Penderfyniadau

Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.

Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.

Cyhoeddwyd y penderfyniadau

23/02/2021 - CAIS AM ADOLYGIAD TRWYDDED EIDDO ref: 756    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog

Gwnaed yn y cyfarfod: 23/02/2021 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Canolog

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/02/2021

Effective from: 23/02/2021

Penderfyniad:

Caniatáu i Heddlu Gogledd Cymru adolygu’r drwydded a diwygio Atodiad 3 o’r drwydded honno

 


22/02/2021 - PUBLIC SERVICE OMBUDSMAN WALES CONSULTATION - NEW DRAFT GUIDANCE ON THE CODE OF CONDUCT FOR MEMBERS OF COUNTY AND COMMUNITY / TOWN COUNCILS ref: 758    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/02/2021 - Pwyllgor Safonau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/02/2021

Effective from: 22/02/2021

Penderfyniad:

Cyflwyno’r sylwadau a ganlyn mewn ymateb i’r ymgynghoriad, a dirprwyo hawl i’r Swyddog Monitro goladu a chyfleu yr ymateb ar ran y Cyngor:-

 

·         Bod y pwyllgor yn croesawu’r ddogfen yn gyffredinol, ac o’r farn ei bod yn ddarllenadwy ac yn hynod ddefnyddiol o ran esbonio’r cod.  Credir hefyd bod y defnydd o esiamplau achos a swigod siarad yn ffordd dda o amlygu rhannau o’r ddogfen a’i gwneud yn berthnasol i bobl.

·         Byddai’n fuddiol petai’r enghreifftiau o dorri’r Cod Ymddygiad a restrir yn y ddogfen hefyd yn nodi beth oedd canlyniad hynny, er mwyn rhoi darlun mwy eglur.

·         Byddai’r fuddiol petai’r ddogfen yn cynnwys esiamplau o sut mae’r prawf budd cyhoeddus wedi weithio’n ymarferol, h.y. pa fathau o gwynion sydd wedi croesi’r rhiniog, a pha fathau o gwynion sydd wedi methu.

·         Y dylai’r ddogfen fod yn niwtral o ran rhyw.

 


22/02/2021 - HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH ref: 757    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau

Gwnaed yn y cyfarfod: 22/02/2021 - Pwyllgor Safonau

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/02/2021

Effective from: 22/02/2021

Penderfyniad:

(a)        Mabwysiadu’r canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2019/20, gan nodi bod amgylchiadau y tu allan i reolaeth y Pwyllgor Safonau wedi golygu na fu’n bosib’ gweithredu sawl cam y tro hwn:-

 

SWYDDOGAETH

ASESIAD

(1/2/3/4)

 

Tystiolaeth

Camau pellach

Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau

 

 

1

Mae’r Cadeirydd ac Is Gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau hefo pwyllgorau safonau eraill.

 

Cyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor Llawn

 

Pwyllgor wedi derbyn adroddiad ar drefniadau Fframwaith Foesegol yng nghyd-destun cyd-weithio

 

Parhau i fynychu a chefnogi

 

 

 

Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad

 

2

Swyddog Monitro a’i dîm yn darparu cyngor ac arweiniad mewn cyfarfodydd ac ar sail un i aelodau.

 

Adfer camau hyfforddiant pan mae adnoddau yn caniatáu

Cynghori’r Cyngor ynglŷn â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad

 

Dim angen gweithredu

Dim achlysur wedi codi i ddiwygio’r Cod.

 

Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad

 

2

Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau

 

Derbyn adroddiadau blynyddol yr Ombwdsman a Phanel Dyfarnu Cymru

 

Parhau i fonitro ac ystyried a hyrwyddo dulliau amgen o dderbyn gwybodaeth

 

Derbyn adroddiadau rheolaidd o Lyfr Achosion Cod Ymddygiad yr Ombwdsmon.

 

Derbyn adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch.

 

Cynghori, hyfforddi neu drefnu i hyfforddi aelodau ar faterion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad

 

 

3

 

Angen edrych ar ddarparu hyfforddiant newydd.

Rhoi goddefebau i aelodau

 

1

Ceisiadau wedi eu hystyried dan y drefn newydd.

 

 

Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon

 

Dim angen gweithredu

Ni gododd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn

 

Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad

 

Dim angen gweithredu

Ni fu achlysur i dalu lwfans o’r fath

 

 

Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas â chynghorau cymuned

 

3

Swyddog Monitro a’i dîm  yn darparu cyngor ac arweiniad i gynghorau, clercod ac aelodau.

 

Mabwysiadu peilot ar gyfer hyfforddi Cod Ymddygiad.  Wedi cynnwys sesiwn i beilota cynnwys y cwrs.

 

 

Cwrs peilot wedi ei gynnal gyda Chyngor Tref Tywyn gydag adborth cadarnhaol.  Angen ystyried adfer y rhaglen ar sail rithiol pan mae adnoddau yn caniatáu.

 

(b)     Cymeradwyo’r rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2021/22:-

 

Mehefin, 2021

 

Adroddiad Blynyddol

Honiadau yn erbyn Aelodau

Llyfr Achosion yr Ombwdsmon

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Hyfforddiant yn gyffredinol

 

Tachwedd, 2021

 

Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch

Cofrestr Datgan Buddiant

Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon

Honiadau yn erbyn Aelodau

Gwrthdrawiadau Buddiannau a phartneriaid y tu allan i Lywodraeth Leol

Paratoi ar gyfer Etholiad Mai 2022 o safbwynt y Cod Ymddygiad

 

Chwefror, 2022

 

Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu

Honiadau yn erbyn Aelodau

 


16/02/2021 - GWYNEDD COUNCIL PLAN 2018-23 - REVIEW FOR 2021/22 ref: 747    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 16/02/2021

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Cyngor Gwynedd 2018-23 Adolygiad 2021/22 yn amodol ar addasiadau i eiriad Blaenoriaeth 4 a Blaenoriaeth 7, ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu yng Nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 4 Mawrth 2021.

 


16/02/2021 - THE COUNCIL'S CAPITAL STRATEGY ref: 748    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 16/02/2021

Penderfyniad:

Cytunwyd i:

  • ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer Canolfan Dolfeurig (£600,000)
  • ariannu’r bwlch cyllido ar gyfer safle cyn Dŷ’r Ysgol, Llanrug (£150,000), gan ad-ennill rhan helaeth o’r buddsoddiad gwreiddiol drwy werthu’r tŷ a rhan o’r tir ar gyfer gwireddu cynlluniau tai fforddiadwy i drigolion lleol a gwneud gwelliannau i’r ysgol gynradd
  • ddarparu £2m pellach er mwyn cychwyn ar y gwaith o adeiladu unedau diwydiannol yn y sir
  • aros i weld beth fydd canlyniad trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am y Prom Abermaw cyn ystyried unrhyw ddyraniadau pellach yn y Cynllun Asedau.

 


16/02/2021 - COUNCIL TAX PREMIUM ON SECOND HOMES AND LONG TERM EMPTY PROPERTIES ref: 750    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 16/02/2021

Penderfyniad:

Penderfynwyd argymell i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fod Cyngor Gwynedd:

  • Yn caniatáu  dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • Yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 100% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992
  • yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

 


16/02/2021 - 2021-22 BUDGET ref: 749    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 16/02/2021

Penderfyniad:

Cytunwyd i argymell i’r Cyngor Llawn ar y 4 Mawrth y dylid:

 

  1. Sefydlu cyllideb o £271,751,360 ar gyfer 2021/22 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £194,793,140 a £76,958,220 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.7%.
  2. Sefydlu rhaglen gyfalaf o £47,085,960 yn 2021/22 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad.

 

Nodwyd byddai’r ffigyrau yn argymhelliad 1 uchod yn newid yn unol â’r ffigyrau yn Atodiad 6 o’r adroddiad pe bai’r Cyngor llawn yn cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor o 50% i 100%.

 


16/02/2021 - PARKING REVIEW ref: 745    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 16/02/2021

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd yr addasiadau i’r Strategaeth Barcio drwy newid trefniadau rheoli parcio a gweithredu’r strwythur ffioedd parcio yng Ngwynedd fel bod modd ei weithredu o’r 1 Ebrill 2021. Cytunwyd addasiad hwyr ychwanegol i’r adroddiad, yn cysoni oriau gorfodi Meysydd Parcio Band 1 i fod yn weithredol rhwng yr oriau 10am a 4:30pm, ac i gadw’r lefel incwm dan adolygiad yn ystod 2021/22, gyda golwg ar gynorthwyo’r Adran Amgylchedd pe bai’r gwir incwm o ffioedd parcio yn is na’r targed yn y gyllideb oherwydd yr addasiad hwyr yma. Awdurdodwyd y Pennaeth Amgylchedd i gymryd y camau statudol angenrheidiol i roi’r gyfundrefn ffioedd diwygiedig ar waith erbyn 1 Ebrill 2021.

 


16/02/2021 - CYNLLUN BRYS AR GYFER BYSIAU ref: 744    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 16/02/2021

Penderfyniad:

Cytunwyd fod y Cyngor yn ymuno a Chynllun BES2 yn unol â’r adroddiad.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Amgylchedd mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Cyllid a Phennaeth Cyfreithiol i gytuno a chwblhau Cytundeb Partneriaeth Rhanbarthol Gwirfoddol ar gyfer rhoi’r cynllun ar waith yn y Gogledd.

 


16/02/2021 - BUY TO LET SCHEME TO LET PROPERTIES FOR GWYNEDD RESIDENTS ref: 746    Caniatawyd

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Gwnaed yn y cyfarfod: 16/02/2021 - Y Cabinet

Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/02/2021

Effective from: 16/02/2021

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr achos busnes dros fuddsoddi £15.4m i brynu oddeutu 100 o dai i’w gosod i drigolion Gwynedd ar rent fforddiadwy gyda phob pryniant i ddangos ei hyfywdra ariannol ei hun ar sail achos wrth achos.

 

Cytunwyd fod y Pennaeth Tai ac Eiddo mewn ymgynghoriad a’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid yn adolygu'r trefniadau statudol ar gyfer gweithredu'r Cynllun yn dilyn cyhoeddi Canllawiau Diwygiedig ar Gyfrif Refeniw Tai gan y Llywodraeth ac adrodd yn ôl i’r Cabinet petai angen penderfyniadau ychwanegol.