Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Craig ab Iago, Iwan Huws, Linda Ann Jones, Eryl Jones-Williams, Llio Elenid Owen, Gareth A.Roberts, Einir Wyn Williams ac Eirwyn Williams.

 

2.

COFNODION

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion  y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf, 2023 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cydymdeimlwyd â’r canlynol:-

 

·           Y Cynghorydd Louise Hughes a’r teulu ar farwolaeth ei mam yn ystod yr haf.

·           Mrs Sharon Warnes, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’r teulu yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ddiweddar.

 

Nodwyd hefyd y bu farw’r Cynghorydd Pete Prendergast, Cadeirydd Cyngor Sir Ddinbych, ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a chydymdeimlwyd â’i deulu a’i gyd-gynghorwyr yng Nghyngor Sir Ddinbych.

 

 

Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Dymunwyd y gorau i Mrs Sharon Warnes, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, oedd yn methu bod yn bresennol yn y cyfarfod hwn oherwydd triniaeth ysbyty.

 

Llongyfarchwyd:-

 

·         Pawb fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst, ac yn arbennig Rhys Iorwerth o Gaernarfon, Alan Llwyd, Treforys, ond yn wreiddiol o Abersoch, ac Alun Ffred, cyn Arweinydd y Cyngor hwn, ar gipio’r Goron, Y Gadair a Gwobr Goffa Daniel Owen.  Diolchwyd hefyd i bawb fu’n helpu yn yr Eisteddfod. 

·         Rhodri Jones, Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth, ar ei ethol yn Aelod Hŷn y Flwyddyn, Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Eryri yn ddiweddar.

·         Y dyfarnwr pêl-droed Cheryl Foster, yn enedigol o Fangor, ar fod y dyfarnwr benywaidd cyntaf i gymryd yr awenau mewn gêm yn Uwch Gynghrair Cymru.  Ar 9 Ionawr 2023, penododd FIFA hi i'r pwll gweinyddu ar gyfer Cwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn Awstralia a Seland Newydd, ac yn ôl ym mis Mai eleni, cafodd ei henwi fel y dyfarnwr ar gyfer rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2023 rhwng Barcelona a Wolfsburg ar 3 Mehefin 2023.

·         Drws i Ddrws ar ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth yn Nwyfor ac Eifionydd.  Deellid hefyd bod Bwrdd Drws i Ddrws yn awyddus i ddiolch i Gyngor Gwynedd am ei gefnogaeth yn ystod y blynyddoedd hynny.

·         Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn ar gerdded 206 o filltiroedd o Fangor i Gaerdydd er mwyn gwthio’r ymgyrch i ail-agor y llinellau rheilffordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin ac o Fangor i Afonwen.  Nodwyd hefyd bod deiseb ar y mater wedi llwyddo i ddenu dros 13,000 o lofnodion.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU

Ystyried unrhyw gwestiynau  y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 y Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Gruffydd Williams

 

“Yn dilyn cyhoeddiad fod Barclays am gau mwy o ganghennau gan gynnwys Pwllheli, a gaf i ofyn paham nad ydi'r Cyngor wedi ystyried bygwth newid banc gan mai Barclays ydi’r banc sydd yn cael ei ddefnyddio gan Y Cyngor?  Petai'r Cyngor yn bygwth symud i fanc arall yn ogystal â gofyn i gynghorau sir eraill ddilyn esiampl, yna efallai y buasai’n bosib’ dwyn perswâd arnynt i beidio cau canghennau.”

 

Ateb – Aelod Cabinet Cyllid, Y Cynghorydd Ioan Thomas

 

“Rwy’n credu ei bod yn wir i ddweud bod pob un ohonom yn tristau o weld cangen banc yn cau, ond mae nifer yr ymwelwyr a’r defnyddwyr i’r banciau yma wedi lleihau yn sylweddol.  Mae ffaith gan gwmni Which yn nodi bod 5,838 cangen wedi cau ers 2015.  Mae hynny’n gyfartaledd o 54 cangen yn cau bob mis ers 2015, ac mae yna ymhell dros 300 o ganghennau wedi cau yng Nghymru ers 2015.

 

Nid cyfrif mewn cangen benodol o fanc Barclays sydd gan y Cyngor, ond mae’n gytundeb corfforaethol, ac mae’r cytundeb yna tan fis Medi’r flwyddyn nesaf.  Bydd dechrau negodi am gytundebau a bydd yna groeso, wrth gwrs, i fanciau eraill roi pris i mewn am y gwasanaeth i’r Cyngor.  Rhaid i mi nodi, fodd bynnag, mai nifer fechan iawn iawn o fanciau sy’n delio hefo cynghorau, awdurdodau fel Gwynedd, ac felly mae yna bosibilrwydd na fydd yna lawer iawn yn ymgeisio amdano, ond mae’r broses yna am gychwyn ddechrau’r flwyddyn.”

 

(2)     Cwestiwn Y Cynghorydd Dewi Jones

 

“Pa gamau mae Cyngor Gwynedd am eu cymryd yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar dlodi yn Arfon gan y Sefydliad Bevan ym mis Awst?”

 

Ateb – Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Economi, Y Cynghorydd Nia Jeffreys

 

“Diolch yn fawr i’r aelod a’i gyd-gynghorwyr am y gwaith dydd i ddydd rydych chi’n wneud yn Arfon.  Rwy’n rhannu angerdd yr aelod am y pwnc yma, ac rwy’n gwybod hefyd bod Arweinydd y Cyngor a phob Aelod Cabinet hefyd yn gweld pa mor bwysig ydi’r pwnc yma.  Rydym wedi blaenoriaethu'r gwaith yma.  Rydym wedi rhoi pres i mewn i’r gwaith, ac mae’n digwydd yn drawsadrannol, ar draws bob adran o’r Cyngor.  Nid yw’r atebion i hyn bob amser mewn lle amlwg, er enghraifft, yr Adran Cyllid, a hoffwn ddiolch iddyn nhw’n benodol am eu gwaith blaengar yn y maes yma.  Diolch eto am godi’r cwestiwn ac uchafu’r mater yma yn y Cyngor llawn.  Os oes gan unrhyw gynghorydd awgrym ynglŷn â beth yn fwy medrwn ni wneud yn y maes, plîs cysylltwch â mi, achos, fel arall, pam ydym ni yma fel cynghorwyr neu swyddogion, os nad i helpu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas yng Ngwynedd?”

 

Cwestiwn Atodol y Cynghorydd Dewi Jones

 

“Ar drothwy beth fydd yn aeaf caled arall i lawer, ydi’r Dirprwy Arweinydd yn cytuno â mi bod ‘austerity’ wedi bod yn fethiant llwyr a bod Llywodraeth Prydain yn euog o daflu rhai o’r bobl fwyaf  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2022-23 pdf eicon PDF 163 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2022-23.

 

Cofnod:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad 2022/23.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor a’r Tîm am eu gwaith yn paratoi’r adroddiad.  Yna cyfeiriodd at y sefyllfa gyllidol anodd dros ben sy’n wynebu’r Cyngor, gan nodi:-

 

·         Nad oedd yn argoeli’n dda i setliad cynghorau sir ar draws Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac er bod Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa gyllidol gref, a’n bod wedi ymfalchïo dros y blynyddoedd yn y ffaith ein bod yn effeithiol yn delio gydag arian y Cyngor, y byddai’r Cyngor hwn hefyd yn gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn y tro hwn.

·         Bod mwyafrif arian y Cyngor yn cael ei wario ar addysg, oedolion a phlant, sef y meysydd hynny sy’n meithrin dyfodol ein plant ac yn gofalu am y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas, a phe dymunid amddiffyn y gwasanaethau hynny, o ble fyddai’r toriadau pellach yn dod?

 

Anogwyd pawb o’r aelodau i fynychu un o’r 3 gweithdy arbedion a drefnwyd ym mis Hydref.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at rai materion penodol, gan nodi:-

 

·         Bod y gostyngiad o 4,500 ym mhoblogaeth Gwynedd, gyda 1,400 yn llai o aelwydydd yn y Sir (yn ôl ffigurau’r Cyfrifiad diwethaf) yn destun pryder iddo gan fod hynny’n cael effaith uniongyrchol ar ein setliad o £1.6m.  Yn fwy na hynny, roedd yna ystyriaethau economaidd sylweddol iawn o golli poblogaeth, sy’n rhoi mwy fyth o bwys ar ein gwaith wrth geisio datblygu’r economi, denu swyddi o safon uchel i’r ardal a denu pobl ifanc yn ôl i Wynedd.

·         Bod y gyfundrefn addysg yng Ngwynedd yn arloesol ac yn gosod y safon drwy Gymru gyfan, e.e. y drefn drochi newydd, ac na chytunai â’r feirniadaeth gyhoeddus sydd wedi bod o drefn addysg Gwynedd.

·         Bod Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn un o’r ymyraethau sydd gan y Cyngor yn y maes tai i geisio cael rheolaeth ar y llif o ail-gartrefi a gosod tymor byr sy’n niweidio ein cymunedau ac yn cyfrannu at y diboblogi a welir yn y Cyfrifiad.  Er hynny, ni chredid y byddai Erthygl 4 yn cael gymaint o effaith ag y mae pobl yn credu, ac ni chredid chwaith y byddai mor effeithiol â hynny yn cael rheolaeth ar y maes ail gartrefi.  Cydnabyddid bod yna bryder ynglŷn ag Erthygl 4, a byddai’r Cyngor yn edrych yn ofalus iawn ar y pryderon hynny wrth ddadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, gan gymryd cyngor cyfreithiol ychwanegol, petai angen, er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i’r cyfeiriad iawn.  Byddai’r gwaith o ddadansoddi canlyniadau’r ymgynghoriad yn digwydd o hyn i ddiwedd y flwyddyn, gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

·         Bod yna broblem sylweddol o ran y ddarpariaeth gofal dwys ar draws y sir, a bod y datblygiad ym Mhenrhos yn o’r cynlluniau arloesol gwych sydd gan y Cyngor, ar y cyd â’r Bwrdd Iechyd a Chymdeithas Tai Clwyd Alun, i gyfarch hynny.

·         Gan fod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2022-23 pdf eicon PDF 316 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2022/23.  Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, Mrs Sharon Warnes, oherwydd gwaeledd, a hefyd gan nad oedd yn bosib’ i’r Is-gadeirydd, Mr Eifion Jones, na’r un o’r aelodau lleyg eraill fod yn bresennol ar fyr rybudd, fe gyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Rowlinson, fel aelod etholedig ar y Pwyllgor.

 

Nododd y Cynghorydd Paul Rowlinson ei bod yn bleser ganddo gyflwyno adroddiad cyntaf y Cadeirydd, ar sail gofynion statudol Llywodraeth Cymru, yn amlinellu sut mae’r Pwyllgor wedi mynd ati i ystyried y ffactorau anodd sydd wedi wynebu’r Cyngor dros y cyfnod ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor ar sut mae’r Cyngor wedi ymateb yn gadarn i’r risgiau hynny.

 

Diolchwyd i’r holl swyddogion sy’n cefnogi gwaith y Pwyllgor mewn modd trylwyr a phroffesiynol a diolchwyd hefyd i’r Aelodau Etholedig a Lleyg am eu cyfraniad allweddol i waith y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

9.

ADOLYGIAD CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 249 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad a restrir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor a’r atodiadau ynglŷn â:-

 

(i)            Swyddogaethau Cyngor Llawn;

(ii)          Asesiad Perfformiad Panel;

(iii)         Amserlen Cwestiynau gan Aelodau; a

(iv)         Trothwy ariannol ar gyfer selio contractau.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y Cyngor i fabwysiadu cyfres o newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y’u rhestrwyd yn yr adroddiad a’r atodiadau iddo, ynglŷn â:-

 

(i)         Swyddogaethau Cyngor Llawn;

(ii)        Asesiad Perfformiad Panel;

(iii)      Amserlen Cwestiynau gan Aelodau; a

(iv)      Trothwy ariannol ar gyfer selio contractau.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.  Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau unigol ynglŷn â’r Panel Annibynnol fydd yn asesu perfformiad y Cyngor, nodwyd:-

 

·         Bod y canllawiau yn cyfeirio at o gwmpas 4-5 o bobl ar y Panel.  Deellid bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn casglu pŵl o ymgeiswyr gyda chefndir llywodraeth leol gweddol uchel (yn brif swyddogion ac aelodau hefyd) y byddai’n rhaid i’r Cyngor benodi o’u plith, a byddai yna gadeirydd annibynnol i’r Panel.

·         Nad oedd y broses yn cyffelybu mewn unrhyw ffordd i broses cynllun datblygu lleol.  Byddai’n rhaid cyflwyno argymhelliad y Panel i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac i’r Cabinet hefyd, mae’n debyg.  Nid rheoleiddwyr fyddai’r Panel a’u rôl fyddai rhoi barn a chyflwyno argymhellion i’r Cyngor eu hystyried ac ymateb iddynt.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r newidiadau i’r Cyfansoddiad a restrir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor a’r atodiadau ynglŷn â:-

 

(i)        Swyddogaethau Cyngor Llawn;

(ii)       Asesiad Perfformiad Panel;

(iii)      Amserlen Cwestiynau gan Aelodau; a

(iv)      Trothwy ariannol ar gyfer selio contractau.

 

 

10.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

11.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gruffydd Williams

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Nodwn y bygythiadau cynyddol i ffermwyr a’r byd ffermio gan gyrff anetholedig goruwch-genedlaethol sydd am eu gorfodi oddi ar eu tir.

 

Gwelwyd hyn ar waith yn yr Iseldiroedd, Iwerddon a mannau eraill yn ddiweddar, a bellach mae Llywodraeth Cymru hithau am droi 10% o dir amaethyddol Cymru yn goedwigoedd gan leihau ein cyflenwad bwyd cynhenid eto er bod bron i hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi yma.

 

Yn wyneb hyn oll galwaf ar Gyngor Gwynedd i ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd ac hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw y sir a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail ystyried y penderfyniad i droi 10% o dir amaethyddol yn goedwigoedd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd, a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

“Nodwn y bygythiadau cynyddol i ffermwyr a'r byd ffermio gan gyrff anetholedig goruwch-genedlaethol sydd am eu gorfodi oddi ar eu tir.

 

Gwelwyd hyn ar waith yn yr Iseldiroedd, Iwerddon a mannau eraill yn ddiweddar, a bellach mae Llywodraeth Cymru hithau am droi 10% o dir amaethyddol Cymru yn goedwigoedd, gan leihau ein cyflenwad bwyd cynhenid eto er bod bron i hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi yma.

 

Yn wyneb hyn oll galwaf ar Gyngor Gwynedd i ymrwymo i gefnogi'r fferm deuluol Gymreig sy'n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail ailystyried y penderfyniad i droi 10% o dir amaethyddol yn goedwigoedd.”

 

Nododd yr aelod ymhellach y dylid cywiro’r cyfeiriad at ‘organic food supply’ yn y cyfieithiad Saesneg o’i gynnig i ddarllen ‘locally sourced food supply’.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i’r cynnig, sef:-

 

“Bod Cyngor Gwynedd yn ymrwymo i gefnogi’r fferm deuluol Gymreig sy’n cyfrannu cymaint at economi Gwynedd, a hefyd yn fodd i gynnal hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw'r sir, a bod Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.”

 

Nodwyd bod y rhesymau dros y gwelliant fel a ganlyn:-

 

·         Bod dau baragraff cyntaf y cynnig gwreiddiol yn cyfeirio at ryw fath o gynllwyn rhyngwladol gan gyrff goruwch-genedlaethol, ac na chredid eu bod yn berthnasol i’r cynnig o gwbl, ac felly y dylid eu dileu.

·         O ddeall gan yr undebau amaeth bod tua 7.5% o diroedd sy’n cael eu hamaethu ar hyn o bryd yn goedwigoedd, nad oedd cyrraedd 10% yn waith anodd, ond roedd angen bod yn hyblyg o ran y 10% gan nad oedd tiroedd pob fferm yn addas ar gyfer plannu coed.

·         Ei bod yn bwysig plannu’r coed iawn yn y llefydd iawn, a byddai polisi cyffredinol fel hyn yn anodd i ffermwyr ei weithredu.

·         Gan na allai tenant droi tir amaeth yn dir coedwigoedd heb ganiatâd y landlord, gallai hynny fod yn broblem hefyd.

·         Yr awgrymid felly y dylid gofyn i’r Llywodraeth ail-ystyried eu penderfyniad i fynnu bod pob uned amaethyddol yn gorfod neilltuo 10% o’u tiroedd yn goedwigoedd.

 

Trafodwyd y gwelliant.  Mynegwyd cefnogaeth i’r gwelliant gan rai aelodau ar y sail:-

 

·         Bod y 2 baragraff cyntaf yn clymu cynnig, sydd yn ei hanfod yn un eithaf call, i rai o ddamcaniaethau cynllwyn y dde eithafol Inglo-americanaidd, ac felly’n gwanio difrifoldeb gweddill y cynnig yn sylweddol.  Byddai’n wrthyn o beth petai’r Cyngor yn cael ei gysylltu mewn rhyw ffordd gyda’r wleidyddiaeth wenwynig ryngwladol sy’n credu ein bod yn cael ein rheoli gan ryw gyrff annemocrataidd, ac ati.  Roedd camau wedi’u cymryd yn Iwerddon a’r Iseldiroedd, sef 2 wlad sydd ag allbynnau carbon sylweddol iawn yn deillio o amaethyddiaeth, ond nid cyrff annemocrataidd goruwch-wladwriaethol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.