Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gareth Williams (Aelod
Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cara Owen (Rheolwr Cynllunio) yn eitem 5.3 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0764/32/LL) gan fod ganddi gysylltiadau
personol gyda’r teulu Roedd y swyddog o’r farn
ei fod yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Gareth M Jones (oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/1174/42/LL) Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0698/35/LL) Y Cynghorydd Dewi Roberts (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0835/39/AC) |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Ragfyr 2020 a
11eg o Ionawr 2021 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 21ain o Ragfyr
2020 a 11eg Ionawr 2021 fel
rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Datblygiad preswyl gan gynnwys 6 annedd,
mynedfa a gwaith cysylltiedig AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth T Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod y cais Rhesymau:
Cofnod: Datblygiad preswyl gan gynnwys 6 annedd, mynedfa a
gwaith cysylltiedig Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais
llawn ydoedd ar gyfer datblygiad anheddol yn cynnwys 6 tŷ ar wahân, ffordd
fynediad a gwaith cysylltiol ar safle cyn Eglwys Gatholig Morfa Nefyn, sydd
erbyn hyn wedi ei dymchwel. Amlygwyd bod apêl wedi ei
gyflwyno mewn perthynas â'r cais oherwydd diffyg penderfynu’r cais o fewn
cyfnod targed 8 wythnos. Ategwyd bod gwybodaeth hwyr wedi ei dderbyn gan yr
asiant ynglŷn â llwybr cyhoeddus a datganiad ieithyddol diwygiedig. Eglurwyd bod polisi TAI 4 yn
nodi’r angen i unrhyw gynigion tai o fewn pentrefi
arfordirol/gwledig fod o raddfa, math a dyluniad sy’n gytbwys a chymeriad yr
anheddle. Hyrwyddir
lefel gymharol is o ddatblygu i’r Pentrefi hyn er mwyn gwarchod eu cymeriad a
chefnogi angen y gymuned am dai neu dai fforddiadwy ar
gyfer angen lleol. Wrth
gydnabod bod cynnig am gyfraniad ariannol wedi ei wneud tuag at y ddarpariaeth
o dai fforddiadwy’n lleol, byddai’r datblygiad yn
cynnwys chwe tŷ marchnad agored sylweddol eu maint a fydd yn ychwanegu at
yr orddarpariaeth o dai sydd wedi bod yn yr anheddle ers mabwysiadu’r CDLl. Yng nghyd-destun tai fforddiadwy, gan y cynigiwyd dau neu ragor o unedau fel rhan
o’r datblygiad arfaethedig, nodai Polisi TAI 15 fod disgwyl i o leiaf 10% o’r
unedau fod yn fforddiadwy. Nodi’r hefyd yn y polisi, pan fo’r gofyniad tai fforddiadwy mewn cynllun penodol yn disgyn o dan un
annedd ar y safle, fel sydd yma, yna bydd darparu uned fforddiadwy o fewn y
datblygiad hwnnw yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Nid oedd yr un o’r unedau a gynigwyd fel rhan o'r cais yn rhai
fforddiadwy ac amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnig cyfraniad ariannol
gyfystyr â 0.6 uned tuag at y ddarpariaeth o dai fforddiadwy’n lleol. Nid
ydyw’n eglur pam na ellid cynnwys o leiaf un tŷ
fforddiadwy fel rhan o’r cynllun ac felly ni ystyriwyd bod y cynllun yn cwrdd â
gofynion polisi TAI 15. Yng nghyd-destun materion
iaith, amlygwyd bod Datganiad Iaith Gymraeg wedi ei gyflwyno gyda’r cais
cynllunio ac yn adrodd canlyniad mai, ar y cyfan, niwtral fyddai effaith y
datblygiad ar yr Iaith Gymraeg yn y gymuned leol ac y byddai’r cyfraniad
fforddiadwy’n helpu tuag at y ddarpariaeth ar gyfer pobl leol. Fodd bynnag,
nodwyd bod yr Uned Iaith (yn y ffurflen sylwadau hwyr) wedi nodi, yn eu barn
hwy, nad oedd digon o wybodaeth wedi ei gyflwyno yn
nogfennau’r cais i gefnogi’r farn o effaith niwtral. Argymhellwyd i’r ymgeisydd
ailedrych ar y wybodaeth ac ailgyflwyno’r datganiad cyn ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Cynllunio. Er bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn (29/01/21) nid
yw yn ymateb holl bryderon yr Uned Iaith ac felly nid oedd y swyddogion wedi eu hargyhoeddi o
safbwynt materion iaith. Yng nghyd-destun y ffordd fynediad adroddwyd bod y ffordd yn gul iawn, lled un cerbyd, ac, oherwydd ei natur, ni fyddai’n cael ei mabwysiadu fel ffordd gyhoeddus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais i estynnu'r adeilad cartref nyrsio a maes parcio
ynghyd a chadarnhau lleoliad presennol uned biomass AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio er
mwyn galluogi amser i’r gwrthwynebwyr gael cyfle i baratoi cyflwyniad fideo o’u
gwrthwynebiad Cofnod: Cais i
estynnu'r adeilad cartref nyrsio a maes parcio
ynghyd a chadarnhau lleoliad presennol uned biomas a) Amlygodd y Rheolwr
Cynllunio bod cais wedi dod
i law gan wrthwynebwyr i’r cais yn gofyn
am ohirio’r cais fel bod modd iddynt
gael amser i baratoi cyflwyniad
fideo o’u gwrthwynebiad. Y bwriad yw ail gyflwyno’r cais yng nghyfarfod
nesaf y Pwyllgor - Mawrth 1af 2021. Ategwyd bod yr Aelod Lleol
yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn cefnogi’r cais
am ohiriad. b) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ohirio’r penderfyniad PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn
galluogi amser i’r gwrthwynebwyr gael cyfle
i baratoi cyflwyniad fideo o’u gwrthwynebiad |
|
Ymestyn tymor gwyliau
y maes carafanau
o 8 mis i 12 mis i fod
yn agored trwy'r flwyddyn ar gyfer defnydd
gwyliau AELOD LLOEL: Cynghorydd Gareth
Williams Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu
Amodau:
Cofnod: Ymestyn tymor
gwyliau'r maes carafanau o 8 mis i 12 mis i fod yn
agored trwy'r flwyddyn ar gyfer defnydd gwyliau Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr. a) Ymhelaethodd
yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i
ymestyn y cyfnod meddiannu ar y safle carafanau gwyliau sefydlog fel bod yna
dymor gwyliau o 12 mis. Adroddwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer 40 carafán
sefydlog ar y tir ac mae’r caniatâd presennol yn cyfyngu amser meddiannu’r
carafanau i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref mewn unrhyw flwyddyn. Amlygwyd bod
Asesiad Dyluniad a Mynediad wedi ei gyflwyno yn egluro cefndir y cais ac yn
ymateb i alw gan berchnogion presennol y carafanau i gael
aros ar y safle yn ystod y Nadolig, y Flwyddyn Newydd a hanner tymor mis
Chwefror. Ategwyd y byddai
ymestyn y tymor hefyd yn fodd o uwchraddio’r safle. Cyfeiriwyd at
bolisi TWR 4 sydd yn gefnogol i gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer
safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos bod y llety
yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nad
yw’n dod yn brif neu unig gartref y deilydd.
Dylid hefyd sicrhau fod y llety yn addas i fyw ynddynt yn ystod y gaeaf,
na fyddai’r tymor estynedig yn cynyddu canlyniadau llifogydd eithriadol a chael effaith andwyol ar yr
amgylchedd lleol. Ystyriwyd fod y
cais, gydag amodau priodol i sicrhau defnydd y carafanau sefydlog ar gyfer
gwyliau yn unig ac i gadw cofrestr, yn dderbyniol ar sail polisi. b) Yn
manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol: ·
Bod y carafanau sefydlog i gyd mewn perchnogaeth
breifat a bod rhai o’r ‘plotiau’ wedi bod ym meddiant yr un teulu ers y 70au ·
Y bwriad yw ymestyn y tymor i’r 40 carafán sefydlog i
fod yn agored trwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau yn unig. Mae’r cais yn ymateb i
ofynion cwsmeriaid i gael defnyddio'r garafán am
gyfnodau byrrach trwy gydol y flwyddyn. ·
Bydd ymestyn y tymor yn gwella
safon cyfleusterau llety twristiaid ·
Mewn ymateb i’r pryder ynglŷn â phwysau ar y
Gwasanaeth Iechyd lleol, mae cytundeb gyda’r preswylwyr yn cadarnhau 2 amod
sydd yn mynd i’r afael a’r broblem
i. Mae’r
carafanau ar gyfer defnydd gwyliau yn unig. Ni chaiff ein perchnogion fyw ar y
safle yn barhaol . Fel rhan o’r cytundeb blynyddol ,
rhaid i’r perchennog ddarparu prawf o brif gyfeiriad, yn sgil hyn mae’r
perchnogion wedi eu cofrestru gyda'u gwasanaeth iechyd lleol priodol
ii. Mae’r
maes carafanau eisoes wedi mabwysiadu model parc perchnogion yn unig; golygir
fod y carafanau sefydlog i gyd mewn perchnogaeth breifat ac fel rhan o’r
cytundeb dim ond y perchnogion a’u teuluoedd agos caiff ddefnyddio'r garafán . Golyga hyn fod llai o ddefnydd ar y carafanau na
pe bydden yn gweithredu fel maes carafanau cymysg ble mae carafanau yn cael ei
gosod · Yn cael eu cydnabod fel maes carafanau teuluol a distaw . Eu cwsmeriaid yn dod yma ar eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais i ddiddymu amod 3 o ganiatâd cynllunio
34/64/371'C' ar gyfer safle carafanau er caniatâu defnyddio'r carafanau trwy
gydol y flwyddyn AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu Amodau 1. Defnydd
gwyliau yn unig a rhaid cadw cofrestr o’r holl ddefnyddwyr. 2. Yr
holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog
gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg. Cofnod: Cais i ddiddymu
amod 3 o ganiatâd cynllunio 34/64/371'C' ar gyfer safle carafanau
er caniatáu defnyddio'r carafanau trwy gydol y flwyddyn a) Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
cais ydoedd i ddileu amod
sydd yn atal
defnyddio carafanau ar safle carafanau
sefydlog presennol rhwng y 1af o Dachwedd a’r 1af o Fawrth yn y flwyddyn ganlynol.
Fe fyddai caniatâd felly’n galluogi ymestyn y cyfnod meddiannu ar y safle fel bod yna
dymor gwyliau o 12 mis. Byddai’r bwriad
yn cynyddu’r cyfnod meddiannu am bedwar mis yn
y flwyddyn, fodd bynnag nid oes
bwriad ychwanegu at y nifer presennol o garafanau sefydlog megis 25. Ategwyd na fydd newidiadau
nac ychwanegiadau i’r cyfleusterau presennol ar y safle. Nodwyd bod Polisi TWR 4 yn gefnogol i gynigion
i ymestyn y tymor gwyliau ar
gyfer safleoedd carafanau sefydlog a siales presennol os gellir dangos
bod y llety yn cael ei ddefnyddio
at ddibenion gwyliau yn unig ac nad
yw’n dod yn brif neu
unig gartref y deilydd. Dylid hefyd sicrhau fod
y llety yn addas i fyw
ynddynt yn ystod y gaeaf, na fyddai’r tymor
estynedig yn cynyddu canlyniadau llifogydd eithriadol na chael effaith
andwyol ar yr amgylchedd lleol. Wedi ystyried
yr holl faterion
perthnasol, ystyriwyd bod diddymu’r amod dan sylw yn
dderbyniol os gosodir amod priodol
i sicrhau y defnyddir y carafanau sefydlog ar gyfer
defnydd gwyliau yn unig a bod rhaid
cadw cofrestr gyflawn o holl ddefnyddwyr yr unedau. Yn ogystal
byddai cynnwys amod er sicrhau
arwyddion dwyieithog o fewn a thu allan
i’r safle yn fodd o sicrhau
amlygrwydd i’r iaith Gymraeg o fewn y datblygiad b)
Yn
manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr Aelod Lleol
y pwyntiau canlynol: ·
Ei
fod yn gefnogol
i’r cais, ond angen cadarnhad
cydymffurfiaeth a’r amodau ·
Ydy’r
gallu gan y Cyngor i sicrhau gorfodaeth? ·
Derbyn
yr angen am degwch a chysondeb i’r meysydd carafanau ·
Twrisitaeth
yn fusnes mawr ym Mhenllyn ·
Yn
croesawu’r awgrym i garafanwyr dystiolaethu
eu bod wedi cofrestru gyda meddyg yn eu
prif gartref ·
Angen
sicrhau bod iaith a diwylliant yr ardal
yn cael eu
gwarchod c) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Anodd
fyddai cyfiawnhau gwrthod - TWR4 yn gefnogol i geisiadau
o’r fath ·
Bod cyfrifoldeb ar Aelodau Lleol i gadw golwg
ar y sefyllfa – awgrym y gellid defnyddio rhestr etholwyr i weld os oes rhai
yn torri rheolau wrth defnyddio’r
garafan fel prif neu unig
gartref PENDERFYNWYD:
Caniatáu y cais Amodau 1. Defnydd gwyliau yn unig
a rhaid cadw cofrestr o’r holl
ddefnyddwyr. 2. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn
Gymraeg yn unig neu yn
ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg. |