Defnyddiwch yr opsiynau chwilio isod ar waelod y dudalen i ddarganfod y gwybodaeth diweddaraf yng nghyswllt penderfyniadau Pwyllgorau'r Cyngor sydd yn gwneud penderfyniadau.
Neu fe allwch ymweld â tudalen penderfyniadau swyddogion i weld gwybodaeth yng nghyswllt penderfyniadau dirprwyedig swyddogion.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/06/2020
Effective from: 16/06/2020
Penderfyniad:
¾
£245,000 cynnydd mewn defnydd o fenthyca
¾
£2,363,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau
¾
£17,000 lleihad mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf
¾
£244,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw
¾ Dim newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf
¾ £74,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/06/2020
Effective from: 16/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd:
1.1 Nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r
cyngor am 2019/20.
1.2 Cymeradwyo’r symiau i’w cario ymlaen (y golofn
“Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad sef:
ADRAN |
£’000 |
Oedolion,
Iechyd a Llesiant |
0 |
Plant
a Theuluoedd |
100 |
Addysg |
(96) |
Economi
a chymuned |
67 |
Priffyrdd
a Bwrdeistrefol |
100 |
Amgylchedd |
(100) |
Ymgynghoriaeth
Gwynedd |
(11) |
Tai
ac Eiddo |
83 |
Tîm
Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(50) |
Cyllid
|
(70) |
Cefnogaeth
Gorfforaethol |
(100) |
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau
ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –
·
Yr Adran Plant a Theuluoedd i dderbyn cymorth ariannol
un-tro o £3,259k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario ymlaen gan yr
Adran i £100k, i'w cynorthwyo i symud ymlaen i wynebu her 2020/21.
·
Yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn
cymorth ariannol un-tro o £447k i gyfyngu lefel y gorwariant sydd i'w gario
ymlaen gan yr Adran i 2020/21 i £100k, i'w cynorthwyo i wynebu her 2020/21.
·
Yn unol â'r Rheoliadau Ariannol, cadw at y drefn
arferol i ganiatáu i'r Adran Amgylchedd gadw (£100k) o'i danwariant, a symud
(£70k) sef y swm uwchlaw (£100k), i'w ddefnyddio i gynorthwyo'r adrannau sydd
wedi gorwario yn 2019/20.
·
Ar gyllidebau Corfforaethol, defnyddio (£1,012k)
o'r tanwariant net i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2019/20.
1.4 Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd
a darpariaethau penodol:
·
fel amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad
o’r cronfeydd a darpariaethau, cynaeafu (£801k) o gronfeydd a (£24k) o
ddarpariaethau gan ddefnyddio’r cyfanswm o (£825k) i gynorthwyo’r adrannau sydd
yn gorwario yn 2019/20.
·
Cyllido gweddill y gorwariant adrannol o
(£1,799k) o Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/06/2020
Effective from: 16/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd ar
addasiadau i’r ffioedd isod o ganlyniad i argyfwng COVID19, er mwyn i'r
adrannau weithredu yn unol â hyn.
Ffioedd |
Penderfyniad |
Gwastraff
Masnachol |
Gofyn am daliad
cymesur â’r gwasanaeth sydd yn cael ei dderbyn gan ofyn i’r Adran anfonebu
pan mae casgliadau yn cychwyn. |
Amlosgfa a
Mynwentydd |
Ffioedd i barhau
am y tro ar lefelau 2019/20 |
Prydau Ysgolion
Cynradd |
Arian i symud
gyda’r disgybl, a cynnig ad-daliad nad yw’n bosib. |
Clwb Gofal cyn
Ysgol |
Os yw’r plant yn
symud ysgol, cynnig ad-daliad. |
Cludiant ôl-16 -
Tocyn Teithio 16+ |
Ad-daliad i’w
wneud o ffioedd am dymor yr haf a threfniadau 29/06/2020 - 27/07/2020 i’w
ystyried eto. |
Renti o logi
swyddfeydd / ystafelloedd, Unedau Diwydiannol a Intec a Mentec |
Bwrw ymlaen i
anfonebu’n llawn am y rhenti, ond rhoi cyfle i fusnesau unigol os yn wynebu
caledi i gysylltu â’r Cyngor i drafod eu sefyllfa benodol. |
Rhenti - hurio
gofod mewn Llyfrgelloedd, defnyddio Barc Padarn, Unedau Glynllifon |
Bwrw ymlaen i
anfonebu’n llawn am y rhenti, ond rhoi cyfle i fusnesau unigol os yn wynebu
caledi i gysylltu â’r Cyngor i drafod eu sefyllfa benodol. |
Ffioedd Angori
Hafan Pwllheli, Harbyrau a Doc Fictoria |
Lle mae mynediad
at gychod a chyfleusterau harbwr wedi ei gyfyngu, gostwng y ffioedd i’r ‘ffi
gaeafu’, sydd gyfystyr a 70% o’r ffi lawn, er mwyn cadw cwsmeriaid. |
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet
Gwnaed yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Y Cabinet
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 16/06/2020
Effective from: 16/06/2020
Penderfyniad:
Cymeradwywyd yr
egwyddor o roi hawl i’r corff Cymeradwyo SDC godi ffi am y gwasanaeth cyn-gais
maent yn ei ddarparu.
Cytunwyd ar y
ffioedd amlinellwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad fel y ffioedd bydd y Corff
Cymeradwyo SDC yn eu codi.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad:
Oherwydd y newid mewn cyd-destyn gohirio symud ymlaen a’r broses penodi Cadeirydd i’r Bwrdd Cyflawni
Busnes er mwyn rhoi cyfle i’r Bwrdd Uchelgais ystyried oedd angen adolygu rôl y
Bwrdd Cyflawni Busnes.
Fod adroddiad pellach i’w gyflwyno yn dilyn ymgynhoriad a’r sector breifat a’r Bwrdd Cyflawni Busnes.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad:
1. Nodi cynnwys yr adroddiad adolygiad
gwaelodlin a'r cyflwyniad a wnaed yn y cyfarfod.
2. Nodi y bydd y Cynllun Terfynol gyda
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer Cynllun Twf Gogledd Cymru yn
seiliedig ar Achosion Busnes y Rhaglen.
3. Cytuno i brosiect Datgarboneiddio Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gyflawni fel rhan o'r Rhaglen Ynni Carbon Isel ac na fydd achos busnes Rhaglen Trafnidiaeth penodol yn cael ei ddatblygu fel rhan o gytundeb y Cynllun Terfynol.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad:
Cymeradwywyd Cyllideb 2020/21 gydag Arian Grant ESF (Atodiad 1b) a rhoddwyd yr hawl i’r Cyfarwyddwr Rhaglen mewn ymgynghoriad â Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd a’r Cadeirydd, i ymrwymo hyd at £100,000 ychwanegol o’r gronfa wrth gefn yn ystod y flwyddyn, ar y pennawd Cynllunio, Datblygu a Chefnogi Prosiectau pe bai angen hynny, er mwyn cynnal a gwireddu amserlen y rhaglen waith ar gyfer y Cynllun Twf terfynol
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad:
Nodwyd a derbyniwyd Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw y
Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20.
Cymeradwywyd ffurflen flynyddol swyddogol y Cyd-bwyllgor ar gyfer 2019/20 (amodol ar Archwiliad Allanol), oedd wedi'i gwblhau a'i ardystio'n briodol gan Swyddog Cyllid Statudol y Cyd-bwyllgor yn unol â'r amserlen statudol, sef 15 Mehefin 2020.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad:
Cymeradwywyd yr adroddiad ynghyd a’r Cynllun Prosiect Cytundeb Llywodraeth 2 diwygiedig yn ddarostyngedig i dderbyn diweddariad yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
· Gadarnhau'r egwyddor o fabwysiadu dull rheoli rhaglenni a phrosiectau i gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Byrddau Rhaglen i oruchwylio'r cyflawni gweithredol
· Cymeradwyo strwythur cyflawni arfaethedig fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 1 a Chylch Gorchwyl arfaethedig y Bwrdd Rhaglen fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 2.
· Cymeradwyo penodi Uwch Swyddogion Cyfrifol a Dirprwy Uwch Swyddogion Cyfrifol fel sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad 3 a phenodi Aelod Arweiniol o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i eistedd ar bob Bwrdd Rhaglen.
· Nodi y bydd yr is-grwpiau presennol ar gyfer Ynni a Digidol yn cael eu disodli gan y Byrddau Rhaglen unwaith y byddent wedi'u sefydlu.
· Dirprwyo'r hawl i'r Cyfarwyddwr Rhaglen, mewn ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro a'r Grŵp Cefnogaeth Weithredol i weithredu trefniadau llywodraethu'r rhaglen a gwneud yr holl benodiadau eraill i'r Byrddau Rhaglen.
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Gwnaed yn y cyfarfod: 12/06/2020 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Cyhoeddwyd y penderfyniad: 12/06/2020
Effective from: 12/06/2020
Penderfyniad:
Rhoddwyd sylwadau ar y papur gan nodi y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud gan y Swyddfa Raglen, y Grŵp Cefnogaeth Weithredol a Swyddogion Cyllid ar sut gellir defnyddio modelau masnachol i ddyrannu arian ar gyfer rhaglenni a phrosiectau, gan nodi y bydd adroddiad pellach ar y mater yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Uchelgais.