Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

5.

COFNODION CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 08 EBRILL pdf eicon PDF 193 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

YMESTYN CYNLLUN DECHRAU'N DEG pdf eicon PDF 151 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn cynnig grant i ehangu Rhaglen Dechrau’n Deg yn y sir drwy

o   ymestyn y cynllun llawn i weddill ardal Penygroes yn sgil gostyngiad yn y niferoedd cymwys i’r rhaglen bresennol

o   ymestyn yr elfen ofal plant i ardaloedd ychwanegol – Cam 3

 

2.    Cymeradwyo’r Pennaeth Plant, mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid i gyflwyno achosion busnes a derbyn cynigion grant ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Gofal plant a’r blynyddoedd cynnar.

 

7.

CYNLLUN GWEITHREDU TAI pdf eicon PDF 348 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Ymestyn cyfnod y Cynllun Gweithredu Tai am ddwy flynedd bellach hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol 2028/29.

 

2.    Ymrwymo’r swm blynyddol arferol o £6m o’r gronfa Premiwm Treth Cyngor ar gyfer ariannu’r ddwy flynedd ychwanegol.

 

8.

CYFRIFON TERFYNOL 2024/25 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 875 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2024/25:

 

 

Colofn

A

Colofn B

Colofn C

Colofn CH

Colofn D

 

Gor/(Tan) Wariant Gros 2024/25

Addasiadau a Argymhellir

Gor / (Tan) Wariant Addasedig 2024/25

 

£ ‘000

£ ‘000

£ ‘000

£ ‘000

£ ‘000

 

Oedolion, Iechyd a Llesiant

 

857

 

 

(757)

100

Plant a Theuluoedd

 

3,805

 

 

(3,705)

100

Gwasanaeth Busnes a Chomisiynu Gofal

(15)

15

 

 

0

Addysg

 

(191)

191

 

 

0

Economi a Chymuned

 

281

 

(281)

 

0

Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

 

656

 

 

(556)

100

Amgylchedd

 

1,349

 

(1,100)

(149)

100

Tai ac Eiddo

 

(3)

3

 

 

0

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(48)

48

 

 

0

Gwasanaethau Corfforaethol

 

(42)

42

 

 

0

Cyllid

(5)

5

 

 

0

 

 

Gan nodi bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, a’r Adran Amgylchedd yn 2024/25 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol canlynol (a eglurwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad) -

·         Yn unol â phenderfyniad Cabinet 21 Ionawr 2025, peidio caniatáu i adrannau gario unrhyw danwariant i’r flwyddyn ariannol nesaf drwy eithrio cymal 16.3.1.(C) o’r Rheoliadau Ariannol (Gweler colofn B yn y tabl uchod).

·         Cadarnhau'r cymorth ariannol o £281k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach, a defnyddio £1.1 miliwn o gronfa Adennill Enillion Cyfrannol Parc Adfer i gyllido'r gorwariant yn y maes Gwastraff (Gweler colofn C yn y tabl uchod).

·         Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn CH yn y tabl uchod).

·         Ar gyllidebau Corfforaethol:

-       defnyddio (£5.144 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2024/25.

-       gweddill y tanwariant o (£1.548 miliwn) ar gyllidebau Corfforaethol i’w drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio, i'w ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor.

 

Cymeradwywyd symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” yng

ngholofn D uchod ac yn Atodiad 1).

 

Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:

-       cynaeafu £1.275 miliwn o amrywiol gronfeydd a’i drosglwyddo i'r Gronfa Trawsffurfio.

-       Dad-ymrwymo £375k o gynlluniau hanesyddol neu rai heb ymrwymiadau yn y Gronfa Trawsffurfio.

-       Symud £2.5 miliwn o gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i’r Gronfa Trawsffurfio fel eu bod ar gael ar gyfer blaenoriaethau’r Cyngor a chyllido bidiau un tro i'r dyfodol.

 

 

 

9.

RHAGLEN GYFALAF 2024/25 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2025) pdf eicon PDF 968 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Huw Wyn Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2025) o’r rhaglen gyfalaf.

·         Cymeradwyo’r addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a gymeradwywyd ar 7 Mawrth 2024 ac a addaswyd ar 15 Hydref 2024 a’r 21 Ionawr 2025 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad), sef:

-       cynnydd o £4,409,000 mewn defnydd o fenthyca

-       cynnydd o £17,639,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-       cynnydd o £75,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-       lleihad o £422,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-       lleihad o £3,898,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf

-       cynnydd o £1,555,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

10.

EISTEDDFOD YR URDD pdf eicon PDF 167 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynodd y Cabinet i:

a.    cymeradwyo ymrwymiad mewn egwyddor i wahodd yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd yn 2028

b.    Gymeradwyo cyfraniad o £200k o’r gronfa trawsffurfio fel cyfraniad tuag at gostau cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngwynedd.