cyfnod statudol. Ychwanegodd y Swyddog Addysg Ardal
Meirionnydd / Dwyfor fod y drafodaeth sydd wedi ei gynnal ar hyn o bryd wedi
bod yn edrych ar opsiynau posib er mwyn sicrhau darpariaeth hyfiw
i’r dyfodol. Pwysleisiwyd fod gwaith
cael ei wneud gan y rhan ddeiliad i sefydlu cylch meithrin ac i ymestyn i ofal
plant yn sgil y drafodaeth sydd wedi ei gynnal. Amlygwyd yr opsiynau sydd wedi
ei thrafod ar ran ddeiliad gan nodi fod gwaith wedi ei wneud i’w gwyntyllu.
Nodwyd mai’r opsiwn sydd yn cael ei ffafrio gan Swyddogion yw cau’r ysgol a
symud y plant i Ysgol Sarn Bach. Os yn caniatáu'r penderfyniad heddiw, nodwyd y
bydd yr ymgynghoriad statudol yn cychwyn o fewn yr wythnosau nesaf. Amlygwyd
fod oediad wedi bod yn y broses ac o
ganlyniad bydd yr adran yn ail wneud rhai o’r asesiadau effaith. Diolchodd yr Aelod Lleol am y cyfle i gael
ymuno a’r cyfarfod heddiw i gyfrannu at y drafodaeth sydd mor bwysig i’w ward.
Diolchwyd yn ogystal i’r adran am oedi yn y broses o ganlyniad i amgylchiadau
personol y Pennaeth. Amlygwyd fod y Llywodraethwyr wedi cylchredeg gwybodaeth
i’r Aelodau Cabinet a nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi derbyn nifer o lythyrau
cefnogol i’r Ysgol o bob rhan o’r sir. Mynegodd fod y niferoedd disgyblion wedi
lleihau mewn cyfnod byr o amser ac yn annisgwyl a bod yr adran Addysg wedi
symud i drafod yr ysgol yn sydyn iawn wedi i’r niferoedd leihau. Ers y
drafodaeth gyntaf nodwyd fod y niferoedd wedi dechrau codi a phwysleisiwyd
gwaith da’r staff sydd bellach wedi sefydlu sesiynau Ti a Fi ac Ysgol Feithrin
ar safle’r ysgol. Dangosodd yr Aelod Lleol ei gefnogaeth i newid oedran yr ysgol i fod rhwng 3-9 oed gan na fydd hyn yn rhoi dim effaith ar Ysgol Sarn Bach. Tynnwyd sylw ar y nifer capasiti oedd i’w weld yn yr adroddiad gan nadi nad oedd y rhif hwn yn berthnasol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2019/20 PDF 117 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac
argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei
fabwysiadu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn amlygu perfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn
2019/20. Mynegwyd fod yr adroddiad yn glir ac yn ddarllenadwy ac yn amlygu
llwyddiannau’r Cyngor yn ystod y cyfnod. Bu i’r Aelodau Cabinet nodi'r
llwyddiannau yn eu meysydd a phwysleisiwyd fod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu
am y cyfnod cyn Covid-19. Nododd yr Aelod
Cabinet dros Oedolion fod yr adroddiad yn amlygu sut y bu i’r adran ymateb i’r
argyfwng. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol a
mynegwyd balchder fod gweithwyr gofal bellach yn cael ei gweld fel gweithwyr
allweddol. Nodwyd fod yr adroddiad yn
amlygu llwyddiannau’r adran a beth mae’r sefyllfa Covid-19 wedi
gorfodi’r adran i wneud. Mynegodd yr Aelod
Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd fod yr adroddiad yn rhoi braslun teg a
chywir o waith yr adran dros y flwyddyn. Nodwyd mai dim ond yn y paragraff olaf
mae cyfeiriad at Covid-19. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ail ymweld â materion
gweithredol a diolchwyd i staff am eu gwaith caled. Nododd yr Aelod
Cabinet dros Economi a Chymuned fod effaith Covid-19 ar yr economi yn
syfrdanol. Pwysleisiwyd fod perfformiad yr adran cyn cyfnod Covid
yn dda iawn a'u bod yn cynorthwyo busnesau gyda Brexit.
Mynegwyd fod niferoedd swyddi gwerth uchel wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y
flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd gwaith Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau. Mynegodd yr Aelod
Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol ei bod yn od iawn i edrych yn ôl ar
lwyddiannau’r adran. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adran wedi cyrraedd y
targed ailgylchu o 64.7%. Nodwyd fod y prosiect golau stryd yn parhau a hyd yma
wedi arbed dros £185,000 ynghyd ar ardrawiad amgylcheddol positif o newid y
goleuadau. Pwysleisiwyd yr heriau fydd yn wynebu’r adran sydd yn cynnwys
gweithrediadau llifogydd ac yr angen i ymateb i i’r argyfwng hinsawdd. Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd sylw
at anfodlonrwydd y cyhoedd ar y modd i gysylltu â’r adran Gynllunio a bod y
gwasanaeth yn edrych ar hyn. Nodwyd o’r holl gynlluniau’r sir nodwyd fod 38%
ohonynt yn rhai ceisiadau am dai fforddiadwy. Mynegwyd fod Pwyllgor Polisi
Cynllunio ar y Cyd yn parhau i gyfarfod a bod y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn parhau
i fod yn brysur. Amlygwyd y gwaith mae’r adran wedi bod yn ei wneud gyda Phrofi
Olrhain Diogelu. Yn yr adran Gyllideb nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu fod y gyllideb wedi lleihau ers 2015 ond ei bod dan reolaeth gadarn. Mynegwyd o’r cynlluniau arbedion fod 16 yn llithro a bod hyn yn codi pryderon i’r dyfodol. Pwysleisiwyd fod lefel trethu wedi gwella a bod yr adran wedi cynorthwyo 1700 o bobl o’r gronfa tai dewisol. O ran cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth nodwyd fod y nifer sydd yn gweithio o dra wedi cynyddo 138 i 1292 a bod y gwasanaeth yn barod i newidiadau. Diolchwyd i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dewi Wyn Jones |
|
ADRODDIAD COVID-19 - ADFER PDF 248 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Dafydd Meurig Penderfyniad: Derbyniwyd y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dilwyn Williams PENDERFYNIAD Derbyn y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd
ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i
ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd
wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai diweddariad yw hwn am yr hyn sydd wedi digwydd yn sgil
comisiwn y Cabinet i’r byrddau ystyried
beth sydd angen ei wneud wrth symud o ymateb i’r sefyllfa i sefyllfa fwy
sefydlog. Nodwyd y meysydd sydd wedi eu hamlygu gan y byrddau fe rhai sydd angen
sylw. Ategwyd fod
gweithdy wedi ei gynnal gyda’r aelodau Cabinet a Phenaethiaid Adran er mwyn
trafod meysydd y bydd angen sylw sydd ddim o bosib yn disgyn i mewn i faes
llafur y byrddau. Amlinellwyd y meysydd ychwanegol a nodwyd fel yr isod: · Diweithdra · Cynaliadwyedd Trafnidiaeth Gyhoeddus · Iechyd Meddwl a Lles ehangach · Argaeledd tai i bobl leol · Gwydnwch Cymunedol a chynnal yr ymdeimlad o
wirfoddoli · Perthynas waith gyda chyrff eraill · Iechyd Cyhoeddus · Cynaliadwyedd y sector gofal · Cynaliadwyedd adnoddau cymunedol i’r sector
ddiwylliannol · Yr Iaith mewn Cyfarfodydd rhithio · Cadwyn cyflenwad bwyd Nodwyd y bydd
gofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roi sylw i’r materion pellach sydd
wedi codi ac adrodd yn ôl ar y gwaith o sefydlogi ac ail adeiladu i’r Cabinet. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Nodwyd pwysigrwydd fod diweithdra yn cael ei ychwanegu fel maes i’w drafod gan nad yw’r don wedi
taro yma eto. ¾ Holwyd ble y bydd yr eitemau ychwanegol yn cael eu trafod. Os nad yw’r
materion yn dod o dan faes llafur y byrddau bydd y Prif Weithredwr yn mynd at
yr adran benodol i ystyried beth fydd angen ei wneud. ¾ Diolchwyd am yr arweiniad a’r gwaith yn edrych ar y meysydd yma. Awdur: Dilwyn Williams |