Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), Gwern ap Rhisiart (Cyngor Gwynedd) a Dewi Morgan (Cyngor Gwynedd)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Penderfyniad:

ETHOL IS-GADEIRYDD

 

PENDERFYNIAD:

 

Ethol y Cyng Phil Wynn yn Is-gadeirydd

Cofnod:

Yn dilyn newidiadau diweddar i aelodaeth y Cydbwyllgor, amlygywd bod angen penodi is-gadeirydd i’r Cydbwyllgor

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y Cyng Phil Wyn

 

4.

COFNODION Y CYFARFOYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 136 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar  22 Mai ac 1 Awst, 2024 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Fai 2024 a chyfarfod arbennig Awst yr 2il, 2024 fel rhai cywir.

 

5.

ARWEINYDDIAETH GwE - CYFNOD TROSIANNOL pdf eicon PDF 163 KB

Rhannu gwybodaeth gyda aelodau’r Cyd-bwyllgor am drefniadau arweinyddiaeth GwE hyd at ddiwed y cyfnod trosiannol.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

·       Bod angen cynnal cyfarfod brys rhwng y Bwrdd Trosiannol, y Cydbwyllgor a’r Rheolwr Prosiect i drafod sefyllfa bresennol GwE

 

·       Diolch i’r cyn Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd Uwchradd GwE am eu gwaith a’u cefnogaeth i’r Cydbwyllgor

·       Diolch i’r staff hynny sydd eisoes wedi ymadael â GwE am eu hymroddiad i’r Gwasanaeth.

·       Diolch i Swyddogion Cyngor Gwynedd am gefnogi’r cyfnod trosiannol heriol

Cofnod:

Croesawyd Rhys Williams (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Dysgu Proffesiynol) ac  Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Gwella Ysgolion).

 

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu trefniadau ac amserlen gweithredu cyfnod trosiannol GwE mewn ymateb i ddatganiad y cyn Weinidog dros Addysg a’r Gymraeg ar 31 Ionawr 2024, i wneud newidiadau sylfaenol i haen ganol y system addysg yng Nghymru. Ar y 1af o Awst 2024 cymeradwyodd y Cyd-Bwyllgor y cynnig i leihau Uwch Dîm Rheoli GwE o bump i ddau hyd ddiwedd Mawrth 2025, ac o ganlyniad, roedd rolau presennol y Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd Uwchradd wedi eu tynnu oddi ar y strwythur ers 1 Medi, 2024. Adroddwyd bod Rhys Williams (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Dysgu Proffesiynol) ac  Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Gwella Ysgolion) – y ddau uwch arweinydd sy’n weddill, wedi cytuno i arwain, rheoli a sicrhau ansawdd y swyddogaeth graidd gwella ysgolion a’r dysgu proffesiynol a chymorth i ysgolion hyd at ddiwedd y cyfnod trosiannol.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion i’w hystyried megis ffrydiau gwaith y gwasanaeth hyd at ddiwedd y cyfnod trosiannol oedd yn cynnwys, rheoli risgiau a sicrhau ansawdd o ran swyddogaeth graidd GwE o, gefnogi ysgolion ac awdurdodau i gyflawni eu rolau statudol; cefnogi’r Bwrdd Trosiannol i sefydlu prosesau a strwythurau pwrpasol er mwyn ymateb yn llwyddiannus i ofynion adolygiad yr haen ganol; cydweithio’n agos gyda’r Bwrdd Trosiannol, y Rheolwr Prosiect ac Adnoddau Dynol i ddarparu a rhannu’r wybodaeth berthnasol.

 

Nodwyd, er mwyn sicrhau gweithredu cyfnod trosiannol llwyddiannus, byddai’n hanfodol bod yr holl randdeiliaid yn cyfathrebu yn gyson ac agored, a lle bydd diffyg capasiti wedi amlygu, bydd angen trafod datrysiadau posib gyda’r Awdurdod perthnasol. Ategwyd y byddai hyn yn gymorth i hybu morâl, llesiant a chymhelliant staff drwy’r cyfnod ansicr yma.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i’r staff hynny oedd eisoes wedi gadael GwE, i’r Cyn Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd Uwchradd GwE am eu gwaith a’u cefnogaeth i’r Cydbwyllgor ac i Rhys Williams ac Euros Davies am gamu i mewn i’r bwlch o dan amgylchiadau heriol ac anodd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd;

·       Pryder na fydd cyllid digonol i wireddu’r gwaith  a bydd gofyn defnyddio reserfau.

·       Angen i Fwrdd Trosiannol amlygu sefyllfa bresennol GwE a’r diffyg cyllideb i Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru gan fod y sefyllfa yn deillio o benderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau sylfaenol i haen ganol y system addysg yng Nghymru.

·       Nad oedd gwybodaeth ddigonol am y sefyllfa – bod y Cydbwyllgor angen gwell dealltwriaeth o’r goblygiadau staffio a chyfrifoldebau cytundebol.

·       Bod angen trefnu cyfarfod brys rhwng y Bwrdd Trosiannol, y Cydbwyllgor a’r Rheolwr Prosiect i drafod y sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD:

·       Derbyn a chymeradwyo cynnwys yr adroddiad.

·       Bod angen cynnal cyfarfod brys rhwng y Bwrdd Trosiannol, y Cydbwyllgor a’r Rheolwr Prosiect i drafod sefyllfa bresennol GwE.

 

·       Diolch i’r Cyn Rheolwr Gyfarwyddwr, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Uwch Arweinydd Uwchradd GwE am eu gwaith a’u cefnogaeth i’r Cydbwyllgor

·       Diolch i’r staff  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYD-BWYLLGOR GwE - CYNLLUN ARCHWILIO MANWL 2024 pdf eicon PDF 665 KB

I gysidro’r Cynllun Archwilio a ddarparwyd gan Archwilio Cymru.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio Manwl Archwilio Cymru 2024

Cofnod:

Croesawyd Siwan Glyn (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddog Archwilio Cymru yn manylu ar y gwaith y mae Archwilio Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i’r afael a’r risgiau archwilio i Gydbwyllgor GwE 2024. Nodwyd y bydd archwiliad o’r datganiadau ariannol yn cael eu cwblhau  ynghyd a gwaith archwilio perfformiad i asesu sicrwydd a risg.

 

Yng nghyd-destun perthnasedd datganiadau ariannol nodwyd y cyfrifir perthnasedd gan ddefnyddio gwariant gros 2023-24 sef £17.8 miliwn a cyfeiriwyd at y risg sylweddol i ddatganiadau archwilio ynghyd â’r risgiau archwilio. Ategwyd bod y risg sylweddol o wrthwneud rheolaethau gan reolwyr yn un oedd yn cael ei gynnwys yng nghynllun manwl pob Awdurdod. Nodwyd hefyd bod y risg archwilio o rwymedigaeth net cronfa bensiwn hefyd wedi ei gynnwys mewn nifer o gynlluniau ac nid yn benodol i GwE.

 

Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw’r un archwiliad yn gallu rhoi sicrwydd cyflawn bod y cyfrifon wedi’u datgan yn gywir a bod yr archwilwyr yn gweithio i lefel faterol. Tynnwyd sylw at y ffioedd, oedd wedi cynyddu eleni o ganlyniad i chwyddiant a nodwyd na fydd Archwilio Cymru yn gwneud dim elw o’r gwaith.

 

Diolchwyd i Swyddogion Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth a’r cydweithio da.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r Cynllun

 

          PENDERFYNWYD:

 

          Derbyn a chymeradwyo Cynllun Archwilio Manwl Archwilio Cymru 2024

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwyno Datganiad o’r Cyfrifon, ar ffurf ‘statudol’, wedi’i ardystio, ond yn amodol ar archwiliad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad) am 2023/24.

Cofnod:

Cyflwynwyd y Datganiad o’r Cyfrifon gan Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y diwygiwyd) yn mynnu bod rhaid i bob cydbwyllgor baratoi cyfrifon blynyddol, a gan fod GwE gyda throsiant o dros £2.5 miliwn, ei bod yn ofynnol paratoi datganiad o’r cyfrifon

yn unol â chôd CIPFA ar gyfer y Cydbwyllgor.

 

Cadarnhawyd bod y cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau ddiwedd Mehefin i’w harchwilio gan Archwilio Cymru gyda’r fersiwn ‘dilyn archwiliad’ i’w gyflwyno yng nghyfarfod mis Tachwedd o’r Cydbwyllgor.

 

Tynnwyd sylw at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon, y Strategaeth Ariannol a’r Perfformiad Ariannol. Cyfeiriwyd at £77k o orwariant ac atgoffwyd y Pwyllgor, wrth adrodd ar y sefyllfa ariannol diwedd blwyddyn ar gyfer 2023/24 yng nghyfarfod mis Mai 2024, bod y £77k yn deillio yn bennaf o orwariant ar y gyllideb staffio, ond yn cael ei gyllido o’r gronfa wrth gefn.

 

Adroddwyd bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb,  tra bod y Datganiad Symudiad mewn Reserfau yn crynhoi sefyllfa ariannol GwE sydd yn priodi sefyllfa incwm a gwariant efo sefyllfa’r fantolen, sydd yn cynnwys gwybodaeth am y reserfau defnyddiadwy a’r reserfau na ellid eu defnyddio. Nodwyd bod reserfau defnyddiadwy, sef cronfeydd wrth gefn GwE wedi lleihau o £477k erbyn diwedd Mawrth 2024 gan adael balans o £677 mil.

 

Tynnwyd sylw at;

Nodyn 10 - Trosglwyddiad i/o Reserfau Defnyddiadwy  - dadansoddiad pellach o gronfa gyffredinol GwE a’r Gronfa Athrawon sydd newydd gymhwyso. Nodwyd bod £77k wedi ei ddefnyddio i gyllido gorwariant y flwyddyn tra bod £400k wedi ei ddefnyddio o’r gronfa Athrawon newydd gymhwyso.

Nodyn 15 - Reserfau na Ellir eu Defnyddio - bod y reserf pensiynau yn £0 ar gyfer 2023/24, gyda hyn yn cydymffurfio gyda gofynion cyfrifo ac yn ddigynsail cyn hyn, ond yn fater mwy cyffredin yn ddiweddar, ac yn bodoli oherwydd amodau presennol y farchnad a chwyddiant sydd wedi bod yn uchel. Ategwyd bod yr un peth yn wir yng Nghyfrifon Gwynedd a chyfrifon cynghorau eraill.

Nodyn 17 – Taliadau i Swyddogion - chwyddiant yn golygu bod mwy yn y bandiau cyflog yn 2023/24 i gymharu gyda 2022/23. Adroddwyd bod 64 o Uwch Swyddogion, wedi eu dynodi i dderbyn cyflog rhwng £60,000 a £150,000 yn 2023/24 o gymharu â 38 yn y flwyddyn flaenorol.

Nodyn 19 – Incwm Grant sydd wedi ei dderbyn ar gymhariaeth dros y ddwy flynedd gan nodi bod lleihad o dri chwarter miliwn yn y grantiau erbyn 2023/24 o’i gymharu a’r flwyddyn flaenorol.

Nodyn 22 – Costau Pensiwn - symudiad yn ffigyrau Pensiynau oherwydd amodau presennol y farchnad.

 

Gofynnwyd i’r Cyd-bwyllgor dderbyn a nodi’r Datganiad o Gyfrifon GwE (yn amodol ar archwiliad).

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a naid sylweddol  yn y nifer o weithwyr eraill a dderbyniodd mwy na £60,000 (17 yn 2022/23 i 43 yn 2023/24), nodwyd bod hyn oherwydd chwyddiant uchel a dyfarniad cyflog a bod hyn yn unol â’r gofynion diffiniedig.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DATGANIAD LLYWODRAETHU AR GYFER CYD-BWYLLGOR GwE pdf eicon PDF 143 KB

Derbyn a chymeradwyo y Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24.

Cofnod:

Cyflwynwyd y Datganiad Llywodraethu gan Euros Davies (Pennaeth Gwasanaeth GwE – Gwella Ysgolion). Adroddwyd bod Rheoliadau Cyfrifo ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2018 yn gosod gofynion penodol ar gyrff cyhoeddus sydd yn gweithredu trefniadau rheoli partneriaethol trwy gyd-bwyllgorau ffurfiol.  Ategwyd mai gofyniad Rhan 5 o’r Rheoliadau hynny yw i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo Datganiad Rheolaeth fewnol yn flynyddol fyddai’n cynnig fframwaith i weithrediad y Cydbwyllgor.    Cyfeiriwyd at y saith egwyddor llywodraethu sydd yn cael eu mesur gan adrodd nad oedd unrhyw faterion yn cael ei ystyried yn fater llywodraethu arwyddocaol ac ni adnabuwyd Materion Llywodraethu yn 2023/24. Ategwyd bod y trefniadau llywodraethu yn cynnig sicrwydd cryf bod trefniadau llywodraethu GwE yn gweithio'n dda.  

 

          Diolchwyd am yr adroddiad. Gwnaed sylw bod y Datganiad eisoes wedi cael ei ddilysu gan y Bwrdd Rheoli a fod y Bwrdd yn monitro materion yn ymwneud â llywodraethu yn barhaus ac felly cynigwyd ac eiliwyd cymeradwyo’r Datganiad.

 

          PENDERFYNWYD:

 

Derbyn a chymeradwyo'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2023/24

 

 

9.

CYLLIDEB GwE 2024/25: ADOLYGIAD HYD AT DDIWEDD AWST 2024 pdf eicon PDF 150 KB

Diweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·        Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad.

·        Bod cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng aelodau’r Cydbwyllgor a’r Bwrdd Trosiannol i rannu gwybodaeth a manylion ychwanegol e.e. costau staff, costau ailstrwythuro

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Cyngor Gwynedd oedd yn egluro bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw GwE am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd bod yr  adolygiad yn seiliedig ar wybodaeth diwedd Awst 2024 ac felly’n adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf ac y daw’r darlun yn gliriach wrth i’r misoedd fynd yn eu blaen.

 

Cyfeiriwyd at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol gan nodi bod y rhagolygon yn awgrymu y bydd y sefyllfa fwy neu lai yn un cytbwys, gyda rhagolygon o danwariant o oddeutu (£5 mil) erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion:

 

Gweithwyr – gorwariant o £46 mil. Cafodd cyllideb GwE ar gyfer y flwyddyn gyfredol ei sefydlu yn seiliedig ar nifer y staff yn Chwefror 2024. Eglurwyd bod arbediad wedi ei wireddu wedi i rai o aelodau staff GwE adael eu swyddi, gyda’r rhan fwyaf o’r ymadawiadau wedi digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r ffigyrau hefyd wedi ymgorffori penderfyniad y Cydbwyllgor ar y 1af Awst, i ailstrwythuro’r Uwch Dîm Reoli.

 

Rhent - gorwariant £10 mil - hyn yn unol â’r tueddiad hanesyddol. Rhagwelir y bydd GwE yn gorwario eto eleni a hynny o ganlyniad i GwE yn rhentu gofod mwy o faint yn swyddfa Caernarfon.

 

Cludiant – y darlun yn parhau i fod yn gyson gydag adolygiadau blaenorol gyda tanwariant o £41 mil ar y pennawd yma oherwydd bod costau teithio wedi lleihau o ganlyniad i ffyrdd newydd o weithio’n rhithiol a ddatblygwyd ers cyfnod covid.

 

Cyflenwadau a Gwasanaethau -  rhagwelir tanwariant o bron i £20 mil ar y pennawd yma.

 

Amlygwyd bod cronfa agoriadol o £221 o filoedd, ac y bydd y gronfa yn tyfu i £226 o filoedd yn dilyn ychwanegu’r tanwariant. Bydd adolygiad diwedd Hydref yn cael ei gyflwyno i gyfarfod mis Tachwedd o’r Cydbwyllgor.

 

Argymhellwyd i’r Cydbwyllgor dderbyn yr adroddiad adolygiad diwedd Awst 2024 o’r Gyllideb Refeniw.

 

         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a pham y gwelir gorwariant o dan y pennawd ‘Gweithwyr’ a hynny o ystyried bod 17 aelod o staff eisoes wedi ymadael, nodwyd eto y byddai’r darlun yn dod yn gliriach yn y misoedd nesaf gyda'r gyllideb yn debygol o arwain at dan-wariant bychan. Mewn ymateb i gwestiwn ategol os oedd y cyfanswm yn cynnwys costau ailstrwythuro a darpariaeth cost, nodwyd bod hyn wedi ei ystyried.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;

·        Er yn derbyn bod y gyllideb mwy neu lai ar darged, bod angen gwell dealltwriaeth o gostau staff, costau ailstrwythuro, hawliau gwyliau a’r goblygiadau ariannol sydd i hyn

·        Bod angen adroddiad ychwanegol gyda mwy o wybodaeth i ddeall y darlun yn llawn

·        Ciplun sydd ymabydd yn newid gyda threfniadau ailstrwythuro

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn a chymeradwyo'r adroddiad.

·        Bod cyfarfod yn cael ei gynnal rhwng aelodau’r Cydbwyllgor a’r Bwrdd Trosiannol i rannu gwybodaeth a manylion ychwanegol e.e. costau staff, costau ailstrwythuro

 

 

10.

COFRESTR RISG GwE pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i’r Cyd-bwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r gofrestr risg yn ddarostyngedig i nodi'r holl risgiau yn risgiau UCHEL (yn hytrach na CHANOLIG).

Rheswm: gyda diffyg amserlen a gwybodaeth, ei bod yn rhy gynnar yn y broses i ragfynegi yn wahanol

 

·       Sicrhau fod gwybodaeth o ran cynlluniau penodol a phrosesau trosglwyddo yn cael eu cyfathrebu yn gyson (misol) gyda’r Cydbwyllgor.

Cofnod:

Cyflwynwyd y gofrestr risg gan Rhys Williams (Pennaeth Gwasanaeth GwE - Dysgu Proffesiynol), oedd yn nodi mai pwrpas y gofrestr risg yw ffurfioli’r broses o adnabod risgiau a chymryd camau gweithredu dilynol i’w lliniaru.  Byddai rheoli'r risgiau'n effeithiol yn galluogi GwE i gefnogi'r amcanion strategol a'r blaenoriaethau strategol, gwneud defnydd effeithiol o adnoddau, a chyflawni’r deilliannau yn ôl y bwriad. Nodwyd bod y ddogfen yn ddogfen fyw sy’n cael ei hadolygu’n gyson a’r risgiau wedi cael eu hadolygu yng nghyd-destun y newidiadau arfaethedig i haen ganol y system addysg yng Nghymru a’r cyfnod trosiannol o wasanaeth Rhanbarthol i'r Awdurdodau Lleol.

 

Tynnwyd sylw at y Goblygiadau Ariannol gan fynegi nad yw'n glir beth fydd cost y newid sylweddol mewn polisi Llywodraeth Cymru mewn cyfnod anodd yn gyllidebol ac hefyd y Goblygiadau Personél  lle mae morâl a chymhelliant staff GwE yn hynod isel. Adroddwyd nad oedd eglurder eto o ran swyddi amgen i staff gwella ysgolion wedi mis Mawrth 2025 ac y bydd llai o secondiadau a diswyddiadau yn effeithio ar batrwm y tîm gan achosi

anghydbwysedd yn y cymorth i'r gwahanol sectorau.

 

Wrth drafod y risgiau yn unigol, nodwyd;

 

Cyllidol - bod Bwrdd Trosiannol bellach wedi ei sefydlu gyda Rheolwr Prosiect wedi ei benodi ac yn arwain ar y gwaith. Bydd y Bwrdd Trosiannol yn arwain at sicrhau bod amserlen glir yn ei le ac yn adnabod sefyllfa’r staff.

 

Adnoddau Dynol –bod cyfarfodydd tîm wedi eu trefnu i sicrhau bod  gwybodaeth am y cyfnod trosiannol yn cael ei rannu ar bob lefel yn gyson ynghyd â'r opsiynau sydd ar gael o ran cyflogaeth yn y dyfodol. 

 

Llywodraethiant – bod angen cylch gorchwyl sydd yn gwahaniaethu rhwng cyfrifoldebau’r Bwrdd Trosiannol a’r Cydbwyllgor.

 

Gofynnwyd i’r Cydbwyllgor adolygu a chymeradwyo cynnwys y gofrestr ynghyd â phenderfynu os oedd unrhyw risgiau y dymuna'r Cydbwyllgor eu cyflwyno i sylw'r Cabinet perthnasol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau;

·       Pryder bod y risgiau wedi symud o goch i oren. Yn derbyn bod Bwrdd Trosiannol wedi ei ffurfio ond mae’r amserlen yn parhau yn anhysbys.

·       Bod angen cyflwyno diweddariadau misol fydd yn hysbysu Cyd-bwyllgor GwE o gynlluniau / addasiadau penodol, yn arbennig materion adnoddau dynol.

·       Bod hi’n rhy fuan ym mhroses y cyfnod trosiannol i addasu’r risgiau i orenmae pethau yn cymryd amser, yn enwedig diswyddiadau.

·       Yn cynnig cadw’r risgiau yn goch. Er yn deall bod y sefyllfa yn anodd a bod materion yn datblygu, nid yw’r wybodaeth wrth law a gormod o gwestiynau heb ateb iddynt.

 

Cynigwyd ac eiliwyd nodi bod yr holl risgiau yn parhau yn risgiau UCHEL / COCH.

 

PENDERFYNWYD:

·       Derbyn a chymeradwyo’r gofrestr risg yn ddarostyngedig i nodi'r holl risgiau yn risgiau UCHEL (yn hytrach na CHANOLIG / OREN).

Rheswm: gyda diffyg amserlen a gwybodaeth, ei bod yn rhy gynnar yn y broses i ragfynegi yn wahanol.

·       Sicrhau fod gwybodaeth o ran cynlluniau penodol a phrosesau trosglwyddo yn cael eu cyfathrebu yn gyson (misol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.