Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Courtney Leigh Jones 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Sian Williams, Robert Dewi Owen, Anwen Jane Davies, Arwyn Herald Roberts,. 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mari Edwards (Rheolwr Dysgu a Datblygu), Catrin Love (Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sydd yn fater brys, ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Ni nodwyd unrhyw faterion brys. 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 122 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 04 Tachwedd 2025 fel rhai cywir.

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 04 Tachwedd 2025 fel rhai cywir.  

5.

CEFNOGAETH I GYNGHORWYR pdf eicon PDF 169 KB

I nodi’r sylwadau a derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

I dderbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Tîm Democratiaeth. Soniwyd am yr Holiadur Bodlonrwydd sydd yn cael ei ddosbarthu i’r aelodau yn flynyddol ac yn holi am y gwasanaeth sydd yn cael ei gynnig gan y Tîm Gwasanaethau Democratiaeth. Nodwyd bod 27 Aelod wedi ymateb i’r Holiadur, sydd yn llai na’r cyfartaledd sydd wedi ymateb dros y blynyddoedd diwethaf. Cydnabuwyd bod y cyfnod prysur gyda chyfarfodydd arbennig o’r Cyngor Llawn a Phwyllgorau Craffu o bosib wedi arwain at lai yn ymateb. Er hyn, amlygwyd bod 88% wedi nodi fod y gwasanaeth yn “dda iawn” gyda 11% yn nodi “da”, sydd yn gynnydd o’r llynedd pan nododd un Cynghorydd fod y safon yn “dderbyniol”. Amlygwyd rhai enghreifftiau o’r sylwadau a dderbyniwyd sydd yn dynodi bodlonrwydd uchel, gydag argaeledd a phrydlondeb ymateb y tîm yn cael ei amlygu wrth iddynt gynnig cefnogaeth o ansawdd. Cyfeiriwyd at awgrymiadau aelodau i wella’r ddarpariaeth. Nodwyd bod aelod wedi cynnig byddai ‘cael gwybodaeth gyfredol a chywir ar safle'r cyngor i gynghorwyr am enwau staff pob adran a rhif ffôn yn ddefnyddiol’. Cynigodd Aelod y syniad o ddatblygu Ap, a chadarnhaodd yr Arweinydd Tîm y byddai yn cysylltu gyda’r unigolyn i drafod y syniad ymhellach. Wrth gyfeirio at y bwletin aelodau, sydd yn mynd allan i aelodau yn wythnosol, cadarnhawyd bod yr holiadur yn dangos bod rhan fwyaf o’r aelodau yn ei ddarllen ac yn fodlon gyda’r cynnwys. Adroddwyd bod Aelodau wedi mynegi rhwystredigaeth am oedi mewn ymateb gan Swyddogion ac Adrannau o fewn y Cyngor a sicrhawyd bod gwaith pellach yn mynd rhagddo gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol i edrych mewn manylder ar y mater. Gobeithiwyd byddai adroddiad pellach yn diweddaru ar y gwaith yma yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn ystod tymor yr haf. Croesawyd i Aelodau i gysylltu efo’r tîm ar unrhyw bryd am unrhyw gymorth. Mynegodd Aelod ei fod wedi cael trafferth cwblhau’r Holiadur Aelodau ar-lein. Mewn ymateb, cadarnhawyd byddai’r Adran yn gyrru copi ar bapur iddo drwy’r post i’r dyfodol. Wrth gyfeirio at yr Holiadur, eglurwyd bydd y wybodaeth sydd yn deillio o’r ymatebion yn cael ei ddefnyddio wrth baratoi’r gwaith etholiad ar gyfer y flwyddyn nesaf. Holodd Aelod am fwy o fanylion ynglŷn â'r gwelliannau ar y gweill erbyn etholiad 2027. Mewn ymateb, sicrhawyd bod y gwasanaeth yn ymrwymedig i ddarparu’r gefnogaeth gorau posib i aelodau’r sir. Cadarnhawyd bod yr Arweinydd Tîm Democratiaeth a Rheolwr y Gwasanaeth yn y broses o greu rhaglen waith ar gyfer etholiad 2027 i ddatblygu a mireinio’r gwasanaeth sydd yn cael ei ddarparu. Gobeithiwyd cyflwyno adroddiad ar y gwaith i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ym mis Mehefin, fydd yn nodi’r camau gweithredol ar y gweill ac yn cynnig cyfle i gael mewnbwn yr aelodau i sicrhau eu bod yn rhan o’r broses ragweithiol o lunio’r rhaglen croesawu ac anwytho erbyn y cyfnod etholiadol. Manylwyd fod ail holiadur wedi ei anfon eleni, sef y ‘Mewnrwyd a Mwy’, gyda 19 aelod yn nodi eu bod yn gwneud defnydd cyson o’r Fewnrwyd aelodau. Nodwyd bod elfennau angen eu gwella er  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CALENDR PWYLLGORAU 2026/27 pdf eicon PDF 170 KB

Argymhell y Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2026/27 i’r Cyngor Llawn ei fabwsiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r newidiadau a ychwanegiadau a drafodwyd, gan argymell y Calendr Pwyllgorau i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd Tîm Gwasanaethau Democratiaeth. Amlygwyd bod dyddiad y cyfarfod Blynyddol y Cyngor Llawn eleni wedi cael ei wthio ymlaen i 14 o Fai, oherwydd bod etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar y 7fed o Fai 2026. Cadarnhawyd bod y calendr wedi’i drafod gyda’r Parc Cenedlaethol a’r Gwasanaeth Tân, ac o ganlyniad bu’n angenrheidiol addasu rhai dyddiadau er mwyn lleihau ac osgoi gwrthdaro rhwng cyfarfodydd. Penderfynwyd yn y Fforwm Craffu bydd dau gyfarfod (o’r Pwyllgor Addysg ac Economi a’r Pwyllgor Craffu Gofal) yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf er mwyn osgoi cynnal y cyfarfodydd yn ystod y cyfnod cyn etholiadol. Nodwyd nad yw’r dyddiadau yma wedi eu nodi yn y calendr ddrafft ond byddent yn cael eu hychwanegu cyn cyhoeddi papurau cyfarfod y Cyngor Llawn. Amlygwyd bod dyddiad y Cyngor Llawn ym mis Mai 2027 yn hwyrach ymlaen hefyd oherwydd etholiad awdurdod lleol, a bydd angen cyfnod i anwytho aelodau newydd cyn cyfarfod blynyddol y Cyngor. Holodd aelod os oes modd cynnwys y cyfarfodydd anffurfiol yn y Calendr. Mewn ymateb, cadarnhawyd y bydd swyddogion yn gwneud pob ymdrech i adnabod dyddiadau cyfarfodydd mor fuan â phosib ar ôl mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ffurfiol er mwyn sicrhau bod Aelodau yn derbyn gwahoddiadau i’r cyfarfodydd sydd i ddod yn y flwyddyn. Tynnwyd sylw at y ffaith mai un cyfarfod yn unig sydd wedi ei raglennu ar gyfer y Pwyllgorau Harbwr ar draws y sir. Cydnabuwyd mai camgymeriad yw hyn a bydd hwn yn cael ei addasu cyn i’r papurau ffurfiol gael eu cyhoeddi ar gyfer mabwysiadu yn y Cyngor Llawn. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y nifer o gyfarfodydd sydd yn cael eu cynnal yn flynyddol yn seiliedig ar y penderfyniad a geisir yn y Cyngor Llawn yn 2022. Cyfeiriwyd at yr holiadur a gafodd ei anfon at yr holl aelodau yn 2022. Cadarnhawyd bod Aelodau wedi cael cyfle i nodi pa amseroedd fydd mwyaf cyfleus iddynt fynychu cyfarfodydd er mwyn hwyluso’r trefniadau. Atgoffwyd yr aelodau y bydd holiadur yn mynd allan i aelodau eto yn syth ar ôl yr etholiad awdurdod lleol/ cychwyn y tymor etholiadol nesaf, er mwyn darganfod dymuniadau aelodau ar gyfer y cyfnod nesaf. Holodd Aelod beth yw’r posibilrwydd o gynnal mwy o gyfarfodydd hybrid a llai o gyfarfodydd rhithiol yn unig. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod y gwasanaeth eisoes yn cynnal darpariaeth cyfarfodydd hybrid i gyfarfodydd Y Cyngor Llawn, Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Chynllunio yn dilyn egwyddor sefydlwyd yn 2021. Eglurwyd bod cynnal cyfarfodydd hybrid angen llawer mwy o adnoddau o gymharu â chyfarfodydd rhithiol yn unig. Sicrhawyd yr aelodau y bydd ystyriaeth ynghylch cynyddu darpariaeth hybrid yn mynd rhagddi a bod y sefyllfa yn cael ei fonitro a’i adolygu yn gyson. Gofynnwyd am fwy o fanylion ynghylch cofnod presenoldeb mewn pwyllgorau a chyfarfodydd. Cadarnhawyd bod presenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol yn cael eu cofnodi ar safle we’r Cyngor. Ystyriwyd rhesymau amrywiol Aelodau am fethu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd a phwyllgorau, a gofynnwyd beth yw’r posibilrwydd o adlewyrchu’r rhesymeg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU pdf eicon PDF 60 KB

I gynnig unrhyw awgrymiadau pellach cyn derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Nodi a derbyn yr adroddiad.
  2. Gofyn am  adolygu  teitlau’r Hyfforddiant Craidd i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd Talent a Phrentisiaethau, yn absenoldeb y Rheolwr Dysgu a Datblygu. Cadarnhawyd penodiad Swyddog Datblygu Aelodau newydd a chroesawyd Catrin Owen i’r swydd. Manylwyd ar yr 8 Maes Craidd sydd wedi eu hadnabod i Aelodau, gan nodi bod Aelodau yn cael eu hannog a’u hatgoffa yn barhaus i’w cwblhau fel isafswm er mwyn gallu cyflawni eu rôl fel cynghorwyr yn effeithiol. Mynegwyd siom nad oes cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o Aelodau sydd wedi cwblhau rhagor o’r teitlau craidd ers mis Chwefror llynedd. Mynegwyd rhwystredigaeth bellach fod 7 Aelod heb gwblhau dim un o’r wyth teitl Craidd, yn dilyn amryw geisiadau i wneud. Atgoffwyd bod darpariaeth y cyrsiau craidd ar gael ar lein i aelodau gael mynediad iddynt ar unrhyw adeg a chroesawyd aelodau i gysylltu unrhyw bryd os oes unrhyw drafferthion. Nodwyd bod yr adran wedi uwch lwytho fideos a datblygu adnoddau ar y Fewnrwyd Aelodau i geisio hwyluso trefniadau. Eglurwyd bod hyn yn galluogi aelodau i wylio’r fideos ar amser cyfleus iddynt. Anogwyd aelodau i fynychu’r sesiwn hyfforddiant diogelu ar y 6 o Fawrth. Soniwyd bod cyfle i Aelodau dderbyn sgyrsiau datblygiad personol a bod rhai eisoes wedi manteisio ar y cynnig. Croesawyd Aelodau i gysylltu efo’r Rheolwr Dysgu a Datblygu’r adran os ydynt awyddus i ychwanegu unrhyw deitl neu sesiwn hyfforddiant gan ei fod yn flwyddyn olaf y cyfnod etholiadau presennol. Cyfeiriwyd at y teitl newydd - ‘Arweinyddiaeth Ward’ sydd mewn datblygiad ar hyn o’r bryd, gan nodi bod trefniadau mewn lle i sefydlu hwn yn fuan. Ymhelaethwyd bod trafodaethau gyda phenaethiaid adran yn mynd rhagddynt i bennu cynigion hyfforddiant pellach ar gyfer y cyfnod etholiadol newydd. Mynegwyd siom bod 6 aelod heb gwblhau dim o’r hyfforddiant, yn enwedig y maes Cod Ymddygiad. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cwblhau’r cyrsiau craidd, Nodwyd pwysigrwydd y cyrsiau craidd a’r posibilrwydd o’u hailenwi fel meysydd mandadol. Atgoffwyd bod y nifer o gyrsiau a gwblhawyd gan aelodau bellach yn wybodaeth gyhoeddus ar wefan y Cyngor. Holwyd os yw’n bosib i’r aelodau dderbyn negeseuon atgoffa personol ac uniongyrchol yn nodi yn union pa hyfforddiant nad ydynt wedi cwblhau. Esboniwyd bod nodyn ar gael ar dudalen personol aelodau ar y fewnrwyd i ddangos y wybodaeth yma ac yn nodi yn glir pa hyfforddiant craidd sydd wedi ei gwblhau. Anogwyd aelodau i gysylltu efo’r Swyddog Dysgu a Datblygu Aelodau os oes ganddynt unrhyw ymholiadau. Holodd Aelod os oes modd i’r Pwyllgor weithredu i sefydlu maes hyfforddiant LGBTQI+ fel hyfforddiant craidd ychwanegol. Mynegodd Aelod ei fod yn gwrs ddefnyddiol iawn ac yn helpu lawer o ran yr iaith addas i ddefnyddio yn y gymuned LGBTQI+. Atgyfnerthwyd byddai’r cwrs yma yn helpu sicrhau bod aelodau’r Cyngor yn fwy agored a chroesawgar. Soniwyd bod modd adolygu’r holl feysydd craidd i aelodau dros y flwyddyn nesaf ac adnabod pa hyfforddiant craidd bydd disgwyl i’r aelodau eu cwblhau a’u dilyn yn y cylch etholiadol nesaf. Mynegwyd yr awydd i aelodau gwblhau’r holl deitlau maes craidd yn fuan iawn yn y cyfnod etholiadol nesaf. Ystyriwyd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.