Lleoliad: Parlwr Mawr, Theatr y Ddraig, Barmouth Community Centre, Jubilee Road, Barmouth, Gwynedd. LL42 1EF
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorydd
Ioan Ceredig Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Cyng. Louise Hughes (Cyngor Gwynedd), Mr John Johnson
(Cymdeithas Pysgota Abermaw a Bae Cerdigion, Y Cyng. Rob Williams (BRIG), Dr
John Smith (Grwp Mynediad Traphont Abermaw). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan yr aelodau
isod am y rhesymau a nodir: (a)
Cyng. Gethin Williams – aelod o’r Ymddiriedolaeth
Cymunedol (b)
Cyng. Julian Kirkham - yn perthyn i un o’r
gweithredwyr fferi (c)
Mr Mike Ellis – aelod o bwyllgor Ras y Tri Copa (d)
Mrs Wendy Ponsford – aelod o’r Clwb
Hwylio, aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol (e)
Cyng. Rob Triggs
– aelod o’r Ymddiriedolaeth Cymunedol, aelod o’r Clwb
Hwylio (f)
Mr Martin Parouty – gweithredwr masnachol yn yr
harbwr, aelod o’r Clwb Hwylio
ac Ymddiriedolaeth Cymunedol
Ni fu
i’r Aelodau bleidleisio ar faterion a oedd
yn ymwneud â’u buddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd: Cofno Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofno Eitem
6 (b) – Cyfeiriwyd at y cofnod a dymunai y Cyng. Rob Triggs nodi nad oedd y
stropiau wedi methu. Mewn ymateb i’r uchod, eglurodd y Swyddog Morwrol a
Pharciau Gwledig bod angen adolygu’r ddogfennaeth a phwysleiswyd bwysigrwydd i
dderbyn tystiolaeth cyfredol a chywir ynglyn â chyflwr angorfeydd. Ychwanegwyd bod cyfrifoldeb ar bob perchennog
cwch i sicrhau bod angorfeydd yn addas i’r pwrpas. Cadarnhawyd bod angorfeydd y Cyngor yn addas
ac i safon uchel. Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â risg i’r Cyngor
ynglyn â chyflwr angorfeydd, sicrhaodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad
oedd risg o gwbl i’r Cyngor ond pwysleiswyd y byddai’n achos o bryder ac yn
effeithio ar bremiwm yswiriant perchnogion cychod, pe na fyddai’r angorfeydd
sydd mewn perchennogaeth preifat i fyny i safon a thystiolaeth perthnasol i
warantu hynny. Materion
yn codi o’r cofnodion: (a) Eitem 6 (d) – Cynnal a
Chadw Nodwyd y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwr
Feistr yn gallu diweddaru Aelodau o raglen waith cynnal a chadw dros gyfnod y
gaeaf. (b) Penderfyniad (b) yn Eitem 6 -
Ffonau Gwasanaeth Brys Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod, esboniodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd neb wedi defnyddio’r ffonau
Gwasanaeth Brys ers dros ddwy flynedd a bod signal ffonau symudol ar gyfer 999
ar gael ymhob un o’r lleoliadau maent wedi eu lleoli heblaw Porth Ceiriad
(Dwyfor). Penderfynwyd: Cyfleu i’r Aelod Cabinet perthnasol
gymeradwyaeth y Pwyllgor Ymgynghorol i waredu y ffonau Gwasanaeth brys yn
Abermaw a Fairbourne oherwydd y costau sydd ynghlwm iddynt a’r diffyg defnydd
ohonynt. (ch) Eitem (iv) – Diogelwch Parcio Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei
fod wedi trafod gyda’r Uwch Swyddog Trafnidiaeth ynglyn â’r darn sydd wedi ei
liwio gyda llinellau melyn wrth ymyl adeilad SS Dora ac wedi derbyn cadarnhad
ei fod yn weithredol fel rhan o’r gorchymyn parcio. Fe fydd perchennog unrhyw gerbyd sydd yn
parcio ar y llecyn dan sylw yn derbyn tocyn parcio gan y Swyddog Gorfodaeth. Ychwanegwyd nad oedd unrhyw benderfyniad pellach
wedi ei wneud ynglyn â ffordd ger y compownd. (c) Digwyddiadau Adroddwyd ei fod yn gamarweiniol yn y cofnod o
safbwynt trefnu digwyddiadau yn yr Harbwr ac y dylai’r cofnod ddarllen y dylai
“trefnwyr gysylltu â’r Gwasanaeth Morwrol yn gyntaf i gael caniatad i gynnal
gweithgareddau”. (dd) Ardal Weithgareddau wedi ei raffu i ffwrdd Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod
ardal o dan y Bont, yn ymyl yr hen orsaf y Bad achub wedi ei adnabod fel ardal
weithgareddau ac y byddir yn rhoi rhes o fwiau melyn i gadw cychod o’r ardal
penodol yma, a’i dreilau am gyfnod.
Esboniwyd nad oedd ardal arall ar gael ac nad oedd yn ddŵr a oedd
wedi ei adnabod ar gyfer ymdrochi.
Pwysleiswyd yr angen i drefnwyr cystadlaethau ymgymryd ag asesiadau risg
er mwyn sicrhau diogelwch cystadleuwyr. (d) Taclusrwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 3. |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 240 KB I ystyried adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r Pwyllgor ar faterion
rheolaethol yr Harbwr. (a)
Croesawyd Alison Kinsey, Cydlynydd Grŵp Gweithredu Lleol
Pysgodfeydd Bae Ceredigion, a oedd wedi gwneud cais i fynychu’r cyfarfod ac fe
esboniodd bwrpas FLAG (Fisheries Local Action Group). Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
Ø
ychwanegu
gwerth Ø
creu
swyddi Ø
denu
pobl ifanc a Ø
hyrwyddo
arloesedd ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi o gynhyrchion pysgodfeydd
datblygu prosiectau, prosiectau peilot,
astudiaethau dichonoldeb, hyfforddiant, mentora, hwyluso ac ymgynghori. Rhoddwyd engreifftiau o’r math o
weithgareddau y gellir eu cynnal gyda chymorth FLAG:
I gloi, esboniodd y Cydlynydd bod Mr Neil
Storkey o Aberdyfi, yn gweithio’n agos gyda hi, ac y byddai cael cynrychiolydd
o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw yn fanteisiol i fod yn rhan o gyfarfodydd
FLAG i’r dyfodol. Yn ogystal cyfeirwyd at Cywain sydd yn rhan o
brosiectau Menter a Busnes a ddatblygwyd i gefnogi datblygu cynnyrch a
marchnadoedd i gynnyrch amaethyddol a physgodfeydd. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
Cynigwyd ac eilwyd i enwebu y Cynghorydd Rob
Triggs i fod yn bwynt cyswllt o’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn ac addawodd y
Cydlynydd y byddai’n cysylltu ag ef yn uniongyrchol gyda unrhyw wybodaeth
pellach. Penderfynwyd: Cymeradwyo i enwebu’r Cynghorydd Rob
Triggs i gynrychioli’r Pwyllgor Ymgynghorol hwn mewn cyfarfodydd grŵp FLAG
yn yr ardal. (b)
Nododd y Cadeirydd nad oedd angen i’r Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig
dywys yr Aelodau drwy ei adroddiad ond yn hytrach gofynnwyd i Aelodau os
oeddynt yn dymuno codi neu amlygu unrhyw fater yn deillio o gynnwys yr
adroddiad. I’r perwyl hwn, amlygwyd y
materion canlynol o gynnwys adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig (i) Clirio Tywod – ar ôl blynyddoedd o waith i gadw’r Afon Ysgethin yn llifo ymddengys bod y twyni tywod yn diflannu i’r môr ac nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i ildio i wneud rhywbeth am y mater. Yn anffodus ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL (a)
Cyngor Tref Abermaw ·
Angorfeydd ·
Safleoedd tipio tywod ·
Clirio tywod ar
y sarn a’r promenad ar gyfer
mynediad i’r anabl ·
Clirio tywod ar
hyd y llwybr ar top y compownd ·
Carthu (b)
Cyngor Cymuned Arthog ·
Datblygiadau Rheolaeth Pwynt Penrhyn Fairbourne (c) Clwb Hwylio Merioneth
·
Mwy o wybodaeth ynglyn â’r honiadau
cau ffordd y promenad yn y gaeaf
·
Rheiliau tu allan
i Adeilad Dora ·
Mae’n ymddangos bod mwy o gychod ar
draeth y fynwent – a yw rhain mewn
defnydd? Cofnod: (a) Cyngor Tref Abermaw
- Carthu Gofynnwyd a oedd unrhyw beth y gallasai’r
Cyngor ei wneud? Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig bod yn rhaid derbyn bod y sianel yn newid ac yn cau i fyny yn naturiol
gyda’r sianel yn mynd yn bellach oddi wrth yr Harbwr, a rhaid bod yn realistig
o safbwynt cyfyngiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ni ragwelir y bydd gwaith carthu yn digwydd oherwydd cyfyngiadau a’r
gost. Nododd y Cynghorydd Rob Triggs ei fod wedi
cwrdd â thrafod gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru ynglyn âg ymgymeryd â’r
gwaith ar lefel lleol gyda chychod, ac ar ddeall bod modd gwneud hynny heb
drwydded. Amlygwyd pryder os na fyddir yn carthu y
gellir colli’r Harbwr. Awgrymwyd y ffordd ymlaen fyddai i’r Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig dderbyn enwau swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru i
drafod ymhellach goblygiadau o garthu cyn cymryd camau pellach i symud
ymlaen. Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig drefnu i weithredu yn unol â’r uchod. (b) Cyngor Cymuned Arthog -
Datblygiadau Rheolaeth Pwynt Penrhyn Fairbourne Nododd Cynghorydd Julian Kirkham bod Cyngor
Cymuned Arthog yn gofyn am gymorth gyda’r amcanion isod ar gyfer rheoli’r mewnlifiad sylweddol o draffig twristiaeth sy'n
cyrraedd yr ardal:
Nododd y Cynghorydd
Kirkham ymhellach y byddai Cyngor Cymuned Arthog yn fodlon rheoli Llithrfa
Fairbourne ond y byddai ef yn bersonol yn ymddeol o’r Cyngor Cymuned ym mis
Ebrill a bod angen aelodau ifanc a fydd efallai gyda diddordeb i reoli Pwynt
Penrhyn. Penderfynwyd: Derbyn
a nodi’r uchod. (a)
Clwb Hwylio:
|
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar 23 Hydref 2018. Cofnod: Penderfynwyd: Nodi y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 23 Hydref 2018. |