Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Gareth Coj Parry a’r Cynghorwyr Rheinallt Puw a Dafydd Meurig (Aelodau Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 (C22/0256/13/LL) ar y rhaglen oherwydd
ei fod yn
Aelod o Fwrdd ADRA Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu
a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelod lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Elin Walker Jones (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 (C23/0179/11/DT) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
John Pughe (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C23/0116/09/LLL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO To submit the report of the Head of Environment Department. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C23/0179/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd, LL57 2LA Estyniad a newidiadau i eiddo, ynghyd â throsi gofod y to yn ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs yng nghefn yr annedd. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod Rheswm: Byddai'r bwriad arfaethedig yn
gyfystyr a gor-ddatblygiad o eiddo anheddol domestig ac oherwydd graddfa, gosodiad
ac uchder bydd yn creu elfen ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos
gan niweidio mwynderau trigolion lleol yn groes i ofynion Polisïau PCYFF 2 a
PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017. Cofnod: Estyniad a newidiadau i eiddo, ynghyd â throsi gofod y to yn
ystafell wely ac ystafell ymolchi ac anecs yng nghefn
yr annedd. a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer ymgymryd â
newidiadau i dŷ deulawr presennol. Byddai'r gwaith yn cynnwys : -
codi estyniad llawr cyntaf ar ben modurdy unllawr
presennol sydd ar flaen yr eiddo -
codi estyniad unllawr blaen gyda tho unllethr wrth ochr y modurdy presennol -
Trosi gofod to'r tŷ presennol yn ofod byw ychwanegol, a -
Codi estyniad deulawr cefn i weithredu fel "anecs" i'r prif dŷ. Eglurwyd bod y safle o fewn
cwrtil tŷ ‘33 Bryn Eithinog sy’n eiddo ar wahân mewn ardal anheddol o fewn
ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y’i diffinnir yn y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl). Byddai'r
eiddo yn cynyddu o dŷ pedair llofft, i dŷ gydag anecs
a fyddai â chyfanswm o chwe llofft. Ategwyd bod y cynllun yn un diwygiedig i’r
un a wrthodwyd yn flaenorol gan i'r Pwyllgor ystyried y byddai'r bwriad yn
gyfystyr a gorddatblygiad o'r eiddo ac, oherwydd
graddfa, gosodiad ac uchder yr estyniadau, y bydd yn creu elfen ormesol a
fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos (cais cynllunio C22/0608/11/LL) Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor ar gais yr Aelod Lleol. Cyfeiriwyd at brif
newidiadau i'r cynlluniau - lleihau lled
llawr gwaelod yr anecs; cael gwared â ffenestri
cromen o'r edrychiad deheuol a gosod ffenestri to yn eu lle; gosod ffenestr do
ychwanegol yn llethr cefn (gogleddol) to'r anecs. Ystyriwyd fod y bwriad
yn dderbyniol o agwedd mwynderau gweledol, mwynderau preifat a mwynderau
cyffredinol ac argymhellwyd caniatáu’r cais yn unol â gosod amodau perthnasol. b)
Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol y sylwadau
canlynol: ·
Er bod yr estyniad ychydig yn llai, yr un yw’r rhesymau gwrthod ·
Pryderon cymdogion yn parhau'r un fath ·
Bod graddfa a gosodiad y bwriad yn ormesol ·
Bod y newid yn rhy fach – nid yn ddigonol i gysuro trigolion
cyfagos ·
Pryder y bydd yr anecs yn cael ei
defnyddio fel AirBnB – dim angen hyn mewn ardal
breswyl ·
Bod y bwriad ar brif lwybr mynediad Ysgol Friars ·
Cynyddu traffig c)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais gan fod graddfa a maint y
bwriad yn ormod i’r safle ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw
canlynol gan Aelod: ·
Pryder bod y tŷ yn cael ei ddefnyddio
fel Tŷ Amlfeddiannaeth er nad oes tystiolaeth ffurfiol o hyn PENDERFYNWYD
GWRTHOD Byddai'r bwriad
arfaethedig yn gyfystyr a gorddatblygiad o eiddo
anheddol domestig ac oherwydd graddfa, gosodiad ac uchder bydd yn creu elfen
ormesol a fyddai'n dominyddu eiddo preifat cyfagos gan niweidio mwynderau
trigolion lleol yn groes i ofynion Polisïau PCYFF 2 a PCYFF 3 Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017. |
|
Cais Rhif C22/0950/11/LL 340 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1YA Newid defnydd cyn glwb
nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Dylan Fernley a’r Cynghorydd Nigel Pickavance Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag
amodau: 1. Amser 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Cyfyngu'r defnydd i anheddau preswyl dosbarth defnydd C3
yn unig Nodyn : Dŵr Cymru Cofnod: Newid
defnydd cyn glwb nos i 9 fflat hunangynhwysol 1 ystafell wely a) Amlygodd y
Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
ar gyfer trosi tri llawr uchaf adeilad pedwar
llawr a fu gynt yn glwb nos ar Stryd Fawr Bangor yn naw fflat un llofft -
byddai’r llawr gwaelod
yn parhau fel uned mân-werthu. Eglurwyd bod caniatâd wedi ei roi yn 2017
i newid defnydd y cyn clwb nos yn siop ar y llawr gwaelod a thri fflat
hunangynhaliol a llety myfyrwyr 11 ystafell wely (Tŷ Aml Feddiannaeth -
TAF) ar y lloriau uwch - y gwaith ar y datblygiad hwnnw wedi dechrau ac felly'r
caniatâd cynllunio yn parhau i fod yn weithredol. Saif yr adeilad o fewn
ffin ddatblygu'r Ganolfan Isranbarthol fel y'i diffinnir yn y CDLl. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan iddo fod am 5 neu
ragor o anheddau newydd. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn erbyn
Polisi PCYFF 1 a Pholisi TAI1 o’r CDLl. Nodwyd y bu
i'r cais fod gerbron y Pwyllgor ar 20/03/23 pryd gohiriwyd y drafodaeth er mwyn
cynnal ymgynghoriad gyda 3ydd parti oedd heb ei gwybyddu
am y cais. Ystyriwyd fod y bwriad i
greu 9 fflat yn dderbyniol o safbwynt defnydd, lleoliad a graddfa a’r
effeithiau posibl ar fwynderau cyffredinol yr ardal ac ar fwynderau unigolion.
Byddai’r datblygiad yn cyfrannu tuag at dargedau tai’r CDLl
mewn ffordd sydd yn ymateb yn gadarnhaol i ofynion y farchnad dai lleol. Yng
nghyd-destun fforddiadwyedd, wedi ystyried maint a
lleoliad y fflatiau, ni ddisgwylid i’r prisiau godi allan o afael trigolion
lleol a bydd y fflatiau hyn oll yn’ fforddiadwy trwy ddyluniad’ - ni ystyriwyd
felly bod angen cyfiawnhad drwy gael trefniant ffurfiol i sicrhau fforddiadwyedd cyfran o’r unedau hyn. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu y cais c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelod: ·
Nad
oes defnydd gwahanol i’r Stryd Fawr bellach PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau: 1. Amser 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau 3. Cyfyngu'r defnydd i anheddau preswyl dosbarth
defnydd C3 yn unig Nodyn
: Dŵr Cymru |
|
Cais Rhif C23/0072/16/LL Plot C6, Parc Bryn Cegin, Llandegai, Bangor, LL57 4BG Codi adeilad ar gyfer
Dosbarthiadau Defnydd B1/B2,/B8 (gyda Chownter Masnach mewn unrhyw uned B8) ac
adeilad i'w ddefnyddio fel Masnachwr Adeiladwyr (storio, dosbarthu, cownter
masnach, swyddfeydd a manwerthu ategol) gyda storfa allanol gysylltiedig, ardal
arddangos, mynediad, parcio, goleuadau, ffensys, tirweddu caled a meddal. AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i'r Uwch Swyddog Cynllunio
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gwblhau trafodaethau ynghylch materion
priffyrdd ac archeoleg ynghyd ag amodau cynllunio perthnasol yn ymwneud gyda: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3.
Rhaid gweithredu yn unol ag
argymhellion yr adroddiad ecolegol / cynllun tirlunio 4. Amodau Archeoleg 5.
Caniateir defnyddio Unedau 1 - 6
(Adeilad 1) at unrhyw ddiben o fewn Dosbarth Defnydd B1, B2 neu B8 6. Sicrhau arwyddion Cymraeg / Dwyieithog 7.
Oriau Agor : 06:30 i 18:00 Llun i Gwener, 06:30 i 17:00
Dydd Sadwrn a 08:00 i 16:00 ar Ddydd Sul / Gwyliau Banc Nodiadau 1. Dŵr
Cymru 2. Uned Draenio
Tir 3. Network Rail Cofnod: Codi adeilad ar gyfer Dosbarthiadau
Defnydd B1/B2,/B8 (gyda Chownter Masnach mewn unrhyw uned
B8) ac adeilad i'w ddefnyddio fel Masnachwr Adeiladwyr (storio, dosbarthu, cownter masnach, swyddfeydd a manwerthu ategol) gyda storfa
allanol gysylltiedig, ardal arddangos, mynediad, parcio, goleuadau, ffensys, tirweddu caled a meddal. a) Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio bod y cais
yn un am ganiatâd
cynllunio llawn ar gyfer codi dau adeilad
ar un o leiniau gweigion o fewn Parc Busnes Bryn Cegin, Llandygai.
Byddai un o'r adeiladau (Adeilad 1) wedi ei rannu'n chwe uned, gyda'r bwriad o
gael caniatâd hyblyg er mwyn caniatáu defnyddiau o fewn Dosbarthiadau Defnydd
B1 (Busnes), B2 (Diwydiannol cyffredinol) neu B8 (Gwasanaethau Storio neu
Ddosbarthu) o fewn yr unedau. Byddai'r ail adeilad (Adeilad 2) ar gyfer defnydd
gan fusnes masnachwyr adeiladu (Defnydd Unigryw). Eglurwyd bod Parc Bryn Cegin yn cael ei warchod fel Safle Busnes Strategol
Rhanbarthol ar gyfer busnesau yn Nosbarthiadau Defnydd B1, B2 & B8 gan
bolisi CYF 1 y CDLl – y cynnig ar gyfer Adeilad 1 yn
gyson gyda'r polisi hwnnw a defnydd
Adeilad 2 fel masnachwr adeiladu
yn ddefnydd unigryw nad ydyw'n disgyn dan unrhyw ddosbarth defnydd penodol. Mae
Polisi CYF 3 yn annog gwarchod safleoedd busnes dynodedig ar gyfer y defnydd a
glustnodwyd oni bai bod amgylchiadau
eithriadol ar gyfer defnydd amgen. Mae’r polisi’n gosod pedwar maen prawf ar
gyfer asesu cynigion sy’n cynnwys; ·
bod cyfiawnhad gorbwysol ar gyfer y
datblygiad ·
bod graddfa’r cynllun yn cyd-fynd yn
bennaf ag angen y gweithlu ar safle cyflogaeth ·
Na fyddai’r datblygiad arfaethedig yn
tanseilio swyddogaeth y safle cyflogaeth ·
Na fydda’r datblygiad yn arwain at tan-ddarpariaeth o dir
cyflogaeth defnydd B1 Wedi ystyried pwysigrwydd y cynllun ar gyfer sicrhau datblygiad
busnes ar safle o strategol bwys sydd wedi bod yn wag ers blynyddoedd maith,
nodwyd bod cyfiawnhad eithriadol dros ganiatáu’r datblygiad arfaethedig ar
safle cyflogaeth ddynodedig yn unol â Pholisi CYF 3 y CDLl. Yng
nghyd-destun materion archeolegol, nodwyd bod safle Bryn Cegin wedi bod yn
destun cloddio archeolegol helaeth sydd wedi adnabod ei fod yn lleoliad o bwys
hanesyddol yn olrhain tystiolaeth o Oes yr Haearn a'r berthynas â'r
Feddiannaeth Rufeinig. Am resymau ymarferol, ni chloddiwyd pob rhan o'r safle
yn ystod y gwaith blaenorol a chyfeiriwyd at stribed o dir ar gyrion y safle
sydd â photensial i fod â deunydd archeolegol o bwys. Awgrymodd Gwasanaeth
Cynllunio Archeolegol Gwynedd (GCAG) bod angen amod cynllunio er sicrhau bod
gwaith archwilio priodol yn digwydd cyn i'r tir
gael ei effeithio gan ddatblygiad. Yng nghyd-destun materion isadeiledd a chynaliadwyedd nodwyd bod Bryn Cegin wedi ei glustnodi fel lleoliad cynaliadwy ar gyfer busnes ac wedi ei ddatblygu gyda lleiniau sydd wedi'u gwasanaethu gyda'r gwasanaethau priodol ar gyfer y busnesau disgwyliedig. Nid oedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru unrhyw wrthwynebiad i'r datblygiad a cadarnhaodd Dŵr Cymru bod capasiti digonol gan y system garthffosiaeth leol i gwrdd gyda gofynion y datblygiad ac y gellid sicrhau cysylltiad i'r cyflenwad dŵr. Bydd angen systemau draenio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C23/0122/14/DT Bron Y Gaer Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1DY Cais deiliad tŷ i ddymchwel estyniad cefn,
lolfa haul ac adeilad allanol presennol a codi estyniad deulawr ochr ac
estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo yn ei le. AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol a’r cynlluniau 3. Llechi to 4. Deunyddiau i weddu.
5. Amod draenio
dŵr wyneb Cofnod: Cais
deiliad tŷ i ddymchwel estyniad cefn, lolfa haul ac adeilad allanol
presennol a chodi estyniad deulawr ochr ac estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo
yn ei le. a) Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu
mai cais deiliaid tŷ ydoedd
i adeiladu estyniad deulawr ochr ac estyniad unllawr ar gefn yr eiddo. Bydd
gwaith yn cynnwys dymchwel yr adeilad allanol sydd yn bresennol yn yr ardd gefn
ynghyd â dymchwel yr estyniadau unllawr cefn presennol a’i disodli gydag estyniad
ochr deulawr ac estyniad unllawr yn y cefn. Eglurwyd bod gan yr eiddo gwrtil eithaf helaeth gyda gardd fawr yng
nghefn yr eiddo ei hun wedi ei sgrinio gan lwyni, coed a chloddiau sefydledig -
wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu’r dref ac oddi fewn i ardal sefydledig
breswyl ar gyrion Caernarfon. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn gyflogedig gan yr
Adran Cynllunio. Nodwyd bod yr egwyddor o godi estyniad ar y safle yn dderbyniol yn
ddarostyngedig i gyfres o feini prawf. Ystyriwyd, yng nghyd-destun lleoliad,
dyluniad ac effaith gweledol bod y cynllun a gyflwynwyd, ei raddfa, deunydd a
dyluniad yn gweddu’n briodol gyda’r eiddo presennol ac felly yn cydymffurfio
gydag anghenion Polisi PCYFF 3. b) Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 1. Cychwyn
o fewn 5 mlynedd. 2. Unol
a’r cynlluniau 3. Llechi
to 4. Deunyddiau
i weddu. 5. Amod
draenio dŵr wyneb |
|
Cais Rhif C22/0256/13/LL Brig Y Nant, Coetmor New Road, Bethesda, LL57 3LU Codi 18 tŷ, ffordd newydd a thirlunio. AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb o dan Adran
106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol addysgol a llecynnau agored ac i’r
amodau isod; - 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais. 3.
Cyflwyno a chytuno cynllun
tirlunio a thirweddu meddal a chaled sy’n cadarnhau rhywogaethau coed. 4.
Sicrhau cynllun/trefniadau ar
gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf
meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn
bresennol ac am byth. 5.
Cydymffurfiaeth gydag
argymhellion y dogfennau Asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; Arolwg Ymlusgiaid;
Asesiad Effaith Coedyddiaeth; Arolwg Coed ac Adroddiad Arolwg Botanegol. 6.
Cytuno manylion enw Cymraeg ar
gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben
ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad. 7.
Cyfyngu ar oriau gweithio i
08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl
y Banc. 8.
Cyflwyno a chytuno gyda Chynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol i
gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLl. 9.
Amodau perthnasol gan yr Uned
Drafnidiaeth parthed gwelliannau i’r fynedfa a’r llecynnau parcio. 10.
Cyflwyno a chytuno gydag
esiamplau o ddeunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr anheddau preswyl. 11.
Cyflwyno a chytuno gyda chynllun
gwelliannau bioamrywiaeth i gynnwys manylion goleuo chlwydfanau ystlumod. 12.
Cyflwyno a chytuno gydag Asesiad
Risg Bioddiogelwch ar gyfer difa llysiau’r dial sydd ar rannau o’r safle. 13.
Cyflwyno a chytuno manylion y
paneli solar. 14.
Cyflwyno a chytuno manylion
Arolwg Tir Rhan 2 ar gyfer asesu sefydlogrwydd y safle. 15.
Creu mynediad o’r safle i’r
llwybr troed Nodyn - angen cyflwyno cais system ddraenio gynaliadwy i’w gytuno
gyda’r Cyngor. Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a chyngor diwygiedig Dwr
Cymru. Nodyn - cyfeirio’r ymgeisydd i sylwadau a’r cyngor gan Cyfoeth
Naturiol Cymru. Cofnod: Codi 18 tŷ, ffordd newydd a
thirlunio a)
Gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio 20.03.23 er mwyn cynnal
ymweliad safle. Cynhaliwyd ymweliad safle bore 17-04-23 pryd cafodd rhai o’r
Aelodau gyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei amgylchedd a’r rhwydwaith
ffyrdd lleol. Yn unol â
chais un o’r Aelodau cyflwynwyd llun o’r awyr o’r safle yn y Pwyllgor Atgoffwyd
yr Aelodau mai cais ydoedd ar gyfer codi 18 tŷ fforddiadwy, ffordd stad
newydd a thirlunio ar safle segur o fewn ffin datblygu Bethesda. Amlygwyd hefyd
bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau bod y bwriad yn cyfarch yr angen am
dai fforddiadwy yn yr ardal a bod y safle yn ‘un a ddatblygwyd o’r blaen’ ac yn
addas ar gyfer adeiladu 18 tŷ fforddiadwy arno. Yng
nghyd-destun materion gweledol, eglurwyd bod y safle wedi ei leoli ar lwyfandir
sy’n segur ei ddefnydd er gellid ei ddisgrifio fel tir llwyd. Nodwyd, bod
y bwriad yn dderbyniol ar sail effaith mwynderau gweledol ac y byddai’r bwriad
yn creu cyfraniad positif i gymeriad adeiledig y rhan yma o’r strydlun. Yng
nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, derbyniwyd gwrthwynebiadau gan
rhai o ddeiliaid anheddau cyfagos o safbwynt mwynderau yn ymwneud a gor-edrych,
colli preifatrwydd ac aflonyddwch sŵn. Er hynny, ni ystyriwyd y byddai’r
bwriad yn golygu colli preifatrwydd a chreu gor-edrych sylweddol nac
arwyddocaol i mewn i gefnau tai Rhos y Coed sy’n cefnu a safle’r cais.
Cydnabuwyd y bydd rhyw faint o gynnydd mewn sŵn ac aflonyddwch yn deillio
o’r datblygiad ond na fyddai’n wahanol i unrhyw aflonyddwch sŵn sy’n
deillio o fewn ardaloedd preswyl yn gyffredinol megis gweithgareddau domestig a
thrafnidiaeth gysylltiedig. Fodd bynnag, gellid cynnwys amodau sy’n cyfyngu ar
oriau gweithio gyda’r ymgeisydd eisoes wedi cadarnhau byddai unrhyw gontractwr
yn gweithio i ofynion Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol. Mewn ymateb
i bryderon lleol, yr Uned Trafnidiaeth ar Awdurdod Cynllunio Lleol, cyflwynwyd Datganiad
Trafnidiaeth cais mewn ymateb i’r pryderon a godwyd ar sail diogelwch ffyrdd
oedd yn cyfeirio at faterion penodol. ·
Bod
y gyffordd bresennol i’r A5 yn gweithredu’n effeithlon ac yn ddiogel yn dilyn
asesiad o data Crash Map. Er bod yr Aelod Lleol wedi tynnu sylw bod damwain
wedi cymryd lle ar ddechrau’r flwyddyn ger y gyffordd, mae’r asiant ynghyd ag
ymgynghorwr trafnidiaeth yr ymgeisydd wedi ymchwilio erthyglau papur newydd ac
nid yw’n ymddangos bod y damwain wedi cymryd lle ar y gyffordd rhwng yr A5 a
Coetmor New Road ac mai digwyddiad unigol ydoedd yn cynnwys un car wedi colli
rheolaeth. Yn ychwanegol, dywed yr ymgynghorwr na ellid datgan fod y gyffordd
ei hun yn gweithredu’n anniogel gan mai un ddamwain yn unig sydd wedi cymryd
lle yno o fewn y 5 mlynedd diwethaf ac nid yw hyn yn cael ei ystyried fel
amlder anghyffredin ar gyfer unrhyw gyffordd. ·
Mae’r
Datganiad Trafnidiaeth yn rhagweld byddai’r datblygiad yn cynhyrchu 9 symudiad
dwyffordd gan gerbydau yn ystod oriau brig ac ni fyddai hyn yn gynnydd materol
i lefel llif traffig presennol sy’n defnyddio Coetmor New Road. · Ymgymerwyd â ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif C23/0116/09/LL 1 Idris Villas, Tywyn, Gwynedd, LL36 9AW Ail- gyflwyniad:
Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig a'r eiddo
masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal llawr caled
ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r iard AELOD LLEOL: Cynghorydd John Pughe Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle Cofnod: Ail-
gyflwyniad: Newid defnydd tir i greu iard storio/ gwerthiant yn gysylltiedig
â'r eiddo masnachol presennol, ynghyd â chodi ffens ddiogelwch, gosod ardal
llawr caled ac addasiadau i'r fynedfa amaethyddol i greu mynedfa gerbydol i'r
iard Tynnwyd
sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cyfeirio at gynlluniau diwygiedig oedd
wedi eu cyflwyno. a) Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd (ac nid deiliad tŷ fel ymddangoswyd ar
flaen yr adroddiad) ar gyfer newid defnydd tir i greu iard storio / gwerthiant
ar dir gyferbyn ac Idris Villas, Tywyn fyddai’n
gysylltiedig ag eiddo masnachol presennol sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr.
Byddai’r bwriad yn cynnwys codi ffens diogelwch, gosod ardal llawr caled ac
addasiadau i’r fynedfa amaethyddol bresennol i greu mynedfa gerbydol addas. Adroddwyd mai tir amaethyddol yw safle’r
cais wedi ei leoli tu allan, ond yn cyffwrdd gyda ffin datblygu Tywyn, felly yn
cael ei ystyried yn safle cefn gwlad. Datgan polisi PCYFF 1 y CDLl,
bydd cynigion tu allan i ffiniau datblygu yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn
unol â pholisi penodol yn y Cynllun neu ym mholisïau cenedlaethol neu fod y
cynnig yn dangos fod ei leoliad cefn gwlad yn hanfodol. Y bwriad yw sefydlu iard manwerthu allanol tu ôl i’r cyn siop
ddodrefn er ehangu’r busnes ymhellach. Datgan polisi MAN 6 y caniateir cynigion
am siopau graddfa fechan neu estyniad i siopau presennol sydd tu allan i ffin
os gellid cydymffurfio a chwe maen prawf perthnasol. Er hynny amlygwyd nad oedd
y bwriad yn cydymffurfio gyda thri o’r meini prawf hynny: ·
Nid yw’r bwriad yn cydymffurfio yn
dechnegol gyda maen prawf 1 gan nad yw’r
cynnig yn ymwneud a busnes sydd eisoes yn bodoli ar y safle. ·
Byddai’r bwriad o ail leoli’r busnes a gwneud
defnydd o adeilad masnachol presennol gwag yn cael ei ffafrio, fodd bynnag
mae’r angen i ymestyn y defnydd i dir gwyrdd cefn gwlad yn bryder. ·
Byddai ymestyn defnydd manwerthu
diwydiannol i gefn gwlad yn cael effaith niweidiol yn weledol ac ar fwynderau’r
trigolion cyfagos gyferbyn, ac fe drafodir hyn ymhellach yn rhan mwynderau’r
adroddiad. Yng
nghyd-destun materion llifogydd, amlygwyd bod rhan helaeth o’r safle’r cais o fewn
parth llifogydd C1 fel y dangosir ym Mapiau Perygl Llifogydd Llywodraeth Cymru.
Datgan maen prawf 4 o bolisi Strategol PS 6 y dylid lleoli datblygiadau newydd
i ffwrdd o ardaloedd lle mae risg llifogydd, oni bai y gellid dangos yn glir
nad oes unrhyw risg yn bodoli neu fod modd rheoli’r risg. Rhaid asesu
derbynioldeb y cynnig o dan ystyriaethau polisi cenedlaethol Nodyn Cyngor
Technegol (NCT) 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd yn yr achos yma. Cyflwynwyd Asesiad Canlyniadau Llifogydd fel gwybodaeth ar y cais ac fe ymgynghorwyd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) arno. Ymddengys bod yr Asesiad Canlyniadau Llifogydd wedi ystyried effaith y datblygiad ar berygl llifogydd, llwybrau llifogydd a storio gorlifdir. Nodwyd bod yr asesiad yn dangos fod perygl llifogydd i’r safle ddatblygu o lifogydd llanw, ond yn dangos y gellid rheoli’r risgiau a’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |