Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynahliwyd ar 24
Mawrth, 2023 fel rhai cywir. |
|
SEFYLLFA ALLDRO REFENIW A CHYFALAF Y BWRDD UCHELGAIS AR GYFER 2022-23 Dewi
A.Morgan (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletya – Swyddog Cyllid Statudol) a Sian
Pugh (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol yr Awdurdod Lletya) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Nodi
a derbyn adroddiad alldro refeniw y Bwrdd Uchelgais ar gyfer 2022/23 (Atodiad 1
i’r adroddiad), cronfeydd y Bwrdd Uchelgais (Atodiad 2) a'r Adolygiad Cyfalaf
Diwedd Blwyddyn ar 31 Mawrth 2023 (Atodiad 3). 2.
Cymeradwyo
i'r tanwariant refeniw o £148,000 ar gyfer 2022/23 gael ei drosglwyddo i
gyllideb 2023/24, gyda £18,000 ohono yn cael ei ychwanegu at y pennawd Bwrdd
Cyflawni Busnes a £130,000 gael ei ychwanegu at y pennawd Prosiectau. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISGIAU CHWARTER 4 Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Bod y Bwrdd
yn ystyried ac yn nodi Adroddiad
Perfformiad Chwarter 4 a Chofrestr Risg y Portffolio wedi'i diweddaru. 2. Bod y Bwrdd
yn cymeradwyo cyflwyno Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 i Lywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU, ynghyd
â phwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol. |
|
CYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU - PROSES GYMERADWYO FBC WEDI'I MIREINIO Hedd
Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau) i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: 1.
Bod y Bwrdd
yn cymeradwyo'r llwybr cymeradwyo wedi'i fireinio ar gyfer Achosion Busnes Llawn (FBC) fel yr amlinellir yn paragraff 4.10 yr adroddiad ble: Ø Na
fu unrhyw newid yn sgôp y prosiect ers i'r Achos
Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo
nac unrhyw gais dilynol am newid a gafodd ei gymeradwyo. Ø Nid
yw targedau amcanion gwario (e.e. swyddi) wedi
cael eu lleihau
fwy na 10% ers i'r Achos
Busnes Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo
nac unrhyw gais dilynol a gafodd ei gymeradwyo
gan y Bwrdd. Ø Nid
oes unrhyw ofynion ariannol ychwanegol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru ers i'r Achos Busnes
Amlinellol (OBC) gael ei gymeradwyo nac
unrhyw gais dilynol am newid a gafodd ei gymeradwyo
gan y Bwrdd. Ø Nid
oes angen awdurdod dirprwyedig pellach gan y Bwrdd. 2.
Ym mhob achos arall y bydd y broses
gymeradwyo FBC arferol yn berthnasol. |
|
ADNODDAU I'R SWYDDFA RHEOLI PORTFFOLIO Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Hedd Vaughan-Evans (Pennaeth Gweithrediadau)
i gyflwyno’r adroddiad. Penderfyniad: Bod y Bwrdd yn cymeradwyo'r cynnydd yng swm y grant Cynllun Twf sydd ar
gael i gefnogi'r Swyddfa Rheoli Portffolio o 1.5% i 2% gan leihau swm
cyffredinol yr arian i gefnogi prosiectau newydd drwy'r broses prosiectau
newydd o £1.2 miliwn ac ystyried cynnydd pellach petai unrhyw arian heb ei
ddyrannu ar ddiwedd y broses i ddewis prosiectau newydd ar gyfer y Cynllun Twf. |