Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Charles Wyn Jones.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 116 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2019 fel rhai cywir  (ynghlwm).

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 7fed o Dachwedd, 2019 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro ail frawddeg y paragraff olaf ond un dan eitem 4 – Cofnodion (9 Gorffennaf, 2019) i ddarllen fel a ganlyn:-

 

Penderfynwyd y dylai’r llythyr* a anfonwyd gael ei adolygu yn y cyfarfod nesaf.”

 

[*llythyr gan y Swyddog Datblygu Iaith yn y Gweithle at Grŵp Llandrillo Menai ynglŷn ag ennyn diddordeb ac ymrwymiad tiwtoriaid y Grŵp yn y gynhadledd a drefnwyd ar gyfer pobl ifanc i drafod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer byd gwaith.]

 

Holwyd hefyd lle ar y rhaglen roedd y llythyr yn ymddangos.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cadeirydd fod y llythyr wedi’i anfon, a phetai’r aelodau’n dymuno copi, y gellid trefnu hynny.  Nid oedd yn ymwybodol bod ateb wedi’i dderbyn i’r llythyr hyd yma.

 

Gan gyfeirio at eitem 5 o’r cofnodion – Cynllun Arfor, nododd y Cadeirydd fod llythyr wedi’i anfon at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, yn unol â chais y pwyllgor, yn gofyn am ymrwymiad y Llywodraeth i’r cynllun.  Derbyniwyd ateb awtomatig i’r llythyr, ond ni chafwyd ymateb llawn hyd yma.

 

5.

COMISIYNYDD Y GYMRAEG

Derbyn cyflwyniad gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ei waith.

Cofnod:

Croesawyd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg i’r cyfarfod i roi cyflwyniad i’r aelodau ar ei waith.

 

Rhoddodd y Comisiynydd amlinelliad o’r hyn roedd yn weld fel pwrpas ei rôl, gan fanylu ar ei argraffiadau o sefyllfa’r Gymraeg ar draws Cymru.  Amlygodd y prif bwyntiau a ganlyn yn ystod ei gyflwyniad:-

 

·         Ei fod yn awyddus iawn i wybod beth oedd yr heriau o safbwynt y Cyngor hwn ac i weld pa gymorth y gallai ei swyddfa ei gynnig.

·         Yn dilyn cychwyn yn ei swydd yn Ebrill 2019, iddo fynd o gwmpas Cymru am 6 mis i geisio deall yn iawn beth oedd gwir sefyllfa’r Gymraeg, a’i fod wedi gweld bod y sefyllfa’n amrywio’n fawr o un rhan o Gymru i’r llall, gyda rhai mannau’n gwneud iddo deimlo’n obeithiol ac eraill yn gwneud iddo deimlo’n isel ar adegau.

·         Bod gweinyddu mewnol Cymraeg a rhai o bolisïau Cyngor Gwynedd i’w canmol a bod lle efallai i ledaenu’r ymarfer da yma ar draws Cymru.

·         Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd Strategaeth Iaith Gymraeg 2050, bod lle iddo yntau, fel Comisiynydd, sicrhau bod y grymoedd oedd ganddo yn atgyfnerthu’r strategaeth honno.

·         Mai blaenoriaethau Swyddfa’r Comisiynydd yn y blynyddoedd cyntaf o ran y safonau ac o ran awdurdodau lleol fu i sicrhau bod dogfennau a gwasanaethau ar gael yn ddwyieithog, ond erbyn hyn roedd disgwyl i awdurdodau lleol fod yn hunan reoleiddwyr i raddau.

·         Bod yna safonau llawer pwysicach na hynny o ran dyfodol yr iaith, sef safonau yn ymwneud â’r angen i Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol asesu effaith amrywiol bolisïau ar y Gymraeg a safonau’n ymwneud â gweinyddu mewnol.

·         Ei fod hefyd yn awyddus iawn i wneud mwy o waith o ran y cynlluniau hybu, gan mai’r unig ofyn ar gynghorau ar hyn o bryd oedd eu bod yn paratoi cynllun bob 5 mlynedd, ac nid oedd unrhyw gyfeiriad at fonitro na herio’r cynlluniau hynny.  Gan hynny, roedd yn awyddus bod y Swyddfa yn edrych ar yr hyn oedd yng Nghynllun Hybu Gwynedd.

·         Bod dyletswyddau’r Swyddfa wedi’u rhannu rhwng cyfrifoldebau rheoleiddio a chyfrifoldebau hybu.  Roedd gofyniad o fewn y ddeddf bod y Swyddfa’n cyflawni’r cyfrifoldebau rheoleiddio, ond wrth i’r cyfrifoldebau hynny gynyddu, a’r adnoddau brinhau, roedd yn mynd yn fwyfwy anodd gwneud y gwaith hybu.  Gan hynny, roedd yn rhaid rhywsut sicrhau bod adnoddau yn cael eu rhyddhau yn fewnol i alluogi i’r Swyddfa wneud mwy o waith hybu.

·         Er y cytunai gyda phob pwynt yng Nghynllun Hybu Gwynedd, bod lle i ofyn pa mor lwyddiannus oedd y Cyngor o ran yr hyn yr anelid ato, e.e. o ran yr asesiad digonolrwydd gofal plant, roedd tua 40% o’r lleoliadau o fewn sefyllfaoedd dwyieithog, ond nid oedd yna unrhyw ddiffiniad o ‘sefyllfa ddwyieithog’. 

·         Bod sefyllfa’r Gymraeg yn amrywio’n fawr ar draws Gwynedd ac nad oedd wedi sylweddoli cynt bod rhai ardaloedd o’r sir mor Seisnigaidd.  Cyfeiriodd yn benodol at y gwaith rhagorol oedd yn cael ei wneud gan bennaeth Ysgol Bro Idris o ran Cymreigio’r ysgol mewn amgylchiadau anodd iawn.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD ADOLYGIAD BLYNYDDOL CYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG (CSGA) pdf eicon PDF 56 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol Addysg  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg yn gwahodd y pwyllgor i ystyried cynnwys yr adroddiad adolygu blynyddol a chynnig sylwadau.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad ac i gyflwyniad Comisiynydd y Gymraeg (eitem 5 uchod), nododd y Pennaeth Addysg:-

 

·         Y cytunai’n llwyr fod y ddarpariaeth mewn ysgolion mewn perthynas â chategori 2A wedi bod yn wendid yn y gorffennol, ond ers dyfodiad y Strategaeth Iaith Uwchradd yng Ngwynedd, roedd gan yr awdurdod ddarlun clir o’r sefyllfa ymhob ysgol bellach.  Roedd y wybodaeth honno’n hanfodol er mwyn llunio cynllun pwrpasol ar gyfer yr holl sefyllfaoedd ieithyddol gwahanol ym mhob ysgol er mwyn cryfhau, nid yn unig yr elfen defnydd cymdeithasol, ond hefyd i ddylanwadu ar gwricwlwm iaith.

·         Na allai orbwysleisio i ba raddau roedd yr Adran yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn gallu darparu'r holl ystod o wasanaethau i’r dysgwyr mwyaf bregus drwy gyfrwng y Gymraeg (deilliant 6) a bod hyn yn glod i’r staff ac i weledigaeth y Cyngor a’r buddsoddiad a wnaed yn y maes yma.

·         Bod y Gweinidog Addysg wedi llongyfarch Gwynedd ar y ffordd y bu i’r Cyngor sefydlu system addysg wahanol yn Nolgellau, a olygai bod Cymreictod yr ysgolion cynradd bellach yn treiddio drwy Ysgol Bro Idris.  Nododd hefyd y dymunai longyfarch y Pennaeth a’r staff a’r llywodraethwyr ar eu gwaith yn hyrwyddo, yn mynnu ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn dal ei thir yn yr ysgol.

·         Bod gan Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn weledigaeth gadarn hefyd.  Eto, fel Bro Idris, roedd Tywyn yn dalcen caled o ran dylanwadu’n gadarnhaol o ran y Gymraeg, ond roedd y modd y bu i’r ysgol fabwysiadu’r cynllun ar gyfer y Strategaeth Iaith Uwchradd wedi cael sylw cenedlaethol ac yn ffordd ymlaen i unrhyw sefydliad arall.

·         Y gwelwyd egin sylweddol o newid yn Ysgol Friars hefyd, gyda’r nifer oedd yn sefyll Cymraeg Iaith Gyntaf ar gynnydd. 

·         Bod canran y plant oedd yn dod i’r cyfnod sylfaen o aelwydydd di-gymraeg ar gynnydd.  Roedd dirywiad mewn sgiliau cymdeithasol plant yn ffactor hefyd, gyda phlant yn cychwyn y cyfnod sylfaen heb sgiliau cyfathrebu mewn unrhyw iaith, ac roedd y ffaith bod bron pob un ohonynt yn cael eu hasesu drwy’r Gymraeg ar ddiwedd blwyddyn 2 yn dyst i lwyddiant y cyfnod sylfaen yng Ngwynedd. 

·         Y credid bod camau breision yn digwydd yn yr uwchradd hefyd yn sgil y ffaith bod gan Wynedd y Strategaeth Iaith Uwchradd gyntaf o ran hyrwyddo’r Gymraeg yng Nghymru.

·         Bod llwyddiant y Siarter Iaith Cynradd wedi lledaenu drwy Gymru erbyn hyn a bod hynny o ganlyniad i weledigaeth ysgolion cynradd Gwynedd yn ei fabwysiadu yn 2011.

·         Bod Estyn bellach, am y tro cyntaf, yn mesur i ba raddau roedd ysgolion yn mesur defnydd anffurfiol plant o’r Gymraeg, a bod hynny’n deillio’n uniongyrchol o gyfarfod yng Nghaerfyrddin yn 2013 lle cyflwynwyd copi o Siarter Iaith Gwynedd i’r Prif Arolygydd Ysgolion ar y pryd.

·         Y cytunai â’r Comisiynydd fod angen herio beth oedd cyd-destun ysgol o ran dwyieithrwydd a bod lle i fynd hefyd o ran wynebu a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD AELOD CABINET pdf eicon PDF 59 KB

Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet yn rhoi diweddariad ar y prif ddatblygiadau ym maes y Gymraeg ers cyfarfod diwethaf y pwyllgor.

 

Gan nad oedd amser yn caniatáu rhoi ystyriaeth lawn i’r adroddiad a bod yr Aelod Cabinet yn gorfod gadael y cyfarfod ar y pwynt yma, gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu gydag unrhyw gwestiynau ar yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

IECHYD MEDDWL A'R IAITH GYMRAEG

Derbyn cyflwyniad gan y Swyddog Cefnogi Busnes.

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan y Swyddog Cefnogi Busnes ar y ddarpariaeth iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg, yn deillio o’i gwaith ymchwil ar gyfer ei gradd meistr. 

 

          Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog am y cyflwyniad gan bwysleisio bod casgliadau’r gwaith ymchwil yn profi’r angen ieithyddol am y ddarpariaeth yma. 

 

PENDERFYNWYD cytuno â chasgliadau’r gwaith ymchwil a gwahodd y Swyddog Cefnogi Busnes i gynnal gweithdy ar y pwnc yma gyda holl aelodau’r Cyngor gan fod yna gymaint o gyfoeth o wybodaeth yn y cyflwyniad, a honno’n wybodaeth sy’n berthnasol i bawb, ac oherwydd bod y swyddog wedi gorfod rhuthro drwy ei chyflwyniad gan fod amser yn brin.

 

9.

TREFNIADAU GWEITHIO MEWN SEFYLLFA DDWYIEITHOG - TIMAU ADNODDAU CYMUNEDOL pdf eicon PDF 43 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Rhaglen Trawsffurfio Iechyd a Gofal Cymunedol (Gwynedd a Môn)  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem tan y cyfarfod nesaf gan nad oedd amser bellach yn caniatáu rhoi sylw teg i’r adroddiad, a hefyd gan nad oedd awdur yr adroddiad, sef Arweinydd Rhaglen Trawsffurfio Iechyd a Gofal Cymunedol (Gwynedd a Môn) yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn.

 

10.

ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION pdf eicon PDF 69 KB

Ystyried adroddiad yr Ymgynghorydd Iaith  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad yr Ymgynghorydd Iaith yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor am gwynion ac enghreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor.

 

Eglurodd yr Ymgynghorydd Iaith fod nifer o’r cwynion yn dyddio o gyfnod cyn y cyfarfod diwethaf, ond na adroddwyd arnynt yn flaenorol gan nad oeddent wedi eu datrys ar y pryd.

 

Nododd aelod ei fod yn croesawu derbyn y cwynion hyn gan eu bod yn rhoi darlun o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad.

 

Gan nad oedd amser yn caniatáu rhoi ystyriaeth lawn i’r adroddiad, gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu gydag unrhyw gwestiynau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.