Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Courtney Leigh Jones E-bost: courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Linda Morgan. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’’n fater
brys marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd
ar y 18 Rhagfyr 2025, fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18
Rhagfyr 2025, fel rhai cywir. |
|
|
STRATEGAETH CADW TEULUOEDD GYDA'I GILYDD I graffu’r ddarpariaeth bresennol a’r adnoddau
sydd ar gael
i wireddu’r strategaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd. Eglurwyd bod y
gwaith hwn yn canolbwyntio ar roi cymorth amserol a penodol er mwyn cefnogi
teuluoedd a’u cadw gyda’i gilydd ac yn ddiogel. Nodwyd bod strategaeth yr Adran
yn seiliedig ar egwyddor glir, i gadw teuluoedd gyda’i gilydd cyn cyrraedd
sefyllfa o argyfwng ac atal plant a phobl ifanc rhag mynd i ofal. Nodwyd mai
prif nod yr Adran ydi cadw plant a phobl ifanc gyda’i teuluoedd os yw’n saff i
wneud hynny a lleihau’r angen am ymyrraeth statudol. Nodwyd bod y strategaeth
yn dwyn ynghyd ystod o wasanaethau ataliol o fewn yr Adran Plant a Chefnogi
Teuluoedd, gan gynnwys: ·
Teuluoedd yn gyntaf ·
Tîm o amgylch y teulu ·
Tîm Cefnogi’r Teulu ·
Trobwynt ·
Derwen ·
Hafan y Sêr Pwysleisiwyd
bod cydweithio aml asiantaeth yn greiddiol i’r dull hwn gyda phartneriaid megis
iechyd, addysg, tai a'r trydydd sector yn cyfrannu at gefnogi teuluoedd.
Amlygwyd bod yr adroddiad yn amlinellu’r galw cynyddol ar y gwasanaethau hyn, y
cymhlethdod cynyddol o ran anghenion teuluoedd a’r pwysau ar adnoddau, gan
gynnwys dibyniaeth ar gyllid grant. Tynnwyd sylw at y cynnwys sydd yn dangos
bod y gwaith ataliol hwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol, wrth helpu sefydlu
teuluoedd a lleihau'r angen i blant ddod i ofal. Nodwyd bod yr hybiau cymunedol
hefyd yn helpu hybu gwybodaeth ar gyfer y teuluoedd. Diolchwyd
am yr adroddiad a chanmolwyd y gwaith sydd yn mynd rhagddo yn yr Adran wrth
warchod teuluoedd mwyaf bregus Gwynedd. Cydnabuwyd bod y gwasanaeth yn gymhleth
ac aml haenog a chanmolwyd ymroddiad y staff i gefnogi a diogelu plant a phobl
ifanc y sir. Yn
ystod y drafodaeth, cododd y sylwadau a chwestiynau a ganlyn; Wrth
gyfeirio at ran 4.16 yn yr adroddiad, holwyd os yw’r niferoedd o blant a phobl
ifanc sydd yn aros am asesiad ASD/ADHD yn cynnwys asesiadau awtistiaeth hefyd.
Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y nifer o blant a phobl ifanc cyfeiriwyd at yn yr
adroddiad yn cynnwys amrywiaeth eang o blant a phobl ifanc sydd yn niwro wahanol, gan
gynnwys awtistiaeth, dyspracsia, dyslecsia ayyb. Cyfeiriwyd at cyfarfod diweddar o’r Panel Rhiantu Corfforaethol lle bu gynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd yn mynychu, gan nodi bod y rhestrau aros am y cyflyrau yma yn cynyddu. Mynegwyd siom am hyn a nodwyd bod diagnosis am y cyflyrau yma gan seicolegydd yn holl bwysig er iechyd a lles unigolion. Hyderwyd bod y Bwrdd Iechyd bellach yn buddsoddi yn y gwaith hyn er mwyn sicrhau bod y rhestrau aros yn dod i lawr er mwyn cyfarch y galw cynyddol a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn aros mwy na 3 blynedd am asesiad. Gobeithiwyd bydd 2 flynedd yn fwy cyffredin o ran amser aros cyn bo hir. Atgyfnerthwyd bod gwaith y Tîm Awtistiaeth yng Ngwynedd yn cefnogi’r gwaith a’r strategaeth hwn wrth gynnig arbenigedd hanfodol a chynhwysfawr. Nodwyd eu bod yn cydweithio’n agos iawn efo’r Tîm Niwroddatblygiadol o fewn y Bwrdd Iechyd i gefnogi plant a phobl ifanc tra eu bod yn aros am ddiagnosis. Nodwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
GWASANAETH CYFIAWNDER IEUENCTID Sicrhau
bod y gwasanaeth yn effeithlon Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd. Nodwyd bod y
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) Gwynedd a Môn yn wasanaeth statudol, amlasiantaethol, sydd yn cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd ac yn
weithredol ar draws y ddwy sir. Nodwyd bod rôl y gwasanaeth yn ganolog i atal
troseddu ac ail droseddu gan blant a phobl ifanc gan weithredu o fewn
fframwaith Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998, trwy ddull ‘Plentyn yn Gyntaf’ sy’n
canolbwyntio ar gryfderau, llesiant a ad- sefydlu. Amlygwyd bod yr adroddiad yn
rhoi trosolwg o strwythur y gwasanaeth, trefniadau llywodraethu a chyllido, a’r
ffordd mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phlant ar draws sbectrwm eang o ymyraethau.
O atal a dargyfeirio tu allan i’r llys, hyd at orchmynion llys statudol a
chefnogaeth mewn cyd-destunau mwy cymhleth, yn cynnwys dalfa ac ail sefydlu.
Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth fanwl am berfformiad y
gwasanaeth, gan gynnwys canlyniadau arolygiad HMIP yn 2023/24. Yn yr arolygiad,
nodwyd bod y gwasanaeth yn dda a bod safon uchel o safon o asesu o fewn y
gwasanaeth. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod heriau sylweddol i’r gwasanaeth yn
parhau, gan gynnwys trais ieuenctid, troseddau cyllell, canlyniadau addysgol
gwael, anghenion iechyd meddwl a lleferydd, a’r pwysau ariannol sydd yn
gysylltiedig â’r ddibyniaeth ar grantiau. Eglurwyd mai pwrpas yr adroddiad hwn
yw rhoi sicrwydd o effeithiolrwydd y gwasanaeth, galluogi aelodau i holi a herio
trefniadau presennol a chynnig mewnbwn i gefnogi datblygiad parhaus y
gwasanaeth mewn cyd-destun o alw cynyddol a chymhlethdod. Bu
cyfle i aelodau mynegi sylwadau a gofyn cwestiynau. Yn ystod y drafodaeth,
cododd y sylwadau a ganlyn; Holwyd pa gynnydd sydd wedi digwydd wrth i’r gwasanaeth weithredu’r cynllun
gwella yn dilyn arolygiad HMIP. Cadarnhawyd bod y Cynllun
Gwella wedi ei sefydlu ym mis Mawrth 2024. Nodwyd bod y
bwrdd rheoli yn adolygu cynnydd y cynllun yn drylwyr bob chwarter. Cadarnhawyd eu bod wedi cyflawni tua 80% o’r amcanion
gweithredu yn y Cynllun yn bresennol, a bydd arolygiad
terfynol o’r Cynllun yn digwydd ym mis Mawrth 2026. Wrth gyfeirio at y
dadansoddiad cynnydd, cydnabuwyd bod rhai materion dan sylw
sydd angen eu cwblhau, megis, darparu Adroddiad
Diogelu ar gyfer y grŵp Cyflawni Diogelu Lleol, Adolygu CLG ac arferion
gweithio gyda CAMHS. Hyderwyd bod y rhan fwyaf o’r argymhellion wedi eu cwblhau. Mynegwyd pryder bod y gwasanaeth wedi bod heb gefnogaeth Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu ers 6 mlynedd, oherwydd diffyg darpariaeth adnoddau. Holwyd beth sydd yn digwydd i geisio goresgyn y broblem yma. Cydnabuwyd bod hyn yn un o brif gyfyngiadau’r gwasanaeth a’i fod yn broblem ar draws y sector Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru. Mynegwyd mai Gwynedd oedd ar y rheng flaen yng Nghymru efo’r ddarpariaeth iaith a lleferydd yn 2007/2008. Nodwyd bod hyn yn arloesol ar y pryd ac y cafodd ei gyllido gan arian grant. Eglurwyd bod y ddarpariaeth yma wedi dod i ben yn 2012 oherwydd diffyg cyllid ac adnoddau. Eglurwyd bod ymdrechion i archwilio opsiynau ar gyfer cymorth ac adnoddau yn y maes ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
TIM 16+ (GADAEL GOFAL) Sicrwydd o
ran y ddarparieth ar gyfer rhai 16 oed + Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd. Nodwyd bod y Tîm Ôl 16 wedi ei sefydlu fel tîm penodol i ganolbwyntio ar yr achosion sydd yn agored i’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd rhwng 16 a 25 oed. Nodwyd bod y tîm yn cefnogi pobl ifanc sydd angen gofal a chefnogaeth, sydd mewn gofal neu sydd wedi gadael gofal. Pwysleisiwyd bod y gefnogaeth yn wirfoddol, ond bod y rhan fwyaf o bobl ifanc yn manteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael. Cadarnhawyd bu 249 achos yn agored i’r Tîm ar ddechrau Ionawr. Rhoddwyd trosolwg o gyllideb y Tîm, gan nodi bod £1,040 miliwn ar gael i ddiwallu anghenion pobl ifanc. Nodwyd bod rhan helaeth o’r gyllideb (£800,000) ar gyfer anghenion llety a chefnogaeth. Holwyd os yw trefnu llety ar gyfer unigolion yn heriol ar hyn o’r bryd. Mewn ymateb, eglurwyd mai’r nod cyntaf yw cadw’r bobl ifanc yn eu cartref gyda’r teuluoedd os ydi hyn yn bosib. Er hyn, derbyniwyd nifer o gyfeiriadau o ddigartrefedd sydd yn ychwanegu at y galw am lety. Manylwyd ar y dyraniad gwaith a’r prosesau. Esboniwyd bod gweithiwr penodol yn cael ei ddynodi ar gyfer bob achos, gan ddibynnu ar natur yr achos. Nodwyd bod Gweithiwr Cymdeithasol hefyd yn ymgymryd â’r asesiadau ar gyfer achosion Gofal a Chefnogaeth. Adroddwyd bod yr ymyrraeth a gynigir yn ddibynnol ar yr achos unigol, wrth i asiantaethau gydweithio i gynllunio a diwallu anghenion yr unigolyn. Nodwyd eu bod yn canolbwyntio ar lesiant, sefydlogrwydd, addysg, gwaith, hyfforddiant a datblygu sgiliau annibynnol. Cyfeiriwyd at y nifer o Geiswyr Lloches sydd yng Ngwynedd ar hyn o’r bryd. Nodwyd bod 32 o’r cyfanswm o 249 achos sy’n agored i’r Tîm Ôl 16 yn Geiswyr Lloches, wedi dyraniad Gwynedd. Cydnabuwyd bod hyn yn ganran uchel, yn unol â’r cwota sydd wedi ei derbyn, dan Gynllun Trosglwyddo’r Swyddfa Gartref. Pwysleisiwyd mai cyfrifoldeb Gwynedd ydi sicrhau cefnogaeth a llety iddynt, oherwydd eu bod yn cael eu trin fel plant mewn gofal nes eu bod yn 18 oed. Wrth droi yn 18 oed maent yn cael eu hystyried fel Gadawyr Gofal ac yn gyfrifoldeb ar yr awdurdod lleol nes eu bod yn 25 oed. Ymhelaethwyd ar yr heriau a goblygiadau hynny, gan gyfeirio at gyfyngiad gwybodaeth gefndirol, dymuniadau, anghenion, trawma a lles emosiynol. Nodwyd bod y wybodaeth a geir drwy’r cyfeiriad yn sylfaenol iawn. Ategwyd bod iaith hefyd yn rhwystr, yn ogystal ag ansicrwydd y bobl ifanc a’r diffyg dealltwriaeth am y broses. Manylwyd ar y Cynllun Llwybr, gan nodi bod disgwyliad i bob person ifanc sydd yn gadael gofal fod a Chynllun Llwybr sydd yn cael ei adolygu yn rheolaidd yn ôl yr angen. Nodwyd bod cynnwys y Cynllun yn amrywio o unigolyn i unigolyn, ac yn dibynnu ar eu sefyllfa bersonol. Mynegwyd bod pwyslais ar sefydlogi a chael llety sefydlog a diogel i fyw fel blaenoriaeth, yn ogystal â threfnu addysg bellach, yn ôl gallu'r unigolyn. Eglurwyd bod meithrin perthynas gwell efo aelodau teulu a rhieni hefyd yn elfen, ac y caiff ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |