Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon / Rhithiol drwy Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blynyddol y Cyngor a
gynhaliwyd ar 19 Mai, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
CWESTIYNAU Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd
rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD 2021/22 Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
adroddiad fel adlewyrchiad cywir, cytbwys a chlir o berfformiad y Cyngor yn
ystod 2021/22, a’i fabwysiadu. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2021/22 Cyflwyno
adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. |
|
PENODI CADEIRYDD I'R PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Penodi Cadeirydd
i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. [Yn unol â gofynion Adran 14 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y
Cyngor llawn sydd i benodi Cadeirydd
y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ac ni all benodi aelod o grŵp gwleidyddol sy’n cael ei gynrychioli
ar y weithrediaeth.] Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth am 2022/23. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2021/22 Cyflwyno adroddiad
y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2021/22 Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. |
|
Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro mewn ymgynghoriad
â’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth a’r Fforwm Craffu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Addasu Adran 13 Rhan 2 y Cyfansoddiad drwy ddileu’r swyddogaethau canlynol o
gylch gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: “adolygu a chraffu ar
faterion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau corfforaethol,
partneriaethau, ymgysylltu , trawsnewid busnes, trefniadau effeithlonrwydd a’r
gweithlu a’r swyddogaethau a gyflawnir gan yr Adran Gyllid, yr Adran Gefnogaeth
Gorfforaethol a’r Tîm Arweinyddiaeth.” 2. Addasu Rhan 7 o’r Cyfansoddiad yn unol ag
Atodiad 1 i’r adroddiad i osod y cyfrifoldebau a nodir gyda’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi. 3. Derbyn er gwybodaeth yr addasiadau i
Adran 13 – Rhan 2 o’r Cyfansoddiad, Aelodaeth a Chyfrifoldebau Cabinet. |
|
PANEL CYFWELD AELOD LLEYG I'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog
Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Addasu
aelodaeth Panel Cyfweld Aelodau Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i
gynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth a’r
Aelod Cabinet Cyllid. |
|
PENODI AELODAU I'R PWYLLGOR SAFONAU Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1 Penodi’r Cynghorwyr Beth Lawton, Anne
Lloyd-Jones a Dewi Owen i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau fel Aelodau
Etholedig tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn dilyn eu
penodiad. 2 Penodi’r Cynghorydd Richard Parry Hughes,
Cyngor Cymuned Llannor, i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau fel Aelod Pwyllgor
Cymunedol tan yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn dilyn ei
benodiad. |
|
CYDBWYSEDD GWLEIDYDDOL / PANEL HEDDLU A THROSEDD GOGLEDD CYMRU Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Mabwysiadu’r
dyraniad seddau fel a nodir yn Atodiad A i’r adroddiad, gan ddirprwyo’r hawl
i’r Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth wneud penodiadau i’r pwyllgorau ar sail
y cydbwysedd gwleidyddol, ac yn unol â dymuniadau’r grwpiau gwleidyddol. 2.
Enwebu’r
Cynghorwyr Edgar Wyn Owen (Grŵp Plaid Cymru) a John Pughe (Grŵp
Annibynnol) i gynrychioli’r Cyngor ar y Panel Heddlu a Throsedd am dymor y
Cyngor hwn yn unol â’r dyraniad a roddwyd i Wynedd. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Tudur Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig
fel a ganlyn:- “O ystyried yr
argyfwng a achosir gan ddiffyg rheolaeth ar ail dai, cynigiaf bod y Cyngor
Llawn yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar yr ymgynghoriadau
canlynol a ddaeth i ben ym mis Chwefror a Mawrth; deddfwriaeth a pholisi
cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, cynllun tai
cymunedau Cymraeg, ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir.” Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: O ystyried yr argyfwng a achosir gan ddiffyg rheolaeth ar ail
dai, bod y Cyngor Llawn yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys ar yr
ymgynghoriadau canlynol a ddaeth i ben ym mis Chwefror a Mawrth; deddfwriaeth a
pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, cynllun tai
cymunedau Cymraeg, ail gartrefi: amrywiadau lleol i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig
a dderbyniwyd oddi wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig
fel a ganlyn:- “Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o
lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar Nos
Sul Mehefin 5ed gyda ein Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i
sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau terfynol y Gystadleuaeth yma. Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm Cenedlaethol ac
yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor hefyd yn
llongyfarch Cymdeithas Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth
Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn
llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi
mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob
Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru, ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein
gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed Cymru DIOLCH. Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth
Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i hyrwyddo
Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma.” Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Ers 1958 mae Cymru wedi methu allan ar un o
lwyfannau mwyaf y Byd, sef Cwpan Pêl Droed y Byd (Dynion). Newidiodd hyn ar Nos Sul Mehefin 5ed gyda ein
Tîm Cenedlaethol yn gweithio’n rhagorol fel Tîm i sicrhau ein bod yn cyrraedd rowndiau
terfynol y Gystadleuaeth yma. Mae’r Cyngor yn llongyfarch ein Tîm
Cenedlaethol ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y Rowndiau terfynol. Mae’r Cyngor hefyd yn llongyfarch Cymdeithas
Pêl Droed Cymru am feithrin yr ymwybyddiaeth Cenedlaethol Cymreig o fewn y tîm
i sicrhau’r fuddugoliaeth. ‘Rydym yn llongyfarch y Gymdeithas ar eu defnydd o’r
Gymraeg a hefyd ar sut maent wedi mynd ati i hyrwyddo'r iaith. Mae Tîm Pêl
Droed Cymru yn wers, nid yn unig i bob Cymdeithas Chwaraeon arall yng Nghymru,
ond hefyd i bob Sefydliad sydd yn ein gwlad. Yng ngeiriau Cymdeithas Pêl Droed
Cymru DIOLCH. Yn ychwanegol mae’r Cyngor yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gymryd pob mantais o’n presenoldeb yn y Rowndiau terfynol i
hyrwyddo Ein Gwlad ac ein Hiaith ar y llwyfan byd-eang yma. |