Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan Cyng. Dewi Roberts gan ei fod yn aelod o
fwrdd Llywodraethu Ysgol Abersoch, ond nid oedd yn fuddiant oedd yn rhagfarnu
felly bu iddo fod yn bresennol ar gyfer yr eitem. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU PDF 266 KB YSGOL
ABERSOCH Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Paul Rowlinson Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol
y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol
ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i
gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaena mabwysiadu hyn fel
penderfyniad terfynol. Cofnod: YSGOL ABERSOCH Cyflwynwyd gan
Cyng. Paul Rowlinson PENDERFYNIAD Penderfynwyd
na ddylid addasu penderfyniad gwreiddiol
y Cabinet a wnaethpwyd ar y 15 Medi 2020 i gynnal ymgynghoriad statudol
ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch yn unol â gofynion adran 48 o
Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i
gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol
Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaena
mabwysiadu hyn fel penderfyniad terfynol TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad yn gan nodi fod yr
eitem yn dod yn ôl i’r Cabinet yn dilyn penderfyniad gan aelodau Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi i alw mewn y penderfyniad a wnaethpwyd i gynnal
ymgynghoriad statudol ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch. Rhoddodd Gadeirydd y Pwyllgor Craffu’r rhesymeg a’r
cefndir y tu ôl i benderfyniadau’r Pwyllgor Craffu ynghyd a manylion y
bleidlais yn y pwyllgor. Ychwanegodd yr Aelod Lleol
o ganlyniad i’r pandeimig nad yw’r cyfnod sydd i ddod yn gwbl glir o ran
cyfyngiadau pellach. O ganlyniad i nododd na fydd cyfle i bawb yn y gymdeithas
fod yn rhan o’r ymgynghoriad. Pwysleisiwyd y buasai cau’r ysgol yn golygu colli adnodd yn y gymuned ac yn risg i
addysg plant, yr iaith a diwylliant yr ardal. Nododd fod cynnal yr ymgynghoriad
yn anghyfiawn ac annheg. Gofynnwyd i’r Cabinet i ohirio’r ymgynghoriad am
flwyddyn fel bod modd gobeithio i drafod mewn cyfarfodydd wyneb i wyneb. Holwyd
os oedd yn deg parhau oherwydd sefyllfa gyda’r Pennaeth o’r ysgol ar hyn o bryd
ac yn amhosib i Lywodraethwyr roi arweiniad. Diolchodd yr Aelod Cabinet
i’r Aelod Lleol am roi’r sefyllfa bresennol. Mynegodd fod yr adran wedi bod yn
gwbl barchus am sefyllfa’r Pennaeth gan nodi fod y trafodaethau wedi ei ohirio
unwaith yn barod. Ychwanegwyd o fewn y Ddeddf nad oes rôl statudol i
Benaethiaid o fewn yr ymgynghoriad. Amlygodd y Swyddog Addysg y
broses gan nodi fod trafodaethau anffurfiol wedi ei gynnal a bellach yn symud
ymlaen i’r ymgynghoriad statudol. Mynegwyd y bydd sesiynau yn cael eu cynnal yn
rhithiol, ond bydd sesiynau yn cael ei gynnig, os galw yn codi dros y ffon i
ofyn unrhyw gwestiynau. Pwysleisiwyd y bydd angen i unrhyw ymatebiad i’r
ymgynghoriad ei gyflwyno yn ysgrifenedig. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Cydymdeimlwyd gyda’r pryderon o wneud ymgynghoriad yn ystod y cyfnod
sydd ohoni. Holwyd os oes unrhyw oblygiadau i ohirio’r ymgynghoriad. Nodwyd
mai’r prif oblygiadau oedd i addysg y plant. Mynegwyd fod lefel o ansicrwydd o
ran y pandemig gan nod oes pendraw ar hyn o bryd.
Ychwanegwyd fod gweithdrefnau yn ei lle ar gyfer eu cynnal yn rhithiol. ¾ Pwysleisiwyd mai addysg y plant yw’r elfen bwysicaf wrth edrych ar y
sefyllfa gan bwysleisio mai’r Egwyddorion Addysg sydd yn gyrru’r gwaith. ¾ Amlygwyd fod y penderfyniad i gau’r ysgol heb ei wneud eto ac mai penderfyniad i fynd i ymgynghoriad sydd wedi ei wneud. Tanlinellwyd tra’n deall dymuniad bobl i gael cyfarfodydd wyneb yn wyneb i drafod byddai angen i unrhyw ymateb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 13 HYDREF 2020 PDF 384 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Hydref
2020 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYDRADDOLDEB PDF 274 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod hi yn ofyniad ar y Cyngor i wneud Cynllun Strategol
Cydraddoldeb am bedair blynedd. Mynegwyd mai dyma’r Adroddiad Blynyddol olaf ar
gyfer Cynllun Cydraddoldeb 2016-20.Ychwanegwyd fod yr adroddiad hwn yn
amlinellu'r gwaith sydd wedi ei wneud mewn ymateb i’r cynllun hwn. Amlinellwyd
amcanion y cynllun gan nodi’r prif lwyddiannau. Ychwanegwyd
pwysigrwydd nodi'r gwaith sydd yn cael ei wneud yr hir dymor a fydd yn parhau
dros y blynyddoedd nesaf. Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlygu bellach fod
cydraddoldeb yn greiddiol yng ngwaith y Cyngor. Nodwyd ei fod ffigyrau'r staff
yn amlygu os angen gweithredu pellach ac os yw’r gweithlu yn amrywiol.
Pwysleisiwyd fod cydraddoldeb yn gyfrifoldeb a bawn a diolchwyd i’r
Ymgynghorydd Cydraddoldeb am ei gwaith. Ychwanegodd
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fod sicrhau tegwch i bawb yn un o
flaenoriaethau’r Cyngor yng Nghynllun y Cyngor sydd yn amlygu pwysigrwydd
cydraddoldeb i’r Cyngor. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod yr adroddiad yn un diddorol a thynnwyd sylw at ganran merched
sy’n gynghorwyr yn lleihau a holwyd sut mae modd ei godi. Mynegwyd fod
ymdrechion yn cael ei wneud i annog merched i fod yn Gynghorwyr ond fod rôl ran
y pleidiau gwleidyddol yn ogystal. Amlygwyd fod ymdrechion wedi ei gwneud cyn
etholiad 2017 a bod yr is grŵp amrywiaeth o’r Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth yn edrych ac arwain y gwaith o hyrwyddo cyn etholiad 2022. ¾
Holwyd
gyda’r sefyllfa sydd ohoni gyda Covid a newid ein
ffordd o weithio sut y bydd hyn yn effeithio cydraddoldeb a symud ymlaen.
Mynegwyd fod rhai ffactorau wedi ei amlygu, pwysleisiwyd fod grŵp prosiect
y Cynllun Cydraddoldeb yn ymwybodol fod angen gwneud pethau yn wahanol ac
ymgysylltu mewn ffordd wahanol. Awdur: Delyth Williams |
|
COD YMDDYGIAD STAFF PDF 200 KB Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cod Ymddygiad Staff ar ran y Cyngor fel
cyflogwr. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd y Cod Ymddygiad Staff ar ran y Cyngor fel
cyflogwr TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod angen dod a’r cod ymddygiad er mwyn rhoi arweiniad ar
ymddygiad o fewn y Cyngor. Mynegwyd y bydd yn gyrru diwylliant ymlaen ac yn
unol â’r Cod Ymddygiad Statudol sydd yn ei le gan Lywodraeth Cymru. Mynegwyd
fod gan drigolion Gwynedd yr hawl i ddisgwyl safon uchaf o ymddygiad gan
cyflogeion y Cyngor ac mae’r Cod Ymddygiad yn egluro beth yw’r safonau hy.
Ychwanegwyd fod y cod yn mynd lawn yn llaw a swydd ddisgrifiadau pob swyddog
sydd yn gweithio i’r Cyngor. Pwysleisiwyd y
bydd mabwysiadu'r cod yn rhoi arweiniad i reolwyr yn ogystal. Mynegwyd mai'r
cam nesaf fydd yw creu cynllun cyfathrebu ac i fwrw ymlaen gyda’r rhaglen
bellach. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Nodwyd fod y cod yn amlygu fod y cyngor yn agored i feddwl yn wahanol,
ond pwysleisiwyd efallai fod y teitl cod ymddygiad yn negyddol a bygythiol i
staff. ¾
Mynegwyd
fod angen i ymarferiad staff angen cyfarch y codi ymddygiad ond yn ymarferol ei
fod disgwyliad positif i staff. Awdur: Eurig Williams |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cytunwyd i danysgrifennu’r
gost o gyflogi 3 Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer yr Adran Amgylchedd am
gyfnod dros dro, hyd ar 31 Mawrth 2022, gan alluogi’r Pennaeth Adran Amgylchedd
i recriwtio cyn gynted ag y bo modd. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith. PENDERFYNIAD Cytunwyd i danysgrifennu’r gost o gyflogi 3 Swyddog Ymgysylltu Cymunedol
ar gyfer yr Adran Amgylchedd am gyfnod dros dro, hyd ar 31 Mawrth 2022, gan
alluogi’r Pennaeth Adran Amgylchedd i recriwtio cyn gynted ag y bo modd. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Mynegwyd ei fod yn gais i danysgrifennu cost
penodi tri swyddog i ychwanegu at y tîm. Ychwanegwyd y bydd y Swyddogion
Ymgysylltu yn llenwi'r bwlch sydd wedi ei amlygu. Nodwyd y bydd y cynllun hwn
yn arwain at newid diwylliant o fewn y gwasanaeth a bydd hyfforddiant yn cael
ei wneud a fydd yn galluogi’r adran i wneud mwy. Ychwanegodd y
Pennaeth Amgylchedd y bydd yr adnodd ychwanegol yn holl bwysig i drigolion a
busnesau yn ystod cyfnod y pandemig. Nodwyd y bydd y
swyddogion yma yn ymateb i’r pandemig ac i’r
rheoliadau sydd yn newid yn gyson. Pwysleisiwyd mai'r prif beth fydd i gynnig
wyneb i’r cyhoeddi a fydd yn eu cynorthwyo drwy’r cyfnod anodd hyn a byddant yn
ymwybodol o ble i fynd am gefnogaeth. Drwy hyn bydd yn datblygu'r maes gwarchod
y cyhoedd a fydd yn cynorthwyo’r adran i’r dyfodol. Sylwadau’n codi
o’r drafodaeth ¾ Dangoswyd cefnogaeth i’r cais gan amlygu fod y bylchau yn amlwg. Holwyd
os oedd tri o swyddog am fod yn ddigonol gyda llwyth gwaith mor uchel. ¾ Trafodwyd y Cynllun Profi, Olrhain a Diogelu gan fod y staff yn ceisio taro 100% o
unigolion o fewn 24 awr a’u bod yn aml yn cyrraedd y nod. Wrth symud ymlaen fod
y gwasanaeth wedi cael 18 o staff newydd a fydd yn gweithio saith diwrnod yr
wythnos. Ychwanegwyd fod y rhain yn cyfrannu at gadw pobl n saff a bod
niferoedd ar hyn o bryd yn gostwng sydd yn amlygu rheolaeth ar draws y sir. ¾
Amlygwyd
y bydd grant yn ariannu rhan o gost y swyddi eleni, a’r posibilrwydd o hawlio
grant i ariannu’r gweddill, ond rhag ofn na fydd modd cael yr arian grant fod
angen tanysgrifennu’r gost er mwyn symud ymlaen i gyflogi’r 3 Swyddog
Ymgysylltu Cymunedol hyd ar 31 Mawrth 2022.
Awdur: Dafydd Wyn Jones |