Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Lowri Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD AR GYFER 2025 - 2026 I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2025 - 2026 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: AIL ETHOL Y CYNG JULIE FALLON YN GADEIRYDD AR GYFER 2025 - 26 Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd ail ethol y Cyng Julie Fallon yn Gadeirydd ar gyfer
2025 /2026 PENDERFYNWYD: AIL ETHOL Y CYNG. JULIE FALLON YN GADEIRYDD AR GYFER 2025 – 2026 |
|
ETHOL IS GADEIRYDD AR GYFER 2025 - 2026 I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2025 - 2026 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: AIL ETHOL Y CYNG. PHIL WYNN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025-26 Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd ail ethol y Cyng Phil Wynn yn Is-gadeirydd ar gyfer
2025 - 2026 PENDERFYNWYD: AIL ETHOL Y CYNG. PHIL WYNN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2025-2026 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng Julie Fallon (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy), Cyng. Dewi Jones
Cyngor Gwynedd), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), a Karen Evans (Cyngor
Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan aelod oedd yn
bresennol |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd 19 Chwefror 2025 fel rhai
cywir |
|
CYFRIFON TERFYNOL GWE 2024/25 - ALLDRO REFENIW I nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn 2024/25, sef sefyllfa o orwariant o £523,065, sydd i’w gyllido drwy gyfraniadau gan yr awdurdodau. I gymeradwyo trosglwyddiadau
ariannol o £221,310 o’r gronfa tanwariant, a £312,547 o’r gronfa Athrawon
Newydd Gymhwyso (ANG) i leihau gorwariant GwE yn 2024/25. I gymeradwyo sefyllfa ariannol
derfynol 2024/25, fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y
flwyddyn. Fydd yn cael eu cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan yr Adran
Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a
Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn 2024/25, sef sefyllfa o
orwariant o £523,065, sydd i’w gyllido drwy gyfraniadau gan yr awdurdodau. ·
Cymeradwyo trosglwyddiadau ariannol
o £221,310 o’r gronfa tanwariant, a £312,547 o’r gronfa Athrawon Newydd
Gymhwyso (ANG) i leihau gorwariant GwE yn 2024/25. ·
Cymeradwyo sefyllfa ariannol
derfynol 2024/25, fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y
flwyddyn. Fydd yn cael eu cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan yr Adran
Gyllid yr awdurdod lletya o fewn yr amserlen statudol. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor
Gwynedd yn diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad
ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2024/25. Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol -
Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod yr adroddiad yn manylu ar sefyllfa diwedd y flwyddyn 2024/25
ar gyfer GwE. Adroddwyd bod y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn amlygu
gorwariant o £523k oedd yn llawer is na’r gorwariant o £919k a ragwelwyd yn
adolygiad mis Ionawr 2025. Tynnwyd sylw at y prif faterion: Gweithwyr – yn dilyn ystyriaethau costau
diswyddo a chostau pensiwn, roedd y
gorwariant yn £962 o filoedd (ffigwr Adolygiad Ionawr wedi nodi £1.1
miliwn), ond amlygwyd bod y sefyllfa yn parhau i newid a’r ffigwr yn lleihau
wrth i swyddi gael eu cynnig i’r staff hynny sydd tu allan i drefn TUPE.
Adroddwyd y byddai’r Datganiad o’r Cyfrifon terfynol yn adlewyrchu y gwir
ffigwr ac o ganlyniad, cyfraniadau ychwanegol gan y Cynghorau. Costau Rhent a therfynu contractau swyddfeydd
– y gorwariant wedi cynyddu i £121 filoedd (£90 mil yn Ionawr) oedd o ganlyniad
i derfynu contractau swyddfeydd; nid oedd costau terfynu contract swyddfa Bryn
Eirias yn hysbys ynghynt. (Swyddfa Yr Wyddgrug yn un arall). Cludiant – tanwariant o £19 mil ac fel sydd
wedi ei adrodd yn gyson efo’r tueddiad blaenorol, bu cynnydd yn yr hawliadau
teithio ers yr adolygiad diwethaf. Cyflenwadau a Gwasanaethau - gorwariant o £9 mil. Nid yw'r cyfraniad
arferol wedi ei wneud i gronfa adnewyddu technoleg gwybodaeth ac felly'r
gorwariant yn llai. Nodwyd bod y sefyllfa ariannol bresennol yn
cymryd i ystyriaeth fod cronfa tanwariant o £221 o filoedd, yn cael ei defnyddio yn llawn i leihau y
gorwariant. Tynnwyd sylw at y gronfa athrawon newydd gymhwyso sydd wedi cronni,
gan nodi y byddai’r gronfa yn cael ei
gwagu drwy ddefnyddio gwerth £143k o filoedd ar gyfer athrawon sydd newydd
gymhwyso, a’r £313 o filoedd sydd yn weddill wedi ei ddefnyddio i leihau y
gorwariant. Bydd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn
amlygu bwlch ariannol o £523 o filoedd ac er nad oedd disgwyliad am arian
ychwanegol ar gyfer 2024/25, bod yr Adran Gyllid yn dilyn cais am arian
ychwanegol ar gyfer 2025 /26, yn disgwyl cadarnhad ffurfiol gan Llywodraeth
Cymru. Ategwyd, os na ddaw arian ychwanegol o’r Llywodraeth, bydd rhaid i’r Cynghorau unigol ei gyllido, sydd
yn uchafswm o £87 o filoedd fesul awdurdod. (er bod y costau diswyddo yn parhau
i leihau, bydd y cyfraniad yma o ganlyniad yn debygol o leihau gyda’r darlun yn
gliriach erbyn diwedd mis Mai 2025). Diolchwyd am yr adroddiad a diolchwyd i’r staff am gwblhau’r gwaith o
fewn cyfnod anodd. Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r adroddiad. PENDERFYNWYD: ·
Nodi
a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw Cydbwyllgor GwE am y flwyddyn 2024/25,
sef sefyllfa o orwariant o £523,065, sydd i’w gyllido drwy gyfraniadau gan yr
awdurdodau. ·
Cymeradwyo
trosglwyddiadau ariannol o £221,310 o’r gronfa tanwariant, a £312,547 o’r
gronfa Athrawon Newydd Gymhwyso (ANG) i leihau gorwariant GwE yn 2024/25. · Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2024/25, fydd yn sail i’r datganiadau ariannol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER CYDBWYLLGOR GWE I dderbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25. Cofnod: Cyflwynwyd y
Datganiad Llywodraethu gan Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Gwella Ysgolion).
Adroddwyd bod Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod
gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli
partneriaethol trwy Gyd-bwyllgorau ffurfiol.
Ategwyd mai gofyniad Rhan 5 o’r Rheoliadau hynny yw i’r Cydbwyllgor
adolygu a chymeradwyo Datganiad Rheolaeth fewnol gyda’r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol wedi ei ddarparu i gyd-fynd â’r gofyniad hwnnw. Eglurwyd, er
mwyn arddangos llywodraethu da, rhaid i GwE ddangos ei fod yn cydymffurfio â'r
egwyddorion craidd sydd yn y 'Framework for Delivering Good Governance in
Local Government (CIPFA/Solace, 2016)'. Paratowyd y datganiad yn unol â'r
egwyddorion hynny. Nodwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un dra
gwahanol o ran Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn y Gogledd yn sgil newidiadau
cenedlaethol a’r adolygiad o’r haen ganol.
O ganlyniad, roedd y Datganiad yn manylu ar drefniadau oedd wedi bod yn
weithredol am y flwyddyn ariannol 2024-25 a hynny yng nghyd-destun y newidiadau
a’r cyfrifoldebau perthnasol. Adroddwyd, yn
dilyn cynnal yr asesiad, nad oedd materion llywodraethu arwyddocaol wedi’u
hadnabod yn 2024/25 a nodwyd y farn bod y trefniadau llywodraethu yn cynnig
sicrwydd cryf bod trefniadau llywodraethu GwE yn gweithio'n dda. Diolchodd y
Pennaeth Gwasanaeth GwE - Gwella Ysgolion, am y cydweithio da oedd wedi bodoli
gydag Adran Gyllid Cyngor Gwynedd ac am eu cymorth parod i ddarparu
adroddiadau yn unol â’r gofyn. Cynigiwyd ac
eiliwyd derbyn y Datganiad PENDERFYNWYD: Derbyn a chymeradwyo'r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25. |
|
CYFRIFON TERFYNOL GWE - DATGANIAD O'R CYFRIFON I dderbyn a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn: Cyfrifon Terfynol i’w cymeradwyo gan Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd Hydref 2025 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor
Gwynedd yn diweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol terfynol
cyllideb GwE oedd hefyd yn amlygu trefn ar gyfer cyflwyno a chymeradwyo
Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, i’r dyfodol ynghyd a chyflwyniad o
Gynllun Archwilio Cymru ar gyfer 2024/25. Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol -
Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod Adran 12 o Ddeddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2004 yn datgan fod Cydbwyllgor o fwy nac un awdurdod (lleol)
yn gorff llywodraeth leol, gydag Adran 13 o’r Ddeddf yn mynnu bod cyrff o’r
fath yn cadw cyfrifon sy’n destun archwiliad gan archwiliwr annibynnol wedi’i
gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ategwyd bod Rheoliadau Cyfrifon ac
Archwilio yn mynnu bod pob Cydbwyllgor yn paratoi cyfrifon blynyddol, a gan fod
trosiant GwE yn fwy na £2.5 miliwn, rhaid paratoi datganiad o’r cyfrifon yn
unol â chod CIPFA. Eglurwyd, mai Cyngor Gwynedd fel y Cyngor lletyol sy’n gyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau cyfrifo ac
adrodd ar faterion cyllidol Cyd-Bwyllgor GwE a gyda GwE yn dod i ben ar 31 Mai
2025, bydd cyfrifon 2024/25 a 2025/26 gael eu cyflwyno i Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio Cyngor Gwynedd i’w cymeradwyo. Yng nghyd-destun cyfrifon 2024/25, eglurwyd
bod yr alldro a gyflwynwyd uchod yn sail i’r Datganiad o’r Cyfrifon a chyfrifon
statudol 2024/25. Nodwyd y byddai’r cyfrifon terfynol yn cael eu cylchredeg i
aelodau’r Cyd-bwyllgor ac yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru. Y bwriad yw
cwblhau archwiliad dros fisoedd yr haf a’u cymeradwyo yn derfynol ym Mhwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd ar y 9ed o Hydref 2025. Ategwyd, er mwyn cydymffurfio gyda’r
gofynion, bydd cyfrifon 2025/26 hefyd y cael eu paratoi am y cyfnod o ddau fis
o Ebrill i ddiwedd Mai, gyda rheiny hefyd yn destun archwiliad gan Archwilio
Cymru a cael eu cyflwyno i Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Gwynedd
i’w cymeradwyo. Cymerodd y Pennaeth Cynorthwyol y cyfle i
ddiolch yn fawr i staff GwE, i’r Tim Busnes ac i’r Cyd-Bwyllgor am y
cyd-weithio da a’r holl gefnogaeth gafodd yr Adran Cyllid dros y blynyddoedd.
Dymunwyd y gorau iddynt i gyd i’r dyfodol. Cynllun Archwilio gan Archwilio Cymru. Croesawyd Siwan
Glyn (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddog Archwilio
Cymru yn manylu ar y gwaith y mae Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd
i’r afael a’r risgiau archwilio i Gydbwyllgor GwE 2025. Nodwyd y bydd
archwiliad o’r datganiadau ariannol yn cael eu cwblhau ynghyd a gwaith archwilio perfformiad i asesu
sicrwydd a risg. Yng nghyd-destun perthnasedd datganiadau
ariannol nodwyd y cyfrifir perthnasedd gan ddefnyddio gwariant gros 2024-25 sef
£17.8 miliwn a chyfeiriwyd at y risg sylweddol i ddatganiadau archwilio ynghyd
â’r risgiau archwilio. Ategwyd bod y risg sylweddol o wrthwneud rheolaethau gan
reolwyr yn un oedd yn cael ei gynnwys yng nghynllun manwl pob Awdurdod. Nodwyd
hefyd bod y risg archwilio o rwymedigaeth net cronfa bensiwn hefyd wedi ei
gynnwys mewn nifer o gynlluniau ac nid yn benodol i GwE. Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw’r un archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |