Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(a) Ystyried unrhyw
gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan
Adran 4.17 o’r Cyfansoddiad. Cwestiwn gan Mr Ieuan
Wyn (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad). Mae’n gwbl annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o
aelwydydd Cymraeg ac aelwydydd di-Gymraeg yn derbyn llai o ddarpariaeth cyfrwng
Cymraeg nag y mae disgyblion ysgolion Cymraeg mewn cymunedau llai Cymraeg mewn
rhannau eraill o’n gwlad. Mae plant a phobl ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd
yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael
ei chynnig. Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn
gymdeithasol. Yn
sgil y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bil addysg a bod shifft iaith
yn dwysáu yn arw yn y sir, a yw Cyngor Gwynedd am gymryd y cyfle euraid a
thyngedfennol hwn i ddisodli polisi iaith addysg sydd wedi dyddio a chyflwyno
polisi iaith addysg uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd i’w ysgolion? (b)
Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y
rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL GWEITHLU'R CYNGOR Cyflwyno adroddiad
Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu Polisi Tâl Gweithlu’r Cyngor ar gyfer 2025/26. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADDASIADAU I BROSIECTAU GWYNEDD OFALGAR - CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo ychwanegu’r prosiect isod at y meysydd sydd i’w
blaenoriaethu ar lefel strategol fel rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023 28. Sicrhau bod cefnogaeth amserol a llawn i'w gael i gefnogi pobl i allu
byw adref I sicrhau bod modd i bobl fyw eu bywyd gorau, mae’n rhaid i ni sicrhau
fod cefnogaeth prydlon a rhwydd ar gael i unigolion a’u teuluoedd. Byddwn yn gweithredu cynlluniau er mwyn: • Sicrhau ein bod yn cydnabod pa mor werthfawr
yw gofalwyr teuluol a di-dâl drwy wneud yn siwr ein
bod yn gallu eu hadnabod yn rhwydd a chynnig cefnogaeth lawn iddynt wrth ofalu. • Lleihau ein rhestrau aros am becynnau gofal
cartref newydd, gan sicrhau nad oes unrhyw un yng Ngwynedd yn aros mwy na 28
diwrnod yn dilyn asesiad gofal. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y
Cabinet, sef:- (a) Sefydlu cyllideb o
£356,815,330 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £248,389,720
a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%). (b) Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad
4 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor. 2. Nodi fod yr Aelod
Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 30 Rhagfyr 2024, wedi
cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol â’r
rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y
Ddeddf”):- (a) 56,842.05 yw’r swm
a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i
diwygiwyd. (b) Rhan o ardal y
Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –
sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y
flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem
arbennig neu fwy’n berthnasol. 3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo
yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r
Ddeddf:-
|