Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Ffion Elain Evans E-bost: ffionelainevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar y 21ain o Fedi, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
|
GWASANAETH GOFAL DYDD Ystyried yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. b)
Cefnogi’r bwriad i gynnal adolygiad llawn o’r
ddarpariaeth bresennol ac ystyried model amgen. c)
Gofyn i’r swyddogion sicrhau bod y model newydd
yn darparu gwasanaeth cyson ar draws y sir gan gynnwys gwasanaeth i rai sy’n
byw mewn ardaloedd gwledig. d)
Gofyn i’r adran gyflwyno adroddiad pellach ar yr
adolygiad a’r modelau posib pan yn amserol er mwyn rhoi cyfle i’r craffwyr roi
mewnbwn pellach. |
|
TREFNIADAU RHEOLI A CHYNNAL CARTREFI GOFAL Ystyried yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad, croesawu’r cynnydd sydd wedi’i wneud ers yr
archwiliadau cyntaf a diolch i staff y cartrefi gofal am eu gwasanaeth. b)
Datgan pryder am heriau staffio cartrefi gofal a’r problemau a ddaw yn
sgil hynny megis anhawster cwblhau hyfforddiant. c)
Gofyn i’r adran berthnasol ystyried sut y gellir sicrhau bod pob cartref
yn cyrraedd lefel sicrwydd uchel yn y dyfodol. d)
Gofyn am wahoddiad i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal
fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol pan fo
trafodaethau am adroddiadau archwilio mewnol cartrefi gofal. e)
Hysbysu aelodau y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio o sylwadau a
phenderfyniadau aelodau’r Pwyllgor Craffu Gofal. |
|
CEFNOGAETH I OFALWYR DI-DAL Ystyried yr
adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad a datgan cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o’r
gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr di-dal gan gynnwys y cynllun taliadau
uniongyrchol. b)
Gofyn am gyflwyniad a gwybodaeth pellach i aelodau am y cynllun taliadau
uniongyrchol. |