Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Ian
B.Roberts a Colin Everett (Cyngor Sir y Fflint), Yana Williams (Coleg Cambria),
Yr Athro Iwan Davies (Prifysgol Bangor), Judith Greenhalgh (Cyngor Sir
Ddinbych) a Dilwyn Williams (Cyngor Gwynedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 243 KB Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Bwrdd Uchelgais a gynhaliwyd ar 5
Chwefror, 2021 fel rhai cywir. |
|
CYLLIDEB REFENIW A CHYFALAF 2021/22 PDF 604 KB Adroddiad gan
Dafydd L. Edwards, Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2021/22 fel y'i
cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau
unwaith ac am byth o £415,000 yn y gyllideb refeniw i'w hariannu o'r gronfa
wrth gefn a glustnodir. 2. Cymeradwyo Cyllideb Gyfalaf 2021/22 hyd
2025/26 fel y'i cyflwynir yn Atodiad 2. 3. Cyllido'r Adolygiadau Porth (Sicrwydd) ar
gyfer y prosiectau sydd dan arweiniad y Bwrdd Uchelgais ac Arianwyr y
Prosiectau. 4. Gofyn yn ffurfiol i bob un o'r chwe awdurdod
lleol gydweithredu wrth ddefnyddio eu hyblygrwydd ariannu i ryddhau cyllid
refeniw i'r Bwrdd Uchelgais. Golyga hyn gyfnewid y cyllid sydd wedi'i ddynodi
i'r Cynllun Twf yn erbyn prosiectau cyfalaf eraill o fewn eu rhaglenni cyfalaf
a sicrhau bod cyllid refeniw o werth cyfartal ar gael i'r Cynllun Twf i ariannu
eu heitemau math refeniw. 5. Gofyn i'r Swyddfa Rheoli Portffolio adolygu costau'r prosiectau yn ystod y flwyddyn wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, ymhellach i'r costau nas ragwelwyd sydd bellach wedi'u hadnabod yn y gyllideb refeniw. Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiwn o ariannu rhan o'r gwariant hwn o gyllideb gyfalaf y prosiect unigol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Dafydd L.Edwards (Swyddog Statudol Statudol – Awdurdod Lletya) a
Sian Pugh (Cyfrifydd Grŵp – Corfforaethol a Phrosiectau). PENDERFYNWYD (1) Cymeradwyo
Cyllideb Refeniw 2021/22 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Mae hyn yn cynnwys trosglwyddiadau unwaith ac
am byth o £415,000 yn y gyllideb refeniw i’w hariannu o’r gronfa wrth gefn a
glustnodir. (2) Cymeradwyo
Cyllideb Gyfalaf 2021/22 hyd 2025/26 fel y’i cyflwynir yn Atodiad 2. (3) Cyllido’r
Adolygiadau Porth (Sicrwydd) ar gyfer y prosiectau sydd dan arweiniad y Bwrdd
Uchelgais ac Arianwyr y Prosiectau. (4) Gofyn
yn ffurfiol i bob un o’r chwe awdurdod lleol gydweithredu wrth ddefnyddio eu
hyblygrwydd ariannu i ryddhau cyllid refeniw i’r Bwrdd Uchelgais. Golyga hyn gyfnewid y cyllid sydd wedi’i
ddynodi i’r Cynllun Twf yn erbyn prosiectau cyfalaf eraill o fewn eu rhaglenni
cyfalaf a sicrhau bod cyllid refeniw o werth cyfartal ar gael i’r Cynllun Twf i
ariannu eu heitemau math refeniw. (5) Gofyn
i’r Swyddfa Rheoli Portffolio adolygu costau’r prosiectau yn ystod y flwyddyn
wrth i ragor o wybodaeth ddod i law, ymhellach i’r costau nas ragwelwyd sydd
bellach wedi’u hadnabod yn y gyllideb refeniw.
Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried yr opsiwn o ariannu rhan o’r gwariant
hwn o gyllideb gyfalaf y prosiect unigol. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD (1) Gosod y gyllideb arfaethedig yn ôl pennawd
gwariant a’r ffrydiau ariannu cyfatebol ar gyfer y flwyddyn. (2) Gosod y gyllideb arfaethedig fesul prosiect
a’r ariannu cyfalaf cyfatebol ar gyfer 2021/22 hyd 2025/26. (3) Er mwyn gweithredu’n effeithiol o fewn y
cyllid sydd ar gael, mae angen i gyllideb flynyddol gael ei chymeradwyo ar
gyfer y Bwrdd Uchelgais. (4) Awdurdodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i wario
arian yn unol â’r gyllideb gymeradwy. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw a Chyfalaf 2021/22 ar gyfer y Bwrdd
Uchelgais. Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Manylodd Swyddog
Cyllid Statudol yr Awdurdod Lletya ar y newidiadau a’r sefyllfaoedd annisgwyl
oedd wedi codi ers i’r Bwrdd drafod y gyllideb ddiwethaf, ac oedd wedi gyrru cyfran
helaeth o’r defnydd o gronfeydd wrth gefn, sef:- ·
Y costau sylweddol annisgwyl untro ynghlwm â
datblygu achosion busnes. ·
Costau’r gefnogaeth gyfreithiol i’r achosion
busnes hynny. Eglurodd:- ·
Bod arian digonol yn y cronfeydd wrth gefn i
weithredu hyn, ond y ceisid adeiladu’r gronfa wrth gefn, yn hytrach na’i
defnyddio ar y dechrau. ·
Bod y Cyfarwyddwr Portffolio, y Rheolwr
Gweithrediadau a Swyddog Monitro’r Awdurdod Lletya wedi’u herio ar y ffigyrau,
a bod yr amcangyfrifon o’r costau untro ychwanegol yn rhai bras ar hyn o bryd. Nododd ymhellach:- ·
Gan i’r rhandaliad cyntaf o £16m o’r grant
Cynllun Twf gael ei dderbyn ar 12 Mawrth, 2021, bod cyfraniadau’r partneriaid
ar ochr isaf yr amrediad a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Hydref 2020. · Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU yng Nghyllideb y Canghellor yng nghyswllt cwtogi’r cyfraniad ariannu o 15 mlynedd i 10 mlynedd, byddai’n rhaid ymweld â’r holl sefyllfa ariannol. Daeth newyddion y Canghellor yn annisgwyl i Lywodraeth Cymru hefyd, ac nid oedd yn glir ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DATGANIAD SEFYLLFA AR NEWID HINSAWDD AC ECOLEGOL PDF 763 KB Adroddiad gan Alwen
Williams, Cyfarwyddwr Portffolio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Mabwysiadu'r datganiad sefyllfa arfaethedig
yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau'r Cynllun Twf yn cyflawni
yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:- ·
Diwygio’r
ail bwynt bwled i ddarllen “cyflawni o
leiaf 40% yn llai o garbon corfforedig”. ·
Diwygio’r
trydydd pwynt bwled i ddarllen “cyflawni o
leiaf 10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”. ·
Dileu’r
frawddeg ddiwethaf, sef “Bydd y Swyddfa
Rheoli Portffolio yn gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad
fforddiadwy gorau ar gyfer pob prosiect”. 2. Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau'r Cynllun
Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad sefyllfa
ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo'r achos
busnes. 3. Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Portffolio
bennu'r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi y bydd
angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Alwen Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Robyn Lovelock (Rheolwr Rhaglen
Cynllun Twf). PENDERFYNWYD (1) Mabwysiadu’r datganiad sefyllfa arfaethedig
yn adran 5.1 o’r adroddiad ar sut y bydd prosiectau’r Cynllun Twf yn cyflawni
yn erbyn dyheadau rhanbarthol a dyheadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
ar newid hinsawdd ac ecolegol, gyda’r addasiadau a ganlyn:- ·
Diwygio’r ail bwynt bwled i
ddarllen “cyflawni o leiaf 40% yn
llai o garbon corfforedig”. ·
Diwygio’r trydydd pwynt
bwled i ddarllen “cyflawni o leiaf
10% o fudd net ar gyfer bioamrywiaeth”. ·
Dileu’r frawddeg ddiwethaf,
sef “Bydd y Swyddfa Rheoli Portffolio yn
gweithio gydag arianwyr prosiectau i gyflawni’r datrysiad fforddiadwy gorau ar
gyfer pob prosiect”. (2) Nodi y bydd gofyn i holl brosiectau’r
Cynllun Twf amlinellu i ba raddau y byddant yn cyflawni yn erbyn y datganiad
sefyllfa ac unrhyw fesurau lliniaru perthnasol fel rhan o broses gymeradwyo’r
achos busnes. (3) Dirprwyo awdurdod i’r Cyfarwyddwr
Portffolio bennu’r modd gweithredu a mesur priodol ar draws y portffolio a nodi
y bydd angen comisiynu arbenigedd allanol i gefnogi’r Swyddfa Rheoli
Portffolio. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Heb ddatganiad
sefyllfa clir gan y Bwrdd ar newid hinsawdd ac ecolegol, gellid colli cyfleoedd
i siapio achosion busnes y prosiectau.
Gallai hyn arwain yn anfwriadol at brosiectau’r Cynllun Twf yn cynyddu
allyriadau carbon rhanbarthol a cholli bioamrywiaeth. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cyflwyno datganiad sefyllfa arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf
Gogledd Cymru yn ymwneud â newid hinsawdd ac ecolegol. Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Mynegwyd
pryder gan rai aelodau nad oedd y datganiad sefyllfa arfaethedig yn mynd yn
ddigon pell, a bod angen tynhau ar y geiriad, e.e. dylid nodi ‘bydd holl brosiectau’r Cynllun Twf yn ...’,
yn hytrach na ‘bydd holl brosiectau’r
Cynllun Twf yn anelu i ...’, ayb. ·
Pwysleisiwyd
y dylai’r Bwrdd Uchelgais arwain ar draws y Gogledd ar leihau ôl troed carbon,
ac awgrymwyd y dylai holl brosiectau’r Cynllun Twf gyflawni 50% yn llai o
garbon corfforedig (yn hytrach na 40%, fel y nodwyd yn y datganiad sefyllfa
arfaethedig) a chyflawni budd net o 20% ar gyfer bioamrywiaeth (yn hytrach na’r
10% a nodwyd yn y datganiad). Mewn
ymateb, eglurwyd nad oedd Cymru wedi sefydlu targed budd net ar gyfer
bioamrywiaeth, ond roedd yn cydnabod nad oedd y sefyllfa bresennol yn gefnogol
i iechyd ecosystemau, a bod angen bod yn fwy uchelgeisiol. Yn absenoldeb targed ar gyfer Cymru, dilynwyd
arweiniad DEFRA, oedd wedi ymgynghori’n helaeth dros gyfnod o fisoedd lawer yn
Lloegr cyn sefydlu’r budd net o 10%.
Nodwyd ymhellach bod y targed ar gyfer carbon corfforedig yn
uchelgeisiol, ac y byddai’n bosib’ tynhau’r geiriad, mae’n debyg. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod y
datganiad yn nodi y byddai prosiectau’n cael eu hannog i gyflawni’n uwch na’r
dyheadau hyn, ond roedd yn rhaid i’r geiriad hefyd gydnabod yr amrediad
aeddfedrwydd o fewn y portffolio, a darparu asesiad realistig o hynny. · Mewn ymateb i gwestiwn, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
STRATEGAETH YNNI GOGLEDD CYMRU DDRAFFT PDF 577 KB Adroddiad gan Henry
Aron, Rheolwr Rhaglen Ynni a Rhys Horan, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cadarnhau Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar
ffurf drafft, a chadarnhau cefnogaeth y Bwrdd i ddechrau ar y gwaith paratoadol
ar gyfer y cynllun gweithredu. 2. Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ar y
cynllun gweithredu drafft. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Henry Aron (Rheolwr Rhaglen Ynni) a Rhys Horan (Gwasanaeth Ynni
Llywodraeth Cymru). PENDERFYNWYD (1) Cadarnhau Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar
ffurf drafft, a chadarnhau cefnogaeth y Bwrdd i ddechrau ar y gwaith paratoadol
ar gyfer y cynllun gweithredu. (2) Cytuno i dderbyn adroddiad pellach ar y
cynllun gweithredu drafft. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Mae’r
strategaeth bresennol yn darparu gweledigaeth lefel-uchel, meysydd
blaenoriaeth, gwaith modelu ynni ynghyd â dadansoddiad economaidd fydd yn
cyfrannu at ddatblygu'r cynllun gweithredu arfaethedig. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cyflwyno Strategaeth Ynni Gogledd Cymru ar ffurf drafft i’w
chadarnhau, ennyn cefnogaeth ar gyfer y camau nesaf arfaethedig, ac arddangos
bod y Strategaeth yn cyd-fynd â’r ymrwymiad rhanbarthol i her newid hinsawdd. Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd y byddai Bwrdd Rhaglen Ynni Carbon Isel y
Bwrdd Uchelgais yn rhan o hyn, a bod pob un o’r partneriaid wedi cyfrannu at y
siwrne hyd yma. ·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau nad oedd hyn
yn tynnu oddi ar waith y Bwrdd Uchelgais, oherwydd yr angen i gyflawni ar
gynlluniau’r Bid Twf. ·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y £15bn o
wariant oedd ei angen i gyflawni’r weledigaeth ynni yn gyfuniad o fuddsoddiad
sector breifat a chyhoeddus. Nid oedd yn
glir eto beth fyddai’r rhaniad, ond roedd hefyd yn cynnwys gwariant gan
unigolion, e.e. ar gerbydau trydan, pympiau gwresogi, ac ati. ·
Croesawyd y ddogfen, a nodwyd ei bod yn gosod
allan yn glir rai o’r materion cyfredol, a’r opsiynau ar gyfer y dyfodol
hefyd. ·
Croesawyd y cyfeiriad at y cyfraniad y gall morlyn
llanw ei wneud, a holwyd a roddid sylw i fanteision ehangach na’r manteision
cynhyrchu ynni yn unig. Mewn ymateb,
eglurwyd na roddwyd sylw llawn i’r holl fanteision yn y ciplun a roddwyd, ond
roedd y manteision economaidd, yn nhermau creu swyddi, ayb, wedi’u hadnabod, ac
wedi’u rhannu. Wrth fynd ymlaen, byddai
hyn yn bwysig, ond nid oedd y manylder ar gael eto. |
|
EGWYDDORION MASNACHOL AR GYFER CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU PDF 390 KB Adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau. Penderfyniad: 1. Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y nodir yn adran
5 yr adroddiad. 2. Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi'i nodi'n glir law yn llaw ag
achosion busnes y prosiectau er mwyn
i'r Bwrdd eu hystyried. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNWYD (1) Cytuno ar yr Egwyddorion Masnachol fel y
nodir yn adran 5 o’r adroddiad. (2) Nodi y bydd y sail resymegol ar gyfer
mabwysiadu safbwynt masnachol penodol wedi’i nodi’n glir law yn llaw ag
achosion busnes y prosiectau er mwyn i’r Bwrdd eu hystyried. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Darparu llwyfan
negodi clir ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cyflwyno cyfres o Egwyddorion Masnachol a fyddai, o’u
mabwysiadu, yn cael eu defnyddio gan y Swyddfa Rheoli Portffolio i negodi
cyfleoedd masnachol sy’n ymwneud â phrosiectau’r Cynllun Twf. Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y £100,000 ar
gyfer cefnogaeth gyfreithiol allanol y cyfeiriwyd ato yn eitem 5 uchod yn adlewyrchu’r
ffaith y byddai yna waith cytundebol cymhleth, a manwl ar adegau, o gwmpas y
cytundebau ariannu’n gyffredinol, a bod y gefnogaeth gyfreithiol allanol y
cyfeirir ati ym mharagraff 6.1 o’r adroddiad yn un elfen o hyn. Eglurwyd ymhellach nad oedd y Bwrdd Uchelgais
yn ymrwymo i wariant uniongyrchol drwy gymeradwyo’r adroddiad hwn. Er hynny, roedd yna oblygiadau ariannol i
hyn, ond yn debygol o fod yn bositif i’r Bwrdd yn nhermau’r gallu i fanteisio
ar brosiectau masnachol er mwyn cael rhyw fath o ddychweliad. Fel roedd Swyddog Cyllid Statudol yr Awdurdod
Lletya wedi nodi yn ei sylwadau ar yr adroddiad, nid oedd hynny’n eglur eto, ac
roedd angen gwneud mwy o waith er mwyn adnabod y ffordd ymlaen o ran hynny. ·
Nodwyd ei bod yn anodd deall hyn i gyd yn iawn
nes gweld gwir enghreifftiau, ond bod yr egwyddorion yn ymddangos yn rhai teg. ·
Awgrymwyd y gallai Egwyddor Fasnachol 1 fod yn anodd
ei diffinio o safbwynt gwahaniaethu rhwng adenillion masnachol o ganlyniad i’r
buddsoddiad hwn ac adenillion masnachol o ganlyniad i rywbeth y byddai corff yn
ei wneud beth bynnag. Derbynnid, fodd
bynnag, nad oedd y manylder ar gael ar
hyn o bryd. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - EGWYDDORION CAFFAEL PDF 469 KB Adroddiad gan Hedd
Vaughan-Evans, Rheolwr Gweithrediadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Mabwysiadu'r egwyddorion caffael arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd
Cymru. 2. Nodi y bydd gofyn i arianwyr y prosiectau ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn yr egwyddorion hyn fel rhan o achos busnes y prosiectau. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Hedd Vaughan-Evans (Rheolwr Gweithrediadau). PENDERFYNWYD (1) Mabwysiadu’r egwyddorion caffael
arfaethedig ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru. (2) Nodi y bydd gofyn i arianwyr y prosiectau
ddangos sut y byddant yn cyflawni yn erbyn yr egwyddorion hyn fel rhan o achos
busnes y prosiectau. RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD Darparu fframwaith
clir i brosiectau gyflawni yn erbyn dyheadau Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn cyflwyno cyfres o egwyddorion caffael ar gyfer Cynllun Twf
Gogledd Cymru. Manylwyd ar y
cefndir ac ystyriaethau perthnasol a’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd y cefnogid yr egwyddorion, ond wrth eu
rhoi ar waith, y dymunid gweld ychydig mwy o amlygrwydd yn cael ei roi i’r
egwyddorion hynny sy’n dod â budd i Ogledd Cymru, megis newid hinsawdd ac
ecolegol, cefnogi’r gadwyn gyflenwi leol, gwerth cymdeithasol, sgiliau, swyddi
a chyfleoedd, ac ati. ·
Mynegwyd gobaith y byddai’r egwyddorion yn cael
eu gweithredu’n egnïol, ac yn cael eu hyrwyddo hefyd. |