Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cyng. Cai Larsen a’r Cyng. Gareth A Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Datganodd yr aelod
canlynol ei fod yn aelod
lleol mewn perthynas â’r eitem
a nodir: ·
Y Cynghorydd Elfed Wyn
ap Elwyn (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2
(C19/0154/03/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o
drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro
fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19 Mai 2025 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.
Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas
â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
CAIS RHIF C22/0585/22/LL Tir gerllaw Oxton Villa, Ffordd Haearn Bach, Penygroes, LL54 6NY Cais ar gyfer codi tŷ fforddiadwy gyda mynedfa a
parcio a tirweddu cysylltiol (cynllun diwygiedig). AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod yn unol â’r argymhelliad 1.
Nid yw’r bwriad yn briodol fel estyniad rhesymegol i’r anheddle oherwydd
ei leoliad a’r ffiniau presennol sy’n gwahanu’r anheddle oddi ar gefn gwlad yn
y lleoliad yma. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1, TAI
15 ac 16 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n
sicrhau datblygiadau tai fforddiadwy addas fel eithriad ar gyrion ffiniau
datblygu. 2.
Nid yw angen lleol ar gyfer tŷ fforddiadwy hunan-adeiladu
wedi ei brofi. Mae maint yr eiddo a’r cwrtil bwriedig yn rhy fawr i alluogi’r
eiddo fod yn fforddiadwy yn y dyfodol a chydymffurfio a graddfa dwysedd
datblygu. Mae’r datblygiad felly yn groes i ofynion polisïau TAI 15, TAI 16 a
PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 a’r Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy sy’n
sicrhau datblygiad o raddfa dderbyniol ac a fyddai’n fforddiadwy i’r dyfodol. 3.
Mae’r datblygiad yn gyfystyr a chodi tŷ newydd yng nghefn
gwlad agored heb unrhyw gyfiawnhad ac yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a
pharagraff 6.4.36 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026,
a Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer cymunedau gwledig cynaliadwy. Cofnod: a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi un
tŷ fforddiadwy 2 ystafell wely gyda mynedfa a llecyn parcio ar safle wedi
ei leoli o fewn cae amaethyddol ar gyrion Penygroes. Eglurwyd bod
penderfyniad ar y cais, ym mhwyllgor Ionawr 2024, wedi ei ohirio er mwyn derbyn
tystiolaeth ysgrifenedig o sefyllfa’r ymgeisydd gyda Tai Teg, ynghyd a derbyn
cadarnhad fod yr ymgeisydd yn gymwys am dŷ fforddiadwy hunan-adeiladu.
Ategwyd bod y gohiriad wedi bod yn gyfle teg i’r ymgeisydd hefyd ystyried
lleihau arwynebedd maint y tŷ a maint y llain. Adroddwyd bod sawl ymdrech wedi ei wneud gan
swyddogion i geisio gwybodaeth, ond nid oedd unrhyw gynnydd wedi bod gyda’r
cais. Gyda bron i flwyddyn a hanner wedi mynd heibio, penderfynwyd dod a’r cais
nol i bwyllgor am benderfyniad. Tynnwyd
sylw at y rhesymau gwrthod gan egluro bod un rheswm yn ymwneud a lleoliad y
safle - safle sydd ei wedi ei leoli ar gyrion a thu allan i ffin ddatblygu
pentref Penygroes. Nodwyd, gyda’r ffin ddatblygu wedi ei leoli ar ffin eiddo
Glaslyn gyda llwybr cyhoeddus wedi ei leoli rhwng eiddo Glaslyn a safle’r cais,
golyga hyn nad yw’r safle yn cyffwrdd y ffin ddatblygu ac felly yn methu
cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI 16 fel safle eithrio ar gyfer uned
fforddiadwy. Yn ogystal, golygai hyn fod y safle mewn cefn gwlad agored, heb
unrhyw gyfiawnhad nac angen wedi ei brofi. Cyfeiriwyd at y rheswm gwrthod oedd yn ymwneud
â maint yr eiddo a’r cwrtil sydd yn rhy fawr i alluogi’r eiddo i fod yn
fforddiadwy yn y dyfodol ac i gydymffurfio gyda graddfa dwysedd datblygu.
Ategwyd eto, nad oedd yr angen lleol ar gyfer tŷ fforddiadwy
hunan-adeiladu wedi ei brofi. Ystyriwyd bod yr
ymgeisydd wedi cael amser digonol i addasu’r cais ac er ymdrechion swyddogion
am wybodaeth, adroddwyd nad oedd unrhyw gynnydd wedi bod. Roedd y swyddogion yn argymell gwrthod
y cais. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais c)
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan yr Aelodau: ·
Bod y cais gerbron y
Pwyllgor ar ofyn yr Aelod Lleol, ond nid oedd yr Aelod Lleol yn bresennol ·
Bod y safle tu allan i’r
ffin datblygu ·
Bod Tai Teg wedi gwrthod
y cais ·
Dyma’r trydydd tro i’r
cais gael ei drafod yn y pwyllgor ·
Bod cais wedi ei wneud
am wybodaeth, ond dim newid yn y sefyllfa ·
Bod angen sicrhau
cysondeb ·
Bod diffyg cysylltiad
gan yr ymgeisydd ·
Yng nghyd-destun maint -
a ydyw mewn gwirionedd yn fwy na thŷ fforddiadwy? Nid yw pobl leol eisiau
byw mewn bocsys! ·
Y safle i weld yn
‘ymylu’ ar y ffin ac yn agos i dai eraill ·
Dim tystiolaeth ddigonol
i beidio caniatáu Mewn ymateb i gwestiwn am reswm penodol dros yr oediad, nododd y Rheolwr Cynllunio bod cyfarfodydd cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r asiant ond nid oedd gwybodaeth wedi ei dderbyn er yr addewidion. Ategwyd bod Tai Teg hefyd wedi cysylltu yn uniongyrchol â’r ymgeisydd i drafod cyfiawnhad am yr angen, ond eto dim ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAIS RHIF C19/0154/03/LL Neuadd y Farchnad, Stryd yr Eglwys, Blaenau Ffestiniog, LL41 3HP Addasu adeilad yn 14
fflat AELOD
LLEOL: Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod yn
unol â’r argymhelliad Nid
oes gwybodaeth ddigonol na chyfredol wedi ei gyflwyno gyda’r cais er mwyn
asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisïau PS1, TAI 15 a PS19 Canllaw Cynllunio
Atodol: Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy a Phennod 6 Polisi
Cynllunio Cymru sy’n ymwneud ac effaith ar yr Iaith Gymraeg, darparu tai
fforddiadwy, seilwaith gwyrdd a budd net i fioamrywiaeth. Cofnod: Addasu adeilad yn
14 fflat a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd ac addasu adeilad yn 14 fflat
fyddai’n cynnwys 8 fflat 1 ystafell wely a 6 fflat 2 ystafell wely gan
greu 3 ffenestr newydd i’r ochr sy’n
wynebu'r rheilffordd, cau 1 agoriad sy’n wynebu’r stryd fawr a chreu 6 agoriad
newydd i wynebu'r eglwys gyfagos. Eglurwyd bod penderfyniad ar y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor
Cynllunio Gorffennaf 2019 yn dilyn derbyn sylwadau’r Uned Iaith oedd yn nodi
diffyg gwybodaeth, ac er mwyn cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd i geisio
deall y sefyllfa ieithyddol yng nghyd-destun y cais. Nodwyd bod Asesiad Effaith
Ieithyddol, Datganiad Dylunio a Mynediad ac Asesiad Hyfywedd diwygiedig wedi eu
cyflwyno yn 2020, ond yn dilyn hynny rhestrwyd yr adeilad fel Adeilad Gradd II
gan CADW ym Mehefin 2021. Ategwyd bod swyddogion wedi ceisio diweddariad a
gwybodaeth gyfredol ar gyfer y cais, ond nad oedd ymateb wedi ei dderbyn. Yng ngnhyd-destun ffigyrau tai cyfredol,
nodwyd y gellid cefnogi’r cais ar sail y lefel cyflenwad dangosol ar gyfer
Blaenau Ffestiniog ynghyd a’r cymysgedd derbyniol o unedau sydd yn cwrdd a’r
angen yn lleol. Eglurwyd, gan na fyddai’r datblygiad arfaethedig hwn yn golygu
darparu mwy na’r ddarpariaeth tai dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle, nid
oedd Datganiad Iaith Gymraeg yn ofynnol. Fodd bynnag, cyflwynwyd datganiad
gyda’r cais ac Asesiad Effaith Ieithyddol yn ddiweddarach. Dywed y Polisi bod
datganiad yn ofynnol ar gyfer datblygiad o 5 uned neu fwy os nad yw’n mynd i’r
afael a thystiolaeth o angen a galw am dai. Ar y pryd amlygywd
pryder am y math o unedau, y cymysgedd a’r effaith ieithyddol ond oherwydd y
cyfnod amser sydd bellach wedi mynd heibio, nid oedd gwybodaeth gyfredol ar
gyfer asesu’r bwriad yn erbyn gofynion polisi PS1, ac felly ni ellid cadarnhau
os byddai’r bwriad yn cydymffurfio gyda'r polisi na’r CCA. Yng nghyd-destun Polisi TAI 15 sy’n amlinellu gofynion darpariaeth tai
fforddiadwy i fod o leiaf 10% o’r bwriad, bydd gofyn i o leiaf 1 uned fod yn
fforddiadwy. Derbyniwyd Asesiad Hyfywedd Ariannol gyda’r cais yn wreiddiol,
ynghyd a fersiwn diwygiedig yn ddiweddarach oedd yn cyfiawnhau diffyg
darpariaeth uned fforddiadwy. Fodd bynnag, oherwydd y cyfnod amser sydd wedi
mynd heibio ers yr asesiadau blaenorol ni ellid asesu’r bwriad yn erbyn
gofynion polisi TAI 15 yn gywir gan nad yw’r wybodaeth bellach yn gyfredol nac
wedi cymryd statws rhestredig yr adeilad mewn ystyriaeth. Tynnwyd sylw at ddiweddariad i Bennod 6 Polisi Cynllunio Cymru (PCC), sy’n ymdrin â seilwaith gwyrdd a budd net i fioamrywiaeth ac sy’n gwneud hi’n ofynnol i bob cais cynllunio gyflwyno Datganiad Seilwaith Gwyrdd. Nodwyd nad oedd Datganiad o’r fath wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais, ac oherwydd diffyg ymateb gan asiant y cais, nid oedd y swyddogion wedi gwneud cais am y wybodaeth; heb y wybodaeth ni ellid sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion PCC na pholisi PS19. Yn ategol, o ystyried statws rhestredig yr adeilad, a’r ffaith nad oedd llawer ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |