Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:-

 

·       Y Cynghorydd Nia Jeffreys (Cyngor Gwynedd) gyda’r Cynghorydd Menna Trenholme yn dirprwyo.

·       Dafydd Gibbard (Cyngor Gwynedd) gyda Sioned Williams yn dirprwyo.

·       Graham Boase (Cyngor Sir Ddinbych)

·       Aled Jones-Griffith (Grŵp Llandrillo Menai) gyda Gwenllian Roberts yn dirprwyo.

·       Yana Williams (Coleg Cambria).

·       Elliw Hughes (Rheolwr Rhaglen Cynllun Twf).

·       Sian Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 127 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2025 fel rhai cywir.

 

5.

CYFETHOL I'R IS-BWYLLGOR LLES ECONOMAIDD pdf eicon PDF 185 KB

I ystyried Cyfethol aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i’w benodi ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd.

Penderfyniad:

1.     Cyfethol Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (heb bleidlais) ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd i gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau.

2.     Bod yr aelod isod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael eu cyfethol i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd yn berthnasol i faterion cynllunio strategol yn unig:

·       Cyng. Edgar W. Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Monitro.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Cyfethol Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (heb bleidlais) ar yr Is-bwyllgor Lles Economaidd i gefnogi ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau.

2.     Bod yr aelod isod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael eu cyfethol i’r Is-bwyllgor Lles Economaidd yn berthnasol i faterion cynllunio strategol yn unig:

·       Cyng. Edgar W. Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Ar Fawrth 21 cytunodd Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd y bydd aelodaeth yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn cynnwys chwe Aelod Cyngor Cyd-bwyllgor Corfforaethol y Gogledd, ynghyd a chynrychiolydd o bob un o’r cyrff hynny a gynrychiolwyd ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, i gael ei benodi fel aelodau cyfethol dibleidlais.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd bod y penderfyniad o gyfethol Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael ei ohirio yn ystod cyfarfod yr Is-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Ebrill 2025 er mwyn gwirio materion technegol. Mynegwyd balchder bod y materion hynny bellach wedi cael eu datrys. Cadarnhawyd bod y Cynghorydd Edgar Owen wedi cael ei enwebu i fod yn Aelod Cyfethol (heb bleidlais) o’r Is-bwyllgor hwn. Ymhelaethwyd bydd trefniadau Cyfethol yn cael eu cadarnhau gan y Swyddog Monitro os byddai’r Aelodau yn cadarnhau’r enwebiad hwn.

 

6.

SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF BUEGC AR GYFER 2024/25 pdf eicon PDF 195 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     Nodi adroddiad alldro y BUEGC ar gyfer 2024/25 sy’n cynnwys defnyddio £714,395 o grant Bargen Twf Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

2.     Nodi sefyllfa cronfeydd BUEGC.

3.     Nodi adolygiad cyfalaf diwedd blwyddyn BUEGC ar 31 Mawrth 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Swyddog Cyllid Statudol.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodi adroddiad alldro y BUEGC ar gyfer 2024/25 sy’n cynnwys defnyddio £714,395 o grant Cynllun Twf Gogledd Cymru i ddangos sefyllfa niwtral ar gyfer y flwyddyn.

2.     Nodi sefyllfa cronfeydd BUEGC.

3.     Nodi adolygiad cyfalaf diwedd blwyddyn BUEGC ar 31 Mawrth 2025.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Hysbysu’r Is-bwyllgor Lles Economaidd am sefyllfa ariannol y BUEGC ar gyfer refeniw a chyfalaf yn 2024/25.

 

Trosglwyddwyd rôl a swyddogaeth y BUEGC i’r CBC ar 1 Ebrill 2025, a oedd yn cynnwys staff, adnoddau, ymrwymiadau ac asedau ariannol, gan gynnwys y Cynllun Twf a’r cyllid.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr Adroddiad er gwybodaeth i’r Is-bwyllgor gan gadarnhau y byddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2025 er cymeradwyaeth.

 

Adroddwyd bod sefyllfa refeniw alldro terfynol ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn danwariant oddeutu £386,000. Eglurwyd bod y tanwariant hwn yn gynnydd o’r tanwariant a ragwelwyd wrth adrodd ar y sefyllfa ym mis Rhagfyr 2024, sef oddeutu £205,000. Manylwyd ar brif pennawdau’r gyllideb fel a ganlyn:

 

·       Swyddfa Rheoli Portffolio - Eglurwyd mai’r tanwariant net terfynol ar y pennawd hwn yw £75,140 yn sgil tanwariant ar wariant gweithwyr. Ymhelaethwyd bod chwyddiant cyflog gwirioneddol 2024/25 yn 3%, ble cyllidebwyd ar gyfer cynnydd o 6%. Tynnwyd sylw bod estyniad ar gyllideb y Gronfa Ffyniant Gyffredin hyd ddiwedd Mawrth 2025 wedi galluogi ariannu tri swyddog o fewn y pennawd UKSPF yn hytrach na’r gyllideb graidd fel a gyllidebwyd.

·       Gwariant Gweithwyr – Nodwyd bod rhan o’r tanwariant o fewn y pennawd hwn wedi cael ei ddefnyddio i ariannu staff ymgynghorol dros dro tra bod gwaith yn mynd rhagddo i benodi Rheolwr Rhaglen wedi i’r swydd ddod yn wag.

·       Gwasanaethau Cefnogol gan y Corff Atebol – Cyfeiriwyd bod tanwariant o £41,730 yma sy’n deillio yn bennaf o danwariant ar gymorth y Gwasanaeth Cyllid.

·       Cyd-bwyllgor - Adroddwyd bod tanwariant o £48,935 yn y pennawd hwn, gyda tanwariant i weld ar bob llinell berthnasol o’r gyllideb o fewn y pennawd.

·       Prosiectau – Esboniwyd bod tanwariant net o £65,034 ar y pennawd hwn yn sgil  cyfalafu costau a ystyriwyd yn flaenorol o fewn llinell gyllideb ‘Datblygu Achosion Busnes Prosiect’. Er hyn, cydnabuwyd bod galw uchel am gymorth cyfreithiol allanol ar nifer o brosiectau wedi arwain at orwariant o fewn y llinell ‘Datblygu Achosion Busnes Prosiect’.

·       Grantiau - Nodwyd bod gorwariant i’w weld ym mhrosiectau Ynni Ardal Leol a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Ymhelaethwyd bod estyniad ar y ddau brosiect hyd at ddiwedd Mawrth 2025 wedi arwain at orwariant net o £96,820. Eglurwyd bod y gorwariant sydd ynghlwm a’r prosiect Ynni Ardal Leol yn cael ei ariannu gan yr arian sydd yn weddill yn y grant. Ymhelaethwyd bod y tanwariant sydd i’w weld yn rhai o  gynlluniau sydd ynghlwm â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cael eu defnyddio i ariannu’r gorwariant ar gostau gweithwyr y Gronfa yn ogystal â chyfrannu tuag at gostau gorbenion Swyddfa Rheoli Portffolio.

·       Trosglwyddiadau i Gronfeydd Wrth Gefn –  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG CHWARTER 4 pdf eicon PDF 196 KB

I ystyried yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

  1. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Nodi Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

  1. Cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu’r awdurdodau lleol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I gyflwyno adroddiad Chwarter 4 (Ionawr i Mawrth) y Cynllun Twf a Chofrestr Risg y Portffolio wedi’i diweddaru.

 

Mae adrodd chwarterol ar gynnydd yn erbyn Cynllun Twf Gogledd Cymru yn un o ofynion Cytundeb Terfynol y Cynllun Twf. Yn dilyn ystyriaeth gan yr Is-bwyllgor, caiff yr adroddiadau eu rhannu gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd ar nifer o uchafbwyntiau datblygiadol y Cynllun Twf megis cymeradwyaeth i Achos Busnes Amlinellol y prosiect Anturiaethau Cyfrifol, cymeradwyo Achosion Busnes Llawn prosiectau Cydnerth a Pharc Bryn Cegin a hefyd cyflwyno achos dros newid ar brosiect Glynllifon. Ymhelaethwyd bod gwaith adnewyddu ar safle Henfaes yn cael ei gyflawni ar amser ar gyfer Datblygu Canolfan Biotechnoleg Amgylcheddol. Mynegwyd balchder bod Cytundeb Ariannu grant wedi cael ei arwyddo ar gyfer y Rhwydwaith Talent Twristiaeth. Nodwyd hefyd bod y prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) bellach wedi ei gau gan edrych yn ôl ar nifer o lwyddiannau megis lansiad y portal sgiliau, prynu offer arolwg symudol a darparu grantiau i 16 o sefydliadau bach cymunedol.

 

Tynnwyd sylw bod amryw o brosiectau yn adrodd yn goch ar Gofrestr Risg y Portffolio ar hyn o bryd, sef Cysylltu’r Ychydig % Olaf, Ffibr Llawn, NEW H2, Trawsfynydd, Porth Caergybi a Stiwdio Kinmel.

 

Eglurwyd bod nifer o brosiectau yn weithredol erbyn hyn, gan nodi bod modd adrodd ar rai o’r manteision sy’n deillio ohonynt. Manylwyd bod £15.32miliwn o fuddsoddiad wedi cael ei wneud o fewn y Cynllun Twf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r cyfanswm o fuddsoddiadau yn £16.61miliwn. Cydnabuwyd fod y niferoedd hyn yn is na’r targedau ond pwysleisiwyd bod y sefyllfa wedi gwella’n sylweddol ers y flwyddyn blaenorol, gan fod mwy o brosiectau wedi derbyn cymeradwyaeth.

 

Ymhelaethwyd bod y prosiectau a gymeradwywyd wedi sicrhau £4.712miliwn o refeniw yn ogystal â bod wedi creu 35 o swyddi hyd yma. Ymhelaethwyd bod 261 o unigolion yn derbyn Hyfforddiant a chwblhau cyrsiau er mwyn ennill cymwysterau.

 

Sicrhawyd bydd modd adrodd ar y math hwn o ddata yn rheolaidd wrth ystyried diweddariadau chwarterol, er mwyn adolygu’r effaith ehangach mae’r Cynllun Twf yn ei gael ar y rhanbarth.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am eu gwaith er mwyn sicrhau gwireddu’r agweddau hyn o’r Cynllun Twf.

 

Mynegwyd pryder gan Lywodraeth Cymru ar gyflymder gwireddu’r Cynllun Twf gan fod oddeutu 10 mlynedd yn weddill ar y Cynllun a bod angen cynyddu ystadegau buddsoddi yn sylweddol er mwyn cyrraedd targedau’r Cynllun. Fodd bynnag, mynegwyd balchder bod cyrn cynnydd wedi bod ar brosiectau’r Cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf. Mewn ymateb, pwysleisiwyd gan Brif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd ei fod yn hanfodol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972: Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.   Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghroau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar Eitem 9-11 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes  ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud a’r Gytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

9.

ANTURIAETHAU CYFRIFOL - DIWEDDARIAD AR Y GOFYNION

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

  1. Nodi’r cynnydd a wnaed gan Zip World tuag at fynd i’r afael â’r argymhellion a bwriad y cwmni i gyflwyno cais am newid i ddileu elfennau e-fws y prosiect.
  2. Gwahodd Zip World i gyflwyno ei gais am newid i’r cyfarfod nesaf ac i roi diweddariad pellach ar y cynllun ymgysylltu a’r Cynllun Buddion Lleol fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan swyddogion Zip World a QUAD Consultancy.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Nodi’r cynnydd a wnaed gan Zip World tuag at fynd i’r afael â’r argymhellion a bwriad y cwmni i gyflwyno cais am newid i ddileu elfennau e-fws y prosiect.

2.     Gwahodd Zip World i gyflwyno ei gais am newid i’r cyfarfod nesaf ac i roi diweddariad pellach ar y cynllun ymgysylltu a’r Cynllun Buddion Lleol fel rhan o’r adroddiad hwn.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Darparu diweddariad yn erbyn y tri gofyn a osodwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd wrth gymeradwyo Achos Busnes Amlinellol y prosiect.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

10.

ARGYMHELLION RHESTR WRTH GEFN Y CYNLLUN TWF

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

  1. Cytuno ar yr argymhellion sy’n deillio o ganlyniadau asesiad Mynegi Diddordeb (EOI) gan wahodd y prosiectau hynny i ymuno â Rhestr Wrth Gefn y Cynllun Twf.
  2. Cytuno ar y broses arfaethedig ar gyfer rheoli prosiectau’r rhestr wrth gefn.
  3. Cytuno ar y broses sicrwydd a chymeradwyaeth symlach arfaethedig ac yn dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i sicrhau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriaeth gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.
  4. Bod:
    1. Yr is-bwyllgor cytuno i gychwyn proses i asesu ac adolygu’r cwmpas a’r achos dros ymestyn y cynllun twf presennol i gynnwys prosiectau trafnidiaeth.
    2. Yr Is-bwyllgor yn comisiynu’r Cyfarwyddwr Portffolio i baratoi adroddiad opsiynau manwl mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a’r DU a swyddogion y Cynghorau Cyfansoddiadol a Phartneriaid Addysg.
    3. Yr adroddiad opsiynau yn cael ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor gyda’r bwriad o benderfynu a ddylid cychwyn proses newid yn ffurfiol i sicrhau cytundeb ar gyfer Cynllun Twf estynedig i gynnwys prosiectau Trafnidiaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau a Phrif Weithredwr dros dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

 

PENDERFYNWYD

 

1.     Cytuno ar yr argymhellion sy’n deillio o ganlyniadau asesiad Mynegi Diddordeb (EOI) gan wahodd y prosiectau hynny i ymuno â Rhestr Wrth Gefn y Cynllun Twf.

2.     Cytuno ar y broses arfaethedig ar gyfer rheoli prosiectau’r rhestr wrth gefn.

3.     Cytuno ar y broses sicrwydd a chymeradwyaeth symlach arfaethedig ac yn dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol i sicrhau cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriaeth gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd.

4.     Bod:

a.     Yr is-bwyllgor cytuno i gychwyn proses i asesu ac adolygu’r cwmpas a’r achos dros ymestyn y cynllun twf presennol i gynnwys prosiectau trafnidiaeth.

b.    Yr Is-bwyllgor yn comisiynu’r Cyfarwyddwr Portffolio i baratoi adroddiad opsiynau manwl mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a’r DU a swyddogion y Cynghorau Cyfansoddiadol a Phartneriaid Addysg.

c.     Yr adroddiad opsiynau yn cael ei gyflwyno i’r Is-bwyllgor gyda’r bwriad o benderfynu a ddylid cychwyn proses newid yn ffurfiol i sicrhau cytundeb ar gyfer Cynllun Twf estynedig i gynnwys prosiectau Trafnidiaeth.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Mae’r penderfyniad a geisir yn ymateb i’r cais a wnaed gan yr Is-bwyllgor Lles Economaidd ym mis Ebrill 2025 i ddechrau’r broses Mynegi Diddordeb (EOI) a chyflwyno argymhellion yn yr Is-bwyllgor hwn yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.

 

11.

CRONFA YNNI GLAN (YNNI LLEOL BLAENGAR) - ACHOS BUSNES LLAWN

I ystyried yr adroddiad.

Penderfyniad:

1.     Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y Gronfa Ynni Glân, Cynllun Rheoli Cronfa gan gynnwys Strategaethau Buddsoddi a’r Matrics Penderfyniadau Dirprwyedig ar gyfer y prosiect.

2.     Cymeradwyo y Matrics Penderfyniadau Dirprwyedig ar gyfer y prosiect.

3.     Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gadarnhau cwblhau’r materion sydd heb eu nodi yn adran 7 a chytuno ar lansiad ffurfiol y Gronfa.

4.     Bod yr Is-bwyllgor Llesiant Economaidd yn penodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i fod yn swyddog atebol am gyflawni’r prosiect.

5.     Cymeradwyo bod cyfalaf a ad-dalwyd yn ystod gweithrediad y gronfa yn cael ei neilltuo i’r Is-gronfa Wrth Gefn gael ei ail-fuddsoddi yn unol â’r strategaethau Buddsoddi. Cymeradwyo bod refeniw dros ben a gynhyrchir gan y prosiect unwaith y bydd costau gweithredu wedi’u talu yn cael ei neilltuo i ariannu gweithrediad y Swyddfa Rheoli Portffolio.

6.     Gofyn am ddiweddariad pellach ymhen 6 mis er mwyn adolygu partneriaethau perthnasol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Pennaeth Gweithrediadau a Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net.

 

PENDERFYNWYD

 

  1. Cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y Gronfa Ynni Glân, Cynllun Rheoli Cronfa gan gynnwys Strategaethau Buddsoddi a’r Matrics Penderfyniadau Dirprwyedig ar gyfer y prosiect.
  2. Cymeradwyo y Matrics Penderfyniadau Dirprwyedig ar gyfer y prosiect.
  3. Dirprwyo i’r Cyfarwyddwr Portffolio, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, y Swyddog Adran 151 a’r Swyddog Monitro i gadarnhau cwblhau’r materion sydd heb eu nodi yn adran 7 a chytuno ar lansiad ffurfiol y Gronfa.
  4. Bod yr Is-bwyllgor Lles Economaidd yn penodi’r Cyfarwyddwr Portffolio i fod yn swyddog atebol am gyflawni’r prosiect.
  5. Cymeradwyo bod cyfalaf a ad-dalwyd yn ystod gweithrediad y gronfa yn cael ei neilltuo i’r Is-gronfa Wrth Gefn gael ei ail-fuddsoddi yn unol â’r strategaethau Buddsoddi. Cymeradwyo bod refeniw dros ben a gynhyrchir gan y prosiect unwaith y bydd costau gweithredu wedi’u talu yn cael ei neilltuo i ariannu gweithrediad y Swyddfa Rheoli Portffolio.
  6. Gofyn am ddiweddariad pellach ymhen 6 mis er mwyn adolygu partneriaethau perthnasol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

I geisio cymeradwyaeth yr Is-bwyllgor o’r achos busnes llawn ar gyfer Prosiect y Gronfa Ynni Glân.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr Adroddiad.