Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gwynfor Owen, Richard Glyn Roberts a Sasha Williams a hefyd gan Elise Poulter (NEU).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Datganodd y Cynghorwyr Beth Lawton, Llio Elenid Owen a Gareth Tudor Jones fuddiant personol yn eitem 6 oherwydd eu bod yn Gyfarwyddwyr Cwmni Byw’n Iach.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ond er na adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth, ni fu iddynt gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio.  Yn unol ag Adran 7.6 y Cyfansoddiad, ni chaiff unrhyw Aelod ymwneud â chraffu ar benderfyniadau y mae ef/hi wedi bod yn uniongyrchol gysylltiedig â hwy.

 

Datganodd y Cynghorydd Dewi Jones fuddiant personol yn eitem 6 oherwydd ei fod yn aelod o Byw’n Iach.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 253 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Medi, 2023 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Medi, 2023 fel rhai cywir.

 

 

5.

ADRODDIAD ESTYN AR WASANAETHAU ADDYSG YNG NGHYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 252 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Beca Brown

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau, a derbyn adroddiad cynnydd ar ymateb i’r argymhellion mewn 9 mis.

 

Cofnod:

 

Croesawyd yr Aelod Cabinet Addysg a swyddogion yr Adran Addysg a GwE i’r cyfarfod.

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn cyflwyno adroddiad Estyn o wasanaethau addysg yng Nghyngor Gwynedd ac yn gofyn i’r pwyllgor ddarparu sylwadau ar gynnwys yr adroddiad ac ystyried unrhyw drefniadau i graffu ar gynnydd yn erbyn argymhellion yr adroddiad yn amserol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun gan ddiolch i’r Adran Addysg a GwE am eu gwaith trylwyr yn cefnogi’r ysgolion ar hyd y blynyddoedd, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol sydd wedi dilyn Cofid.  Talodd deyrnged hefyd i waith athrawon a staff yr ysgolion, ac i’r plant a’r bobl ifanc am eu holl ymdrechion er gwaetha’r pandemig a’i sgil-effeithiau dwys.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn un cryf iawn a diolchwyd i swyddogion yr Awdurdod ac i swyddogion GwE am eu holl gefnogaeth.

 

Holwyd sut y bwriadai’r Awdurdod weithredu ar argymhellion Estyn o ran gwella trefniadau monitro, gwerthuso a hyrwyddo presenoldeb disgyblion a chryfhau’r ddarpariaeth i ymateb i anghenion disgyblion â chanddynt anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a sicrhau trefniadau monitro a gwella ansawdd y ddarpariaeth honno.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y gostyngiad ym mhresenoldeb disgyblion yn duedd a welir yn genedlaethol.

·         Y defnyddiwyd grant sy’n cyd-fynd â’r maes yma i benodi 3 swyddog yn y Tîm Lles i edrych ar absenoldebau parhaus, absenoldebau mwy aml neu anawsterau sylweddol presenoli yn yr ysgol, gan ryddhau’r swyddogion lles arferol sydd ynghlwm ag ysgolion i dargedu absenoldebau fel cymryd gwyliau yn ystod tymor ysgol neu fethu’r un diwrnod dros gyfnod o amser ynghyd ag edrych ar y codau mae’r ysgolion yn defnyddio o ran y cofrestrau.

·         Bod adroddiadau manwl yn cael eu darparu o ran presenoldeb yn fisol, a bod yna ddata wythnosol hefyd sy’n edrych ar y tueddiadau, yn targedu ysgolion penodol ac yn gweithio gyda theuluoedd mewn ymgais i gynyddu presenoldeb.

·         Bod presenoldeb yn ddyletswydd ar bawb, ac nid y swyddogion lles yn unig, a bwriedid cynnal ymgyrch presenoldeb dros y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd bod yn bresennol yn yr ysgol yn rheolaidd a sut mae peidio bod yn bresennol yn cael effaith ar ddeilliannau’r ysgol a’r disgyblion.

·         O ran cynhwysiad, y byddai Mrs Caroline Rees, oedd wedi llunio adroddiad ar y gwasanaeth yn 2019-20, yn cynnal arolwg arall ym mis Rhagfyr, yn benodol ar gynhwysiad, ac yn cyflwyno argymhellion o ran sut i gryfhau’r ddarpariaeth.

·         Bod yna gamau wedi’u rhoi ar waith eisoes o ran cryfhau prosesau monitro o amgylch yr hybiau uwchradd, ayb.

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cydnabod bod yr adnoddau amlgyfrwng a ddefnyddir yn y canolfannau trochi i atgyfnerthu patrymau iaith a geirfa yn werthfawr a holwyd a oedd yna ymdrech ragweithiol Cymru gyfan i’w hyrwyddo a’u lledaenu.  Mewn ymateb, nodwyd bod hynny’n sicr yn rhywbeth i feddwl amdano.

 

Nodwyd bod sylw wedi’i wneud yn Adroddiad Archwilio Cymru nad oedd y pwyllgorau craffu yn craffu eitemau/prosiectau yng Nghynllun y Cyngor, ond credid bod hynny wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CWMNI BYW'N IACH pdf eicon PDF 184 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Anfon llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlygu’r gwaith a wneir gan Cwmni Byw’n Iach yng nghyswllt y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol a’r angen am fwy o gyllid i ariannu ei weithrediad yng Ngwynedd.

 

Cofnod:

 

Croesawyd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi, Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach a’r Pennaeth Economi a Chymuned i’r cyfarfod. 

 

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu trefniadau Cyngor Gwynedd a Chwmni Byw’n Iach i ddarparu gwasanaethau hamdden yng Ngwynedd yn sgil gosod y mater ar Gofrestr Risg Gorfforaethol Cyngor Gwynedd oherwydd y risg y byddai Cwmni Byw’n Iach yn methu parhau i ddarparu gwasanaethau yng nghanolfannau hamdden Gwynedd o ganlyniad i sgil effaith Covid-19 a chynnydd mewn costau byw ar eu hincwm.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet a’r Pennaeth Economi a Chymuned y cyd-destun gan ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad ac i Dîm Byw’n Iach a chynrychiolwyr y Cyngor ar Fwrdd Byw’n Iach am eu gwaith.  Yna manylodd Rheolwr Gyfarwyddwr Byw’n Iach ar berfformiad y cwmni yn ystod y flwyddyn.

 

Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gofynnwyd i’r swyddogion ymhelaethu ar y cydweithio rhwng Cwmni Byw’n Iach ac Alliance Leisure i flaenoriaethu’r cynlluniau i greu ffrydiau incwm ychwanegol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod Alliance Leisure yn gwmni arbenigol sy’n cefnogi awdurdodau lleol a chwmnïau masnachol yn y maes hamdden, a bod y Cyngor wedi cydweithio â hwy yn y gorffennol hefyd.

·         Bod prif ffocws y trafodaethau gyda’r cwmni dros y flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio ar Fangor, a hynny’n bennaf oherwydd yr her sy’n wynebu’r ffrydiau incwm mwy traddodiadol i gyfleusterau Byw’n Iach ym Mangor yn wyneb y gystadleuaeth o du’r sector preifat, a hefyd y ffaith bod Bangor yn ganolfan boblogaeth sylweddol iawn.

·         Nad oedd y cyfleusterau ym Mangor ymhlith y cryfaf, ac roedd yna ddiffyg darpariaeth ochr sych ar gyfer chwaraeon.  Hefyd, roedd y sefyllfa ym Mangor yn gymhleth oherwydd presenoldeb y Brifysgol a’u cyfleusterau hwy.

·         Y dymunai trigolion Bangor weld cynnig ehangach, ond ar hyn o bryd ni ellid darparu gwasanaethau gwyliau i blant a phobl ifanc ym Mangor oherwydd y diffyg cyfleusterau sych, ayb.

·         Bod yna gyfle masnachol ym Mangor oherwydd maint y boblogaeth, a bod y trafodaethau gydag Alliance Leisure yn edrych ar ddau brosiect posib’, y naill yn ymwneud â chyfleuster chwarae fel estyniad i’r adeilad presennol a’r llall yn edrych ar addasu’r cynnig ffitrwydd ym Mangor i beidio cystadlu benben gyda rhai o’r cystadleuwyr preifat, ond yn hytrach i edrych yn fwy ar y sector llesiant, gan edrych i gydweithio mwy o fewn y rhaglen cyfeirio i ymarfer, gweithio gyda phartneriaid iechyd a thargedu pobl hŷn a phobl sydd â diddordeb mewn ymarfer dwysedd is.

·         Y cyflwynwyd ceisiadau grant i Lywodraeth Cymru am arian i wireddu’r cynlluniau hyn ac roedd yna geisiadau Cronfa Loteri ar fin eu cyflwyno hefyd.

 

Holwyd sut roedd Cwmni Byw’n Iach yn gweld y risgiau yn y dyfodol, h.y. o ran nifer y defnyddwyr yn cyrraedd plateau a’r incwm ddim yn cynyddu ymhellach, yr angen i fuddsoddi mewn offer ffitrwydd rhag colli defnyddwyr, RAAC neu fuddsoddiad tymor hir yn yr adeiladau.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y plateau yn siwr o ddod gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHEOLAETH TRAETHAU GWYNEDD pdf eicon PDF 286 KB

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Cyflwyno adroddiad ar yr uchod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.

 

Cofnod:

 

Croesawyd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Dros Faterion Gweithredol Economi yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r trefniadau ar gyfer rheoli traethau yng Ngwynedd.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun ac ymhelaethodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned ar gynnwys yr adroddiad.  Yna rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. 

 

Gan gyfeirio at Dabl 1 ym mharagraff 5.2 o’r adroddiad, holwyd a oedd y cynnydd mewn costau gweithwyr o ganlyniad i gynnydd mewn tâl goramser.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y patrymau gwariant yn amlygu’r pwysau aruthrol ar yr arfordir dros y 2-3 blynedd ddiwethaf sydd wedi arwain at orfod ymestyn cyfnod y wardeiniaid traeth ynghyd â thalu goramser.

·         Bod y strwythur parhaol ar hyn o bryd yn cynnwys un Uwch Swyddog Traeth ac un Swyddog Traeth arall yn unig, ac fel rhan o’r cynnydd yn yr incwm, bod bwriad i sefydlu dwy swydd arall er mwyn cyfarch y bwlch, sef Swyddog Traeth ar gyfer Meirionnydd a Swyddog Traeth ar gyfer Morfa Bychan.

·         Bod llawer o’r gwaith paratoi yn digwydd dros gyfnod y gaeaf ac adnabuwyd bod angen cryfhau’r strwythur yn hynny o beth.

 

Holwyd a oedd posibilrwydd o gael is-ddeddf i roi pwerau i’r swyddogion traeth ddirwyo pobl sy’n camymddwyn gyda cheir, ac ati, ar y traeth.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod y Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r Heddlu, ac yn benodol felly ym Morfa Bychan, sef yr unig draeth yng Ngwynedd lle caniateir gyrru a pharcio ar y traeth.

·         Bod yna reolau caeth mewn lle a bod yna arwyddion ar y traeth gyda logo’r Heddlu a’r Cyngor arnynt.  Roedd y staff sy’n cerdded y traeth yn defnyddio camerâu corff ac roedd gan y staff gamerâu yn y cerbydau hefyd, fel bod modd pasio tystiolaeth ymlaen i’r Heddlu.

·         Y byddai’n fuddiol petai gan y swyddogion traeth, yn enwedig y prif swyddogion, bwerau i gyflwyno dirwyon cosb i’r sawl sy’n troseddu ar y traethau, a chredid bod angen arweiniad gan yr Adran Gyfreithiol ar hyn.

 

Holwyd a oedd rheolaeth traethau yn ddiogel rhag toriadau, ayb, o ystyried ei fod yn wasanaeth anstatudol i lywodraeth leol.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Er bod y gwasanaeth yn anstatudol, bod y maes yn cyffwrdd â nifer o gyfrifoldebau sy’n statudol, ac er bod yna ansicrwydd o ran y fframwaith cyfreithiol, na chredid y byddai’r Adran na’r Gwasanaeth yn argymell nad oes yna unrhyw gyfrifoldeb o gwbl, boed hynny’n gyfrifoldeb moesol bron iawn, fwy na chyfrifoldeb cyfreithiol.

·         Y bu achosion yn y gorffennol o dorri ar wasanaethau oherwydd yr angen i sicrhau arbedion, ond yn anffodus, gwelwyd bod peidio rhoi gwasanaeth yn gallu esgor ar broblemau.

·         Mai mater i’r holl aelodau fyddai adnabod sut y bydd y Cyngor yn ymateb i’r heriau ariannol, ond bod yr Adran yn ymwybodol o ba mor bwysig yw rhoi’r ddarpariaeth ar ein traethau.

·         Efallai bod yna opsiynau i wneud arbedion heb dorri gwasanaethau rheng flaen, ac roedd cynyddu incwm yn un o’r opsiynau hynny.

 

Holwyd a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

GRŴP TASG A GORFFEN CYNLLUN AWTISTIAETH GWYNEDD pdf eicon PDF 86 KB

Ethol dau aelod i wasanaethu ar y Grwp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Bod y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen (sydd â chysylltiad â’r maes awtistiaeth) yn cyflwyno ceisiadau am oddefebau er mwyn caniatáu iddynt gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.
  2. Gofyn i’r Pwyllgor Safonau gynnal cyfarfod arbennig i ystyried ceisiadau am oddefebau gan y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen.
  3. Ethol y Cynghorwyr Cai Larsen a Beth Lawton yn aelodau wrth gefn i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad yr Ymgynghorydd Craffu yn gwahodd y pwyllgor i ethol dau aelod i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.

 

Cyngiwyd enwau’r Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen.  Amlygwyd bod gan y ddau ohonynt gysylltiad â’r maes awtistiaeth.  Nododd aelod ei fod wedi cael sgwrs gyda’r Swyddog Monitro ynghylch y sefyllfa.  Ymhelaethodd y nodwyd yn ystod y sgwrs bod modd cyflwyno cais am oddefeb i’r Pwyllgor Safonau.

 

Gan fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Safonau ar 19 Chwefror, 2024, a bod bwriad i’r Grŵp Tasg adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu Gofal ar 1 Chwefror, nodwyd y byddai’n rhaid gofyn i’r Pwyllgor Safonau gynnal cyfarfod arbennig i drafod y ceisiadau am oddefebau.

 

Nodwyd hefyd y dylid ethol dau aelod wrth gefn ar y Grŵp Tasg rhag i’r naill, neu’r ddau, gais am oddefeb gael eu gwrthod gan y Pwyllgor Safonau.

 

PENDERFYNWYD

1.         Bod y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen (sydd â chysylltiad â’r maes awtistiaeth) yn cyflwyno ceisiadau am oddefebau er mwyn caniatáu iddynt gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cynllun Awtistiaeth.

2.         Gofyn i’r Pwyllgor Safonau gynnal cyfarfod arbennig i ystyried ceisiadau am oddefebau gan y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen.

3.         Ethol y Cynghorwyr Cai Larsen a Beth Lawton yn aelodau wrth gefn i gynrychioli’r Pwyllgor ar y Grŵp Tasg a Gorffen.