Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Gwen Alaw Roberts  E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan ddiolch i’r staff hynny oedd allan yn gwarchod y strydoedd adeg y storm wythnos ynghynt.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen fuddiant personol gan ei bod yn Aelod Lleol. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MEDI 2025 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2025 fel y rhai cywir. 

 

6.

STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL pdf eicon PDF 182 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. June Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a mabwysiadwyd y Strategaeth Toiledau Lleol atodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. June Jones.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr Adroddiad gan amlygu bod Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i lunio a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer eu hardal. Nodwyd bod y Strategaeth bresennol yn dyddio’n ôl i 2019 felly bod angen ei uwchraddio.

 

Ymfalchïwyd bod 60 o doiledau cyhoeddus ar draws Gwynedd gan ychwanegu fod hyn o ganlyniad i’r gefnogaeth a dderbyniwyd drwy’r Cynllun Partneriaethau. Nodwyd bod y Cynllun yn mynd yn dda, a hynny oherwydd cefnogaeth ariannol gan gynghorau cymunedau a thref. Tynnwyd sylw at y toiledau cymunedol, lle mae busnesau o fewn y sir yn derbyn grant sy’n caniatáu iddynt agor eu toiledau i’r cyhoedd eu defnyddio. 

 

Ategwyd yr her ariannol o gynnal a chadw’r toiledau cyhoeddus, ond cadarnhawyd bod grantiau wedi eu derbyn er mwyn gwella’r ddarpariaeth hon. Cyfeiriwyd at yr enghreifftiau sydd yn yr adroddiad o’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, gan dynnu sylw penodol at y gwaith a gaiff ei wneud yn Abersoch ac Abermaw ar y funud.

 

Soniwyd am y ddarpariaeth Changing Places sydd yn y sir, ar gyfer cyrraedd anghenion y rheiny sydd ag anableddau dysgu lluosog. Datganwyd bod y stoc o doiledau cyhoeddus sydd yng Ngwynedd yn hen ac felly’n heriol i’w haddasu heb fuddsoddiad ariannol sylweddol. Codwyd y broblem o fod angen i’r adeiladau hyn gael eu presenoli, felly nodwyd bod bwriad o weithio ag adrannau eraill i drafod camau pellach.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Diolchwyd i’r adran am roi ystyriaeth i Oed Gyfeillgarwch yn yr adroddiad, gan ganiatáu mewnbwn adrannau eraill i’r cynllun er mwyn datblygu agweddau eraill o’r cynllun hwn.  
  • Holwyd a yw creu toiledau a sinciau llai ar gyfer plant yn bosib wrth fynd ymlaen. Eglurwyd bod trafodaethau ynglŷn â hyn wedi eu cael, ac y bydd addasu rhai toiledau ar gyfer plant yn rhan o strategaeth y dyfodol.
  • Cyfeiriwyd at y ddarpariaeth ‘Changing Places, gan nodi ei bod yn wych gweld darpariaeth o’r fath yn y sir. Ategwyd bod angen i safleoedd y toiledau hyn gael eu staffio, felly cynigiwyd cyd-weithio ag adrannau eraill i allu creu mwy o’r toiledau hyn yng Ngwynedd.
  • Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad er mwyn derbyn gwybodaeth am yr hyn y mae pobl eisiau ei weld mewn toiledau ‘Changing Places’.
  • Soniwyd am rôl busnesau yn y strategaeth, gan egluro bod 41 toiled cymunedol yng Ngwynedd ar y funud sy’n derbyn grant i alluogi’r cyfleusterau allu cael eu defnyddio gan y cyhoedd. Sicrhawyd bod y Cyngor yn cynnal asesiadau o’r toiledau hyn.

 

Awdur: Steffan Jones, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

7.

MODERNEIDDIO ADDYSG - YSGOL NEBO pdf eicon PDF 475 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dewi Jones.

 

PENDERFYNIAD

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Pwysleisiwyd pwysigrwydd yr eitem hon i’r ardal leol a’r teimladau cryf sy’n dod law yn llaw â’r eitem.

Atgoffwyd mai penderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol yw’r penderfyniad sydd gerbron y Cabinet yn y cyfarfod hwn.

Soniwyd am yr her sy’n wynebu’r sir gyfan yn sgil y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion, costau cynyddol, a’r angen i sicrhau’r addysg a’r cyfleoedd cymdeithasol gorau i bob plentyn.

Sicrhawyd y bydd y broses ymgynghori yn agored, yn dryloyw ac yn ystyrlon, gyda phob pryder yn cael ei ystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.

Eglurwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal â chymuned yr ysgol am yr opsiynau posib, a chyfeiriwyd bod syniadau’r ysgol am ffyrdd posib ymlaen wedi’u cynnwys yn y papurau atodol. Ategwyd bod ystyriaeth lawn wedi’i roi i bob opsiwn. 

 

Diolchwyd i’r cyfranogwyr sydd wedi bod yn rhan o’r trafodaethau a gynhaliwyd yn yr ysgol gan nodi bod y trafodaethau hynny wedi bod yn adeiladol. Nodwyd bod rhaid i’r adran bwyso a mesur yn erbyn set o fesuryddion penodol. Er bod opsiynau adeiladol wedi eu cynnig fel ffyrdd ymlaen, cadarnhawyd mai'r niferoedd o ddisgyblion yn yr ysgol sydd wedi arwain at y cynnig hwn. 

 

Croesawyd Aelod Lleol Ward Clynnog i’r cyfarfod. Cydnabuwyd ganddo fod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn gosod rhagdybiaeth weithdrefnol yn erbyn cau ysgolion gwledig ac ychwanegwyd ganddo nad yw’n credu bod y dystiolaeth a roddwyd gerbron y Cabinet yn bodloni’r prawf i gau’r ysgol.

Nodwyd nad yw Ysgol Nebo yn methu gan fod y nifer disgyblion wedi cynyddu 50% yn y flwyddyn ddiwethaf a bod nifer o ddisgyblion hyn o du allan i’r dalgylch yn ogystal.

Cyfeiriwyd at y ddadl ariannol o gau Ysgol Nebo, gan ategu bod yr arbedion posib o gau’r Ysgol yn llai nac y mae’n ymddangos. Ychwanegwyd yr angen i ystyried costau diswyddo a’r risg o nifer uwch o blant yn derbyn addysg gartref, a fydd yn rhoi pwysau hir dymor ar y Cyngor.

Soniwyd am gynnig y Corff Llywodraethu i ddatblygu Ysgol Nebo yn safle peilot ar gyfer plant ag anghenion dysgu, emosiynol a chymdeithasol ychwanegol, er mwyn ceisio cadw mwy o blant mewn addysg brif ffrwd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Gofynnwyd sut y bydd lleisiau’r plant hyn sy’n mynychu Ysgol Nebo ar hyn o bryd yn cael eu clywed yn yr ymgynghoriad. Sicrhawyd y bydd llais plant a phobl ifanc yn cael eu clywed, fel sydd wedi ei wneud yn flaenorol, ac y bydd sesiynau penodol yn cael eu cynnal gyda phlant o Ysgol Nebo yn ogystal â phlant o Ysgol Llanllyfni. 
  • Adnabuwyd bod hwn yn benderfyniad heriol, gan holi os fydd sylwadau’r Aelod Lleol yn cael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ac os fydd opsiynau eraill yn cael eu hystyried. Nodwyd bod yr opsiynau a gynhigiwyd wedi eu dehongli mewn modd sy’n cyd-fynd â’r meini prawf ar gyfer ysgol briff ffrwd, a fydd felly yn galluogi Ysgol Nebo i aros yn agored ar yr un pryd â chynnig darpariaeth i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Gwern Ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

8.

MODERNEIDDIO ADDYSG - YSGOL BALADEULYN pdf eicon PDF 681 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Rhoddwyd caniatâd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dewi Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr eitem gan bwysleisio pa mor anodd a sensitif yw trafodaethau o’r math hwn, a’r emosiwn sy’n cyd-fynd â’r eitem hon yn ogystal.

Soniwyd am ddyletswydd y Cabinet i ystyried nifer o ffactorau wrth ddod i benderfyniad - y nifer llai o blant sydd yn ein cymunedau a’r gyfradd genedigaethau sy’n gostwng, yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, a’r angen i sicrhau fod y system addysg yn gynaliadwy.

Sicrhawyd y bydd popeth yn cael ei wneud fel bod y broses ymgynghori yn agored, yn hygyrch ac y bydd pob llais yn cael ei glywed a’i barchu.

 

Datgelwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal â chymuned yr Ysgol er mwyn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael. Cyfeiriwyd at gynnwys y papurau sy’n amlinellu’r sylwadau a dderbyniwyd yn y cyfarfodydd hyn, a syniadau gan yr Ysgol am ffyrdd posib ymlaen.

Diolchwyd i gymuned yr ysgol, gan nodi bod y sesiynau ymgysylltu wedi bod yn ddefnyddiol. Ategwyd mai realiti’r niferoedd gostyngol o blant mewn ysgolion sydd wedi arwain at hyn, ac nid yw’r cynnig hwn yn adlewyrchiad o’r ysgol.

 

Mynegwyd siom gan Aelod Lleol Ward Llanllyfni am y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Baladeulyn, gan nodi y bydd yn ergyd i gymuned yr Ysgol pe bai’n cau.

Cydnabuwyd yr her ariannol i gynnal ysgol fach, ond nodwyd yr effaith ar y pentref pe bai’r ysgol yn cau.

Pryderwyd am effaith cau’r ysgol ar y nifer o bobl a fydd eisiau symud i’r pentref, a’r effaith posib ar y Gymraeg yn lleol.

Nodwyd y bydd angen eglurhad ynglŷn â defnydd yr adeilad pe bai’r ysgol yn cau.

Gofynnwyd am ffederaleiddio gydag Ysgol Talysarn ac ychwanegu uned arbenigol i Ysgol Baladeulyn ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. Cynigiwyd y bydd y model hwn yn arbed adnoddau, ac yn well defnydd o’r lleoliad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Pryderwyd am yr effaith y buasai cau’r ysgol yn ei gael ar gymuned Gymraeg yr ardal. Cadarnhawyd bod asesiadau effaith wedi eu cynnal a nodwyd bod posibilrwydd y bydd effaith ar ddefnydd cymdeithasol y plant o’r Gymraeg. Soniwyd y bydd angen mesurau lliniaru er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn aros yn gadarn petai’r cynnig yn cael ei dderbyn.
  • Holwyd am ymddiswyddo staff pe bai’r cynnig yn cael ei dderbyn. Pwysleisiwyd nad oes penderfyniad wedi ei wneud ar y funud, ond bod tîm o arbenigwyr adnoddau dynol i gefnogi’r Ysgol. Ategwyd mai’r bwriad fuasai dod o hyd i swyddi amgen i’r bobl hynny, ond ychwanegwyd nad yw hyn yn broses syml gan mai cyfrifoldeb Llywodraethwyr ysgolion yw penodi staff.
  • Holwyd sut y mae’r rhagamcanion am niferoedd disgyblion yn cael eu cyfrifo. Nodwyd mai penaethiaid sy’n cyflwyno’r rhagamcanion hyn bob blwyddyn, a bod nifer genedigaethau’r ardal hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo’r rhagamcanion hyn.
  • Cadarnhawyd pwysigrwydd adeilad yr Ysgol i’r gymuned, a chyfeiriwyd at bolisi ôl-ddefnydd y Cyngor. Yn ogystal, soniwyd am gynnal trafodaethau â’r gymuned er mwyn gweld a oes ganddynt  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

Awdur: Gwern Ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

9.

CYTUNDEB ADY A CHYNHWYSIAD GWYNEDD AC YNYS MON pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Comisiynwyd y Pennaeth Addysg i gynllunio sefydlu Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd erbyn Medi 2026, i gwrdd ag anghenion disgyblion Gwynedd yn y dyfodol ac yn sgil hynny diddymu’r trefniant cydweithio hanesyddol gyda Chyngor Ynys Môn.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dewi Jones. 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Datgelwyd bod Gwynedd a Môn wedi bod yn rhannu un gwasanaeth ADY ers 2017 ac er bod cryfderau wedi deillio o hynny, nodwyd nad yw’r gwasanaeth ADY yn llwyddo i ddiwallu anghenion bob plentyn.

Eglurwyd bod nifer yr anghenion hyn wedi cynyddu’n sylweddol a’r anghenion hyn wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Ychwanegwyd bod cynnydd o 37% wedi bod yn y galw am y tîm ADY hwn rhwng 2022 a 2024.

Nodwyd bod Gwynedd a Môn wedi mynd i gyfeiriadau ychydig yn wahanol ers 2017, sydd felly yn gwneud y gwasanaeth hwn yn anoddach i’w redeg.

Pwysleisiwyd mai’r flaenoriaeth yn sgil y cynnig hwn yw sicrhau cynnig gwasanaeth gwell i bobl Gwynedd. Cynigiwyd y bydd gwasanaeth llai yn well ar gyfer plant a theuluoedd, yn ogystal â bod yn haws i staff weithio ynddo.

Soniwyd bod y cynnig hwn am wasanaeth ADY a chynhwysiad ar y cyd. Cadarnhawyd nad cynnig i wahanu’r Gwasanaeth ADY oddi wrth Ynys Môn yn syth yw hwn, ond cyfle am drafodaethau â Phennaeth a staff adran Addysg Môn er mwyn cynnig syniadau posib ar gyfer symud ymlaen.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

Holwyd pam dewis nawr i fynd i’r afael a hyn. Tynnwyd sylw at y ffaith mai gwrando ar lais ysgolion a thrigolion Gwynedd oedd wrth wraidd hyn, a’r angen i wella’r gwasanaeth a’r ddarpariaeth a gaiff ei gynnig.

Awdur: Gwern Ap Rhisiart, Pennaeth Addysg

10.

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL - CYNLLUN DATBLYGU LLEOL 2024-2025 pdf eicon PDF 155 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyniwyd Adroddiad Monitro Blynyddol 7 (Atodiad 1) a chytunwyd i gyflwyno i’r Llywodraeth erbyn diwedd mis Hydref 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad

 

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn ofyniad statudol i gyflwyno’r adroddiad hwn a'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Eglurwyd bod y Cynllun wedi canolbwyntio yn bennaf ar ddatblygiadau o fewn ardal cynllunio leol Gwynedd yn unig ers 2023.

Nodwyd ei fod yn bennaf yn seiliedig ar geisiadau cynllunio sydd wedi eu penderfynu neu sydd wedi eu gweithredu dros y flwyddyn.

Cyflwynwyd pwrpas yr Adroddiad Monitro blynyddol gan nodi ei fod yn asesu i weld os oes angen cynnal adolygiad o’r Cynllun. Ychwanegwyd bod adroddiad adolygu wedi’i gyhoeddi ac mae gwaith ar droed i baratoi cynllun datblygu newydd i ardal cynllunio leol Gwynedd.

 

Cyfeiriwyd at y tabl yn yr adroddiad sy'n cynnig trosolwg o berfformiad y dangosyddion, gan nodi ei fod yn cadarnhau bod y polisïau cynllunio yn cwrdd â phrif amcanion y cynllun.

Amlygwyd bod caniatâd ar gyfer 173 o unedau preswyl newydd wedi ei roi yng nghyfnod 2024/25, gyda 75 o’r rhain yn dai fforddiadwy. Ategwyd bod 140 o’r 212 o dai a gafodd eu cwblhau yn ystod y flwyddyn, hefyd yn dai fforddiadwy.

 

Cyfeiriwyd at argymhellion y Gweithgor Polisi Cynllunio, a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth:

  • Datgelwyd bod datblygu’r cynllun yn broses hir, ac y bydd angen i’r cynllun ddychwelyd gerbron y Cabinet, a’r Cyngor Llawn maes o law.
  • Holwyd am yr anghysondeb yn ffigyrau’r niferoedd o siaradwyr Cymraeg sydd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Nodwyd bod y ffigyrau a gaiff eu nodi gan Lywodraeth Cymru yn aml yn wahanol i gasgliadau’r cyfrifiad. Ychwanegwyd bod y Llywodraeth wedi comisiynu gwaith i ddarganfod pam bod gwahaniaeth yn y ffigyrau, ond bod dim atebion clir ar y funud.
  • Mynegwyd balchder o weld y nifer uchel o dai fforddiadwy sydd wedi eu codi.
  • Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r ffigwr o’r tai a gwblhawyd ar y safleoedd sydd wedi eu clustnodi ar gyfer tai. Eglurwyd bod y ganran a nodwyd yn yr adroddiad yn cyfeirio at y tai hyn a gwblhawyd ar safleoedd wedi eu dynodi. Gan mai diwedd y Cynllun yw hwn, ategwyd bod nifer o’r safleoedd sydd wedi eu dynodi wedi cael caniatâd cynllunio yn barod, neu fod gwaith wedi cymryd lle ar y safle hwnnw yn flaenorol. Cadarnhawyd bod gweddill y tai a gwblhawyd yn cyd-fynd â pholisïau’r Cynllun, oherwydd y gallent fod ar y safleoedd ar hap. Nodwyd nad yw safleoedd bach yn cael eu dynodi, ond bod llawer o’r datblygiadau yn cael eu gwneud ar y safleoedd hyn.
  • Wrth gyfeirio at y targed o dai sydd angen eu codi, cwestiynwyd pam fod angen codi cynifer o dai os yw poblogaeth Gwynedd yn gostwng. Nodwyd bod rhagamcanion y Llywodraeth ynghyd â nifer o ffactorau eraill wedi eu hystyried. Ychwanegwyd bod sôn, ar adeg cynllunio’r Cynllun ar y Cyd, am ddatblygiadau mawr megis y Wylfa newydd, a fyddai’n debygol o effeithio gogledd Gwynedd. Ategwyd bod llawer wedi newid yn y cyfamser ac y bydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

Awdur: Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol yr Adran

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2024/2025 CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR pdf eicon PDF 161 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ystyriwyd ac chymeradwywyd Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur Cyngor Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad

 

TRAFODAETH

Ymfalchïwyd yn y gwaith sydd wedi ei wneud dros nifer o flynyddoedd, gan nodi bod y Cyngor ar flaen y gad yn y maes hwn.

Nodwyd mai cyfnod yr adroddiad blynyddol hwn yw’r drydedd flwyddyn lle mae’r Cynllun yn weithredol.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod yr Adroddiad yn nodi sut y mae’r Cyngor yn ymateb i Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ym mhob pennod.

Eglurwyd bod cynnydd i’w weld yn y lefelau o allyriadau carbon ers y flwyddyn flaenorol. Datgelwyd efallai ei bod yn gamarweiniol gwneud cymariaethau un flwyddyn mewn maes lle mae angen gweithredu’n hir dymor. Ategwyd y bydd y gwaith sydd wedi ei gyflawni gan yr adran yn cymryd amser i ddwyn ffrwyth.

 

Cadarnhawyd bod yr Adroddiad hwn eisoes wedi derbyn sylwadau gan y pwyllgor Craffu Cymunedau, a gaiff eu cynnwys yn yr Adroddiad, ond nad oes newid wedi bod i’r Adroddiad yn sgil hynny.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

  • Nodwyd nad oes gofyn statudol i gontractwyr i gasglu data am eu hallyriadau carbon, ond mae canllawiau newydd ar y ffordd i nodi sut y gall gyrff cyhoeddus helpu eu contractwyr i gasglu’r data. Ategwyd bod gobaith y bydd y contractwyr mwyaf yn gallu darparu cynlluniau rheoli carbon, ond ei fod am gymryd mwy o amser a chefnogaeth i gontractwyr llai gallu gwneud hynny. 
  • Gofynnwyd am yr hyn sy’n cael ei wneud i leihau’r allyriadau sy’n deillio o’r defnydd ynni mewn adeiladau ac o deithio. Eglurwyd mai gwresogi oedd yn gyfrifol am yr allyriadau uchel o’r adeiladau, gan mai nwy yw prif ffynhonnell gwresogi llawer o adeiladau’r Cyngor ar hyn o bryd. O ran teithio, ategwyd bod fflyd y Cyngor o geir trydan wedi cynyddu. Gan nad oes cerbydau trydan trwm addas ar gael, does dim llawer y gall y Cyngor ei wneud yn y maes hwnnw ar y funud.
  • Holwyd am ymateb yr Aelod Cabinet Amgylchedd i argymhelliad y Pwyllgor Craffu. Mynegwyd nad yw’n credu bod targedau’n addas yma, gan ychwanegu y byddai’n hoff o ddarganfod ffordd arall o sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni, heb osod targedau afrealistig. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol.
  • Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyllid y prosiect bron a dod i ben, a holwyd beth yw’r cynlluniau at ddenu mwy o arian i weithredu’r prosiect. Nodwyd bod trafodaethau mewnol yn cymryd lle ac ychwanegwyd bod y Cynllun yn ddibynnol ar allu denu nifer o grantiau.
  • Cyfeiriwyd at y diffyg pwyntiau gwefru addas sydd yn yr ardal, gan gwestiynu beth yw’r heriau sy’n atal gallu cynyddu’r nifer hwn ar draws Gwynedd. Cadarnhawyd nad y Cyngor sy’n gyfrifol am yr isadeiledd i allu cynnig nifer fawr o bwyntiau gwefru. Eglurwyd bod y Cyngor wedi bod yn darparu pwyntiau gwefru, ond bod angen gwahanol fathau o beiriannau gwefru er mwyn diwallu anghenion carfannau gwahanol o bobl. Ategwyd bod y ddarpariaeth grid hefyd yn creu heriau. 

 

Awdur: Bethan Richardson, Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd

12.

CYNLLUN RHEOLI MAES PARCIO DINAS DINLLE pdf eicon PDF 198 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. R Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cefnogwyd y cynnig yn yr adroddiad i fwrw ymlaen gyda’r proses ar gyfer gwneud gorchymyn parcio oddi ar y stryd parhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle.

 

Dirprwywyd awdurdod i Bennaeth Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol ac yn unol â’r Rheoliadau i baratoi gorchymyn drafft, cyhoeddi Rhybudd o Fwriad i wneud y gorchymyn gyda cyfnod ymateb cyhoeddus, coladu ac ystyried pob ymateb, ymateb i wrthwynebwyr ac addasu'r cynnig os oes angen ac, yn ddarostyngedig i’r prosesau yma Gwneud y Gorchymyn terfynol a chyhoeddi Hysbysiad o Wneud Gorchymyn.

 

Cofnod:

 Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. R Medwyn Hughes.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad

 

TRAFODAETH

 

Tynnwyd sylw at yr adroddiad blaenorol am yr eitem hon wedi’i gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mehefin. Ychwanegwyd bod yr adroddiad sydd gerbron y Cabinet yn y cyfarfod hwn yn cynnig diweddariad yn dilyn gwaith cyfreithiol manwl, er mwyn cyflwyno gorchymyn parcio oddi ar y stryd parhaol ym Maes Parcio Dinas Dinlle.

Nodwyd gan y Swyddog Monitro mai dilyn y broses arferol i greu gorchymyn parcio mae’r adroddiad, felly mae’r cynnig yn gofyn am hawliau dirprwyedig i barhau â’r broses creu gorchymyn parcio.

Awdur: Llŷr Jones, Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned