Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon/ Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jina Gwyrfai a Sasha
Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2023 fel rhai
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, 2023 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD CHWARTER 3 2022-23 Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Ystyried adroddiad
ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd yr
Arweinydd a swyddogion Uchelgais Gogledd Cymru i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd ar
berfformiad Chwarter 3 2022-23 Cynllun Twf Gogledd Cymru, yn unol â chais y
pwyllgor. Gosododd yr Arweinydd y cyd-destun drwy
gyflwyno diweddariad byr ar waith y Cynllun Twf, rhywfaint o’r cefndir i
sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ynghyd â manylion y gwahanol
gynlluniau sy’n berthnasol i Wynedd. Yna
rhoddodd y Pennaeth Gweithrediadau drosolwg o’r Cynllun Twf a phrif
uchafbwyntiau 2022-23. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Holwyd sut y bwriadai’r Bwrdd Uchelgais
ffurfio polisi iaith ar gyfer prosiect Trawsfynydd er mwyn sicrhau na fydd y
datblygiad a’r gweithlu yn Seisnigeiddio’r ardal. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
hwn yn brosiect sy’n llwyr ddibynnol ar fuddsoddiad Llywodraeth y DG, ac nad
oedd yna unrhyw bendantrwydd ynglŷn â hynny. ·
O
safbwynt polisi iaith, y byddai cwmni Egino yn cynnal gweithdy yn fuan i edrych
ar y buddion cymdeithasol, gan gynnwys y buddion ieithyddol. Nodwyd mai’r risg mwyaf o ran cyflawni
amcanion y Cynllun Twf yw sicrhau buddsoddiad sector gyhoeddus a phreifat, a
holwyd pa gamau y bwriedid eu cymryd petai capasiti’r sectorau hynny i
fuddsoddi yn lleihau dros y blynyddoedd nesaf oherwydd y sefyllfa ariannol sydd
ohoni. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
amgylchiadau economaidd wedi newid yn ddirfawr ers i’r Cynllun Twf gael ei
gytuno yn 2020, a bod yr argyfwng ariannol yn her sy’n cael ei osod o’n blaenau
yn gyson lle mae cyfraniad gan y sector breifat. ·
Bod
y Bwrdd Cyflawni Busnes, sydd â chynrychiolwyr o’r sector breifat, yn cyfarfod
i drafod prosiectau yn gyson, dan arweiniad Askar Sheibani, sy’n rhedeg ei
fusnes digidol rhyngwladol ei hun ac sy’n hynod frwdfrydig dros Ogledd Cymru
gyfan. ·
Mai’r
unig sicrwydd y gellid ei roi ar hyn o bryd oedd bod hwn yn fater sy’n cael
sylw, a chredid bod yna awydd ymysg y sector breifat i fuddsoddi, cyhyd â bod
yr amgylchiadau’n iawn. ·
Bod
Swyddfa Rhaglen Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda’r sector
breifat ar brosiectau penodol, a bod y sector yn edrych i fuddsoddi ar hyn o
bryd. ·
Y
cydnabyddid bod risg y gallai’r capasiti i fuddsoddi newid dros y blynyddoedd i
ddod, ac roedd y Swyddfa Rhaglen yn gweithio’n agos iawn gyda’r 2 Lywodraeth ar
hyn. O bosib’ y byddai angen mwy o
fuddsoddiad sector gyhoeddus petai’r buddsoddiad sector preifat ddim yna, ond
ar hyn o bryd, roedd y sefyllfa’n edrych yn weddol bositif. ·
Bod
y Swyddfa Rhaglen yn datblygu strategaeth gyda’r Bwrdd Cyflawni Busnes i
sicrhau bod modd dod â’r strategaeth yma ymlaen, ac un o’r pethau penodol a
wnaethpwyd fel rhan o’r galw am brosiectau newydd i’r gronfa £30m oedd rhoi
pwyslais cryf ar allu busnesau i fuddsoddi fel rhan o’r broses yma. · Bod hyn yn ganran fawr o beth fydd yr asesiad fel bod modd sicrhau bod unrhyw brosiectau sy’n dod ymlaen yn gallu symud yn gyflym i gyflawni. Gobeithid y byddai hynny’n lleihau rhai o’r risgiau, ond y risg mwyaf i allu cyflawni buddion y Cynllun Twf ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a
swyddogion yr Adran Addysg i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Addysg, ar gais y pwyllgor, yn cyflwyno gwybodaeth gefndirol am weledigaeth y
gyfundrefn addysg drochi, ynghyd â darparu atebion i gwestiynau a dderbyniwyd
ymlaen llaw gan y craffwyr ynglŷn â threfniadau’r ddarpariaeth addysg
drochi yng Ngwynedd. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan
nodi fod y ddau gynllun yn ardal Bangor, sef Prosiect Trochi Cyfnod Sylfaen
Dalgylch Bangor a Phecyn Cefnogi Dysgwyr Blynyddoedd 5 a 6 i’w hannog i ddewis
dilyn llwybr Addysg Gymraeg wrth drosglwyddo i’r Uwchradd yn nalgylch Bangor,
yn ddarnau o waith pwysig a phellgyrhaeddol i blant yr ardal honno. Mynegodd ei hedmygedd o’r gwaith yn y
canolfannau iaith, a diolchodd yn swyddogol i’r staff am y gwaith. Dangoswyd fideo byr i’r aelodau yn rhoi blas
o’r Cynllun ABERWLA. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Holwyd ar ba sail y daethpwyd i’r casgliad
ei bod yn llesol i beidio trochi plant yn gynnar, ac awgrymwyd bod dod â’r
plant sy’n cael eu trochi yn ôl i’r fam ysgol am ddiwrnod bob wythnos yn
dadwneud y trochi sy’n digwydd yn y ganolfan iaith am y 4 diwrnod arall. Mewn ymateb nodwyd:- ·
Bod
pennaeth ar y fideo ABERWLA yn sôn am fanteision amlwg cael y plant yn
dychwelyd i’r fam ysgol am ddiwrnod yr wythnos. ·
Bod
y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd lles, gan fod plant wedi bod am gyfnodau hir
heb gael cymysgu â’u cyfoedion. Casglwyd
y byddai’n syniad da i’r plant sy’n cael eu trochi gael y cyfle i ddal i fyny
â’u cyfoedion yn yr ysgolion ar un diwrnod o’r wythnos, ac roedd y trochi’n
digwydd mewn cyd-destun gwahanol i raddau yn y fam ysgol, a hynny wedyn yn
gynyddol wrth i’r plentyn fynd drwy’r drefn. ·
Bod
penaethiaid uwchradd bellach yn adrodd ei bod yn haws perswadio rhieni i anfon
eu plant i ganolfannau trochi oherwydd bod y plant hynny yn cadw rhywfaint o
gyswllt hefo’u cyfoedion. ·
Mai
prosiect newydd yw’r 5ed diwrnod yn yr ysgol, ac yn ogystal â’r manteision yng
nghyd-destun llesiant, bod yna fanteision addysgiadol hefyd. ·
Bod
y berthynas rhwng staff yr ysgolion a staff y canolfannau sy’n mynychu’r fam
ysgol yn wythnosol wedi cryfhau ymhellach o ganlyniad i rannu arferion trochi,
rhannu adnoddau a thrafod sut i oresgyn unrhyw heriau mae’r plant yn wynebu yn
ôl yn yr ysgol. ·
Bod
yr ymweliadau â’r fam ysgol yn amrywio, gyda rhai athrawon yn dymuno i staff y
ganolfan aros yn y dosbarth i gefnogi’r gweithgarwch. Roedd hynny’n annog trafodaeth ar gyrchu
dulliau trochi effeithiol, ac roedd yna sefyllfaoedd hefyd lle mae plant yn
derbyn sylw un i un, neu mewn grŵp bychan, a bod y plant eraill yn elwa
o’r profiad hefyd. ·
Er
y manteision, y cydnabyddid bod yna heriau hefyd, ac wrth ddod i ddiwedd tymor
cyntaf y drefn newydd, bwriedid casglu barn rhanddeiliaid, gan bwyso a mesur a
gwerthuso’r drefn newydd, ac adolygu’r trefniadau os oes angen. · Bod dau riant sydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYNLLUNIO'R GWEITHLU Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Jones Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol a swyddogion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a
rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau
Ymgynghorol Adnoddau Dynol grynodeb o gynnwys yr adroddiad oedd yn rhoi
trosolwg o sefyllfa’r Cyngor mewn perthynas â recriwtio a chadw staff, yn
cyfeirio at yr heriau dros y misoedd diwethaf a’r camau sydd eisoes yn cael eu
cymryd i fynd i’r afael â’r sefyllfa, ac yn rhoi trosolwg o amcanion hirdymor y
Cyngor ar gyfer cynllunio’r gweithlu. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Holwyd a roddid blaenoriaeth i lenwi swyddi
statudol dros swyddi eraill. Mewn
ymateb, nodwyd:- ·
Bod
yna elfen o flaenoriaethu yn sicr, a bod honno’n drafodaeth gyson rhwng y
Gwasanaeth Adnoddau Dynol a’r adran sy’n cyflogi. ·
Na
chredid mai pris y farchnad yw’r ateb i bob problem, ond byddai cost yn dod yn
rhan anochel o hynny os oes yna nifer o swyddi statudol i’w llenwi. Nododd yr aelod ei fod yn derbyn bod y
sefyllfa’n anodd, ond bod methu cyflogi, e.e. swyddogion gorfodaeth, yn arwain
at sefyllfa lle mae’r gwaith yn ôl-gronni dros gyfnod o amser. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Bod
adnabod y swyddi blaenoriaeth hefyd yn gweithio drwodd i’r Rhaglen
Prentisiaethau, sy’n edrych ar ble mae’r bylchau wedi bod, ac yn annog
prentisiaid yn y meysydd hynny i’r dyfodol. Nodwyd bod yr adroddiad yn un cryno, i
bwrpas a gonest, sy’n dangos yn glir lle mae’r diffyg. Gofynnwyd am enghreifftiau o ddulliau
creadigol o ddenu gweithwyr, gwybodaeth ynglŷn â faint o brentisiaid sydd
wedi aros gyda Chyngor Gwynedd, a beth sydd wedi gweithio, a ddim wedi
gweithio, o ran y Cynllun Profiad Gwaith. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
O
ran beth sydd wedi gweithio, a ddim wedi gweithio, mai’r hen ffordd o weithio
oedd meddwl bod un ateb yn ateb pob cwestiwn a bod un dull yn gallu taclo pob
problem. Sylweddolwyd bellach bod angen
cyfathrebu gyda gwahanol gynulleidfaoedd mewn ffyrdd gwahanol, e.e. mwy fyth o
ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol gyda rhai carfanau, a mwy o ddefnydd o
recriwtio’n lleol neu o ddefnyddio’r wefan gyda charfanau eraill. ·
Bod
y Cyngor yn datblygu gwefan recriwtio newydd ar hyn o bryd, a bod yna dipyn mwy
o esblygiad yng nghynnwys y wefan yna na’r hyn sydd yna ar hyn o bryd, gyda’r
bwriad o ddwyn ar brofiadau staff presennol, a cheisio defnyddio eu profiadau
hwy fel dull o werthu’r Cyngor. ·
O
ran y Cynllun Profiad Gwaith, mai’r bwriad oedd ceisio agor llygaid plant a
phobl ifanc i’r hyn sydd gan y Cyngor i’w gynnig fel cyflogwr, a rhoi profiadau
gwerth chweil i unigolion. ·
Bod
yna lawer o waith ymateb a dysgu am wahanol ddulliau oherwydd bod pob cyflogwr
yn chwilio am yr ateb gorau ar y pryd. ·
Bod
y gwahanol gynlluniau prentisiaethau a hyfforddeion yn sicr yn gynlluniau
creadigol, a bod llawer o gefnogaeth yn cael ei roi i’r unigolion sydd ar y
cynlluniau hynny er mwyn iddyn nhw fedru datblygu’n llawn yn eu rolau a
datblygu gyrfaoedd gyda’r Cyngor. Awgrymwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD CYLLID Enwebu cynrychiolydd i fynychu Cyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Gyllid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Enwebu’r Cynghorydd Paul Rowlinson i fynychu cyfarfodydd
herio perfformiad yr Adran Gyllid, a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i holi
am gynrychiolydd i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth
Gorfforaethol yn lle’r Cynghorydd Paul Rowlinson. Cofnod: Cyflwynwyd
– adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i enwebu cynrychiolydd
i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Gyllid yn lle’r Cynghorydd
Elin Hywel, oedd wedi sefyll i lawr o fod yn aelod o’r pwyllgor. Cynigiwyd
enw’r Cynghorydd Paul Rowlinson. Nododd
y Cynghorydd Paul Rowlinson y byddai’n fodlon cael ei enwebu, cyn belled â bod
y pwyllgor yn enwebu cynrychiolydd arall i fynychu cyfarfodydd herio
perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn ei le. Gan
fod sawl aelod wedi gadael y cyfarfod, ac eraill yn absennol, awgrymwyd
cysylltu â holl aelodau’r pwyllgor yn dilyn y cyfarfod i holi am gynrychiolydd
i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol, ac
enwebu’r aelod hwnnw yn ffurfiol yn y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD enwebu’r
Cynghorydd Paul Rowlinson i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran
Gyllid, a chysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i holi am gynrychiolydd i fynychu
cyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol yn lle’r Cynghorydd
Paul Rowlinson. |