skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Rhith-gyfarfod (Ar hyn o bryd nid oes modd i’r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Annes Siôn  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Cofnod:

5.

YSGOL ABERSOCH pdf eicon PDF 930 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Cemlyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Cemlyn Williams   

 

PENDERFYNIAD

 

Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan bwysleisio nad oedd dim pleser o ddod ac adroddiad o’r fath i’r Cabinet i’w thrafod. Nodwyd fod dyletswydd y Cabinet i sicrhau addysg a phrofiadau da i holl blant Gwynedd yn wraidd i’r adroddiad hwn.

 

Amlygwyd fod y Cabinet ym Medi 2019 wedi penderfynu cychwyn trafodaeth ar Llywodraethwyr a rhan ddeiliad yr ysgol i ystyried gwahanol opsiynau yn dilyn lleihad mewn nifer y plant yn yr ysgol. Diolchwyd iddynt am eu cyfraniad i’r drafodaeth. Tynnwyd sylw at Egwyddorion Addysg i Bwrpas a dderbyniwyd gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2018 gan amlygu’r ddwy egwyddor sydd yn cyd-fynd  a’r adroddiad. Pwysleisiwyd fod yr adroddiad yn gynhwysfawr ac y bydd yr adran yn parhau i dderbyn sylwadau pellach yn ystod y cyfnod statudol.

 

Ychwanegodd y Swyddog Addysg Ardal Meirionnydd / Dwyfor fod y drafodaeth sydd wedi ei gynnal ar hyn o bryd wedi bod yn edrych ar opsiynau posib er mwyn sicrhau darpariaeth hyfiw i’r dyfodol.  Pwysleisiwyd fod gwaith cael ei wneud gan y rhan ddeiliad i sefydlu cylch meithrin ac i ymestyn i ofal plant yn sgil y drafodaeth sydd wedi ei gynnal. Amlygwyd yr opsiynau sydd wedi ei thrafod ar ran ddeiliad gan nodi fod gwaith wedi ei wneud i’w gwyntyllu. Nodwyd mai’r opsiwn sydd yn cael ei ffafrio gan Swyddogion yw cau’r ysgol a symud y plant i Ysgol Sarn Bach. Os yn caniatáu'r penderfyniad heddiw, nodwyd y bydd yr ymgynghoriad statudol yn cychwyn o fewn yr wythnosau nesaf. Amlygwyd fod oediad wedi bod yn y broses ac  o ganlyniad bydd yr adran yn ail wneud rhai o’r asesiadau effaith.

 

Diolchodd yr Aelod Lleol am y cyfle i gael ymuno a’r cyfarfod heddiw i gyfrannu at y drafodaeth sydd mor bwysig i’w ward. Diolchwyd yn ogystal i’r adran am oedi yn y broses o ganlyniad i amgylchiadau personol y Pennaeth. Amlygwyd fod y Llywodraethwyr wedi cylchredeg gwybodaeth i’r Aelodau Cabinet a nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi derbyn nifer o lythyrau cefnogol i’r Ysgol o bob rhan o’r sir. Mynegodd fod y niferoedd disgyblion wedi lleihau mewn cyfnod byr o amser ac yn annisgwyl a bod yr adran Addysg wedi symud i drafod yr ysgol yn sydyn iawn wedi i’r niferoedd leihau. Ers y drafodaeth gyntaf nodwyd fod y niferoedd wedi dechrau codi a phwysleisiwyd gwaith da’r staff sydd bellach wedi sefydlu sesiynau Ti a Fi ac Ysgol Feithrin ar safle’r ysgol.

 

Dangosodd yr Aelod Lleol ei gefnogaeth i newid oedran yr ysgol i fod rhwng 3-9 oed gan na fydd hyn yn rhoi dim effaith ar Ysgol Sarn Bach. Tynnwyd sylw ar y nifer capasiti oedd i’w weld yn yr adroddiad gan nadi nad oedd y rhif hwn yn berthnasol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

Awdur: Gwern ap Rhisiart

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CYNGOR GWYNEDD 2019/20 pdf eicon PDF 117 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Adroddiad Perfformiad Gwynedd 2019/20 ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlygu perfformiad y Cyngor yn ystod y flwyddyn 2019/20. Mynegwyd fod yr adroddiad yn glir ac yn ddarllenadwy ac yn amlygu llwyddiannau’r Cyngor yn ystod y cyfnod. Bu i’r Aelodau Cabinet nodi'r llwyddiannau yn eu meysydd a phwysleisiwyd fod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu am y cyfnod cyn Covid-19.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Oedolion fod yr adroddiad yn amlygu sut y bu i’r adran ymateb i’r argyfwng. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ymateb yn gyflym ac yn gadarnhaol a mynegwyd balchder fod gweithwyr gofal bellach yn cael ei gweld fel gweithwyr allweddol. Nodwyd fod yr adroddiad yn  amlygu llwyddiannau’r adran a beth mae’r sefyllfa Covid-19 wedi gorfodi’r adran i wneud.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd fod yr adroddiad yn rhoi braslun teg a chywir o waith yr adran dros y flwyddyn. Nodwyd mai dim ond yn y paragraff olaf mae cyfeiriad at Covid-19. Ychwanegwyd fod yr adran wedi ail ymweld â materion gweithredol a diolchwyd i staff am eu gwaith caled.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned fod effaith Covid-19 ar yr economi yn syfrdanol. Pwysleisiwyd fod perfformiad yr adran cyn cyfnod Covid yn dda iawn a'u bod yn cynorthwyo busnesau gyda Brexit. Mynegwyd fod niferoedd swyddi gwerth uchel wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Amlygwyd gwaith Gwasanaeth Cefnogi Cymunedau.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol ei bod yn od iawn i edrych yn ôl ar lwyddiannau’r adran. Tynnwyd sylw at y ffaith fod yr adran wedi cyrraedd y targed ailgylchu o 64.7%. Nodwyd fod y prosiect golau stryd yn parhau a hyd yma wedi arbed dros £185,000 ynghyd ar ardrawiad amgylcheddol positif o newid y goleuadau. Pwysleisiwyd yr heriau fydd yn wynebu’r adran sydd yn cynnwys gweithrediadau llifogydd ac yr angen i ymateb i i’r argyfwng hinsawdd.

 

 Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd sylw at anfodlonrwydd y cyhoedd ar y modd i gysylltu â’r adran Gynllunio a bod y gwasanaeth yn edrych ar hyn. Nodwyd o’r holl gynlluniau’r sir nodwyd fod 38% ohonynt yn rhai ceisiadau am dai fforddiadwy. Mynegwyd fod Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn parhau i gyfarfod a bod y Gwasanaeth Cefn Gwlad yn parhau i fod yn brysur. Amlygwyd y gwaith mae’r adran wedi bod yn ei wneud gyda Phrofi Olrhain Diogelu.

 

Yn yr adran Gyllideb nodwyd fod yr adroddiad yn amlygu fod y gyllideb wedi lleihau ers 2015 ond ei bod dan reolaeth gadarn. Mynegwyd o’r cynlluniau arbedion fod 16 yn llithro a bod hyn yn codi pryderon i’r dyfodol. Pwysleisiwyd fod lefel trethu wedi gwella a bod yr adran wedi cynorthwyo 1700 o bobl o’r gronfa tai dewisol. O ran cefnogaeth Technoleg Gwybodaeth nodwyd fod y nifer sydd yn gweithio o dra wedi cynyddo 138 i 1292 a bod y gwasanaeth yn barod i newidiadau. Diolchwyd i’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dewi Wyn Jones

7.

ADRODDIAD COVID-19 - ADFER pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn a Cyng. Dafydd Meurig

Penderfyniad:

Derbyniwyd y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

 

Derbyn y diweddariad ar y gwaith sy’n mynd ymlaen i sefydlogi ac ail adeiladu yn sgil yr argyfwng Covid-19 a chytunwyd i ofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roddi sylw i’r materion pellach oedd wedi codi yn y gweithdy diweddar ar y mater.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai diweddariad yw hwn am yr hyn sydd wedi digwydd yn sgil comisiwn  y Cabinet i’r byrddau ystyried beth sydd angen ei wneud wrth symud o ymateb i’r sefyllfa i sefyllfa fwy sefydlog. Nodwyd y meysydd sydd wedi eu hamlygu gan y byrddau fe rhai sydd angen sylw.

 

Ategwyd fod gweithdy wedi ei gynnal gyda’r aelodau Cabinet a Phenaethiaid Adran er mwyn trafod meysydd y bydd angen sylw sydd ddim o bosib yn disgyn i mewn i faes llafur y byrddau. Amlinellwyd y meysydd ychwanegol a nodwyd fel yr isod:

·    Diweithdra

·    Cynaliadwyedd Trafnidiaeth Gyhoeddus

·    Iechyd Meddwl a Lles ehangach

·    Argaeledd tai i bobl leol

·    Gwydnwch Cymunedol a chynnal yr ymdeimlad o wirfoddoli

·    Perthynas waith gyda chyrff eraill

·    Iechyd Cyhoeddus

·    Cynaliadwyedd y sector gofal

·    Cynaliadwyedd adnoddau cymunedol i’r sector ddiwylliannol

·    Yr Iaith mewn Cyfarfodydd rhithio

·    Cadwyn cyflenwad bwyd

 

Nodwyd y bydd gofyn i’r Byrddau neu adrannau perthnasol roi sylw i’r materion pellach sydd wedi codi ac adrodd yn ôl ar y gwaith o sefydlogi ac ail adeiladu i’r Cabinet.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Nodwyd pwysigrwydd fod diweithdra yn cael ei ychwanegu  fel maes i’w drafod gan nad yw’r don wedi taro yma eto.

¾  Holwyd ble y bydd yr eitemau ychwanegol yn cael eu trafod. Os nad yw’r materion yn dod o dan faes llafur y byrddau bydd y Prif Weithredwr yn mynd at yr adran benodol i ystyried beth fydd angen ei wneud.

¾  Diolchwyd am yr arweiniad a’r gwaith yn edrych ar y meysydd yma.

 

 

Awdur: Dilwyn Williams