Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/10/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/10/2020
Effective from: 23/10/2020
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd Adolygiad Ail
Chwarter y Cyd-Bwyllgor ar gyfer 2020/21.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 23/10/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 23/10/2020
Effective from: 23/10/2020
Penderfyniad:
¾
Cymeradwywyd
cyflwyno'r Achos Busnes Portffolio a'r pum Achos Busnes Rhaglen i
Lywodraethau'r DU a Chymru am Gytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru.
¾
Cytundwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol
sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar
gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda
Llywodraethau'r DU a Chymru.
¾
Cytunwyd
bod pob un o'r Partïon yn unigol yn cymeradwyo ac yn ymrwymo i Gytundeb
Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyadau a'r Cylch Gorchwyl yn
“Atodiad 1 o Gytundeb Llywodraethu 2” ohono fel sail ar gyfer ymrwymo i'r
Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a
Chymru.
¾
Cymeradwywyd
y dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i
hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner
blynyddol cyfatebolsydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon a’r cyfraniadau craidd
ac atodol sydd wedi’u sefydlu, fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau
5.5 - 5.7 o’r adroddiad).
¾
Cytunwyd
bod y Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y
Bwrdd Uchelgais, Swyddog Monitro'r Corff Atebol a Swyddog Adran 151 y Corff
Atebol, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau
fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.
¾
Cymeradwywyd
ailenwi'r Swyddfa Rhaglen yn Swyddfa Rheoli Portffolio yn unol ag arfer gorau
ac o ganlyniad i hynny, newid teitl swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn Gyfarwyddwr
Portffolio.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2020
Effective from: 22/10/2020
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr
adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn
gan nodi’r sylwadau.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2020
Effective from: 22/10/2020
Penderfyniad:
Derbyniwyd cynnwys
yr adroddiad a'r dogfennau atodol gan
nodi’r sylwadau
Cefnogwyd y
blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i'r dyfodol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Is-Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2020
Effective from: 22/10/2020
Penderfyniad:
Bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2020
Effective from: 22/10/2020
Penderfyniad:
Ail
etholwyd y Cynghorydd Gethin G Williams yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am
2020/21.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu Cymunedau
Gwnaed yn y cyfarfod: 22/10/2020 - Pwyllgor Craffu Cymunedau
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 22/10/2020
Effective from: 22/10/2020
Penderfyniad:
Ail
etholwyd y Cynghorydd Elfed Roberts yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/10/2020
Effective from: 20/10/2020
Penderfyniad:
Etholwyd y Cynghorydd Gareth A
Roberts yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020 /21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/10/2020
Effective from: 20/10/2020
Penderfyniad:
Etholwyd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/10/2020
Effective from: 20/10/2020
Penderfyniad:
Gwrthod y cais ar sail:
Mae’r bwriad i drosi adeilad yn
5 fflat o fewn safle gyda hanes o lifogi ac nid oes gwybodaeth wedi ei gyflwyno
fel rhan o’r cais i ddangos bod modd rheoli’r perygl yn ddiogel ac felly
ystyrir bod y bwriad yn groes i bolisi ISA 1 a PS 6 o’r Cynllun datblygu Lleol
ar y Cyd Gwynedd a Môn a Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygiad a Pherygl o
Lifogi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/10/2020
Effective from: 20/10/2020
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
·
Cyfeirio y cais i gyfnod cnoi cil
·
Gwrthod y cais am y rhesymau
canlynol
• Diffyg angen
am dai
• Asesiad Ieithyddol
yn annigonol
• Materion llifogydd
• Materion halogiad
tir
• Materion trafnidiaeth
– cyffordd Ffordd Penrhos ac hefyd Ffordd Penyffridd
• Darpariaeth / cyfraniad annigonol o lecynnau agored
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/10/2020
Effective from: 20/10/2020
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD - Gwrthod y cais
Mae'r bwriad yn
newid graddau neu natur y datblygiad a gymeradwywyd yn flaenorol i "waith yn gysylltiedig gydag adeiladu ffordd
osgoi arfaethedig yr A487 Caernarfon i Bontnewydd ..." ac mae'r
Awdurdod felly yn ystyried na ddylid newid amod 3 yn unol â a.73(2) (b) o’r
Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cynllunio
Gwnaed yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Pwyllgor Cynllunio
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 20/10/2020
Effective from: 20/10/2020
Penderfyniad:
PENDERFYNIAD
- caniatau gydag Amodau
1.
5
mlynedd.
2.
Yn
unol â’r cynlluniau diwygiedig ac adroddiadau arbenigol.
3.
Cyfyngu’r
niferoedd i 11 uned deithiol
4.
Tymor
gwyliau / lleoli
5.
Cyfyngu'r
unedau i ddefnydd gwyliau.
6.
Dim
storio unedau teithiol ar y safle
7.
Bioamrywiaeth
8.
Cyfyngu
i’r tymor gwyliau.
9.
Cadw
cofrestr.
10.
Dim
torri coed, gwrychoedd neu glirio llystyfiant o fewn tymor nythu.
11.
Cytuno/rheoli
goleuo.
12.
Cytuno
manylion clawdd.
13.
Cytuno
manylion uned ymolchi cyn ei gosod ar safle
14.
Tirlunio
15.
Cynnal
tirlunio
16.
Darparu
Cynllun Gwella Bioamrywiaeth
17.
Dim
clirio y tir yn y gaeaf yn ystod tymor cysgu ymlusgiaid
Nodyn
Tir Halogedig