Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Gynghorydd Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd) a Chris Fisher (Sefydliad y Bad Achub Criccieth). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nodwyd
bod tri unigolyn wedi rhoi eu henwau
ymlaen i gynrychioli gwahanol fuddiannau ar y pwyllgor hwn: • Jenny
Howell (Clwb Hwylio
Porthmadog) – yn cynrychioli
buddiannau hamdden. • Richard Owen
(Robert Owen Marine) – yn cynrychioli
buddiannau diwydiannol. • Richard
Aherne (Clwb Rhwyfo) – yn cynrychioli’r clwb rhwyfo. Adroddwyd,
yn dilyn ymgynghoriad â chynghorwyr cyfreithiol, bod wedi’i benderfynu y bydd angen i’r unigolion
hyn gael eu penodi’n ffurfiol
gan y Cabinet. Gofynnwyd i aelodau’r pwyllgor
ymgynghori ar y mater, ac ymrwymo i benderfynu
a ddylid derbyn yr unigolion hyn fel
aelodau o’r Pwyllgor. Cytunwyd aelodau’r pwyllgor i dderbyn y tri unigolyn i gynrychioli gwahanol fuddiannau ar y pwyllgor hwn. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gymhaliwyd ar 01/10/24 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 01/10/24 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a
derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr Harbwr. (1) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn
rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod rhwng mis
Hydref 2024 a Mawrth 2025. Angorfeydd
Porthmadog a Chofrestru Cychod Adroddwyd
bod gwaith adnewyddu a chynnal a chadw’r cadwyni ac angorfeydd , sydd wedi’u
lleoli yn yr harbwr, yn cael ei gwblhau gan gontractwr angorfeydd a benodwyd yn
lleol. Mynegwyd y disgwyliad y dylai cwsmeriaid sy’n dymuno sicrhau angorfa yn
yr harbwr, neu gofrestru eu cychod dŵr ar gyfer y tymor sydd i ddod,
gwblhau’r broses berthnasol ar-lein yn brydlon o 1 Ebrill ymlaen, drwy wefan
Cyngor Gwynedd. Tanlinellwyd, os oes angen cymorth neu arweiniad i gwblhau’r
prosesau angenrheidiol, bod croeso i gwsmeriaid gysylltu â swyddfa’r harbwr,
lle bydd staff yn hapus i helpu. Mynegwyd gobaith y bydd cyfnod yr haf eleni yn
gyfnod prysur. Cod
Diogelwch Morol Porthladdoedd Adroddwyd
bod y gwasanaeth yn adolygu’r Cod Diogelwch Morol yn rheolaidd ar gyfer yr
harbyrau o fewn ei awdurdodaeth, er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i
gydymffurfio’n llawn â gofynion presennol y Cod. Nodwyd, fel rhan o’r broses
adolygu, ei bod yn angenrheidiol derbyn sylwadau a barn Aelodau’r Pwyllgor
Ymgynghorol ar ba mor addas yw’r Cod Diogelwch Morol, ac i dderbyn sylwadau’n
rheolaidd ar ei gynnwys. Materion
Staffio Adroddwyd
bod Mr Daniel Cartwright, cyn-Harbwrfeistr Harbwr Abermaw, wedi’i benodi fel
Uwch Swyddog Harbyrau yn lle Mr Arthur Jones. Dechreuodd Mr Daniel Cartwright
gymryd cyfrifoldeb am ei rôl ar 1 Rhagfyr 2024, gan fod Mr Arthur Jones yn
ymddeol yn swyddogol o’r Gwasanaeth ar 31 Mawrth. Diolchwyd i Mr Arthur Jones
am ei waith yn y gwasanaeth ac ar y Pwyllgor hwn dros y blynyddoedd. Nodwyd bod
Harbwrfeistr, Mr Malcolm Humphreys, a’i gymhorthydd, Mr Richard Hughes, yn
parhau i ddarparu gwasanaeth i ymwelwyr a chwsmeriaid yr harbwr, gyda staff
morwrol wedi’u lleoli yn harbyrau Abermaw ac Aberdyfi hefyd ar gael i
gynorthwyo os bydd angen. Nodwyd bod
swyddogion wedi ymgymryd â gwaith cynnal a chadw yn yr harbwr, yn ogystal â
gwaith ychwanegol ym Mhorth-y-Gest ac ar draethau cyfagos Morfa Bychan a
Chricieth. Nodwyd ymhellach bod bwriad penodi swyddogion traethau tymhorol ar
draethau Morfa Bychan a Chricieth ar gyfer tymor prysur yr haf. Adroddwyd
bod perchenog llong cludo y ‘Terra Marique’ wedi cysylltu â’r Uwch Swyddog
Harbyrau i drafod y posibilrwydd o ddychwelyd i draeth Morfa Bychan . Nodwyd y bydd adroddiad pellach yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor pan fydd mwy o fanylion ar gael. Materion
Ariannol Rhoddodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr ar gyfer y cyfnod
01/04/24 – 31/03/25 (Adolygiad Tachwedd 2024), a gynhwyswyd fel atodiad i’r
adroddiad. Nodwyd yn benodol: • Bod gorwariant o dan y pennawd Gweithwyr oherwydd costau goramser. Nodwyd bod staff yr Harbwr wedi bod yn cynorthwyo mewn harbyrau eraill ac ar draeth Morfa Bychan. Nodwyd ymhellach bod costau ychwanegol wedi codi gan fod Mr Arthur Jones wedi aros yn ei swydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y
cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 30/09/25. Cofnod: Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 30/09/25. |