Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/09/2019 - Is-Fwrdd Cyflawni Trafnidiaeth
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 19/11/2019
Effective from: 23/09/2019
Penderfyniad:
Cyflwynwyd
gan Iwan Prys Jones
TRAFODAETH
Trafodwyd
yr Arolwg Gwefru gan SP Energy gan nodi eu bod yn gobeithio y bydd modd iddynt
ddod i’r cyfarfod nesaf er mwyn rhoi diweddariad.
O ran datgarboneiddio mynegwyd y byddai’n syniad da i’r 6
rhanbarth ddod ar ei gilydd i drefnu Uwch Gynhadledd ar hyn y flwyddyn nesaf,
ac y buasai yn cefnogi gwaith y Bwrdd Uchelgais. Os yn ymuno a’i gilydd yn
rhanbarthol i’r drefnu mynegwyd y byddai cefnogaeth ar gael gan Lywodraeth
Cymru.
Ychwanegwyd y byddai llawer o gyfleoedd ac ei fod yn gyfle
i weithio gyda’i gilydd. Mynegwyd mai’r brif broblem yw trafnidiaeth. Ategwyd
fod angen chwyldro a mynegwyd fod cynnal Uwchgynhadledd am roi datganiad clir
i’r cyhoedd. Nodwyd fod angen mynd a’r cynnig i’r Bwrdd Uchelgais i gael yr
Uwchgynhadledd a fydd yn trafod Ynni, Hwb / Cwmni Ynni Rhanbarthol ynghyd a
Thrafnidiaeth.
O ran prosiect Peilot Bysiau Gwyrdd nodwyd y cynlluniau
peilot gan nodi eu bod yn gobeithio rhannu’r adroddiad yn y cyfarfod nesaf i
gael trafodaeth bellach.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2019
Effective from: 15/11/2019
Penderfyniad:
Diwygio’r ymateb i
ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel sydd wedi’i amlinellu yn
Atodiad 2, i gynnwys unrhyw faterion sy’n codi yn ystod y cyfarfod hwn o’r
Bwrdd Uchelgais a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 18 Tachwedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2019
Effective from: 15/11/2019
Penderfyniad:
Cadarnhawyd y Cynllun
Sgiliau a Chyflogaeth ranbarthol a cytunwyd ar y tair blaenoriaeth sydd wedi’u
hamlinellu yn y cynllun.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2019
Effective from: 15/11/2019
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
¾ Ddirprwyo’r hawl i Gyngor Gwynedd fel Corff Lletya
i baratoi a chyflwyno’r Cynllun Busnes i WEFO ar sail cynnwys yr adroddiad.
¾ Ddirprwyo’r
hawl i Brif Weithredwr y Corff Lletya mewn ymgynghoriad gyda’r Cyfarwyddwr
Arweiniol y Bwrdd Uchelgais a Swyddog 151 y Corff Lletya i dderbyn cynnig grant
gan WEFO yn seiliedig ar 50% o gyfanswm cost y prosiect (£5.6miliwn) ar gyfer y
cyfnod Gorffennaf 2018 hyd at Fehefin 2023.
¾ Gadarnhau y
bydd y Bwrdd Uchelgais yn cytuno i gyfrannu 50% o arian cyfatebol yn bennaf
drwy gyfuniad o gyfalafu prosiectau a chyllideb graidd (o gyfraniadau
partneriaid).
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 15/11/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 15/11/2019
Effective from: 15/11/2019
Penderfyniad:
Derbyniwyd
yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar Gynllun Twf Gogledd Cymru a cytunwyd
fod angen ychwanegu y ddau risg isod i’r gofrestr risg:
¾
Y buasai
llithriad yn yr amserlen i gyrraedd Cytundeb Terfynol yn cael effaith ar
dderbyn arian y Cynllun Twf gan y Llywodraeth, ac yna yn cael effaith ar y
gallu i gyflawni prosiectau yn llwyddiannus o fewn yr amserlen.
¾
Cynllun
Economaidd Llwyodraeth Cyrmu ddim yn cyd fynd gyda’r Weledigaeth Twf gan y
Bwrdd Uchelgais