Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn a Linda Morgan. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 5ed o
Ragfyr 2019 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2019, fel rhai cywir. |
|
Aelod Cabinet: Cynghorydd Catrin Wager Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod Cabinet
Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar yr isod:- ·
Defnydd camerâu gan staff
morwrol; ·
Effaith newidiadau
trefniadau ailgylchu; ·
Cydweithio gyda siroedd eraill
cyfagos i wella’r ddarpariaeth; ·
Ail ystyried lefelau
staffio presennol yr uned gorfodaeth stryd; ·
Ehangu’r cydweithio
rhyngadrannol lle mae staff eraill y Cyngor yn derbyn yr hawl dirprwyedig i
orfodi ar y stryd. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi:- ·
Y bu’r newidiadau i’r
trefniadau ailgylchu yn Nwyfor yn bositif iawn, gyda lleihad yn y casgliadau a
fethwyd. Bu’r newid yn fwy problemus yn
Arfon oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys tywydd gwael, cerbydau’n torri a
llawer mwy o wastraff yn cael ei gynhyrchu yn ystod cyfnod y Nadolig. Dymunai ymddiheuro i’r cymunedau hynny oedd
wedi cael eu heffeithio a nododd ei bod yn ffyddiog bod y gwasanaeth yn llawer
gwell erbyn hyn. O ganlyniad i’r
anawsterau yn Arfon, gohiriwyd cyflwyno’r newidiadau ym Meirionnydd tan ar ôl y
Pasg. ·
O ran cydweithio gyda
siroedd eraill cyfagos i wella’r ddarpariaeth, roedd yn ymddangos bod pob sir
yn cyfarch y gwaith mewn ffordd wahanol, oedd yn rhoi mwy o ofyn ar y Cyngor
hwn i ddatblygu ei ffordd ei hun o weithredu. ·
Iddi gael y cyfle’n
ddiweddar i fynd i weld y system teledu cylch cyfyng newydd. Nododd fod y system yn arbennig o dda o ran
ansawdd, a bod lle i ddefnyddio’r math hwn o ddarpariaeth lawer mwy i’r
dyfodol. Ychwanegodd y gofynnwyd i’r
gweithwyr oedd yn rhedeg y system ddod i’r fforymau ardal i esbonio mwy am y
ddarpariaeth. ·
Ei bod yn hynod bwysig iddi fod cymunedau’r sir yn
edrych yn lan ac yn daclus ac yn lle braf i fyw. Roedd tri rhan i hynny, sef sicrhau bod y
trefniadau casglu’n dda, bod y Cyngor yn gweithio gyda gwirfoddolwyr a
chymunedau i uchafu edrychiad yr ardal, a hefyd yr elfen gorfodaeth. Ymhelaethodd y
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Nodwyd bod deunyddiau yn
dal i ddisgyn allan o’r loriau ailgylchu, gan eu bod yn cael eu gyrru i ffwrdd
gyda’r drysau’n dal yn agored. Derbynnid
bod hyn yn anochel mewn ardaloedd trefol gan nad oedd yn ymarferol cau’r drysau
rhwng bob eiddo, ond dylid atgoffa’r gyrwyr i gau’r drysau mewn ardaloedd
gwledig, lle mae tai ar wasgar. ·
Mynegwyd bodlonrwydd gyda’r
gwasanaeth casglu newydd yn Nwyfor a nodwyd bod y sefyllfa wedi tacluso’n arw
yn dilyn y newidiadau yma. ·
Nodwyd bod baw ci yn dal yn
broblem gynhennus ac awgrymwyd mai’r unig ffordd o ymdrin â hyn oedd drwy osod
camerâu dros dro ar rai o’r llwybrau lle mae’r broblem waethaf. ·
Nodwyd y dylid gwagio
biniau stryd ddwywaith y dydd yn ystod gwyliau ysgol. ·
Tynnwyd sylw at y ffaith
bod arwyddion ffyrdd y sir yn fudr. · Awgrymwyd y dylid gweithio gyda’r Adran Forwrol i osod arwyddion gorfodaeth ar y traethau, gan y byddai hyn yn cael effaith bositif ar yr amgylchedd, ynghyd â chynllun ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
YMATEB I ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU GORFODAETH GWASTRAFF PDF 52 KB Aelod Cabinet : Cynghorydd Catrin Wager Derbyn adroddiad
gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod
Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu
Gorfodaeth Stryd yn y categorïau canlynol:- ·
Gweithredu’n
syth; ·
Cydweithio yn y tymor canolig gyda gwasanaethau /
partneriaid eraill er gweithredu'r argymhellion. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi:- ·
Y dymunai ddiolch i’r Rheolwr
Gwasanaethau Stryd am ei holl waith yn y maes hwn. ·
Bod y gwaith yn amlygu’r ffaith bod sicrhau
trefniadau casglu da, cydweithio gyda chymunedau, a gorfodaeth, yn uchafu
edrychiad y sir er budd pawb. ·
O ganlyniad i gyflwyno’r
drefn gasglu newydd yn Nwyfor ac Arfon, gohiriwyd dod â’r pwerau gorfodi i mewn
oherwydd pwysigrwydd darparu gwasanaeth cywir cyn edrych ar orfodi. ·
Bod yr adroddiad yn rhoi
cryn sylw i Fangor. Cychwynnwyd
cydweithio gyda gwahanol bartneriaid, a sefydlwyd Grŵp Ffocws ar Fangor, oedd
yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol, gyda’r heddlu’n rhan o’r
cyfarfod cyntaf hefyd. Roedd yr Adran yn
rhan o Grŵp Delwedd Bangor hefyd, sef grŵp ehangach oedd yn edrych ar
edrychiad y ddinas. ·
Y bwriedid treialu sticeri
‘QR codes’ yn yr ardaloedd myfyrwyr ym Mangor Uchaf, ac o bosib’ Hirael hefyd,
a gobeithid y byddai yna ddiweddariad o ran amserlen hynny yn fuan. ·
Bod llawer o waith y gellid
ei wneud o ran hyrwyddo’r gwasanaethau oedd yn cael eu cynnig ac o ran newid
ymddygiad. ·
Bod angen i’r Cyngor
gyrraedd targed ailgylchu o 64% erbyn Mawrth eleni, gyda’r targed yn codi i 70%
ar ôl hynny. ·
Ei bod yn awyddus i
ddatblygu rhaglen ymgysylltu a chyfathrebu gyda’r Uned Gyfathrebu fel bod modd
mynd allan i’r cymunedau i siarad gyda phobl a chodi ymwybyddiaeth a
dealltwriaeth o faterion gwastraff. Ymhelaethodd y
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Croesawyd argymhellion yr
ymchwiliad craffu. Nodwyd bod y
swyddogion wedi cymryd sylw o farn aelodau’r ymchwiliad a chredid y byddai
gweithredu’r argymhellion hynny yn gwneud gwahaniaeth i’r gwasanaeth ac i’r
amgylchedd ar gyfer y trigolion. ·
Nodwyd bod tueddiad i wyro
tuag at Fangor, ond yno roedd y problemau dwysaf oherwydd y boblogaeth myfyrwyr
a daearyddiaeth y ddinas. ·
Pwysleisiwyd bod angen i
Wynedd fod yn bencampwyr ailgylchu.
Roedd hyn yn mynd i gymryd mwy o fuddsoddiad, ond nid oedd dewis
arall. Roedd y Cyngor yn gwneud gwaith
da iawn yn y maes, ond roedd angen gwneud ychydig mwy eto. ·
Mynegwyd
pryder y byddai dirywio pobl yn arwain at gynnydd mewn tipio slei bach, yn
enwedig yn y wardiau cefn gwlad. ·
Canmolwyd
y gwaith da yn y ganolfan ailgylchu yn Ffridd Rasys a gofynnwyd i’r pennaeth
gyfleu’r neges honno i’r gweithwyr. ·
Diolchwyd
i’r adran gwasanaeth brys sy’n delio â thipio slei bach a biniau stryd sy’n
orlawn. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:- · Mai diben cyflwyno dirwyon am waredu ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd anghywir oedd targedu lle mae problemau, yn hytrach na cheisio dal pobl allan. Lluniwyd polisi oedd yn annog ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth Griffith Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad monitro’r Aelod Cabinet Amgylchedd ar weithrediad y Cynllun Dirprwyo
newydd ar gyfer ceisiadau cynllunio. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun gan nodi bod hwn yn fater oedd wedi bod yn fyw ac yn
newid, a bod yr adroddiad yn rhoi darlun i’r aelodau o’r hyn oedd wedi digwydd,
beth oedd wedi newid a beth oedd y drefn. Ymhelaethodd y
swyddogion ar gynnwys yr adroddiad ac yna gwahoddwyd yr aelodau i ofyn
cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Mynegwyd pryder ynglŷn â’r trefniadau
ymgynghori gyda’r AHNE ar y sail y byddai’n fwy democrataidd petai’r sylwadau
ar geisiadau cynllunio yn dod gan Gyd-bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn, yn
hytrach na gan y Swyddog AHNE. Nodwyd
ymhellach y bu gwrthdaro rhwng y swyddogion ac aelodau’r cyd-bwyllgor
ynglŷn â sawl cais cynhennus. ·
Mynegwyd pryder ynglŷn
â’r niferoedd ceisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu drwy’r drefn
ddirprwyedig, o gymharu â’r nifer sy’n dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio, e.e.
yn Hydref 2019, penderfynwyd ar 107 o geisiadau gan y swyddogion o gymharu â 3
gan y pwyllgor. Deellid bod gan yr aelod
lleol yr hawl i alw unrhyw gais i mewn i’r pwyllgor, ond yn aml roedd yr aelod
yn methu’r cais ac felly’n colli’r cyfle i’w alw i mewn. Nodwyd hefyd, oherwydd daearyddiaeth Gwynedd,
bod y math o geisiadau a dderbynnid yma yn wahanol i’r hyn a dderbynnid yn yr
ardaloedd poblog megis Caerdydd, Abertawe a chymoedd y De. Bu sôn hefyd bod cyflwyno llai o geisiadau i
bwyllgor yn lleihau llwyth gwaith yr aelodau, ond roedd yr aelodau’n cael eu
talu am wneud y gwaith hynny. ·
Nodwyd mai’r hyn oedd yn
bwysig oedd bod y ceisiadau sy’n dod gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn rhai sy’n
werth eu trafod, a chroesawyd y lleihad yn nifer y cyfarfodydd ac yn nifer y
ceisiadau a oedd yn dod gerbron y pwyllgor. ·
Nodwyd ei bod yn fwy anodd
erbyn hyn i’r aelodau weld y rhestr wythnosol o geisiadau cynllunio oherwydd
newidiadau TG, a phwysleisiwyd bod rhaid i’r aelodau fod yn ymwybodol o’r
ceisiadau sydd i law er mwyn gallu bod yn rhagweithiol o ran cyfleu’r teimlad
lleol ar y ceisiadau hynny. ·
Nodwyd
y dylai’r aelodau hefyd dderbyn rhestr o’r ceisiadau a benderfynwyd drwy’r
drefn ddirprwyo. ·
Nodwyd bod Môn wedi gwneud
elw o 5.9% y llynedd ar ffioedd cynllunio (sef gwariant net o £767,000 ac incwm
o £812,000) ond bod Gwynedd wedi gwneud colled o 51.9% (sef gwariant net o
£1,097,000 ac incwm o £528,000). ·
Pwysleisiwyd y dylai unrhyw
gais i newid amod(au) ar gais cynllunio a ganiatawyd gan y Pwyllgor Cynllunio
gael ei gyfeirio’n ôl i’r pwyllgor yn otomatig, yn enwedig os yw’r newid yn
rhywbeth allai fod yn gynhennus. ·
Mynegwyd
pryder ynglŷn ag anallu’r cyhoedd ac aelodau i gysylltu â swyddogion
cynllunio dros y ffôn. Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod a chwestiynau gan aelodau, nodwyd:- · O ran yr AHNE, bod yna gytundeb lefel gwasanaeth yn ei le. Roedd y Swyddog AHNE yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |