Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Gwilym Iwan Huws a Gwilym Jones (NASUWT).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Eitem 5

 

       Datganodd y Cynghorydd Dawn Lynne Jones fuddiant personol am ei bod yn ymwneud â Chlwb Pobl Ifanc Porthi Dre.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y

drafodaeth.

 

Eitem 6

 

       Datganodd y Cynghorydd Gwynfor Owen fuddiant personol oherwydd ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Hafod Lon.

       Datganodd y Cynghorydd Dawn Lynne Jones fuddiant personol oherwydd bod ganddi wyrion sy’n mynychu Ysgol Pendalar, ac oherwydd natur ei swydd yn cefnogi pobl ifanc gyda CDU.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

       Datganodd Bethan Adams (Ymgynghorydd Craffu) fuddiant personol oherwydd bod ganddi nai yn mynychu ysgol prif lif yng Ngwynedd sy’n derbyn darpariaeth anghenion dysgu ychwanegol.

 

Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Eitem 7

 

       Datganodd Gweno Glyn Williams (Cynrychiolydd Rhieni / Llywodraethwyr Dwyfor) fuddiant personol oherwydd bod ganddi berthynas agos â chydawdur y polisi drafft.

       Datganodd Colette Owen (Yr Eglwys Gatholig) fuddiant personol oherwydd ei bod yn gynghorydd addysg i Esgobaeth Wrecsam.

 

Nid oedd yr aelodau o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 199 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol

o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 13/02/25 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Chwefror, 2025 fel rhai cywir.

5.

GWASANAETH IEUENCTID pdf eicon PDF 472 KB

I roi arweiniad ar gyfeiriad gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid yn y dyfodol i drafod os ydyw dal yn cyfarch anghenion pobl ifanc Gwynedd ac yn cyflawni ei hamcanion yn dilyn yr ailstrwythuro yn 2018. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Argymell i’r Aelod Cabinet / Adran Addysg:

-        Bod angen sicrhau cysondeb darpariaeth ar draws y Sir.

-        Adnabod ffyrdd o ymgysylltu’n ehangach gyda phobl ifanc ac yn arbennig grwpiau penodol o bobl ifanc.

-        Bod angen ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned gyda’r bwriad i gynyddu’r nifer o glybiau cymunedol.

-        Bod angen parhau i weithio gyda phartneriaid i sicrhau’r ddarpariaeth orau, er enghraifft yr Urdd, Ffermwyr Ifanc.

  1. Gofyn i’r Rheolwr Gwasanaeth Ieuenctid rannu data am nifer yr unigolion unigryw sy’n cymryd rhan yn y ddarpariaeth, ac arfer da o ran clybiau cymunedol, gyda aelodau’r pwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad gan nodi bod y Gwasanaeth Ieuenctid wedi bod ar daith sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda’r ddarpariaeth wedi’i hailfodelu’n sylweddol yn 2018. Eglurwyd bod argyfwng COVID wedi cael effaith sylweddol ar anghenion pobl ifanc ac wedi cael dylanwad amlwg ar y gwasanaeth, fel pob gwasanaeth arall. Mynegwyd balchder bod y gwasanaeth yn derbyn y sylw priodol gan y Pwyllgor yma. Pwysleisiwyd rôl allweddol y Gwasanaeth Ieuenctid yng ngwaith cefnogi pobl ifanc Gwynedd.

Mynegwyd barn nad ydynt yn manteisio digon ar y gwaith mae’r gwasanaeth ieuenctid yn ei wneud, nac ar yr effaith a’r ardrawiad cadarnhaol y gall gwaith ieuenctid ei gael ar fywydau pobl ifanc. Cyfeiriwyd at Gynhadledd Gwaith Ieuenctid Cymru yng Nghaerdydd, lle roedd gan Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd bresenoldeb amlwg, a chafwyd cyfle i rannu arferion da. Nodwyd bod nosweithiau gwobrwyo wedi’u cynnal gan y gwasanaeth ym Mangor i gydnabod llwyddiannau pobl ifanc ar draws y sir.

Mynegwyd bod pobl ifanc Gwynedd yn arbennig, er gwaethaf y bai a roddir arnynt yn aml. Pwysleisiwyd nad yw'r heriau a wynebir gan rai pobl ifanc yn adlewyrchiad o fethiant, ond yn dangos yr angen am gymorth, ac mai dyma’r flaenoriaeth i’r Adran Addysg.

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd clywed lleisiau pobl ifanc ac eglurwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn ymgynghori'n helaeth â nhw. Nodwyd bod sefydlu Fforwm Ieuenctid Gwynedd yn gam cadarnhaol, gyda swyddog penodol yn arwain ar y gwaith i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn rhan o waith ehangach y Cyngor.

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 i’r adroddiad ‘Canfyddiadau Holiadur Pobl Ifanc 2025’. Nodwyd bod 25% o bobl ifanc yn anghyfarwydd â'r gwasanaeth, gan amlygu’r angen am fwy o waith codi ymwybyddiaeth. Amlygwyd bod y prif resymau dros gymryd rhan yn y gwasanaethau ieuenctid yn cynnwys cael mwynhau a threulio amser gyda ffrindiau. Nodwyd bod dim ond 17% yn nodi diffyg diddordeb fel rheswm dros beidio cymryd rhan, sy’n awgrymu awydd clir gan bobl ifanc i ymgysylltu.

Eglurwyd bod 75% o'r bobl ifanc a holwyd yn teimlo bod gan y gwasanaeth rôl bwysig yn y gymuned, a chyfran debyg yn gweld rôl i’r gwasanaeth mewn ysgolion. Nodwyd nad yw’n glir a ddylai’r gwasanaeth fod yn gymunedol yn unig neu hefyd yn rhan o’r ddarpariaeth ysgolion, ond bod y data'n dangos awydd i’w gael yn y ddau le.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Holwyd sut y gellid sicrhau bod y Gwasanaeth Ieuenctid yn weladwy yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysgol, gan ofyn sut y gellid estyn allan yn fwy effeithiol at bobl ifanc yn y gymuned er mwyn sicrhau bod lleisiau pawb yn cael eu clywed. Mynegwyd pryder mai canran gymharol fach o bobl ifanc oedd wedi ymateb i’r holiadur, gan godi’r cwestiwn ynghylch sut y gellid cyrraedd y gweddill. Mewn ymateb, nodwyd:

·       Bod dymuniad i weld cyfran uwch o bobl ifanc yn ymateb i’r holiadur, er mwyn adlewyrchu barn gynrychioliadol ar draws y sir.

·       Bod y gwaith penodol sy’n digwydd ar hyn o bryd o ran ymgysylltu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL YN Y PRIF LIF AC YSGOLION ARBENNIG pdf eicon PDF 196 KB

I graffu’r ddarpariaeth addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol ac i sicrhau mewnbwn a dealltwriaeth y Pwyllgor Craffu o’r cynnydd a wnaed i sicrhau bod Gwynedd yn barod ar gyfer y Ddeddf ADY a Chynhwysiad newydd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau.
  2. Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg:
  • Ystyried edrych os oes angen diwygio aelodaeth grŵp canllawiau ar gyfer mynediad i ysgolion arbennig.
  • Edrych ar ffyrdd o adnabod, gwella darpariaeth a hwyluso pethau i grŵp penodol o blant sydd yn y prif lif,  gyda anghenion dwys ond sydd ddim yn cyrraedd y trothwy ar gyfer derbyn cefnogaeth.
  • Edrych ar ffyrdd i barhau i warchod y gyllideb i ysgolion arbennig a monitro bod arian yn cael ei wario yn briodol ac yn dilyn y canllawiau.
  • Annog ymarferwyr i fanteisio ar hyfforddiant, ac edrych os yw’n bosib sicrhau bod pobl yn gwario’r pres a dderbynnir am hyfforddiant ar hyfforddiant yn unig.
  • Ymchwilio i’r posibilrwydd o  roi ddarpariaeth lloeren mewn rhai ysgolion.
  • Gohebu gyda Llywodraeth Cymru i ddatgan pryder am ddiffyg arian ac adnoddau sydd ar gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a’r heriau sy’n wynebu ysgolion.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg wrth nodi ei fod wedi’i lunio yn dilyn cais gan y Pwyllgor Addysg ac Economi i dderbyn diweddariad ar faterion sy’n ymwneud ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn ysgolion prif lif ac ysgolion arbennig. Eglurwyd bod yr adroddiad yn amlinellu’r anawsterau sy’n wynebu ysgolion yng Ngwynedd o ganlyniad i newid yn y galw am wasanaeth, yr hinsawdd ariannol bresennol ac effaith toriadau.

Mynegwyd bod y sefyllfa’n anodd, ond bod cyfleoedd i’r adran wella, ac awydd glir i wneud y gorau dros blant a phobl ifanc y sir. Pwysleisiwyd bod y maes hwn yn peri pryder i rai o’r aelodau ac yn faes dyrys sy’n haeddu sylw.

Tynnwyd sylw at effaith flynyddoedd o lymder ac arbedion ariannol ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau effeithiol, gan bwysleisio bod yr effaith honno’n cyrraedd pob cornel o’r gymuned. Mynegwyd parodrwydd i wrando, trafod ac ystyried beth y gellid ei wneud yn wahanol yn y dyfodol er mwyn cefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn well.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Holwyd pwy sydd yn gyfrifol am bennu’r meini prawf mynediad i ysgolion arbennig. Mewn ymateb, eglurwyd mai cyfrifoldeb yr awdurdod ydy sicrhau lleoliad plentyn mewn ysgol arbennig, gan nodi bod disgrifiadau o’r anghenion a ddisgwylir mewn ysgolion arbennig wedi’u diffinio, a bod ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn y rhain. Pwysleisiwyd bod y penderfyniad terfynol bob amser gyda’r awdurdod.

Holwyd ymhellach pa ganllawiau a meini prawf a ddefnyddiwyd wrth bennu’r disgwyliadau hyn. Mewn ymateb, eglurwyd bod y meini prawf yn gysylltiedig â’r cwricwlwm a’r ddarpariaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Nodwyd bod y Ddeddf ADY yn pwysleisio'r angen i ystyried addysg brif lif yn gyntaf, cyn troi at ddarpariaeth mewn ysgolion arbennig os nad yw anghenion y plentyn yn cael eu diwallu yn y brif lif. Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adolygu’r meini prawf, nodwyd:

·       Bod adolygiadau wedi’u cynnal yn 2017 ac eto yn 2020.

·       Bod gwaith yn parhau ar ddogfen sy’n crynhoi’r meini prawf mewn ffordd symlach, gyda bwriad i'w rannu gyda’r ysgolion arbennig yn fuan.

·       Bod categorïau anghenion ar ffurf ‘bandiau’ wedi’u sefydlu, o fand un (anghenion mwyaf dwys) i fand pedwar, a bod yr asesiadau’n digwydd yn unol â’r bandiau hyn.

·       Bod y drafodaeth bellach yn canolbwyntio ar egluro’r meini prawf i rieni ac ysgolion a diffinio’r dystiolaeth sy’n cael ei defnyddio i asesu’r bandiau.

Holwyd pwy sydd yn ymwneud â llunio’r meini prawf. Mewn ymateb, nodwyd bod y panel yn cynnwys gwasanaethau ADY yr awdurdod, seicolegwyr addysgol, athrawon arbenigol o dimau amrywiol a phenaethiaid yr ysgolion arbennig. Cadarnhawyd nad yw unrhyw asiantaeth allanol ar hyn o bryd yn rhan o’r broses, ond bod trafodaethau’n digwydd gyda’r bwrdd rhanbarthol, a bod y gobaith y byddai penaethiaid ysgolion prif lif yn rhan o’r panel wrth symud ymlaen. Nodwyd nad oedd y bwrdd iechyd yn aelod o’r panel cymedroli, ond bod trafodaethau gyda’r bwrdd iechyd wedi dechrau gan ei fod yn arfer a welir mewn siroedd eraill.

Cyfeiriwyd at gynnydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

POLISI IAITH ADDYSG pdf eicon PDF 232 KB

I gyflwyno drafft o’r polisi diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

  1. Nodi’r polisi drafft gan nodi’r sylwadau.
  2. Croesawu bod y polisi drafft yn mynd i ymgynghoriad.
  3. Bod y Pwyllgor yn gwneud cais i’r Fforwm Craffu i flaenoriaethu adnoddau ar gyfer ffurfio grŵp tasg a gorffen, gyda’r brîff i edrych ar eiriad y Polisi Iaith Addysg Drafft gan ystyried os oes angen gwneud awgrymiadau i’r Aelod Cabinet / Adran Addysg, ac adrodd yn ôl i’r pwyllgor yng nghyfarfod 19 Mehefin 2025.
  4. Pe bai’r cais i’r Fforwm Craffu yn llwyddiannus, bod yr Ymgynghorydd Craffu yn anfon e-bost at aelodau’r Pwyllgor yn rhoi cyfle iddynt roi eu henw ymlaen i fod yn aelod o’r Grŵp Tasg a Gorffen.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Addysg wrth bwysleisio mai polisi drafft yw’r ddogfen a bod hyn yn nodi dechrau’r daith o’i datblygu. Nodwyd bod y polisi presennol wedi bod yn ei le ers 1984, ac mai tystiolaeth o’i lwyddiant yw’r ffaith ei fod wedi goroesi am gyfnod mor hir. Eglurwyd bod y ddogfen newydd yn cynrychioli esblygiad y polisi presennol, gan adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol i greu polisi sy’n addas ar gyfer anghenion Gwynedd heddiw. Nodwyd ei fod yn amser erbyn hyn i adolygu’r polisi a chynnig newidiadau, gyda’r bwriad o gryfhau sefyllfa’r Gymraeg ymhellach.

Mynegwyd barn fod y model newydd yn mynd i gryfhau’r Gymraeg a’i wneud yn fwy amlwg o fewn ein hysgolion. Nodwyd bod hynny hefyd yn gosod her i’r ysgolion ond bod y adran addysg yn barod i gefnogi’r ysgolion i wireddu’r uchelgais hwn. Eglurwyd nad oedd unrhyw fwriad i ddibrisio pwysigrwydd y Saesneg, ond yn hytrach i sicrhau bod gan y disgyblion sgiliau cadarn yn y ddwy iaith, a’u bod yn gadael yr ysgol yn gwbl ddwyieithog. Tynnwyd sylw at y ffaith mai dyna sydd ei angen i’r dyfodol: unigolion sy’n gallu byw a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Mynegwyd y farn mai’r polisi iaith drafft yw’r ddogfen bwysicaf i ddyfodol y Gymraeg yng Ngwynedd, gan ddisgrifio’r effaith y gallai’r polisi hwn ei chael fel un ddigynsail ar blant y sir a’r gymuned ehangach. Canmolwyd y polisi am ei eglurder a’i fod yn gryno, gan nodi fod y fersiwn flaenorol yn rhy hir ac agored i gamddehongli. Mynegwyd pryderon, fodd bynnag, ynghylch nifer o elfennau:

  1. Diffyg uchelgais mesuradwy yn y polisi, heb dargedau pendant ar gyfer cynnydd canrannol yn y ddarpariaeth Gymraeg dros amser.
  2. Dibyniaeth ormodol ar Gategori 3 Llywodraeth Cymru, gan nodi bod mwyafrif ysgolion Gwynedd eisoes yn darparu dros 70% o'u darpariaeth addysg drwy’r Gymraeg, ac felly y dylid anelu’n uwch.
  3. Diffyg eglurder yng ngeiriad y polisi, gyda thermau megis “Mae pob disgybl yn cael ei addysgu a’i asesu drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at ddiwedd Blwyddyn 2” a “Cymraeg fydd prif gyfrwng addysg y disgyblion” yn rhy agored i ddehongliad. Awgrymwyd geiriad cryfach megis “Cymraeg fydd cyfrwng addysg, asesu a gweithgareddau allgyrsiol y disgyblion hyd at ddiwedd Blwyddyn 2” a “Cymraeg fydd cyfrwng addysg y disgyblion”.

Pwysleisiwyd bod angen egluro sut mae'r Saesneg yn cael ei ddysgu’n drawsgwricwlaidd a phwy sy’n penderfynu hynny, gan fynegi pryder y gallai hyn danseilio’r defnydd cyson o’r Gymraeg. Mynegwyd y dylai’r polisi egluro'n benodol pwy sy’n penderfynu ar gynnwys y ddarpariaeth honno. Nodwyd hefyd nad yw'r polisi yn nodi'n glir sut y rhennir amser dysgu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Mynegwyd siom nad oedd y polisi yn anelu am Gategori 3P Llywodraeth Cymru, gan fod sawl ysgol yn y sir eisoes yn cyrraedd gofynion y categori yma. Cwestiynwyd a yw'r ffaith bod y polisi ond yn anelu at Gategori 3 yn cyfleu neges ynghylch ysgolion sy'n cyrraedd y Categori 3P, megis awgrymu eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.