Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/01/2022 - Cyd-Bwyllgor Corfforedig Rhanbarth y Gogledd
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/01/2022
Effective from: 28/01/2022
Penderfyniad:
Cadarnhawyd Cyllideb o ddim gwariant ar gyfer 2021/22 ac felly ni chodir
ardoll.
Cymeradwywyd Cyllideb 2022/23 ar gyfer Cyd-Bwyllgor Corfforedig (CBC) y
Gogledd fel y’i cyflwynwyd yn yr atodiad, gyda chyfansymiau:
·
Cynllunio
Strategol £87,950 (pleidlais 1)
·
Swyddogaethau
Eraill y CBC yn cynnwys Trafnidiaeth £274,310 (pleidlais 2)
Cymeradwywyd yr ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, wedi’i ddosrannu ar
sail y boblogaeth perthnasol,
gyda’r symiau fel y’i cyflwynir isod:
·
Cynllunio
Strategol (pleidlais 3)
·
Swyddogaethau
eraill (pleidlais 4)
|
Cynllunio Strategol £ |
Swyddogaethau eraill £ |
Cyfanswm Ardoll £ |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
(14,270) |
(46,220) |
(60,490) |
Cyngor Sir Ddinbych |
(12,030) |
(37,530) |
(49,560) |
Cyngor Sir y Fflint |
(19,700) |
(61,450) |
(81,150) |
Cyngor Gwynedd |
(13,090) |
(48,910) |
(62,000) |
Cyngor Sir Ynys Môn |
(8,750) |
(27,290) |
(36,040) |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
(16,970) |
(52,910) |
(69,880) |
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri |
(3,140) |
|
(3,140) |
Cyfanswm Ardoll |
(87,950) |
(274,310) |
(362,260) |
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/01/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/01/2022
Effective from: 28/01/2022
Penderfyniad:
Nodwyd fod Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 a Chofrestr Risg y
Portffolio wedi'i diweddaru.
Cymeradwywyd i gyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 3 i Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 28/01/2022 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 28/01/2022
Effective from: 28/01/2022
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd yr adolygiad trydydd chwarter refeniw a
chyfalaf Cyd-bwyllgor y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2021/22.
Derbyniwyd cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i drosglwyddo unrhyw
danwariant yn 2021/22 i'r gronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi a fydd ar gael yn
y dyfodol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2022 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/01/2022
Effective from: 25/01/2022
Penderfyniad:
·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau
·
Cyfeirio cais gan aelodau’r Pwyllgor at yr Aelod
Cabinet perthnasol i ystyried diweddaru’r wybodaeth yn dyfodol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2022 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/01/2022
Effective from: 25/01/2022
Penderfyniad:
Derbyn
yr adroddiad gan ofyn i’r Uned Iaith lunio ymateb i’r ymgynghoriad ar sail y
sylwadau a dderbyniwyd gan yr Aelodau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2022 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/01/2022
Effective from: 25/01/2022
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2022 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/01/2022
Effective from: 25/01/2022
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Iaith
Gwnaed yn y cyfarfod: 25/01/2022 - Pwyllgor Iaith
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 25/01/2022
Effective from: 25/01/2022
Penderfyniad:
Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/01/2022
Effective from: 18/01/2022
Penderfyniad:
a.
Dynodwyd dydd Gŵyl Ddewi yn ddiwrnod o
wyliau ychwanegol i staff y Cyngor sy’n gweithio ar delerau gwaith gweithwyr
llywodraeth leol, ar gyfer dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol i’w ariannu
yn unol a paragraff 2.10 o’r adroddiad.
b.
Awdurdodwyd swyddogion i ymchwilio i opsiynau
posib i wneud trefnant o’r fath yn un parhaol ac i’r perwyl hwnnw cynnal
trafodaethau pellach gyda’r undebau llafur cydnabyddedig a parhau i lobio am
gefnogaeth Llywodraeth San Steffan i ddatganoli i Lywodraeth Cymru y grym
iddynt fedru sefydlu gwyliau banc i Gymru.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/01/2022
Effective from: 18/01/2022
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/01/2022
Effective from: 18/01/2022
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/01/2022
Effective from: 18/01/2022
Penderfyniad:
Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag
at wireddu cynlluniau arbedion 2021/22 a blynyddoedd blaenorol.
Nodwyd fod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y
rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a
bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
Wrth baratoi cyllideb 2022/23, yn unol â’r hyn a nodir yn
Atodiad 3 o ran cynlluniau arbedion 2022/23: - cydnabod fod y sefyllfa bellach
wedi newid cymaint fel na ellir cyflawni cynlluniau arbedion gwerth £489,750
gan eu dileu o’r gyllideb, sef
·
Adolygiad Dechrau i'r Diwedd (Adran Plant a
Chefnogi Teuluoedd) gwerth £279,750
·
Trosglwyddo meysydd chwarae i eraill (Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol) gwerth £210,000
¾
symud y proffil cyflawni ar gyfer cynlluniau
gwerth £1,290,250 i 2023/24 a blynyddoedd dilynol
¾
nodwyd mai £595,000 yw gwerth arbedion y
cynlluniau gweddilliol i’w tynnu o gyllideb 2022/23, fel a nodir yn Atodiad 3.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/01/2022
Effective from: 18/01/2022
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
(sefyllfa 30 Tachwedd 2021) o’r rhaglen gyfalaf.
Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r
adroddiad, sef:
·
lleihad o £15,000 mewn defnydd o fenthyca,
·
cynnydd o £3,134,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau,
·
cynnydd o £104,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf,
·
cynnydd o £75,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw,
·
lleihad o £1,000 mewn defnydd o’r gronfa
gyfalaf, a
·
cynnydd o £363,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 18/01/2022 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 18/01/2022
Effective from: 18/01/2022
Penderfyniad:
·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd
Tachwedd 2021 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf
parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.
·
Nodwyd fod effaith ariannol Covid
yn parhau yn 2021/22, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a
llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i
ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng.
·
Nodwyd fod cyfundrefn cymorth Covid Llywodraeth Cymru drwy gronfa caledi yn parhau, ond nad
yw’n cyfarch gorwariant oherwydd llithriad yn y rhaglen arbedion.
·
Nodwyd fod gorwariant sylweddol gan yr Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol eleni.
·
Cymeradwywyd yr argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol ar gyllidebau Corfforaethol, fod:
¾
Tanwariant o (£20k) yn ymwneud â chostau cyfalaf
yn cael ei neilltuo i gronfa ariannu'r rhaglen gyfalaf.
¾
Tanwariant net o (£1,846k) ar gyllidebau
Corfforaethol yn mynd i Gronfa Cefnogi’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo i
wynebu’r heriau ariannol sydd yn wynebu’r Cyngor yn arbennig felly o ganlyniad
i’r argyfwng Covid.