Lleoliad: Cyfarfod Aml-leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon/ Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes a
Sasha Williams; Manon Williams
(Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Arfon), Karen Vaughan Jones
(Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor), Ruth Roe (Cynrychiolydd Rhieni
/ Llywodraethwyr Meirionnydd) a Roger Vaughan (UCAC). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y
gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nododd y Cadeirydd y derbyniwyd cais i
drafod mater brys, ond ei bod wedi rhaglennu’r mater i’w drafod yn y cyfarfod
anffurfiol ar ddiwedd y cyfarfod hwn. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gyhaliwyd ar 20
Hydref, 2022 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2022 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD - CADW'R BUDD YN LLEOL Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Menna Jones Ystyried
adroddiad ar yr uchod. *10.30yb – 11.30yb Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan ofyn i’r Gwasanaeth adrodd yn ôl ar
ganlyniad y peilot ‘Caffael Arloesol – Methodoleg Caffael Gwerth Cymdeithasol’,
a hefyd casglu’r data fel sydd wedi ei godi yn ystod y cyfarfod, ac adrodd yn
ôl i’r pwyllgor ymhen y flwyddyn (neu pan fo’n amserol). Cofnod: Croesawyd yr
Aelod Cabinet a swyddogion yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet
Cefnogaeth Gorfforaethol yn dilyn cais yr aelodau i dderbyn diweddariad ar
gynnydd y Prosiect Cadw’r Budd yn Lleol, sef un o’r prosiectau blaenoriaeth o
fewn Cynllun y Cyngor. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a
rhoddodd y swyddogion amlinelliad o gynnwys yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Er
bod y crynodeb ar ddiwedd yr adroddiad yn nodi bod cynnydd da wedi’i wneud dros
y 5 mlynedd ddiwethaf er mwyn cynyddu’r ganran o wariant y Cyngor sy’n aros yn
lleol, sylwyd bod y ganran ond wedi cynyddu 3% dros y cyfnod, a bod y ffigwr i
lawr o gymharu â 4 blynedd yn ôl, a llynedd.
Nodwyd y deellid y rhwystrau, ond cwestiynwyd llymder yr hunan-arfarnu y
tu ôl i hyn. ·
Y
byddai’n fuddiol pe gellid casglu data ynglŷn â faint o gwmnïau lleol sydd
wedi cyflwyno tendr, ond heb fod yn llwyddiannus, a pha adborth a roddwyd i’r
cwmnïau hynny, gan adrodd yn ôl i’r pwyllgor ymhen tua blwyddyn. ·
Ei
bod yn bwysig bod cyrff mawr yn yr ardal, fel Cyngor Gwynedd, yn pwrcasu’n
lleol er mwyn helpu’r economi. ·
Bod
y Preston Model yn hollbwysig, ond na fyddai’n
gweithio’n effeithiol yng Ngwynedd gan ei fod yn fodel trefol. ·
Mai
un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud fel Cyngor yw edrych ar sut i alluogi
cwmnïau bychan i ddod at ei gilydd a gweithio ar y cyd, a byddai unrhyw
fuddsoddiad sy’n mynd i mewn i hynny yn cael ei weld, nid fel cost, ond fel
budd cymdeithasol ynddo’i hyn. ·
Y
dywedir yn aml fod gan Gymru yn ei chyfanrwydd fusnesau bach iawn a busnesau
mawr iawn, ond ddim llawer o fusnesau canolig o ran maint, a’r busnesau canolig
hynny fyddai’n creu’r budd mwyaf i’n cymunedau ni. ·
Ein
bod oll yn siomedig â’r canlyniadau hyd yn hyn, ac eisiau gweld ffyrdd ymlaen. Ar nodyn technegol, a gan gyfeirio at y
graff ‘Gwariant Lleol Blynyddol’ ar dudalen 19 o’r rhaglen, cwestiynwyd
cywirdeb y ffigur £43m (cyfalaf a refeniw) ar gyfer 2017/18, gan ei fod yn llai
na’r ffigwr £56m (refeniw yn unig).
Cadarnhawyd mewn ymateb bod y ffigwr yn wallus. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- · O safbwynt llymder yr hunan-arfarnu, bod Gwynedd yn un o’r ychydig gynghorau sy’n mesur y math yma o weithgaredd o ran cadw’r budd yn lleol. Yn y cyflwyniad ar gychwyn yr eitem, roedd son am gyflwyno mesurau eraill, ac roedd hynny’n cyfeirio at y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn fwy na’r ganran leol o ran gwariant yn unig. Roedd y ffigwr yna wedi aros yn eithaf cyson ers nifer o flynyddoedd, ac er bod 1% o newid yn golygu £1.5m o wariant, roedd yn eithaf statig. Nodwyd ymhellach ein bod wedi cyrraedd trothwy erbyn hyn a’i bod yn anodd cynyddu’r ffigwr yn uwch na hynny oherwydd y rhwystrau a’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
PROSIECT CINIO AM DDIM Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried adroddiad ar yr uchod. *11.30yb – 12.00yp *TORIAD AM GINIO – 12.00yp – 12.45yp Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a chyflwyno diweddariad i’r pwyllgor pan
fydd y cynllun wedi ymestyn ar draws y sector cynradd, gyda sylw penodol ar y
gwaith sy’n cael ei wneud i godi’r niferoedd ac i edrych ar y rhesymau pam nad
yw rhai disgyblion yn cymryd cinio ysgol, a sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei
roi i ansawdd y bwyd, gan hefyd geisio cadw’r budd yn lleol. Cofnod: Croesawyd yr Aelod Cabinet a swyddogion yr
Adran Addysg i’r cyfarfod. Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr Aelod
Cabinet Addysg ar y prosiect cinio am ddim mewn ysgolion. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a
rhoddodd yr Uwch Reolwr Ysgolion amlinelliad o gynnwys yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Mynegwyd
syndod bod canran y disgyblion sy’n dewis cinio am ddim dan y cynlluniau UPFSM
(Universal Primary Free School Meals) ac EFSM (Entitlement to Free School Meals) mor isel (70% ym Medi a 66% yn Hydref) a nodwyd
pryder y bydd ysgolion yn colli allan ar grantiau eraill oherwydd na fydd rhieni
sy’n gymwys i hawlio cinio ysgol am ddim dan y cynllun EFSM yn gwneud hynny
bellach, gan y bydd eu plant yn cael cinio ysgol am ddim beth bynnag. ·
Bod
y prosiect cinio am ddim mewn ysgolion i’w groesawu, a phwysleisiwyd
pwysigrwydd dwyn pwysau gwleidyddol i sicrhau bod y swm y pryd a ddarperir gan
Lywodraeth Cymru yn cael ei amddiffyn, neu hyd yn oed ei godi, wrth i ni fynd i
mewn i gyfnod o doriadau. ·
Y
dylid dathlu’r ffaith bod 1305 o blant UPFSM, na fyddai wedi derbyn cinio ysgol
am ddim fel arall, wedi dewis cinio ysgol ym Medi, a bod hynny’n golygu bod gan
y rhieni arian ychwanegol yn eu pocedi i’w wario’n lleol gobeithio, a thrwy
hynny roi hwb i’r economi leol. ·
At
y dyfodol (gan dderbyn bod yr Adran yn brysur iawn ar hyn o bryd gyda’r gwaith
o gyflwyno’r prosiect ar draws yr ysgolion), gallai fod yn fuddiol cynnal
ymgynghoriad blynyddol gyda rhieni a phlant mewn ymgais i gynyddu’r ganran sy’n
derbyn y prydau. ·
Bod
y prydau a ddarperir yn yr ysgolion yn gytbwys a maethlon, ond y gallai mwy o
hyblygrwydd o ran y dewis o fwyd sydd ar gael fod yn fodd o gynyddu’r niferoedd
sy’n derbyn y cinio ysgol. ·
Ei
bod yn bwysig nad yw ansawdd y prydau’n dioddef o ganlyniad i gostau uwch
cynhyrchu pryd bwyd. ·
Croesawyd
y bwriad i ymestyn y cynnig i Flwyddyn 2 erbyn Ionawr 2023. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
Mai
ffigwr cyfartalog ar draws holl ysgolion cynradd y sir oedd y 70% a’r 66%, a
bod y ganran bron yn 100% mewn rhai ysgolion, gydag ysgolion eraill yn profi’n
lawer mwy o her. Nodwyd ymhellach bod
arian ar gael i benodi swyddog i edrych i mewn i’r rhesymau pam bod plant yn
gwrthod cinio ysgol, ac y byddai’r gwaith yma yn canolbwyntio ar yr ysgolion
hynny lle mae yna batrwm o blant sydd â hawl i ginio am ddim, ond ddim yn ei gymryd.
· Bod Llywodraeth Cymru wedi adnabod swm y pryd o £2.90 ar gyfer pob disgybl ar gyfer y wedd gyntaf, a hynny’n seiliedig ar gyfartaledd y disgyblion sy’n bwyta cinio ysgol yn y sir. Bwriedid ail-edrych ar y ffigwr yma ar gyfer yr ail wedd, fyddai’n digwydd ar ôl y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ADRODDIADAU BLYNYDDOL ADDYSG *12.45yp – 1.45yp *Amcangyfrif o’r amseroedd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiadau a gofyn i’r Adran Addysg a GwE gymryd
sylw o unrhyw sylwadau a godwyd yn y cyfarfod hwn. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL ADDYSG 2021-22 Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown Ystyried
adroddiad ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a
chyflwynwyd Adroddiad Blynyddol yr Adran Addysg ar gyfer 2021-22. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Gan
gyfeirio at dudalen 46 o’r rhaglen, nodwyd er bod cyfeiriad at “wneud gwaith dilynol yn ystod y flwyddyn
nesaf er mwyn sicrhau fod y drefn [Categoreiddio Ysgolion yn ôl y ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg] yn datblygu ac yn gwreiddio er mwyn cyflawni uchelgais Gwynedd
yn y maes hwn” nad oedd uchelgais Gwynedd yn cael ei ddiffinio yng
nghyd-destun y categoreiddio, a bod angen eglurder ar hynny. ·
Eto,
gan gyfeirio at dudalen 46 o’r rhaglen, nodwyd bod rhai o’r blaenoriaethau ar
gyfer y cyfnod nesaf yn arwynebol, gan eu bod yn cyfeirio at ‘sicrhau’
gwahanol gamau, ond ddim yn egluro sut y byddai’r camau hynny yn cael eu
gweithredu. Mynegwyd pryder ein bod am
weld llithriad pellach yn y nifer sy’n astudio pynciau Cymraeg yng Nghynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA), ac awgrymwyd ein bod mewn sefyllfa
wannach heddiw nag oeddem yn 2016. ·
Mynegwyd
pryder bod y Cyfrifiad yn dangos gostyngiad yn y niferoedd sy’n bathu’r Gymraeg
o oedran cynnar, ac awgrymwyd y dylai’r Cyngor fod yn trochi’r holl blant sydd
ddim yn ddigon rhugl yn y Gymraeg, yn hytrach na throchi hwyrddyfodiaid yn
unig. ·
Nodwyd
bod dadgofrestru yn broblem fawr, yn enwedig ers y cyfnod Cofid, a holwyd a
fyddai’n bosib’ i’r pwyllgor dderbyn data ar hyn, a chael cyfle i graffu pam
bod pobl ifanc a theuluoedd yn dewis dadgofrestru. ·
Nodwyd
bod yna lawer o gwmnïau tacsis o Ddwyfor yn hebrwng
plant o gwmpas ysgolion Arfon. Deellid
bod yna brinder cwmnïau tacsis yng Ngwynedd, ond o bosib’, bod yna gwmnïau bach
fyddai’n awyddus i dendro, ond angen cefnogaeth o ran deall y broses. Awgrymwyd y gellid edrych ar hyn yn
drawsadrannol gyda’r Adran Economi, fel dull o gefnogi busnesau bach a lleihau
costau ac ôl troed carbon ar yr un pryd. ·
Mynegwyd
pryder bod yr ysgolion arbennig dros eu capasiti’n
barod, gyda Hafod Lon eisoes 10% uwchlaw ei chapasiti,
a gofynnwyd am drafodaeth ar hyn yn fuan iawn, gan y bydd y galw yn parhau i
gynyddu. Awgrymwyd hefyd y dylid edrych
i mewn i’r rhesymau dros y cynnydd yn y galw. ·
Nodwyd
bod adroddiadau blynyddol yn son am y pethau da a
ddim yn son am y pethau problemus a heriol, a’i bod
yn anodd craffu dogfen sy’n tueddu i ganmol yn unig. ·
Nodwyd
bod y tocyn teithio ôl-16 yn syniad gwych, ond ei bod yn bwysig bod y
trafodaethau’n digwydd gyda’r cwmnïau trên a bysus i sicrhau bod y
gwasanaethau’n cyrraedd y sefydliadau addysg ar amser. · Gan gyfeirio at y sylw yn yr adroddiad ynglŷn â phlant yn colli’r gallu i lefaru i bob pwrpas yn sgil cyfnod y pandemig, nodwyd y pryderid am yr effaith hirdymor ar y plant yma, a phwysleisiwyd y dylai rhywun fod yn edrych ar yr hyn mae’r plant wedi'i golli'n gyffredinol oherwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7a |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWE 2021-22 Ystyried adroddiad
ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Croesawyd swyddogion GwE i’r cyfarfod a
chyflwynwyd Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2021-22. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Nodwyd
ei bod yn amhosib’ craffu adroddiad o’r maint yma, ac nid dyma sut y dylai’r
pwyllgor graffu gwaith GwE. ·
Mynegwyd
pryder ynglŷn ag ymddygiad plant tuag at athrawon, a nodwyd y dylai darpar
athrawon gael eu hyfforddi ar sut i ddelio ag ymddygiad heriol, neu ni fydd
pobl ifanc yn awyddus i ymuno â’r proffesiwn. ·
Ei
bod yn anodd iawn bellach i lywodraethwyr wybod beth yw’r gwaelodlin a mesur
safonau yn sgil y cyfnod Cofid, a chredid bod yna rôl i GwE i’w cefnogi a’u
cynorthwyo i ail-afael yn eu rôl. Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau
gan aelodau, nodwyd:- ·
Tra’n
derbyn bod yr adroddiad yn swmpus, bod yna adroddiadau mwy penodol yn cael eu
cyflwyno i’r pwyllgor yn ystod y flwyddyn ar gais yr aelodau, ond bod yr
Adroddiad Blynyddol yn dwyn y cwbl at ei gilydd mewn un lle. Petai’r aelodau’n dymuno canolbwyntio ar
themâu penodol, neu drafod elfennau mwy penodol mewn gweithdai, byddai GwE yn
fwy na pharod i hwyluso hynny. ·
O
ran cyfarch y risg yng nghyswllt anawsterau recriwtio a chynllunio olyniaeth
uwch arweinwyr ar draws y rhanbarth, yn enwedig rhai cyfrwng Cymraeg, nodwyd
bod llawer o son am effaith y cyfnod Cofid ar
ddisgyblion, ond o bosib’ nad oedd yr effaith ar oedolion wedi’i lawn
sylweddoli. Roedd uwch arweinwyr ar
draws y rhanbarth yn flinedig iawn, ac roedd chwarter y prif athrawon uwchradd
wedi ymddeol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Hefyd, wrth i bennaeth adael, roedd dirprwy
neu berson arall yn camu i mewn i’r rôl, a’r rôl honno wedyn yn wag am
gyfnod. Nodwyd hefyd, yn ystod y cyfnod
clo, y bu’n rhaid i benaethiaid roi elfennau mwy arweinyddol
y gwaith o’r neilltu, a chanolbwyntio ar reoli, diogelu a sicrhau bod pawb yn
saff, ond bellach roedd rhaid iddynt gamu nôl i’r rôl arweinyddol,
neu gamu i mewn i’r rôl honno am y tro cyntaf yn achos penaethiaid mwy
newydd. Hefyd, o ran recriwtio, roedd y
pwll Cymraeg yn llai, roedd y byd addysg yn wynebu’r newidiadau mwyaf ers 40
mlynedd, ac roedd yn gyfnod ariannol dyrys iawn. Yn wyneb hyn oll, cwestiynid a oedd y swyddi arweinyddol yma mor ddeniadol i gymaint o bobl
bellach. O ran gallu dwyieithog staff,
neu allu staff yn y Gymraeg ar draws y rhanbarth, credid bod yna gydbwysedd,
ond o bosib’, wrth sicrhau bod yr arlwy yn gwbl ddwyieithog, bod y Gwasanaeth
yn tynnu o bwll y Gogledd Orllewin i raddau helaeth. Roedd secondiadau tymor byr yn un ffordd o
gwmpas hynny, neu brynu amser pobl i ddiwallu bylchau os oes yna ofynion
cyfrwng penodol yn codi. · Bod y risg o ran cysondeb ac ystod y Daith Ddiwygio yn cyfeirio at gysondeb ar sawl lefel. Roedd y Gwasanaeth wedi bod yn gweithio gyda’r Athro Donaldson yn rheolaidd i ddeall y gofynion a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7b |